Gwarchodfa Natur Maes Gwilym
Ydych chi wedi ymweld â Gwarchodfa Natur Maes Gwilym, Y Rhyl, yr haf hwn? Cafodd gwarchodfa natur Maes Gwilym ei chreu fel rhan o brosiect creu coetiroedd y Cyngor. Bu gwirfoddolwyr, staff y Cyngor ac aelodau lleol yn plannu 2,500 o goed ar y safle, yn ogystal â gwella’r ardal o goetir.
Crëwyd llwybrau gan ddefnyddio deunydd wedi'i ailgylchu a'u gorffen â llwch calchfaen. Er mwyn adfer yr ardal o wlyptir, cynlluniwyd pwll dŵr ar y safle i gynnwys lefel isel o ddŵr. Pwll bywyd gwyllt dros dro yw hwn ac mae'n darparu'r amodau gorau ar gyfer nifer o rywogaethau.
Mae gwylfa adar hefyd wedi'i sefydlu ar y safle sy'n galluogi ymwelwyr i fwynhau bywyd gwyllt yr ardal, sy'n cynnwys nifer o rywogaethau adar ar y rhestr goch a'r rhestr oren. Plannwyd perthi hefyd sy’n annog dolydd blodau gwyllt presennol a rhai newydd. Cyflwynwyd ardaloedd eistedd a chafodd ffensys a gatiau wedi’u difrodi eu disodli.