Pobl Ifanc yn cael eu hannog i dynnu lluniau o’r dolydd
Caiff disgyblion ysgolion Sir Ddinbych eu hannog unwaith eto i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i dynnu lluniau o ddolydd blodau gwyllt lleol.

Caiff disgyblion ysgolion Sir Ddinbych eu hannog unwaith eto i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i dynnu lluniau o ddolydd blodau gwyllt lleol.
Yr wythnos hon mae'r Cyngor wedi ail-lansio Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Dolydd Blodau Gwyllt i Ysgolion ar gyfer 2026 wrth i flodau eleni ddechrau blodeuo.
Yn 2019, gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd a natur a’r nod oedd mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Un o'r camau cyntaf oedd dechrau rheoli rhywfaint o laswelltir y Cyngor i greu dolydd blodau gwyllt ledled y sir. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt.
Mae gan y prosiect hwn lawer o fanteision neu ‘wasanaethau ecosystem’ i drigolion y sir hefyd, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer, ac oeri’r aer mewn gwres mawr.
Caiff pobl ifanc eu hannog i gymryd amser i archwilio a sylwi ar yr hyn sy’n ddiddorol iddyn nhw ynghylch eu dolydd blodau gwyllt, dolydd yr ysgol neu warchodfa natur gymunedol o’u dewis nhw a thynnu llun ohono ynghyd ag ychydig o eiriau. Gellir adnabod dolydd y Cyngor gan fod logo caru gwenyn ar bob safle neu gellir defnyddio'r map ar-lein sydd ar gael ar wefan y Cyngor (trwy fanylion y gystadleuaeth).
Gall y lluniau fod o safle cyfan neu ran fechan ohoni, fel pryfyn, blodyn neu rywogaeth gwair – y ffotograffydd fydd yn penderfynu ar ei bwnc dewisol i gymryd y llun gorau. Mae angen i bob ymgeisydd ysgrifennu rhywbeth am eu llun, neu ddod o hyd i ddyfyniad sy’n cyd-fynd â’r llun.
Bydd y rhai buddugol yn cael eu chwyddo i faint A2 i’w hargraffu a’u rhoi ar y waliau y tu allan i Siambr y Cyngor yn Nhŷ Russell, Y Rhyl.
Bydd yr enillwyr yn cael detholiad o lyfrau amgylcheddol ar gyfer eu hysgol, a bydd fersiwn llai o’r llun ar gael i’r enillydd i’w arddangos yn ei gartref neu’r ysgol. Eleni bydd yr ysgol sydd â’r nifer fwyaf o geisiadau hefyd yn ennill detholiad o lyfrau. Bydd pob enillydd yn cael ymweliad gan Gadeirydd ein Cyngor a chydweithwyr i gyflwyno'r llyfrau a'r printiau.
Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym ni’n gwybod bod gan ein disgyblion ddealltwriaeth wych o sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar eu bywydau drwy gyfarfod â nhw a sgwrsio â nhw. Mae ganddyn nhw i gyd syniadau gwych ac maen nhw'n gwneud llawer o waith da eu hunain. Mae llawer o ddisgyblion wedi ein helpu ni i greu dolydd blodau gwyllt ledled Sir Ddinbych.
“Rydym ni eisiau rhoi cyfle iddyn nhw rannu sut maen nhw’n dehongli bywyd yn y dolydd drwy lens y camera drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon ac yr ydym ni’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau.”
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, cliciwch ar y ddolen hon
Mae’r gystadleuaeth ar agor tan 14 Awst 2026.