Safle Natur Cymunedol Llys Brenig
Ydych chi wedi ymweld â safle Natur Cymunedol Llys Brenig yr haf hwn? Y llynedd, bu disgyblion Ysgol Bryn Hedydd a gwirfoddolwyr o’r gymuned yn cynorthwyo Ceidwaid Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych i blannu 1,885 o goed ar y safle, yn gymysgedd o goed llydanddail cynhenid o fathau sy’n addas i’r ardal. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys creu pwll a gwlyptir er budd bywyd gwyllt, gosod ffensys newydd o amgylch y pwll a ffiniau’r safle a chreu llwybrau a gosod meinciau i alluogi pobl leol i fwynhau byd natur ar garreg y drws.