BE SY' MLAEN

Gwiriad pwysau carafanau am ddim a chyngor ar ddiogelwch

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.

Gall preswylwyr sy’n mynd ar wyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu carafán a rhoi eu hunain mewn perygl.

Mae’r sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau ar gael i drigolion Sir Ddinbych a Chonwy, ac i’r rheini mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill os gallant deithio i’r lleoliad.

Sesiwn gyngor yw hwn, ac ni chymerir unrhyw gamau os canfyddir gorlwytho neu faterion eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau'r llwyth.

Bydd y gwiriadau pwysau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Gwener 18 Gorffennaf (9am - 1pm)
  • Dydd Gwener 1 Awst (10am - 2pm)
  • Dydd Iau 21 Awst (10am - 3pm)

Nid oes angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau yma ac mae croeso i breswylwyr fynychu unrhyw un o’r sesiynau a restrir a darganfod a ydynt o fewn y pwysau cyfreithlon ar gyfer eu cerbydau.

Gellir dod o hyd i'r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, a leolir yn y gilfan, bydd arwyddion yn nodi bod y bont bwyso ar waith.

Dywedodd Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Rydym yn annog perchnogion carafanau a faniau gwersylla i gymryd mantais o’r sesiynau pwyso a rhoi cyngor am ddim a gynhelir gan dîm Safonau Masnach Sir Ddinbych ar y cyd â chydweithwyr o Gonwy.

“Mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad ydych yn gorlwytho eich cerbyd neu garafán, ac felly yn eich amddiffyn eich hun ac eraill.”

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Sir Ddinbych ar tradingstandards@sirddinbych.gov.uk ewch i'w tudalen Facebook, yn yr un modd cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar trading.standards@conwy.gov.uk

Cefnogi Bioamrywiaeth gyda Diwrnod Natur BIONET yn Nantclwyd y Dre

Mae’r trefniadau ar y gweill ar gyfer Diwrnod Natur blynyddol BIONET yn nhŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre, yn Rhuthun.

Estynnir gwahoddiad i gadwraethwyr, unigolion sy’n frwdfrydig dros yr amgylchedd ac unrhyw un sy’n mwynhau cymryd rhan ym myd natur i ddigwyddiad rhad ac am ddim a gynhelir ddydd Sul 10 Awst rhwng 11am a 3pm, ar gyfer cwrdd â sefydliadau bywyd gwyllt lleol a mwynhau gweithgareddau llawn hwyl i’r teulu, gan gynnwys paentio wynebau, sesiynau adrodd straeon byw a gweithdai gwehyddu helyg.

Mae Partneriaeth Natur Gogledd Ddwyrain Cymru, BIONET, yn cwmpasu Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam, ac yn gweithio i warchod, diogelu a gwella bioamrywiaeth yn y rhanbarth ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Meddai Clare Owen, Swyddog Prosiect BIONET:  “Mae ein Diwrnod Natur blynyddol yn tynnu sylw at y gwaith gwych sy’n digwydd yn yr ardal i annog bioamrywiaeth i ffynnu a goroesi a rhannu hyn gyda’r gymuned leol. 

Ychwanegodd:  “Mae’n gyfle gwych hefyd i blant ddatblygu eu dealltwriaeth o’r amgylchedd lleol, gyda nifer o’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn cynnig ffyrdd llawn hwyl o  ddysgu mwy am y gwaith maent yn ei wneud, ac mae’r gerddi yn Nantclwyd y Dre yn lleoliad hyfryd ar gyfer y diwrnod.”

Bydd Prifysgol Caer, Planhigfa Goed Sir Ddinbych, Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Clocaenog, Cyfeillion y Ddaear Rhuthun, Natur er Budd Iechyd, BTO, Sefydliad Sea Watch, Wild Ground a mwy yn ymuno â BIONET.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Sir Ddinbych:  “Mae Diwrnod Natur Bionet yn ddigwyddiad blynyddol gwych yn Nantclwyd y Dre i bawb o bob oed gael profi sut rydym yn gofalu am ein bywyd gwyllt ar draws y rhanbarth a beth all y cyhoedd ei wneud hefyd i gefnogi.  Rwy’n annog pob teulu i ddod i ymuno â’r gweithgareddau llawn hwyl, rhad ac am ddim ar y diwrnod.”

Ariennir y Diwrnod Natur gan gynllun Partneriaeth Natur Lleol Llywodraeth Cymru drwy’r CGGC.

I gael rhagor o fanylion, ewch i dudalen digwyddiadau Facebook BIONET https://fb.me/e/adedt0Hkl a chofrestru eich diddordeb mewn derbyn nodyn atgoffa wrth i’r digwyddiad agosáu neu drwy anfon e-bost at clare.owen@sirddinbych.gov.uk

Digwyddiadau yr haf gan Sir Ddinbych yn Gweithio

Dydd Mercher, 13 Awst

Sesiwn Wybodaeth Hunangyflogaeth
1pm: Llyfrgell a Siop Un Alwad, Y Rhyl
Yn ystyried dechrau’ch busnes eich hun? Cael y ffeithiau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch.

Dydd Mercher, 20 Awst

Blas ar Hunangyflogaeth: Cynlluniau Busnes
1pm: Llyfrgell, Amgueddfa a Siop Un Alwad, Y Rhyl
Dysgwch sut i greu cynllun busnes a chymryd y cam cyntaf tuag at hunangyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle ewch i'n gwefan

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw