NEWYDDION

Y gymuned yn dod i gefnogi nythfa adar enwog

Mae’r gymuned wedi bod yn hynod gefnogol eleni o’r adar sydd dan fygythiad.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru a gwirfoddolwyr eraill yn edrych ar ôl nythfa 2025 ar Dwyni Tywod Gronant.

Mae’r safle yn croesawu’r adar yr holl ffordd o arfordir gorllewinol Affrica. Codwyd ffens derfyn 3.5km a ffens drydan 3km ar hyd y traeth i warchod yr adar rhag ymosodiadau ar y tir. Bydd y ddwy ffens yn cael eu tynnu ar ddiwedd y tymor i sicrhau polisi dim olion yn yr ardal sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Y llynedd, cofnodwyd 166 o barau bridio a chyfanswm o 158 o gywion bach, a oedd ychydig yn fwy na nifer y cywion a gafwyd yn nhymor 2023.

Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r guddfan wrth ymyl y nythfa wedi galluogi pobl i wylio’r adar o bellter diogel.

Y tymor hwn mae’r nythfa wedi cael dau ymweliad gan ddisgyblion Ysgol y Llys ac ymweliadau gan Glwb Rhedeg Prestatyn a Gŵyl Gerdded Prestatyn.

Eglurodd Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych: “Mae cael cefnogaeth leol i’r nythfa yn wych. Mae pawb wedi bod yn gefnogol a brwdfrydig iawn ar eu hymweliadau, ac eisiau clywed mwy am y gwaith rydym ni’n ei wneud i ddiogelu’r adar bach yma.

“Mae’r nythfa yn ased pwysig iawn i Sir Ddinbych a Chymru er mwyn i’r môr-wenoliaid bach ffynnu a goroesi a chael dyfodol disglair, ac mae cael cefnogaeth y gymuned yn helpu i amlygu cyfraniad y safle at ddiogelu’r adar yma.”

 

Datblygiadau gyda’r sinema, a chyhoeddi enw newydd

Merlin yn cadarnhau enw newydd y sinema fydd yn agor ar y prom yn y Rhyl.

Wrth i Sinemâu Merlin roi bywyd newydd i'r sinema sydd ar gau ar hyn o bryd yn y Rhyl, maen nhw wedi cadarnhau y bydd yn ailagor o dan yr enw newydd Sinema'r Strand, yn amodol ar gwblhau trefniadau prydles gyda Chyngor Sir Ddinbych.

Merlin Cinemas - Agof yn Fuan

Mae gwaith eisoes ar y gweill y tu ôl i'r llenni, ac mae’r union ddyddiad ailagor dal i’w gadarnhau. Mae datblygiadau’n symud ymlaen, ond mae'r tîm yn oedi cyn cadarnhau’r dyddiad agor penodol eto.

“Mae'n brosiect cyffrous, a byddem wrth ein bodd yn agor mewn pryd ar gyfer rhestr ffilmiau'r hydref,” dywedodd Geoff Greaves MBE, y Rheolwr Gyfarwyddwr, “ond mae'n bwysig i ni ein bod yn cael hyn yn iawn a pheidio â rhuthro pethau. Dylem gael syniad da o’r dyddiad agor yn fuan.”

Merlin logo 1Bydd Sinema’r Strand yn y Rhyl yn gweithredu ochr yn ochr â’i chwaer sinema ym Mhrestatyn, Sinema Scala sydd eisoes yn rhan o grŵp sinemâu annibynnol Merlin Cinemas.

Ategodd Arweinydd Cyngor Sir Dinbych, y Cynghorydd Jason McLellan, “Mae mor gyffrous gweld busnes arall ar fin agor ar y prom yn y Rhyl. Yn dilyn llwyddiant ysgubol agoriad Marchnad y Frenhines, bydd hwn yn atyniad arall i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd a bydd yn gatalydd ar gyfer adfywio ein tref glan môr. Rydym mor falch bod Merlin Cinemas wedi camu i’r adwy ac mae hyn yn dystiolaeth pellach o hyder y sector preifat yn nyfodol y Rhyl. Pan fydd Sinema’r Strand yn agor, rwy’n annog trigolion i’w gefnogi yn ogystal â chyfleusterau hamdden eraill y dref – mae angen i bawb gefnogi ein busnesau 

i sicrhau eu llwyddiant parhaus.”

Dechreuodd Merlin Cinemas ei thaith 35 mlynedd yn ôl gydag un sgrin ym Mhenzance, Cernyw, ac mae bellach yn gweithredu dros 20 o sinemâu ledled y DU. Yn adnabyddus am achub ac adfer lleoliadau hanesyddol a modern fel ei gilydd, mae Merlin wedi ymrwymo i sicrhau bod ymweld â’r sinema yn fforddiadwy, yn hygyrch, ac yn hudolus i gymunedau lleol.

Cadwch lygad ar eu gwefan a’u cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiad agor ac am gyfleoedd recriwtio ar merlincinemas.co.uk

 

Disgybl yn gorffen yr Ysgol Gynradd heb fethu’r un diwrnod

Mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Esgob Morgan, Renesmai, wedi llwyddo i gyflawni presenoldeb 100% trwy gydol ei thaith trwy’r ysgol gynradd, o’r Dosbarth Derbyn yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy gerllaw, yr holl ffordd i Flwyddyn 6 yn Ysgol Esgob Morgan.

Tim Redgrave (Pennaeth), Renesmai (Disgybl), Cynghorydd Diane King (Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd) a Geraint Davies, (Pennaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych)

Mae’r record arbennig hon yn dyst i ymrwymiad Renesmai i’w haddysg, ac i ymroddiad ei mam, Olivia. Er ei bod yn byw chwe milltir o’r ysgol, llwyddodd Olivia i sicrhau bod Renesmai yn y dosbarth bob dydd. Hyd yn oed yn ystod cyfnodau pan fu’r bysiau ar streic, daeth i’r ysgol ar feic, gyda Renesmai a’i chwaer iau mewn trelar ar y cefn, ym mhob tywydd.

Dywedodd Tim Redgrave, Pennaeth:

“Rydym yn hynod o falch o Renesmai. Mae ei hagwedd at bob rhan o fywyd ysgol heb ei hail. Mae hi’n barod i roi cynnig ar unrhyw beth a phopeth a rhoi o’i gorau bob tro. Rwy’n cydnabod yn llwyr nad yw pob plentyn yn gallu cyflawni 100% o ran presenoldeb – mae llawer yn wynebu heriau meddygol neu bersonol, ac rydym bob amser yn trin achosion o’r fath â gofal a dealltwriaeth.

Fodd bynnag, ni ddylai hynny ein hatal rhag dathlu pan fo disgybl yn cyflawni rhywbeth wirioneddol arbennig fel hyn.”

Yng Nghymru, mae achosion o beidio â methu’r un diwrnod trwy gydol y cyfnod yn yr ysgol gynradd yn brin. Cyfradd presenoldeb cyfartalog yn yr ysgol gynradd yn ystod 2023 – 2024 oedd 92.1% ac roedd tua 1 o bob 4 o ddisgyblion yn absennol yn aml gan olygu eu bod wedi methu o leiaf 10% o sesiynau yn yr ysgol. Mae hyn yn golygu bod record berffaith Renesmai hyd yn oed yn fwy arbennig.

Ychwanegodd Mr Redgrave:

“Yr hyn y mae Renesmai a’i mam wedi’i ddangos yw pŵer dyfalbarhad, cysondeb a gwerth addysg. Mae’n enghraifft wych o gadernid ac rydym yn falch o’i gydnabod.”

Er mwyn nodi’r garreg filltir hon, cafodd hi ymweliad a thystysgrif gan Geraint Davies, Pennaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych a’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd, a ddywedodd:

“Dyma gyflawniad anhygoel a phrin, sy’n dyst i ymroddiad ac ymrwymiad Renesmai a’i theulu i ddysgu.

Hoffwn eu llongyfarch nhw am y cyflawniad gwych hwn.”

Cynnal digwyddiad Lles yr Haf yn y Rhyl

Cynhelir sesiwn alw heibio anffurfiol gan y Tîm Atal Digartrefedd y Cyngor yn y Ganolfan ASK yn y Rhyl ar 7 Awst, gyda’r nod o hyrwyddo rhai o’r gwasanaethau a’r gefnogaeth allweddol sydd ar gael i drigolion Sir Ddinbych. 

Bydd nifer o sefydliadau a gwasanaethau cefnogi yn bresennol yn ystod y dydd, gan gynnwys gwasanaethau cymorth CSDd a gwasanaethau sy’n ymdrin â’r testunau; Digartrefedd, iechyd meddwl, Gwasanaethau Ieuenctid Gorllewin y Rhyl, Intuitive Thinking Skills ar gyfer dibyniaeth a Gofal Cymdeithasol i Oedolion. 

Bydd cyfle hefyd i nifer o ddinasyddion sydd wedi derbyn, neu’n parhau i dderbyn cefnogaeth gan y gwasanaethau i rannu eu straeon gyda’r gymuned, gan rannu straeon go iawn y rhai sydd wedi defnyddio gwasanaethau cymunedol.

Cynhelir y digwyddiad o 10:30am - 2:00pm, a bydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gwrdd â’r gwasanaethau wyneb yn wyneb, os ydynt angen eu cymorth yn awr, neu yn y dyfodol.

Ynghyd â thynnu sylw at y gwasanaethau sydd ar gael, bydd tocyn Raffl am ddim i bob dinesydd sy’n mynychu a bydd lluniaeth ar gael. Bydd stondin grefftau mewn cydweithrediad â Phrosiect STEP a Byddin yr Iachawdwriaeth.

Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas: 

“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ddod draw a dysgu am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt a chlywed am brofiadau y rhai sydd wedi derbyn cymorth a chefnogaeth gan wasanaethau yn Sir Ddinbych. 

Efallai bod rhai’n chwilio am gefnogaeth, ond yn ansicr o ran ble i fynd neu sut i’w ganfod. Y gobaith yw y bydd y digwyddiad yn gymorth i gyfeirio’r unigolion hynny at y gwasanaeth cefnogi priodol.

Ynghyd â nifer o wasanaethau ar gael i sgwrsio ar y diwrnod, mae tocyn raffl am ddim i bawb sy’n mynychu hefyd.” 

Tyfu cymorth i löyn byw prin

Mae cenhedlaeth newydd o goed sydd dan fygythiad yn paratoi i helpu i gefnogi glöyn byw prin. 

Mae cenhedlaeth newydd o goed sydd dan fygythiad yn paratoi i helpu i gefnogi glöyn byw prin. 

Mae tîm bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych wedi meithrin cnwd mawr o lwyfenni llydanddail ym Mhlanhigfa Goed Tarddiad Lleol, Llanelwy.

Mae Llwyfenni Llydanddail dan fygythiad yn sgil clefyd llwyfen yr Isalmaen, a bu’n rhaid torri nifer o goed yn sgil effaith y clefyd hwn, sydd wedi lleihau twf a lledaeniad coed iau.

Mae dros 1,800 o lwyfenni llydanddail wedi’u tyfu gan y tîm ar y safle o hadau a gasglwyd o Barc Gwledig Loggerheads y llynedd i helpu’r goeden atgyfodi yn Sir Ddinbych. Yn y pen draw, bydd y rhain yn cael eu plannu yn natblygiad Gwarchodfa Natur Green Gates ger y blanhigfa goed.

Ariennir y gwaith hwn a phrosiectau eraill ar y safle i ddiogelu rhywogaethau coed a blodau gwyllt lleol gan Lywodraeth Cymru drwy’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fel rhan o waith y Cyngor â’r Bartneriaeth Natur Leol. 

Mae’r llwyfenni llydanddail yn blanhigion bwyd larfaol pwysig i’r Brithribin Gwyn, a gofnodwyd yn Loggerheads ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond mae bellach yn brin iawn yn y sir.

Mae ar y glöyn byw hwn angen blagur blodau’r llwyfenni llydanddail fel bwyd i oroesi.

Eglurodd Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed:  “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu tyfu bron i 2,000 o lwyfenni llydanddail yma yn y blanhigfa gan fod dyfodol y goeden wedi bod dan fygythiad yn sgil clefyd llwyfen yr Isalmaen ac amharodrwydd i ailblannu’r goeden.

“Mae’r goeden hon yn darparu bwyd i löyn byw prin iawn a bydd nifer yn cael eu plannu yng Ngwarchodfa Natur Green Gates, a bydd hyn yn mynd yn bell iawn i annog y Brithribin Gwyn i ffynnu eto.  

“Dim ond llwyfenni llydanddail ifanc sy’n ddigon hen i flodeuo y mae’r gloÿnnod byw eu hangen i roi bwyd iddynt a bydd y cnwd cyntaf hwn sydd gennym yn berffaith i fodloni’r gofyniad hwn.”

“Mae mor bwysig dadwneud y dirywiad hwn i goed a chynefinoedd a grëwyd gan newid yn yr hinsawdd a gweithredoedd pobl.  Mae’r llwyfenni llydanddail yn enghraifft berffaith gan fod planhigion a choed i gyd yn gwneud eu rhan i ddarparu ffynhonnell bwyd hanfodol i bryfed ac anifeiliaid.  Os bydd llai ohonynt yn Sir Ddinbych, bydd ein natur leol mewn mwy o berygl.”

 

 

Sir Ddinbych yn ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd

Mewn partneriaeth â Rhwydwaith Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych, mae cais diweddar Cyngor Sir Ddinbych i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd wedi cael ei gymeradwyo.

Mae'r Aelodaeth hon yn caniatáu hawl i rannu gwybodaeth a rhwydweithio gyda chymuned fyd-eang a chefnogaeth gan rwydwaith byd-eang sydd wedi ymrwymo i feithrin amgylcheddau sy'n gyfeillgar i oed.

Lluniwyd y cais gan bartneriaid Heneiddio'n Dda Sir Ddinbych ac fe'i llywiwyd gan adborth gan bobl hŷn ar hyd a lled Sir Ddinbych.

Mae Cyngor Sir Dinbych, a'i bartner yn y Rhwydwaith Heneiddio'n Dda, Age Connects, hefyd wedi cael eu cydnabod gan y Ganolfan Heneiddio'n Well fel cyflogwyr sy'n gyfeillgar i oed.

Mae llofnodi’r Addewid Cyflogwr sy’n Gyfeillgar i Oed yn gynharach eleni, yn cadarnhau safbwynt y Cyngor ar ei bolisi ar gyfer pobl hŷn a’u gwerthoedd a’u hawliau.

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Rwyf wrth fy modd bod ein cais wedi cael ei gymeradwyo a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu cyfraniad. Dyma waith partneriaeth ar ei orau yn wir. Fel aelod o'r Rhwydwaith Byd-eang o Gymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed, gallwn ddysgu a rhannu profiadau gydag aelodau eraill ledled y byd a dysgu oddi wrthyn nhw yn Sir Ddinbych.

Hoffwn annog cyflogwyr eraill yn Sir Ddinbych i ymuno â’r addewid Cyflogwr sy’n Gyfeillgar i Oed, gan gydnabod y sgiliau, y profiad a’r wybodaeth y gall pobl hŷn eu cynnig i’r gweithle.”

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae pawb yn haeddu mynd yn hŷn mewn cymuned sy’n gynhwysol, yn ddeallus ac yn gefnogol, a dyna sy’n gwneud gwaith ein Rhwydwaith Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych mor amhrisiadwy.

Mae cael eich derbyn i Rwydwaith Byd-eang Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd yn gamp anhygoel i Sir Ddinbych a'i bartneriaid. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau y gallwn fyw'n dda, cadw mewn cysylltiad, a theimlo'n werthfawr yn ein cymunedau wrth i ni heneiddio.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad llwyr y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, a phawb sy'n gysylltiedig ar draws ein sefydliadau partner. Dim ond y dechrau yw'r cyflawniad hwn. Gyda'n gilydd, fel rhwydwaith cryf, byddwn yn parhau i gyflawni ein huchelgeisiau a nodir yn ein cynllun gweithredu, a gymeradwywyd gan WHO.”

Parcio yng Nghefn Gwlad Llangollen dros wyliau'r haf

Bydd swyddogion y Cyngor yn monitro parcio yn Rhaeadr y Bedol, Llangollen, a’r ardal gyfagos dros wyliau’r haf.

 Llun o Rhaeadr y Bedol yn Llangollen

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhai sy’n ymweld â’r gyrchfan boblogaidd i barcio’n gyfrifol dros yr haf ac ystyried cynllunio ymlaen llaw i ymweld ag atyniadau eraill sydd ar gael ar draws Dyffryn Dyfrdwy, os bydd yr ardal yn brysur.

Mae llawer o baratoadau wedi’u gwneud eisoes i reoli cynnydd yn nifer yr ymwelwyr:

  • Bydd ceidwaid cefn gwlad ychwanegol o gwmpas i reoli’r ardal a darparu cymorth a gwybodaeth i ymwelwyr.
  • Bydd swyddogion gorfodi sifil hefyd yn monitro’r safle a’r ardal gyfagos, yn enwedig yn ystod yr adegau a ragwelir brysuraf.
  • Mae ffensys wedi’u gosod ger mynedfa maes parcio Rhaeadr y Bedol er mwyn atal pobl rhag parcio ar yr ymylon glaswellt a rhwystro traffig arall.
  • Mae arwyddion ymwybyddiaeth yn amlwg ar y safle gan gynghori gyrwyr i barcio’n gyfrifol.
  • Bydd y Cyngor yn cysylltu â phartneriaid hefyd gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru er mwyn monitro unrhyw gynnydd o ran materion traffig yn y safle.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Rydym am i ymwelwyr fwynhau Rhaeadr y Bedol a’r ardaloedd cyfagos ond byddem yn argymell yn gryf iddynt gofio bod cyfyngiadau parcio yn bwysig o ran diogelwch y ffyrdd a sicrhau bod cyfle teg i bawb gael lle i barcio. Mae angen i yrrwyr fod yn ymwybodol wrth ymweld y gall swyddogion gorfodi sifil roi Rhybudd Talu Cosb i unrhyw un nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau parcio.

“Mae ein ceidwaid yn gweithio yn Rhaeadr y Bedol i ddarparu cyngor ac arweiniad i ymwelwyr sy’n dod i’r safle a byddwn yn gofyn i’r cyhoedd hefyd barchu’r rôl maen nhw yno i’w gwneud.

“Cynlluniwch eich diwrnod ymlaen llaw, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio dewisiadau eraill i ymweld â nhw ac o ran parcio os na fydd modd i chi ymweld â’ch dewis cyntaf o leoliad. Mae digonedd o atyniadau i ymweld â nhw yn Nyffryn Dyfrdwy.”

Ysgol yn Rhuddlan i dderbyn mwy o ofod mewn ystafelloedd dosbarth

Mae Ysgol y Castell yn Rhuddlan yn barod i dderbyn gwaith uwchraddio i bedair ystafell ddosbarth, yn ogystal â gwaith gwella ynni i’r safle, diolch i gynlluniau a gymeradwywyd yn ddiweddar.

Ysgol y Castell

Bydd estyniad i bedair ystafell ddosbarth, a gwaith gwella ynni cychwynnol yn cael eu cynnal yn rhan gyntaf y prosiect, sydd ar y gweill yn ystod yr haf.

Mae gwaith lleihau ynni pellach wedi’i gynllunio ar gyfer ail ran y gwaith.

Bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod i 4 ystafell ddosbarth, gan greu estyniad o 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion, a byddwn yn gweld cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.

Ystafelloedd Dosbarth

Mae’r contract adeiladu wedi cael ei ddyfarnu i Brynbuild ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar y safle yn ystod yr haf.

Disgwylir i’r cam cyntaf gael ei gwblhau yn ystod gaeaf 2026.

Dywedodd Pennaeth Ysgol y Castell, Sara Tate:

“Rydym wrth ein bodd bod yr estyniad yn dechrau. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu’r gorau i bob disgyblion, nawr ac yn y dyfodol.

Bydd y lle ychwanegol yn cefnogi ein cymuned ysgol sy’n tyfu ac yn gwella’r amgylchedd dysgu ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rwy’n falch bod y cyllid wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y cynllun hir ddisgwyliedig a fydd yn darparu gofod ychwanegol a chyfleusterau newydd ar gyfer yr ysgol.

Yn sgil agosatrwydd yr ysgol at safle Heneb Gofrestredig, bydd y gwaith archeolegol gofynnol hefyd yn rhoi cyfle unigryw i ddisgyblion ddysgu mwy am hanes yr ardal leol.”

Mae cam cyntaf y prosiect hwn wedi derbyn arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. 

Mae 35% o’r cyllid gweddillol wedi dod yn bennaf gan gyfraniad y datblygwr a ddarperir gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.

Lleisiau plant mewn Fforymau Cynghorau Ysgolion

Wedi’u cynnal dros ddau ddiwrnod, aeth 19 o Gynghorau Ysgolion i ddigwyddiadau, gweithdai a Siambr Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Fforymau Cynghorau Ysgolion, gan gyflwyno gwaith eu cyngor ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf.

Plant yn cwrdd â'r Cynghorydd Arwel Roberts (Cadeirydd y Cyngor) ac y Cynghorydd Diane King (Aelod Arweiniol Plant, Cymunedau a Theuluoedd) a Rocio Cifuentes (Comisiynydd Plant Cymru).

Wedi’i gynnal yn Ysgol Uwchradd Dinbych, aeth 14 ysgol i’r Fforwm Cynghorau Ysgolion Cynradd, gyda chynrychiolwyr o gynghorau ysgolion Ysgol Christchurch, Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol Gymraeg Henllan ac Ysgol Clawdd Offa yn cyflwyno eu gwaith. 

Cafodd y Fforwm Cynghorau Ysgolion Uwchradd ei gynnal yn Neuadd y Sir, Rhuthun a chafodd disgyblion Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Dinas Bran, Ysgol Santes Ffraid, Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Uwchradd Prestatyn gyfle i ymweld â Siambr y Cyngor a chwrdd â Chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts, ac Aelod Arweiniol Plant, Cymunedau a Theuluoedd, y Cynghorydd Diane King.

Rhannodd y disgyblion y gwaith gwych maen nhw wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ysgol, ac fe gawson nhw hefyd gyfle i ddysgu am brosesau democrataidd y Cyngor, system ficroffonau’r Siambr a’r system bleidleisio electronig.

Plant yn dysgu am y system bleidleisio electronig a microffonau’r Siambr.

Yn ystod y digwyddiadau, rhoddodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, a Sophie Williams gyflwyniadau ar hawliau plant.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Yn Sir Ddinbych, rydym ni’n dychmygu cymunedau ble mae pobl ifanc yn cymryd rhan weithredol yn y penderfyniadau sy’n siapio eu bywydau. 

Mae’n hollbwysig bod ganddyn nhw lefydd diogel ac agored i rannu profiadau a dylanwadu ar bolisïau ar faterion o bwys. Mae digwyddiadau fel y Fforymau Cynghorau Ysgolion yn helpu disgyblion i ddysgu am y prosesau democrataidd sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Hoffaf ddiolch i bob ysgol a ddaeth i’r fforymau, ac am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn ysgol.” 

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae cael llais mewn penderfyniadau yn hawl dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac yn elfen allweddol o’r Dull Hawliau’r Plentyn.

Roedd yn bleser gen i fynd i’r fforymau i gwrdd â’r bobl ifanc a darganfod sut maen nhw wedi bod yn arfer yr hawl honno yn eu hysgolion a’u cymunedau.”

Rhoi hwb i effeithlonrwydd ynni solar mewn ysgol yn y Rhyl

Mae isadeiledd ynni solar ychwanegol yn gwella effeithlonrwydd ynni mewn ysgol yn y Rhyl.

Mae isadeiledd ynni solar ychwanegol yn gwella effeithlonrwydd ynni mewn ysgol yn y Rhyl. 

Mae gwaith wedi’i gwblhau yn Ysgol Uwchradd y Rhyl i osod paneli ffotofoltaig ychwanegol ar do’r adeilad, gan helpu i leihau dibyniaeth ar ynni’r grid cenedlaethol, costau hirdymor ac allyriadau carbon o’r safle.

Mae’r cyfan yn rhan o waith parhaus Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych i leihau defnydd a chostau ynni mewn adeiladau sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol. 

Mae'r tîm wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau’r Cyngor yn cynnwys ysgolion, er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau carbon a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.

Yn gyntaf, fe wnaethant asesu Ysgol Uwchradd y Rhyl i ganfod pa feysydd o ran defnydd ynni y gellid eu gwella er mwyn cynyddu effeithlonrwydd.

Gyda chefnogaeth gan Wasanaethau Plant ac Addysg y Cyngor, cafodd y system solar ffotofoltaig 40kw bresennol ar do’r ysgol ei chynyddu i system solar ffotofoltaig 95kw.

Bydd y paneli ffotofoltaig newydd, ochr yn ochr â’r rhai presennol, yn helpu i ddefnyddio ynni o’r haul i bweru’r safle, gan leihau’r pwysau ar y system grid lleol a helpu i leihau allyriadau carbon ar y safle.

Bydd pob cilowat a gynhyrchir gan y paneli ffotofoltaig ac a ddefnyddir gan yr ysgol yn arbed tua 22 ceiniog.

Disgwylir i’r gwaith o osod y paneli solar ffotofoltaig ychwanegol arbed 42,320kWh, mwy na 10 tunnell o allyriadau carbon a thros £11,749.00 y flwyddyn mewn llai o gostau ynni, gan dalu’n ôl yr hyn sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfnod byr o amser.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein Tîm Ynni’n ddiolchgar iawn i Ysgol Uwchradd y Rhyl am ganiatáu i ni gynnal y gwaith ychwanegol hwn i helpu’r ysgol i leihau defnydd ynni a gostwng costau hirdymor, gan hefyd greu amgylchedd dysgu a lles brafiach i gefnogi disgyblion a staff.

“Dyma ddarn pwysig o waith sy’n cefnogi ein hymdrech barhaus i leihau defnydd ynni a chostau a gostwng olion troed carbon ar draws ein hystâd adeiladau, ac mae’n wych gweld yr ysgol a’n Tîm Ynni yn cydweithio i gyflawni hyn.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Bydd y gwaith hwn o gymorth i ddefnydd ynni cyffredinol Ysgol Uwchradd y Rhyl ac mae’n gam ymlaen tuag at gynyddu’r gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ein hadeiladau addysgol. 

Mae’r gwaith o’u gosod yn ymdrech ar y cyd rhwng ein tîm Addysg ac Ynni, sy’n cydweithio i helpu i leihau costau ynni hirdymor ac allyriadau ar yr un pryd.”

 

Cynllunio prosiectau i helpu iechyd pawb

Mae ardal chwarae hygyrch i blant a Llwybr Cerdded Lles yn mynd i ddod i Ddinbych Isaf.

Mae adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi bywyd i ddau brosiect newydd ar gyfer yr ardal ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus drwy Gynllun Swm Cymudol Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus.

Fe fydd y prosiect yn darparu ardal chwarae hygyrch yn Ardal Chwarae Plant Dinbych Isaf, Dinbych.

Y nod yw prynu a gosod offer chwarae cynhwysol a synhwyraidd i blant mewn ardal chwarae, i fod o fudd i blant o bob oed a gallu.

Fe fydd yr ail brosiect yn datblygu Llwybr Cerdded Lles ar draws Dinbych Isaf mewn i Ganol Dinbych.

Fe fydd meinciau cyfeillgarwch yn cael eu prynu a’u gosod  a bydd byrddau gwybodaeth yn cael eu gosod mewn lleoliadau strategol i greu llwybr cerdded lles yn Ninbych, i fod o fudd i bob aelod o’r cyhoedd.

Mae’r ddau brosiect hefyd wedi cael eu dylunio i wella profiad i ymwelwyr mewn lleoliadau pwysig, sy’n ganolog i Sir Ddinbych ac annog pobl i ymfalchïo yn eu mannau gwyrdd, gan wella dealltwriaeth am werth bioamrywiaeth a chadwraeth yr ardaloedd yma a’u gwneud yn hygyrch i bob oed. 

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar y Llwybr Cerdded Lles dros yr wythnosau nesaf a bydd y cynllun gwella Ardal Chwarae Parc Isaf yn cychwyn ym mis Medi.

Meddai Cydlynydd Ardal Gwasanaethau Stryd, Neil Jones: “Rydym ni’n falch ein bod wedi gallu cael y cyllid yma gan y bydd y ddau brosiect yma’n cefnogi cymunedau Dinbych Isaf ac yn helpu iechyd a lles pobl o bob oed.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Dyma ddau brosiect gwych i Ddinbych a’r dalgylch ac maent yn wych i gefnogi iechyd preswylwyr o bob oedran, ochr yn ochr â thynnu sylw at y bioamrywiaeth gwych sydd o amgylch y cymunedau.”

Lleihau'r perygl o danau gwyllt yng nghefn gwlad

Cyngor ar sut i atal tanau gwyllt rhag lledu yng nghefn gwlad yn dilyn y tywydd sych diweddar.

Gofynnir i bobl sy’n ymweld â chefn gwlad Sir Ddinbych chwarae eu rhan i leihau'r risg o danau gwyllt yn y Sir.

Wildfire pic 2O ystyried y tywydd sych diweddar, mae Cyngor Sir Ddinbych a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rhoi cyngor i bobl ar sut i atal tanau gwyllt rhag lledu pan fyddant allan yng nghefn gwlad.

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb a chadw ein tirlun hardd, mae Tirlun Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn annog holl ymwelwyr a’r rhai sy’n gwersylla mewn safleoedd poblogaidd megis Moel Famau, Loggerheads a Rhaeadr y Bedol i amnewid eu barbeciw am bicnic.

Mae’r defnydd o farbeciw, stôf wersylla neu danau gwersyll ar y rhostiroedd hyn yn achosi risg tân eithafol ac maent wedi’u gwahardd yn llym.

Bydd ceidwaid cefn gwlad y Cyngor ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymweld â safleoedd allweddol dros yr haf i hysbysu ymwelwyr yn uniongyrchol am y peryglon posibl o farbeciw a thanau cefn gwlad.

Wildfire pic 1Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:  

“Rydym eisiau i bob ymwelydd gael profiad llawn o harddwch Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, fodd bynnag, mae ein rhostiroedd yn hynod o fregus ar hyn o bryd yn sgil y tywydd cynnes yn ddiweddar.

“Trwy wneud y dewis syml i fwynhau picnic a gadael y fflamau agored adref, mae ymwelwyr yn chwarae rhan hanfodol o gadw ein safleoedd yn ddiogel er mwynhad i bawb.

“Mae effaith tanau gwyllt ar y rhostiroedd yn mynd tu hwnt i’r fflamau uniongyrchol. Gall adael creithiau ar ein tirlun am flynyddol, rhyddhau carbon niweidiol, ac yn yr achosion mwyaf eithafol, peryglu bywydau.

“Hoffwn gydnabod gwaith caled ein ceidwaid Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sydd yn gosod arwyddion perygl tân ac yn ymgysylltu gydag ymwelwyr i amlygu’r peryglon hyn.”

Gwyliwch fideo byr am beth i'w osgoi:

Planhigfa yn tywallt cymorth i helpu byd natur dyfrol

Mae gwaith ar y gweill i amddiffyn planhigion sy’n hoff o ddŵr

Mae tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn troi eu llaw at blanhigion o fath gwahanol ar gyfer prosiect newydd ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy.

Mae’r safle’n tyfu miloedd o goed a blodau gwyllt ar hyn o bryd sydd i gyd yn tarddu o’r sir yn lleol er mwyn eu dychwelyd i roi hwb i fyd natur Sir Ddinbych. Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu’r prosiect drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Yn y blanhigfa mae creulys y dŵr yn cael ei dyfu mewn cynwysyddion llawn dŵr ar hyn o bryd ar gyfer prosiect sy’n arwain mewn ymdrech i roi hwb i blanhigion dyfrol lleol mewn pyllau ledled y sir.

Mae creulys y dŵr yn ddelfrydol ar gyfer pyllau gan ei fod yn gallu gwella ansawdd dŵr a darparu cynefin defnyddiol i rywogaethau megis madfallod i ddodwy eu hwyau, yn ogystal â rhoi hwb i fioamrywiaeth mewn ffyrdd eraill.  

Yn yr un modd, mewn dau bwll datblygedig y tu hwnt i’r blanhigfa, mae crafanc ddŵr gyffredin hefyd yn tyfu. Mae’r planhigyn hefyd yn ocsigeneiddio a chynnig lloches, gan ffurfio rhan o ecosystem ffyniannus.

Eglurodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Evie Challinor: “Mae planhigion dyfrol yn chwarae rôl yr un mor bwysig i amddiffyn byd natur lleol â’n blodau gwyllt yn y sir. Rydyn ni wedi dechrau tyfu creulys y dŵr yn y blanhigfa gyda’r bwriad o gynhyrchu digon o ddeunydd brodorol, o darddiad lleol, i ni allu plannu’n well mewn pyllau a allai fod angen help llaw.”

“Rydym hefyd yn bwriadu olrhain unrhyw byllau sydd â phoblogaeth dda o blanhigion brodorol y gallwn o bosibl gasglu ohonynt, felly mae unrhyw un sydd â’u pyllau eu hunain, gyda phlanhigion dyfrol heb eu plannu, o ddiddordeb i’r tîm.

Ychwanegodd:  “Wrth gyflawni’r gwaith hwn, rydym yr un mor hapus i gael cysylltiadau ar gyfer pobl sydd eisiau cyngor am eu pyllau ag yr ydym i adeiladu rhwydwaith cydweithredol fel y gall pobl gyfnewid arferion gorau.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi’r prosiect hwn neu ganfod mwy e-bostio Evie yn biodiversity@denbighshire.gov.uk

 

 

Ehangu'r Tîm Gofal a Chymorth a'r Gwasanaeth Gofal Ail-alluogi yn y sir

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn llawn cyffro i fod yn ehangu ei Dîm Gofal a Chymorth ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion drwy recriwtio naw o Ofalwyr Gofal a Chymorth newydd a fydd yn gweithio ledled y sir.

Nod Sir Ddinbych yw sicrhau Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a lliniaru ar rywfaint o’r gwasgfeydd ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu.

Wedi cynnal ymgyrch recriwtio lwyddiannus yn gynharach eleni a phenodi saith o Weithiwr Cefnogi Ail-alluogi, mae’r Cyngor yn chwilio am aelodau eraill o staff i ymuno â’r tîm cyfeillgar a chefnogol.

Bydd y staff newydd yn cefnogi pobl y mae angen cymorth arnynt i adennill sgiliau i wneud gweithgareddau beunyddiol fel ymolchi, coginio prydau bwyd, gwisgo, symud o amgylch y cartref a mynd allan.

Gall fod ar bobl angen cymorth am amryw resymau, gan gynnwys adfer wedi bod yn sâl neu ddod adref o’r ysbyty. Gall y gefnogaeth hon bara cyn lleied ag wythnos neu ddwy ond gellir ei chynnig am hyd at chwe wythnos os oes angen. Yn ogystal â hynny, mae’r tîm yn cynnig cymorth hirdymor yn y cartref yn ôl yr angen.

Meddai Darylanne, Uwch-weithiwr Gofal a Chymorth yn y Cyngor:

“Mae ein timau’n cefnogi pobl sydd angen cymorth ar ôl bod yn yr ysbyty, neu efallai ar ôl bod yn sâl.

Rydyn ni’n darparu cerbyd pwrpasol i aelodau’r tîm fel nad oes rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu cerbydau personol wrth deithio o le i le. Darperir hyfforddiant trylwyr a digonedd o gefnogaeth i staff i'w helpu yn eu swyddi.”

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Ar ôl llwyddiant y gwaith ehangu ddechrau’r flwyddyn, rydyn ni’n awr yn bwriadu i ychwanegu naw o weithwyr at ein tîm.

Mae ein timau’n gofalu am bobl ar hyd a lled y Sir bob dydd yn eu cartrefi eu hunain, sy’n golygu y gall preswylwyr fyw’n gyfforddus yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Mae ehangu fel hyn yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion gofal cymdeithasol ehangach a bydd yn golygu mwy o ofal i breswylwyr yn eu cartrefi eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae ein timau ar gael i bobl sydd newydd gyrraedd adref o’r ysbyty neu ar ôl cael triniaeth ac sydd angen pecyn cymorth wrth ddod i arfer â bywyd o ddydd i ddydd unwaith eto.

Mae’r gefnogaeth hon yn helpu i wneud y newid ychydig yn haws, ac mae ein tîm wrth law i helpu pobl i ailddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn eu cartref eu hunain.

Mae ein tîm yn gwneud gwaith anhygoel ledled y Sir ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu mwy o weithwyr Gofal a Chymorth i’n tîm.”

I gael gwybod mwy am y cyfleoedd cyffrous hyn a gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol, ewch i’n gwefan yma.

Gwasanaeth Cefn Gwlad yn cynnal teithiau cerdded natur ym Mhrestatyn

Bydd y tîm cefn gwlad yn cynnal cyfres o deithiau cerdded o amgylch Parc Natur Morfa Prestatyn.

Bydd Tîm Cefn Gwlad y Cyngor yn cynnal cyfres o deithiau cerdded o amgylch Parc Natur Morfa Prestatyn.

Bydd y teithiau cerdded, sy’n cael eu cynnal yn y parc, yn ymgynghoriad anffurfiol gyda thrigolion ac yn gyfle i breswylwyr ddysgu mwy am y safle 60 erw yng nghanol Prestatyn, yn ogystal â’r cyllid gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar.

Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yn Nyffryn Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Bwriad y prosiect ym Mharc Natur Morfa Prestatyn fydd gwneud y safle’n fwy hygyrch trwy greu rhwydwaith o lwybrau hygyrch ar gyfer cerddwyr a beicwyr drwy’r coetir a’r gwlyptir. Bydd creu’r llwybr pren uwch ben y ddaear yn caniatáu i ymwelwyr werthfawrogi harddwch y gwlyptir heb amharu arno.

Un o elfennau eraill y prosiect fydd creu terfyn o amgylch y gwlyptir cyfan er mwyn gallu rheoli’r ardal trwy bori cadwriaethol gyda gwartheg Galloway rhesog.

Bydd y gwartheg yn pori’r llystyfiant mwyaf a chryfaf, a fydd yn helpu i atal y gwlyptir rhag tyfu’n wyllt â phrysgwydd ac yn annog bioamrywiaeth. Bydd hynny yn ei dro yn sicrhau digonedd o gynefin i famaliaid bach, adar sy'n nythu, pryfed peillio ac amrywiaeth eang o rywogaethau di-asgwrn cefn.

Dyma ddyddiadau ac amseroedd y teithiau cerdded natur:

  • 3pm–4pm – dydd Iau 17 Gorffennaf
  • 6pm–7pm – dydd Iau 17 Gorffennaf
  • 10am–11am – dydd Gwener 18 Gorffennaf
  • 1pm–2pm – dydd Gwener 18 Gorffennaf

Man Cyfarfod: Maes Parcio Coed Y Morfa Car Park (Cyfeirnod Grid : SJ 058 823), Côd post: LL19 8AJ.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Bydd y teithiau cerdded yma’n gyfle gwych i deuluoedd a rhai sy’n hoff o natur gael mwynhau’r awyr agored mewn man sydd yng nghanol Prestatyn a dysgu mwy am y gwlyptir.

“Bydd y cyllid ar gyfer y prosiect hwn i wella hygyrchedd y safle’n sicrhau bod ymwelwyr yn gallu parhau i fwynhau’r parc natur yn y dyfodol”.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiectau Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych, cofrestrwch i dderbyn y newyddlen.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth y DU, ewch i’n gwefan.

 

Gwobrau Trysor Cudd Croeso Cymru i Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre

Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre yn ennill gwobr ‘Trysor Cudd’ 2025.

Mae dau o atyniadau treftadaeth poblogaidd Sir Ddinbych, sef Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre, wedi ennill gwobr ‘Trysor Cudd’ 2025.

Caiff y gwobrau ‘Trysor Cudd’ eu dyfarnu bob blwyddyn gan Croeso Cymru i ddathlu mannau nad ydyn nhw o reidrwydd yn rhan o’r atyniadau twristaidd arferol, ond sydd werth teithio ychydig allan o’r ffordd i’w gweld, diolch i’r ymweliadau bythgofiadwy y maen nhw’n eu cynnig.

Mae Carchar Rhuthun yn cynnig profiad unigryw i ymwelwyr o garchar Oes Fictoria, lle cewch chi archwilio bywyd y tu ôl i fariau cell yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dysgu am hanesion carcharorion enwog fel Coch Bach y Bala, y cyfeirir ato fel Houdini Cymru. Caiff ymwelwyr â Nantclwyd y Dre gamu drwy dros 500 mlynedd o hanes, o’r canol oesoedd i gyfnod yr Ail Ryfel Byd, a chrwydro’r gerddi hyfryd.

Yn llawn llwybrau a gweithgareddau rhyngweithiol sy’n gadael i ymwelwyr o bob oed ddysgu am eu straeon, mae hanes unigryw’r ddau atyniad yn dod yn fyw drwy deithiau tywys llafar, arddangosfeydd hynod ddiddorol a seinweddau y gallwch chi ymgolli ynddyn nhw.

Meddai Carly Davies, y Prif Swyddog Treftadaeth:

“Rydym yn hynod falch bod Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre wedi llwyddo i gael statws Trysor Cudd eto eleni. Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd a chyffrous o ddod â hanes ein hatyniadau hanesyddol yn fyw, felly mae’n hyfryd cael y gydnabyddiaeth hon gan Croeso Cymru.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n wych bod Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre wedi cael eu cydnabod fel Trysorau Cudd gan Croeso Cymru. Mae’r safleoedd hyn yn cynnig taith wirioneddol gynhwysol drwy ein treftadaeth leol, ac yn rhan hanfodol o rannu straeon unigryw Sir Ddinbych.

“Mae Rhuthun yn dref llawn hanes, a gobeithio y bydd y gwobrau diweddar hyn yn atgyfnerthu’r ffaith ei fod yn lle gwych i bobl leol ac ymwelwyr ymweld ag ef.”

I gael rhagor o wybodaeth am Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre, gan gynnwys yr oriau agor a’r digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’r tîm yn heritage@denbighshire.gov.uk

Archwilio'r awyr agored a gwella lles, un cam ar y tro

Mae pobl ifanc yn Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymuno â chyfres newydd o Deithiau Lles am ddim, wedi’u cynllunio i helpu i gysylltu gyda phobl eraill, mynd allan i’r awyr agored a theimlo’n well, wrth ddarganfod rhai o lwybrau cerdded mwyaf hardd y sir.

Tîm Barod yn Sir Ddinbych yn Gweithio, mewn partneriaeth â Ramblers Cymru sy’n rhedeg y teithiau cerdded wythnosol. Maen nhw’n cynnig ffordd gyfeillgar ac anffurfiol i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed roi hwb i’w hiechyd corfforol a meddyliol, wrth archwilio byd natur mewn cwmni da.

Mae staff Barod a Ramblers Cymru yn cefnogi’r sesiynau gan arwain teithiau cerdded ar hyd amrywiaeth o lwybrau lleol a helpu cyfranogwyr i ddysgu sgiliau awyr agored defnyddiol, fel canfod eu ffordd. Y grŵp fydd yn mynychu bob wythnos fydd yn penderfynu ar lwybrau, nid dim ond crwydro trwy’r Rhyl yw’r bwriad, ond cyfle i gynllunio llwybrau cyffrous ymhellach i ffwrdd.

Mae’r rhaglen yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol hefyd, sy’n bethau mae llawer o bobl ifanc yn eu hwynebu, yn enwedig os ydynt yn treulio llawer o amser ar eu pen eu hunain neu adref.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r prosiect partneriaeth hwn yn enghraifft wych o sut gallwn ni gydweithio i gefnogi pobl ifanc mewn ffordd ystyrlon a chynhwysol. Nid dim ond cerdded sy’n bwysig, mae’r cysylltiad, hyder a lles yn bwysig hefyd. Byddwn i’n annog unrhyw berson ifanc sy’n teimlo’n rhwystredig neu’n unig i roi cynnig arni.”

Mae’r teithiau cerdded ar agor i unrhyw breswylwyr yn Sir Ddinbych rhwng 18 a 25 oed, waeth beth yw eu lefel ffitrwydd na’u cefndir. Nid oes pwysau i siarad am waith neu chwilio am swydd. Ond gall sgyrsiau anffurfiol agor drysau at gyfleoedd newydd weithiau, neu helpu pobl i deimlo'n barod i edrych ar eu camau nesaf pan fo’r amser yn iawn.

Meddai Tina Foulkes, Rheolwr Sir Ddinbych yn Gweithio: 

“Rydym yn cydnabod yr effaith gadarnhaol all mynd allan i’r awyr agored ei chael ar les meddyliol a dylai teithiau cerdded fod yn amgylchedd diogel a chefnogol i bobl ifanc ffynnu ynddo.

“Rydym hefyd yn deall nad oes gan bawb offer, dillad neu esgidiau cerdded addas, yn enwedig ar gyfer llwybrau mwy gwledig, felly rydym yn gweithio i helpu i oresgyn y rhwystrau hyn trwy ddarparu offer addas i bawb sydd ei angen er mwyn cymryd rhan. Mae’n golygu meithrin hyder a chymuned.”

Meddai Olivia Evans o Ramblers Cymru: “Rydw i’n gyffrous iawn am y bartneriaeth hon gyda Sir Ddinbych yn Gweithio a rhaglen Barod.

Mae’n gyfuniad perffaith o dimau i roi mynediad i bobl ifanc i’r awyr agored. Gyda nodau uchelgeisiol o gael rhai grwpiau allan i’r mynyddoedd, does wybod i le gallai’r teithiau hyn ein harwain!”

Cynhelir teithiau cerdded lles bob prynhawn Iau am 3.30pm, gan ddechrau o Lyfrgell Y Rhyl. Bydd cludiant a chymorth gydag offer ar gael pan fo angen.

Nid oes angen cadw lle, a chynghorir pawb sy’n mynychu i wisgo’n addas ar gyfer y tywydd. Mae croeso i ffrindiau ymuno â ni.

I gael rhagor o wybodaeth, gall preswylwyr ffonio 01745 331438 / 07342 070635 neu fynd i wefan Sir Ddinbych yn Gweithio.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

Diwrnod Agored Nantclwyd y Dre yn Denu Torfeydd

Daeth nifer dda o bobl i ddiwrnod agored Nantclwyd y Dre ar gyfer y Cynllun Gerddi Cenedlaethol.

Scott Kelly a Stephen Lacey

Daeth nifer dda o bobl i ddiwrnod agored Nantclwyd y Dre ar gyfer y Cynllun Gerddi Cenedlaethol unwaith eto.

Daeth garddwyr o bob cwr o’r gogledd a thu hwnt i grwydro gerddi ffurfiol a gwyllt helaeth y tŷ hanesyddol. Yn eu plith oedd y garddwr a’r awdur enwog, Stephen Lacey.

Fe wnaeth cyn gyflwynydd ‘Gardeners’ World’ y BBC ganmol y gerddi, sy’n cael gofal gan wirfoddolwyr brwd a dywedodd eu bod wedi creu argraff arno a’u bod yn llawn o liw ac yn cael gofal da iawn.

Ynghyd â’r blodau tymhorol a’r bwa rhosod eiconig, sydd wedi dychwelyd yn odidog ar ôl cael ei symud rai blynyddoedd yn ôl er mwyn caniatáu gwaith trwsio i’r waliau cyfagos, bu ymwelwyr â diwrnod agored eleni yn mwynhau gweld y coed ffrwythau brodorol, teithiau â’r Garddwr Scott, a’r llwybr newydd ar gyfer 2025 i weld planhigion meddyginiaethol.

Dywedodd Scott Kelly, Prif Arddwr yn Nantclwyd y Dre:

“Ychwanegodd ymweliad Stephen uchafbwynt arbennig i’r diwrnod, ac roedd ei eiriau caredig yn hyfryd i’w clywed. Rydym yn lwcus o gael tîm brwd o wirfoddolwyr yn yr ardd sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r gerddi trwy gydol y flwyddyn ac mae’n wych bod rhywun mor uchel ei barch ym myd garddwriaeth yn cydnabod eu gwaith caled.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o’r tîm ac rydym yn hynod o falch ohonynt. Mae eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd yn helpu i ddod â bywyd i erddi Nantclwyd y Dre mewn ffordd ganmoladwy ac mae’n wych clywed sylwadau mor gadarnhaol gan Stephen Lacey.

“Roedd yn ddiwrnod hynod o lwyddiannus i ddathlu garddwriaeth a threftadaeth yn y tŷ a gerddi hanesyddol”.

Mae modd ymweld â gerddi Nantclwyd y Dre yn ystod ei oriau agor arferol (dydd Iau - dydd Sadwrn, 10:30am-4.30pm, mynediad olaf am 3.30pm). Mae prisiau mynediad yn berthnasol. Ewch i’r wefan i drefnu eich ymweliad.

Ehangu Gwasanaeth Gofal Ail-alluogi a’r Tîm Gofal a Chymorth yn y sir

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn llawn cyffro i fod yn ehangu ei Dîm Gofal a Chymorth ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion drwy recriwtio naw o Ofalwyr Gofal a Chymorth newydd a fydd yn gweithio ledled y sir.

Nod Sir Ddinbych yw sicrhau Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a lliniaru ar rywfaint o’r gwasgfeydd ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu.

Wedi cynnal ymgyrch recriwtio lwyddiannus yn gynharach eleni a phenodi saith o Weithiwr Cefnogi Ail-alluogi, mae’r Cyngor yn chwilio am ragor o aelodau staff i ymuno â’r tîm cyfeillgar a chefnogol.

Bydd y staff newydd yn cefnogi pobl y mae angen cymorth arnynt i adennill sgiliau i wneud gweithgareddau beunyddiol fel ymolchi, coginio prydau bwyd, gwisgo, symud o amgylch y cartref a mynd allan.

Gall fod ar bobl angen cymorth am amryw resymau, gan gynnwys adfer wedi bod yn sâl neu ddod adref o’r ysbyty. Gall y gefnogaeth hon bara cyn lleied ag wythnos neu ddwy ond gellir ei chynnig am hyd at chwe wythnos os oes angen. Yn ogystal â hynny, mae’r tîm yn cynnig cymorth hirdymor yn y cartref yn ôl yr angen.

Meddai Darylanne, Uwch-weithiwr Gofal a Chymorth yn y Cyngor:

“Mae ein timau’n cefnogi pobl sydd angen cymorth ar ôl bod yn yr ysbyty, neu efallai ar ôl bod yn sâl.

Rydyn ni’n darparu cerbyd pwrpasol i aelodau’r tîm fel nad oes rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu cerbydau personol wrth deithio o le i le. Darperir hyfforddiant trylwyr a digonedd o gefnogaeth i staff i'w helpu yn eu swyddi.”

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Ar ôl llwyddiant y gwaith ehangu ddechrau’r flwyddyn, rydyn ni’n awr yn bwriadu i ychwanegu naw o Weithwyr Gofal a Chymorth at ein tîm.

Mae ein timau’n gofalu am bobl ar hyd a lled y Sir bob dydd yn eu cartrefi eu hunain, sy’n golygu y gall preswylwyr fyw’n gyfforddus yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Mae ehangu fel hyn yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion gofal cymdeithasol ehangach a bydd yn golygu mwy o ofal i breswylwyr yn eu cartrefi eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae ein timau ar gael i bobl sydd newydd gyrraedd adref o’r ysbyty neu ar ôl cael triniaeth ac sydd angen pecyn cymorth wrth ddod i arfer â bywyd o ddydd i ddydd unwaith eto.

Mae’r gefnogaeth hon yn helpu i wneud y newid ychydig yn haws, ac mae ein tîm wrth law i helpu pobl i ailddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn eu cartref eu hunain.

Mae ein tîm yn gwneud gwaith anhygoel ledled y Sir ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu mwy o weithwyr Gofal a Chymorth i’n tîm.”

I gael gwybod mwy am y cyfleoedd cyffrous hyn a gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol, ewch i’n gwefan yma.

Digwyddiadau cyffrous ym Marchnad y Frenhines ar y penwythnos agoriadol

Bydd ar agor rhwng 10am a10pm bob dydd ar y penwythnos agoriadol.

I ddathlu’r agoriad mawr, ddydd Iau 10 Gorffennaf, bydd adeilad newydd Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn cynnal penwythnos llawn dop o ddigwyddiadau ac adloniant rhad ac am ddim, a fydd yn dechrau ar y diwrnod agoriadol, ddydd Iau 10 Gorffennaf, ac yn mynd tan ddydd Sul 13 Gorffennaf.

Marchnad y Frenhines o'r awyr

Bydd y Farchnad ar agor rhwng 10am-10pm bob dydd ar gyfer y penwythnos agoriadol, gyda gwerthwyr yn arddangos eu bwyd a diod blasus drwy’r penwythnos.

Gwerthwyr bwyd

Bydd amrywiaeth o adloniant rhad ac am ddim yn cael ei gynnal drwy gydol y penwythnos. Bydd y noson agoriadol yn cynnig noson o gerddoriaeth gan Mike Andrew fel Robbie Williams a’r artistiaid lleol Sarah Price a Marney Bailey o 7pm.

Nos Wener bydd y gerddoriaeth yn parhau gyda pherfformiadau byw gan y cantorion talentog lleol Jess Pallett, Joseph Leo, a Chris Fletcher o 7pm ymlaen.

Gan symud ymlaen i’r penwythnos, bydd Tabitha yn perfformio fel Whitney ar y dydd Sadwrn, a fydd yn canu amrywiaeth o ganeuon mwyaf poblogaidd Whitney Houston o 8pm ymlaen gydag ail set o ganeuon soul a motown i ddilyn.

I gloi digwyddiadau’r penwythnos agoriadol, bydd disgo ar gyfer y teulu yn cael ei gynnal ar y dydd Sul, yn cynnwys DJ Paul Maffia, a fydd yn digwydd rhwng 2pm a 5pm.

Bydd y Farchnad hefyd yn dangos Rowndiau Terfynol Wimbledon drwy gydol y penwythnos.

Ardal y bar

Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys 16 o unedau bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr a gofod digwyddiadau mawr.  Bydd ardal tu allan y Farchnad yn cynnwys decin wedi’i godi a’i orchuddio a fydd yn rhoi lle i ymwelwyr fwyta tu allan.

Dywedodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai:

“Mae Marchnad y Frenhines wedi elwa o oddeutu £6.5m o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy gyllid Trawsnewid Trefi, ac mae’n falch iawn gen i weld y datblygiad yn y Farchnad, sef safle allweddol yn y broses o ailddatblygu canol tref y Rhyl.

“Mae’r safle bywiog newydd hwn yn cynnig amrywiaeth o siopau bwyd a manwerthu, ardal ddigwyddiadau a lle i fwyta y tu allan. Bydd yn creu swyddi, yn cynnyddu nifer yr ymwelwyr, ac yn rhoi bywyd newydd i ganol y dref.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Gan ddechrau ar y diwrnod agoriadol, mae rhestr anhygoel o ddigwyddiadau ac adloniant rhad ac am ddim wedi’i threfnu ar gyfer y penwythnos agoriadol ym Marchnad y Frenhines. 

Mae’r safle wedi bod yn nodwedd annatod o’r Rhyl ers 1902, ac rydym yn edrych ymlaen yn ofnadwy at y bennod ddiweddaraf hon, ac i agor drysau’r Farchnad i’r cyhoedd.”

Meddai Andrew Burnett, Cyfarwyddwr o Midland Events (Rhyl) Ltd:

“Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd ar gael ar gyfer y penwythnos agoriadol.  Mae gennym amrywiaeth dda o adloniant cyffrous ac am ddim, a fydd yn ategu at yr hyn sydd gan ein gwerthwyr i’w gynnig.

Edrychwn ymlaen at agor y drysau ar 10 Gorffennaf a gwahodd y cyhoedd i ddathlu’r penwythnos agoriadol gyda ni.”

Am y wybodaeth ddiweddaraf am Farchnad y Frenhines, dilynwch Farchnad y Frenhines y Rhyl ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae prosiect Marchnad y Frenhines wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf trwy ei Raglen Trawsnewid Trefi.

Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae hefyd wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU trwy’r Rhaglen Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Ariennir y prosiect hefyd gan Gyngor Sir Ddinbych.

Y diweddaraf am y gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus ar Sgwâr Sant Pedr

Mae Cyngor Sir Dinbych yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau i'r parth cyhoeddus yn Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun.

Yn 2023, gwnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau eu bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sydd â’r nod o ddiogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Bydd y gwaith arfaethedig yn ceisio ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, gan hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref ar yr un pryd.

Gall y Cyngor gadarnhau na fydd ei waith gwella arfaethedig i’r parth cyhoeddus yn Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun, sydd i fod i ddechrau yng ngwanwyn 2026, yn effeithio ar Ŵyl Rhuthun na digwyddiad Drysau Agored Cadw yn 2026.

Yn dilyn trafodaethau â Phwyllgor yr Ŵyl a budd-ddeiliaid eraill, mae'r Cyngor wedi gwrando ar bryderon ynghylch oedi posibl i'r cynllun a'r effaith y gallai hyn ei chael ar Ŵyl Rhuthun a digwyddiad Drysau Agored yn benodol.

Mewn ymateb i hyn, mae'r Cyngor wrthi'n datblygu amserlen adeiladu sy'n blaenoriaethu hyblygrwydd ac yn lleihau unrhyw darfu.

I sicrhau y gall digwyddiadau fynd rhagddynt yn rhwydd a heb rwystr, mae’r Cyngor yn cynnig bod gwaith ar y ffyrdd ochr o amgylch y sgwâr yn cael ei gwblhau yn gyntaf, a threfnwyd i’r prif waith gwella i Sgwâr Sant Pedr ei hun ddechrau ar ôl Gŵyl Rhuthun o fis Gorffennaf 2026 ymlaen.

Bydd mynediad i gerddwyr hefyd yn parhau ar agor i leoliadau sy'n cymryd rhan yn nigwyddiad Drysau Agored ym mis Medi 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

"Rydym ni’n cydnabod pa mor hanfodol yw Gŵyl Rhuthun a digwyddiadau eraill yn Rhuthun i fusnesau lleol a'r gymuned ehangach, yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Maen nhw'n cynyddu refeniw a nifer yr ymwelwr sy’n ymweld â’r dref yn sylweddol, ac yr ydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi eu llwyddiant parhaus."

“Mae’r ymrwymiad hwn i Ŵyl Rhuthun yn rhan o ymdrechion ehangach y Cyngor i gefnogi busnesau lleol drwy gydol cyfnod adeiladu’r cynllun ac mae cyfres o fesurau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd i helpu i leihau unrhyw effaith yn sgil y gwaith adeiladu”.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch i’n gwefan.

Nodi Diwrnod Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r Rheng Flaen 2025

I nodi Diwrnod Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r Rheng Flaen, mae Cyngor Sir Ddinbych yn codi baner arbennig yn ei swyddfeydd yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.

Mewn seremoni codi’r faner a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf, codwyd y faner yn uchel i gydnabod cyfraniad staff y GIG, gofal cymdeithasol a’r rheng flaen. 

Mae 5 Gorffennaf yn ddiwrnod cenedlaethol i ddiolch i’r holl staff rheng flaen a gweithwyr hanfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor:

“Mae codi’r faner hon yn dangos ein gwerthfawrogiad ar draws y sir i’r staff sy’n gweithio’n ddiflino i helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf. 

Mae’n anrhydedd go iawn cael cydnabod y rhai sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol bob dydd i rai o’r unigolion mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau yma yn Sir Ddinbych.

Boed law neu hindda, mae’r bobl anhygoel hyn yna i’n trigolion, felly heddiw rydym yma iddyn nhw, i ddangos ein diolch a’n gwerthfawrogiad am eu gwaith gwych.”

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae'r digwyddiad hwn yn symbol gweladwy o'n parch a'n gwerthfawrogiad dwfn i'n staff rheng flaen a'r gwaith amhrisiadwy maen nhw'n ei wneud ledled Sir Ddinbych bob dydd.

Rydym yn codi’r faner hon yn uchel ac yn falch fel arwydd o ddiolch i’r rhai sy’n helpu ac yn cefnogi unigolion ar hyd a lled y sir bob dydd.” 

Cyhoeddi rhaglenni mawr i gynnal a chadw priffyrdd

Bydd y gwaith yn digwydd dros ddwy flynedd mewn 57 o fannau ledled y sir

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi datgelu pa ffyrdd a fydd yn elwa ar waith cynnal a chadw mawr wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith yn digwydd dros ddwy flynedd mewn 57 o fannau ledled y sir ac ariennir y rhaglen drwy’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol.

Mae’r rhaglen honno’n cynnwys cynlluniau ar gyfer 2025/26 a 2026/27 ac mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyfanswm o £4,780,699 ar gyfer hynny.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn neilltuo’r cyllid ar gyfer gwella wyneb y ffordd ar rannau penodol o rwydwaith ffyrdd cerbydau’r sir.

Bwriedir buddsoddi’n helaeth i wella wyneb y ffordd ar yr A525 ym Mwlch Nant y Garth, yr A547 ar Ffordd Abergele ger Rhuddlan a ffordd Tŷ Newydd yn y Rhyl.

Dyma’r rhestr gyflawn o’r ffyrdd lle cynhelir y gwaith, a fydd yn cynnwys rhoi wyneb newydd arnynt a gwaith ysgubo a draenio:

  • Betws Gwerfyl Goch – o gyffordd Minffordd i Dyddyn Bach
  • Betws Gwerfyl Goch – o Dyddyn Bach i’r pentref
  • Bodfari – o gyffordd yr A541 i gyffordd Glascoed
  • Bontuchel – o Bontuchel i gyffordd Ysgeibion
  • Bryneglwys - A5104 (o’r gyffordd â’r A494 i Dan y Bidwal)
  • Carrog - B5437 o’r rheilffordd i’r gyffordd â’r A5t
  • Clawddnewydd - B5105 Pool Park i Fryn Moel
  • Dinbych - o oleuadau Townsend i gyffordd Lôn Pendref
  • Dinbych – A543 Ffordd Rhuthun (o gyffordd Rhodfa Clwyd i gylchfan Parc Myddleton)
  • Dinbych – Lôn Llewelyn (o gyffordd yr A543 i gyffordd yr B5382)
  • Derwen - cyffordd Park Lodge i gyffordd Sarnat Gwyn
  • Dyserth - o gyffordd Dincolyn i ffin y sir ym Mia Hall
  • Dyserth – Thomas Avenue
  • Eryrys - o gyffordd yr B5430 i Bant y Gwylanod
  • Hendrerwydd – o gyffordd Plas Coch Bach i Blas isaf
  • Henllan – o Blas Dolben i ffin y sir
  • Henllan - Lôn y Sipsiwn, Ffordd Henllan
  • Llandegla - o gyffordd yr A542 i groesffordd y Crown
  • Llandegla - A542 o Dafarn Dywyrch i Ponderosa
  • Llandrillo - B4401 Ffordd Llandrillo
  • Llandyrnog - o gylchfan yr B5429 i groesffordd Groes Efa
  • Llanfair Dyffryn Clwyd - A525 Ffordd Wrecsam (o’r pentref i The Nook)
  • Llanfair Dyffryn Clwyd – y lôn o Bentre Coch i Gae Gwyn
  • Llangollen – A542 Ffordd yr Abaty (o Oakleigh i gyffordd Pont Llangollen)
  • Llangollen – Heol y Dderwen
  • Llanrhaeadr – rhwng Talyrnau Cottage a chyffordd yr A525
  • Melin y Wig - Hafotty Newydd i Ben y Bryniau
  • Nantglyn - Ffordd yr Ysgol o Frongoed i ffin y sir
  • Peniel - Tan y Garth i Ddyffryn Rhewl
  • Pentrecelyn – A525 Nant y Garth
  • Pentrecelyn - cyffordd Derwen Llanerch i gyffordd Llidiart Fawr
  • Pentredwr - o’r A542 i’r White Hart
  • Prestatyn – Bishopswood Road
  • Prestatyn – Ffordd Isa (y gyffordd â Ffordd Penrhwylfa)
  • Prestatyn – Ffordd Las
  • Prestatyn – Gronant Road (o’r rhan wledig hyd y datblygiad o dai)
  • Prestatyn – Gronant Road (trefol)
  • Prion – o gyffordd yr B4501 i Dan y Garth
  • Prion – Pen y Groes i Lewesog Lodge
  • Prion – rhwng Prion Isaf a’r pentref
  • Prion – o Dŷ Cerrig i gyffordd Dyffryn Rhewl
  • Rhuallt – Llys y Delyn i Fryn Mawr
  • Rhuddlan – Abergele Straights (o gylchfan KFC i gylchfan Borth)
  • Y Rhyl – Derwen Drive
  • Y Rhyl – Gamlin Street
  • Y Rhyl – Pont H
  • Y Rhyl – Ffordd Tynewydd (Ffordd yr Arfordir gan gynnwys y Bont Reilffordd)
  • Rhuthun – Church Walks
  • Rhuthun – Stryd Mwrog (o gylchfan yr A494 i’r Eglwys)
  • Rhuthun – Ffordd Wynnstay
  • Llanelwy - Cwrt Ashly
  • Llanelwy – Sarn Lane
  • Llanelwy – Y Ro (gyferbyn â’r Talardy)
  • Llanelwy – Ffordd Dinbych Uchaf (rhwng HM Stanley a Bryn Asaph Cottage)
  • Llanelwy – Ffordd Wigfair
  • Tremeirchion - Glyn Ganol i Gefn Du

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Gwyddom yn iawn fod cyflwr y rhwydwaith ffyrdd yn Sir Ddinbych yn bwnc llosg ymysg ein pobl leol ac rydyn ni’n eithriadol o ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid ychwanegol hwn a fydd yn ein galluogi i wneud mwy drwy’r rhaglen i wella ffyrdd ar hyd a lled y sir.

Mae ein swyddogion Priffyrdd wedi gweithio’n galed i lunio’r rhaglen i gynnal a chadw ffyrdd yn y sir gyda’r nod o roi gwell profiad i drigolion lleol ac ymwelwyr wrth yrru yn Sir Ddinbych.”

Ychwanegodd: “Bydd y Cyngor yn cyhoeddi mwy o wybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg leol ynglŷn â phryd yn union y bydd y gwaith yn digwydd, felly cadwch olwg am y newyddion. Hoffwn hefyd ddiolch i bobl leol am eu cefnogaeth a’u hamynedd wrth inni weithio ein ffordd drwy’r rhestr o gynlluniau.”

 

Cynnydd da ar brosiect hydrotherapi ysgol yn y Rhyl

Mae gwaith ar y prosiect pwll Hydrotherapi yn Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl yn gwneud cynnydd cyflym, gyda disgwyl i’r prosiect gael ei gwblhau yn yr Hydref.

Prosiect Pwll Hydrotherapi, Ysgol Tir Morfa

Bydd y prosiect, sydd wedi’i ddylunio gan dîm pensaernïaeth mewnol y Cyngor, ac wedi dechrau yn gynharach yn y flwyddyn, yn dod a darpariaeth Hydrotherapi o’r radd flaenaf i’r ysgol, y cyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych.

Bydd Pwll Hydrotherapi arbenigol 19 troedfedd yn cael ei osod yn y cyfleuster newydd ar dir yr ysgol, mewn adeilad ar ei ben ei hun.

Mae’r prif strwythur craidd bellach wedi’i gwblhau, gyda’r gwaith yn canolbwyntio ar y to a’r inswleiddiad erbyn hyn. Bydd y pwll ei hun yn cael ei osod yn ddiweddarach yn yr haf.

Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd yr adeilad yn cynnwys paneli solar ac inswleiddiad effeithlon o ran ynni, gan helpu’r cyfleuster i leihau ei ôl-troed carbon a lleihau costau ynni ar yr un pryd. Bydd yr adeilad hefyd yn cael ei wresogi gan wres o dan y llawr.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rwyf yn frwdfrydig iawn o weld y prosiect yn gwneud cymaint o gynnydd.

Dyma fydd y cyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych a bydd yn dod a darpariaeth werthfawr iawn i’r ysgol ar ardal ehangach.

Mae’r gwaith yn datblygu’n gyflym, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn agor yn yr Hydref.”

Meddai Susan Roberts, Pennaeth Ysgol Tir Morfa:

“Rydym yn gyffrous iawn i weld faint o gynnydd sydd wedi’i wneud ar y prosiect Pwll Hydrotherapi.

Mae’r disgyblion yn gyffrous i allu cael mynediad at y cyfleuster hydrotherapi gwych hwn, a fydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwych iddynt, gan gefnogi eu datblygiad corfforol a lles.”

Ariennir y prosiect hwn gan yr ysgol drwy eu gweithgareddau codi arian, yn ogystal â chyllid grant Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru.

Digwyddiad i ddathlu Partneriaeth TCC newydd

Wedi'i gynnal yn ystod wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, dathlwyd lansiad swyddogol y bartneriaeth TCC newydd yn Neuadd y Dref, y Rhyl.

Yn gyfaddawd rhwng Cyngor Sir Dinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Heddlu Gogledd Cymru a chynghorau tref Dinbych, Prestatyn, Rhuddlan a'r Rhyl, mae'r bartneriaeth yn anelu at wneud strydoedd Sir Dinbych yn fwy diogel trwy uwchraddio camerâu cylch cyfyng fannau cyhoeddus sydd eisoes yn bodoli.

Ar ôl sicrhau £278,000 Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU i i brynu nifer o gamerâu Chwyddo-Panio-Gogwyddo (PTZ) a chamerâu statig i'w gosod yn Rhuddlan, Prestatyn a'r Rhyl, a dau gamera symudol arall i ddarparu opsiwn dros dro mewn ardaloedd sy'n dangos cyfradd uwch o ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd y bartneriaeth newydd hefyd yn elwa o system fonitro adweithiol 24 awr arobryn trwy ystafell reoli CCTV ganolog yng Nghonwy a fydd yn cysylltu'n uniongyrchol â Heddlu Gogledd Cymru.

I Orllewin y Rhyl, mae hyn yn cefnogi'r fenter bartneriaeth Prosiect Adnewyddu sydd wedi bod ar waith ers haf 2024. Bydd ychwanegu'r camerâu TCC newydd yn cyfrannu at atal troseddau sy'n digwydd dro ar ôl tro ac adeiladu gwydnwch o fewn y gymuned.

Meddai llefarydd ar ran y Cyngor Tref:

“Mae cyflwyno darpariaeth TCC ychwanegol yn fantais fawr i’n cymunedau, a bydd yn adnodd pwerus i atal gweithgarwch troseddol, gwella diogelwch y cyhoedd a darparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer ymchwiliadau. Mae’r bartneriaeth newydd yn enghraifft wych o gydweithio rhwng Cynghorau Sir, Tref a Chymuned lleol i sicrhau bod y gymuned leol yn lle mwy diogel.”

Meddai Uwch-arolygydd yr ardal ganolog, Lee Boycott:

“Rwy’n croesawu’r buddsoddiad ychwanegol mewn darpariaeth TCC yn ein trefi lleol. Nid yn unig y mae’n adnodd gwerthfawr i atal troseddu a chadw ein cymunedau’n ddiogel, ond gall hefyd fod yn ffynhonnell dystiolaeth werthfawr i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.”

Meddai Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin:

“Mae TCC yn adnodd hanfodol wrth geisio atal troseddu ac rwy’n cefnogi awdurdodau lleol a chynghorau cymuned ledled gogledd Cymru yn eu hymdrechion i sicrhau eu bod ar gael ym mhob rhan o’u cymunedau mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru.

“Gall TCC helpu ein timau plismona yn y gymdogaeth drwy ganfod troseddwyr a darparu tystiolaeth. Gall hefyd helpu tawelu meddyliau ein trigolion a’n busnesau lleol, a’r gobaith yw y bydd hynny’n arwain at roi hwb i economïau canol tref.

“O ystyried hyn oll, mae'n gadarnhaol iawn gweld y gwahaniaeth y mae'r buddsoddiad yn Sir Ddinbych yn ei wneud wrth gynyddu'r ddarpariaeth teledu cylch cyfyng yn y Rhyl, Prestatyn, Rhuddlan a Dinbych, ac rwy’n cymeradwyo eu hymdrechion. Edrychaf ymlaen at gael gweld y gwahaniaeth y mae’r cynnydd hwn yn y ddarpariaeth yn ei wneud i bobl yr ardal.”

Meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth, yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio Conwy:

“Rwy’n falch iawn o weld ein bod wedi cael y contract i reoli’r gwasanaeth monitro TCC ar ran Partneriaeth TCC Sir Ddinbych.

“Rydym yn falch iawn o’n gwasanaeth TCC di-guro. Mae’r gwasanaeth llwyddiannus yn gweithredu ers 2018 o’n hystafelloedd monitro pwrpasol diogel ym Mae Colwyn, ac mae’n cyrraedd y safonau rhyngwladol uchaf.

“Credaf ei bod yn gwneud synnwyr i’n cymdogion agosaf elwa ar y buddsoddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â nhw i dawelu meddyliau trigolion, busnesau ac ymwelwyr ar hyd a lled y ddwy sir.”

Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Chadeirydd Partneriaeth TCC Sir Ddinbych:

“Mae datblygiad y bartneriaeth hon yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Hoffem ddiolch i’r aelodau sy’n rhan o’r bartneriaeth hon am eu cefnogaeth drwy gydol y broses, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â nhw i wneud ein cymunedau’n lleoedd mwy diogel.

“Rhan o wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yw tynnu sylw at bryderon ein dinasyddion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein strydoedd ac rydym yn gwybod bod TCC yn chwarae rhan bwysig wrth weithredu fel ataliad mewn gweithgarwch troseddol.

“Rydym yn gobeithio gweld y Bartneriaeth yn datblygu ymhellach i fod yn fwy rhagweithiol ar draws y Sir yn y blynyddoedd nesaf, er mwyn gweld TCC yn cyfrannu mewn modd cadarnhaol i’r gymuned leol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect TCC ewch i’n gwefan.

Prosiect Sir Ddinbych yn ennill gwobr fawreddog

Partneriaeth o Dîm Cydnerthedd Cymunedol y Cyngor, Actif Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin a Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor yn ennill

Mae prosiect lles cymunedol arloesol wedi ennill y categori ‘Ymgysylltu Tenantiaid mewn Mentrau/Prosiectau Amgylcheddol’ yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2025.

TPAS Cymru Winners

Cwblhawyd y prosiect mewn partneriaeth gan Dîm Cydnerthedd Cymunedol Cyngor Sir Dinbych, Actif Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin a Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor.

Cynhaliwyd y gwobrau cenedlaethol yng Nghaerdydd ar 25 Mehefin, ac roedd y categori newydd hwn yn cydnabod landlord, sefydliad neu grŵp cymunedol sydd wedi llwyddo i ymgysylltu Tenantiaid neu Breswylwyr mewn mentrau sy'n fuddiol i'r amgylchedd, naill ai’n fyd-eang neu'n lleol.

Mae’r prosiect buddugol, Partneriaethau Ffyniannus, Trawsnewid Cymunedau, yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio ar synnwyr o le wedi’i arwain gan y gymuned lywio newid ystyrlon.   Drwy bartneriaethau ac ymgysylltu cryf â thenantiaid a’r gymuned yng Nghlawdd Poncen a Dinbych Uchaf, mae’r fenter wedi llwyddo i fynd i’r afael ag anweithgarwch corfforol, arwahanrwydd cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd.

Tlws TPAS CymruWrth roi adborth am y cais buddugol, dywedodd y beirniaid:

“Roedd y prosiect yma’n sefyll allan. Drwy dewis ardaloedd fel Dinbych Uchaf a Chlawdd Poncen, sy'n wynebu amddifadedd uchel, mae’n dangos ymrwymiad cryf i gynhwysiant yn y gymuned. O grwpiau ieuenctid i denantiaid tai cymdeithasol, roedd gan bawb lais, ac roedd yn amlwg eu bod yn cael eu clywed.”

“Gallwch weld a theimlo'r trawsnewidiad. Mae caeau nad oedd yn cael eu defnyddio'n llawn bellach yn berllannau, trac beics, gyda meinciau, a llwybrau ffitrwydd oll wedi'u cynllunio gyda thrigolion. Mae llai o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae pobl yn cymryd perchnogaeth o’r ardaloedd hyn. Mae hwn yn engrhaifft dda iawn o ymgysylltu cymunedol.”

“…y dangosyddion perfformiad allweddol - y cynllun, sut maen nhw wedi'i gyflawni ac yn olaf fel mae’r cais yn adlewyrchu'r trawsnewidiad gwirioneddol. Roeddwn i wir yn ei hoffi.”

Meddai Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl, Grŵp Cynefin: "Mae’r prosiect hwn yn amlygu pŵer cydweithredu a gweithredu dan arweiniad y gymuned wrth greu mannau mwy gwyrdd a chysylltiedig.

Mae’r wobr yn dyst i’r angerdd, creadigrwydd ac ymrwymiad ein staff a’n partneriaid. Dyma brosiectau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau a’n hamgylchedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:

“Hoffwn longyfarch pawb fu’n rhan o’r prosiect gwych hwn am eu cydnabyddiaeth haeddiannol wrth ennill gwobr TPAS Cymru.

“Mae llwyddiant prosiect Actif Sir Ddinbych yn seiliedig ar bartneriaeth, amlygir hyn gan y ffaith bod y ddau Gydlynydd Actif ym mhob ardal yn cael eu cyflogi gan sefydliadau gwahanol, sy’n adlewyrchu ymddiriedaeth a dealltwriaeth o gryfderau unigryw bob cymuned.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill ac yn falch o arddangos pŵer trawsnewid dan arweiniad y gymuned.

“Mae’r llwyddiant hwn yn dathlu model arloesol y prosiect fel un y gellid ei efelychu mewn cymunedau eraill ledled Cymru.”

Gallwch ddarllen mwy am y prosiect yn Llais y Sir.

Ariannwyd y prosiectau hyn gan Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU trwy Actif Gogledd Cymru a’r rhaglen Natur er Iechyd.

Partneriaid y Prosiect:

  • Cyngor Sir Ddinbych - Tai, Gwasanaethau Ieuenctid, Cadernid Cymunedol, Gwasanaethau Cefn Gwlad
  • Actif Gogledd Cymru
  • Hwb Dinbych Grŵp Cynefin
  • Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy - Rhaglen Natur er Budd Iechyd
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) - Tîm Iechyd Cyhoeddus
  • Hamdden Sir Ddinbych Cyf - Tîm Chwaraeon Cymunedol

Fideo o’r uchafbwyntiau:

Prosiect Clawdd Poncen
Prosiect Dinbych Uchaf

Canfod tegeirian hardd mewn dôl blodau gwyllt yn Ninbych

Mae tegeirian yn dwyllodrus o gryf diolch i brosiect bioamrywiaeth cefnogol.

Mae Tegeirianau Gwenynog ar gynnydd mewn dôl blodau gwyllt yn Ninbych am y tro cyntaf gan dîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych. 

Darganfuwyd y tegeirianau newydd gan y tîm yn ystod arolwg o ddolydd lleol yn yr ardal er mwyn asesu sut roedd rhywogaethau yn ffynnu yn ystod y tymor tyfu.

Mae ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn helpu ac yn amddiffyn natur lleol ac yn cefnogi lles cymunedol ar draws y Sir.  Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu’r prosiect drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Yn ystod tymor 2024, cofnodwyd 297 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ar y safleoedd hyn a chyfanswm o 5,269 o flodau unigol, llawer iawn mwy nag sy’n tyfu mewn caeau lle torrir y gwair yn gyson.

Gwelwyd tegeirianau’n tyfu am y tro cyntaf erioed mewn nifer o ddolydd blodau gwyllt ledled y sir.

Mae atgyfodiad y tegeirianau yma’n parhau yn 2025 yn sgil gwaith y prosiect. 

Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Fe wnaethom ni ddarganfod tegeirianau gwenynog mewn dôl yn Ninbych yn ddiweddar, mae’r tegeirianau bychan yma’n edrych fel gwenyn yn gorffwys, mae ganddynt fymryn o flew ac maent hyd yn oed yn cynhyrchu arogl sy’n debyg i wenynen fenywaidd, gan greu’r twyll perffaith i ddenu gwenyn gwrywaidd i beillio yn y ddôl yma! 

“Yn ogystal â hynny, mae’n wych i ddenu ystod o loÿnnod byw a gwyfynod a fydd wir yn rhoi hwb i weithgaredd y ddôl yma hefyd.

“Rydym ni’n darganfod bod tegeirianau yn parhau i atgyfodi ym mhob un o’n dolydd ar gyfer 2025, rydym ni hefyd wedi lleoli llawer o degeirianau pigfain ar draws ein safleoedd ac mae’r tîm wedi canfod tegeirian brych cyffredin ym Modelwyddan.”

“Dim ond mewn safleoedd arfordirol yr arferai tegeirianau pigfain gael eu canfod yn 2023, ond y llynedd, fe welsom ni un yn Rhuthun ac rydym ni bellach wedi canfod mwy yn fewndirol sy’n dangos bod y dolydd sydd gennym yn gweithio fel ffordd i drychfilod ac anifeiliaid ar draws y sir i helpu i ailboblogi’r safleoedd yma drwy gario hadau o un i’r llall.”

“Mae tegeirianau yn cynhyrchu hadau sy’n eithriadol o fach (hefyd yn cael eu galw’n hadau llwch). Mae’n rhaid i’r hadau yma ddod i gysylltiad gyda math arbennig o ffyngau mycorhisol a fydd yn helpu hadau’r tegeirian i egino a’i gynorthwyo i dyfu’n fuan.  Mae pob tegeirian yn tueddu i gael ffwng mycorhisol penodol y mae’n paru ag o, felly oni bai bod amodau’r pridd yn iawn ar gyfer y ffwng, ni fyddwn ni’n cael tegeirianau.  Mae gweld y planhigion bach yma ar y safle yn nodi ein bod yn anelu i’r cyfeiriad cywir, ac mae’r dolydd yn parhau ar eu siwrnai tuag at adferiad.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’n wych bod hyn wedi cael ei ganfod ar y safle yn Ninbych ac mae’n dangos wrth i’n dolydd aeddfedu maen nhw’n dod yn rhan hollbwysig yn darparu cefnogaeth ar gyfer natur sydd wedi dioddef oherwydd effaith newid hinsawdd.

“Wrth i fwy o flodau gwyllt megis tegeirianau ddychwelyd i safleoedd, byddant yn helpu i ychwanegu amrywiaeth a lliw yn ein safleoedd i’r gymuned ei fwynhau, ynghyd â’r peillwyr sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.”

 

 

 

Grant nawr ar agor i helpu gyda chostau ysgol

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhieni a gwarcheidwaid cymwys i beidio â cholli’r cyfle i gael hyd at £200 drwy Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru. Mae’n bosibl rŵan gwneud cais am y grant ar gyfer blwyddyn ysgol 2025-2026.

Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda chostau gwisg ysgol, gan gynnwys esgidiau, dillad ac offer chwaraeon ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol, gweithgareddau ysgol megis dysgu canu offeryn cerdd neu hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys pinnau ysgrifennu, pensiliau a bagiau yn ogystal â gliniaduron a chyfrifiaduron. Gellir defnyddio’r grant hefyd tuag at gost gwisgoedd ar gyfer gweithgareddau ehangach megis y Sgowtiaid a’r Geidiaid ac offer ar gyfer Gwobr Dug Caeredin.

Gall plant o deuluoedd sydd ar incymau is sy’n derbyn budd-dal penodol hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol. Mae hyn yn cynnwys yr holl ddysgwyr yn y dosbarth derbyn neu flwyddyn 1 i flwyddyn 11 (ac eithrio blwyddyn 7). Oherwydd y costau ychwanegol y gall teuluoedd eu hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion cymwys a fydd yn dechrau ym mlwyddyn 7. 

Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Addysg, Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’r Grant Hanfodion Ysgol, yn helpu i ostwng y baich ariannol ar deuluoedd wrth brynu gwisg ysgol ac offer, gan alluogi’r plant i fynd i’r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â’u cyfoedion.

Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn cael Prydau Ysgol am ddim, sydd ar gael i holl blant Ysgolion Cynradd, mae angen i chi wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol er hynny. 

Mae’n hynod bwysig bod rhieni a gwarcheidwaid plant sy'n mynd o flwyddyn 6 i 7 yn gwneud cais am Brydau Ysgol Am Ddim a'r Grant Hanfodion Ysgol gan y bydd y cynnig Amddiffyn wrth Bontio yn dod i ben i’r plant hyn. Rydyn ni'n gwybod bod sicrwydd o bryd o fwyd iach bob dydd yn helpu gyda chanolbwyntio a dysgu yn yr ystafell ddosbarth a gwella iechyd a lles.”

Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer cyllid eleni yn agor ar 1 Gorffennaf ac yn cau ar 31 Mai 2026. Gall teuluoedd sy’n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, yn ogystal â’r Grant Hanfodion Ysgol, ddefnyddio’r un ffurflen gais ar-lein i ymgeisio am y ddau. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cysylltu’n rhagweithiol ag aelwydydd i roi gwybod iddynt a ydynt yn gymwys. Nid oes angen i unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais, i wneud cais eto.

Os yw eich plentyn yn mynd i ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am grant trwy fynd i: www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/grantiau-ac-ariannu/grant-hanfodion-ysgol.aspx.

Helpwch i siapio dyfodol Y Rhyl – Dweud eich dweud

Mae newidiadau mawr ar y gweill yn y Rhyl, gyda £20 miliwn o gyllid adfywio i’w fuddsoddi dros y 10 mlynedd nesaf. Mae Bwrdd Cymdogaeth Y Rhyl wedi cael ei sefydlu er mwyn arwain y gwaith cyffrous, gan ddod â thrigolion lleol, busnesau, ymwelwyr, grwpiau gwirfoddol a lleisiau’r gymuned ynghyd er mwyn siapio gweledigaeth newydd feiddgar ar gyfer y dref.

Mae nhw eisiau clywed eich barn chi.

Cliciwch ar y ddolen i gwblhau arolwg byr >>> https://www.surveymonkey.com/r/EinRhyl

Sialens Ddarllen Yr Haf ‘Gardd o Straeon’ 2025

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn gwahodd teuluoedd ar draws Sir Ddinbych i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2025 Yr Asiantaeth Ddarllen, gan annog plant i archwilio’r cysylltiad hudolus rhwng adrodd hanes a’r byd naturiol, gan mai thema eleni ydi:  Gardd o Straeon - Anturiaethau mewn Natur a’r Awyr Agored.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gwahodd plant 4-11 mlwydd oed i fynd i’w llyfrgell leol, darganfod llyfrau newydd, mwynhau haf yn llawn hwyl, dychymyg ac ysbrydoliaeth yn yr awyr agored.

Yn cynnwys darluniadau hardd gan yr artist sydd wedi ennill gwobrau, Dapo Adeola, mae Gardd o Straeon yn cynnig byd o straeon, creaduriaid ac anturiaethau sy’n seiliedig ar natur i ddarllenwyr ifanc.  Gall plant gasglu pecynnau gweithgareddau am ddim, cymryd rhan mewn digwyddiadau ar thema natur, a benthyg llyfrau penodol - y cyfan wedi eu dylunio i’w cadw’n chwilfrydig, yn weithgar, ac pharhau i ddarllen dros wyliau’r haf.

Meddai Deborah Owen, Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych: 

“Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu plant a theuluoedd yn ôl ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni.  Mae’n ffordd wych o sbarduno cariad at ddarllen tra’n annog meddyliau ifanc i archwilio natur a chreadigrwydd.  Allwn ni ddim aros i weld ein llyfrgell yn cael ei drawsnewid i Ardd o Straeon yr haf hwn!”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych:

“Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o ysbrydoli plant i ddarllen er mwynhad, tra’n dathlu harddwch y byd naturiol. Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi llythrennedd a chreadigrwydd, ac mae thema eleni, Gardd o Straeon, yn dod â’r cyfan ynghyd mewn ffordd gyffrous a chreadigol. Buaswn yn annog teuluoedd ar draws Sir Ddinbych i ymuno a manteisio ar bopeth sydd gan eu llyfrgell leol i’w gynnig yr haf hwn.

Bellach yn ei 26ain flwyddyn, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda llyfrgelloedd cyhoeddus, ac mae’n rhad ac am ddim i ymuno.  Yn 2024, fe gyrhaeddodd y Sialens bron i 600,000 o blant, gan ysbrydoli dros 100,000 aelod newydd i ymuno â llyfrgell ar draws y DU.

I ddysgu sut i ymuno yn yr hwyl, ewch i’ch llyfrgell leol neu ewch i www.summerreadingchallenge.org.uk.

@readingagency

#SialensDdarllenYrHaf #GarddOStraeon

Pwyntiau Siarad yn cefnogi dros 1,100 o drigolion mewn blwyddyn

Mae Pwyntiau Siarad ym mhob un o Lyfrgelloedd Sir Ddinbych ac maent yn ffordd hawdd a chyfleus i drigolion Sir Ddinbych ddarganfod pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddynt yn eu hardal. Darperir y gwasanaeth Llyw-wyr Cymunedol gan y Groes Goch Brydeinig mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych ac yn ochr yn ochr â phartneriaid allweddol.

Jeff JonesJeff, Llyw-wyr Cymunedol

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod y sesiynau wedi darparu cyngor ac arweiniad i dros 1,130 o drigolion Sir Ddinbych rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.

Fe wnaeth y 391 o sesiynau Pwyntiau Siarad a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn hefyd gael 100% o adborth cadarnhaol gan y rhai a lenwodd ffurflen ar ôl sesiwn, ac roedd yr adborth yn dweud eu bod yn fodlon iawn â’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth roeddent yn ei gael.

Mae’r cymorth mae’r gwasanaeth Pwyntiau Siarad yn ei gynnig drwy’r Llyw-wyr Cymunedol yn eang, a gall amrywio o ddarparu cyngor yn unig, i atgyfeirio i gael rhagor o gymorth perthnasol a chefnogaeth a chymorth â thai.

Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth Llyw-wyr Cymunedol hefyd ddarparu 140 o sesiynau gyda sefydliadau mewnol ac allanol i drigolion Sir Ddinbych.

Dyma leoliadau ac amseroedd Pwyntiau Siarad ar hyn o bryd:

Bob dydd Llun (heblaw gwyliau banc) – Llyfrgell Llanelwy, 10:00am–12.30pm

Bob dydd Mawrth – Llyfrgell y Rhyl a Llyfrgell Rhuthun, 10:00am–12.30pm

Bob dydd Mercher – Llyfrgell Dinbych a Llyfrgell Corwen, 10:00am–12.30pm

Bob dydd Iau – Llyfrgell Llangollen, 10:00am–12.30pm

Bob dydd Gwener (heblaw gwyliau banc) – Llyfrgell Prestatyn a Llyfrgell Rhuddlan, 10:00am–12.30pm 

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Rydyn ni’n falch o’r effaith mae Pwyntiau Siarad yn ei chael i sicrhau bod cymunedau’n datblygu’n gynaliadwy yn seiliedig ar eu cryfderau a’u potensial. Mae Pwyntiau Siarad yn rhoi cyfle i unigolion sydd naill ai’n cael anawsterau eu hunain, neu'n gofalu neu’n pryderu am rywun arall, i gael sgwrs wyneb yn wyneb sy’n canolbwyntio ar beth sy’n bwysig iddyn nhw i wella eu hiechyd a’u lles. 

Mae Pwyntiau Siarad hefyd yn rhoi cyfle i staff rwydweithio a dysgu am y pethau sydd ar gael o fewn eu hardal leol er mwyn helpu i gefnogi dinasyddion Sir Ddinbych. Rydym ni eisiau gweld Pwyntiau Siarad yn parhau i ddatblygu, gan ganiatáu i’n cymunedau weithio gyda ni i ddarparu gofal cymdeithasol, gyda phobl leol yn helpu’r naill a’r llall."

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae Pwyntiau Siarad yn sesiynau defnyddiol a chyfeillgar am ddim sy’n cael eu cynnal bob diwrnod o’r wythnos ar gyfer ein trigolion sy’n teimlo eu bod angen help llaw. Nid oes angen archebu, dim ond dod i’r sesiwn.

Mae’r Llyw-wyr Cymunedol bob tro’n barod i sgwrsio a chefnogi ac maent yn gallu helpu gydag amrywiaeth eang o bethau.”

Diweddariad Gorffennaf – Gwaith cynnal a chadw ffyrdd

Mae ein tîm Priffyrdd wrthi’n cwblhau gwaith cynnal a chadw ar draws y sir.

Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw 1,400 cilomedr o ffyrdd yn Sir Ddinbych. Mae ein timoedd yn cwblhau rhaglen waith rheolaidd i gynnal a gwella ein ffyrdd, sy’n amrywio o drwsio tyllau yn y ffyrdd i brosiectau ail wynebu ffyrdd.

Mae’n bosibl y bydd angen cau ffyrdd er mwyn cwblhau gwaith trwsio, draenio a gwaith cefnogol arall.

Mae rhestr isod o waith Priffyrdd mis Gorffennaf:

Lleoliad

Math o waith

Rheolaeth traffig dros dro neu gau’r ffordd

Dyddiad dechrau*

Dyddiad gorffen*

Pentrecelyn – trac o’r B5429 gyferbyn Faenol hyd at cyffordd yr A525

Gwaith clytio

Ffordd ar gau

30.06.2025

04.07.2025

Prestatyn – Ffordd Victoria Gorllewin (tu allan rhif 45) ac yn ymyl cyffordd Rhodfa Roy

Ail gosod gwaith haearn

Rheolaeth traffig dros dro

02.07.2025

02.07.2025

Rhyl – Ffordd Dyserth

Gwaith gyli

Rheolaeth traffig dros dro

04.07.2025

04.07.2025

Llanelwy – Ffordd Dinbych Uchaf: Tweedmill i goleuadau Trefnant

Glanhau gylïau

Stop / Mynd

07.07.2025

09.07.2025

Llanelwy – A525 Ffordd Dinbych Uchaf yn ymyl Gwesty Oriel

Gwaith clytio

Hebrwng

19.07.2025

20.07.2025

Rhuthun – cyffordd Kingsmead i gyffordd Ty’n y Groesffordd

Gwaith clytio

Ffordd ar gau

21.07.2025

25.07.2025

Nantglyn - B4501 Groes Maen Llwyd i’r grid gwartheg

Gwaith clytio

Hebrwng

25.07.2025

I’w gadarnhau

Rhuallt – Ffordd Hiraddug

Gwaith clytio

Ffordd ar gau

28.07.2025

01.08.2025

Nantglyn - B4501 Croesffordd Brynglas i’r grid gwartheg

Gwaith clytio

Ffordd ar gau

28.07.2025

05.08.2025

Cwm – Y Bwlch

Gwaith ail wynebu

Ffordd ar gau

28.07.2025

06.08.2025

Bryneglwys – cyffordd Ffynnon Tudur i Bryn Orsedd

Gwaith clytio

Ffordd ar gau

29.07.2025

31.07.2025

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Mae ein timoedd Priffyrdd yn gweithio gydol y flwyddyn i gynnal a chadw’r ffyrdd ar draws y sir. Hoffwn ddiolch i drigolion am eu hamynedd y mis hwn wrth i ni gwblhau’r gwaith pwysig yma.”

Gall dyddiadau gwaith newid oherwydd y tywydd neu ffactorau allanol eraill.

Am yr holl wybodaeth am waith ar draws ffyrdd Sir Ddinbych, gan gynnwys gwasanaethau eraill y Cyngor a chwmnïau cyfleustodau, ewch i'r ddolen hon am ragor o wybodaeth.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw