Archifau’n gweithio gydag Ysgol Rhuthun i warchod hanes

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio ochr yn ochr â gweinyddwyr Ysgol Rhuthun, FRP Advisory, i ddiogelu treftadaeth ddogfennol yr ysgol, gan sicrhau bod yr hanes yn cael ei gadw ac yn hygyrch am genedlaethau i ddod.

Gyda dros 700 mlynedd o hanes, mae Ysgol Rhuthun wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y gymuned leol, nid yn unig fel canolfan addysg ond fel cyflogwr hefyd. Er bod yr ysgol bellach wedi cau ei drysau, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod ei chofnodion hanesyddol yn cael eu cadw yn hytrach na’u colli.

Ar yr un pryd, mae Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i gefnogi plant a’u rhieni neu ofalwyr sy’n cael eu heffeithio gan gau’r ysgol.  Anogir teuluoedd i gysylltu â’r Cyngor os oes arnynt angen cyngor neu gymorth gyda sicrhau lle mewn ysgol. Mae gwybodaeth am dderbyniadau ysgol ar gael ar wefan y Cyngor.

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eisoes yn gofalu am ystod eang o gasgliadau ysgol ar draws y rhanbarth, yn cynnwys Ysgol Howell yn Ninbych ac Ysgol Grove Park yn Wrecsam. Mae’r gwasanaeth archifau wedi ymrwymo i gadw unrhyw gofnodion sydd wedi goroesi o Ysgol Rhuthun i’r un safon uchel, gan sicrhau eu bod ar gael i gefnogi ymchwil, hanes teuluol, addysg a threftadaeth gymunedol.

Meddai’r Archifydd, Sarah Roberts: “Mae archifau ysgol yn fwy na chasgliadau o ddogfennau gweinyddol. Maent yn adrodd hanes disgyblion, staff a chymunedau lleol, gan gofnodi bywyd bob dydd ochr yn ochr â cherrig milltir a chyflawniadau arwyddocaol.  Mae cadw’r cofnodion hyn yn helpu i warchod hunaniaeth unigryw’r ysgol tra’n creu adnoddau parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae cau Ysgol Rhuthun yn newyddion trist iawn i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol a’r gymuned ehangach. Ein blaenoriaeth yw cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd drwy’r cyfnod anodd hwn, mae ein Gwasanaeth Addysg ar gael i roi cyngor ac arweiniad i helpu rhieni a gofalwyr i sicrhau lleoedd ysgol priodol ar gyfer eu plant.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Mae Ysgol Rhuthun wedi bod yn rhan bwysig o hanes yr ardal ers canrifoedd. Er bod y bennod hon wedi dod i ben, mae’n bwysig nad yw hanes nodedig yr ysgol yn cael ei golli. Drwy weithio gyda gweinyddwyr i gadw ei chofnodion, gallwn helpu i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu deall a gwerthfawrogi cyfraniad yr ysgol i addysg ac i fywyd ein cymuned.”

Mae gan y Gwasanaeth Archifau ddiddordeb hefyd mewn unrhyw gofnodion gan unrhyw gyn-ddisgyblion neu aelodau o’r gymuned, yn cynnwys lluniau o’r ysgol, newyddlenni neu brosbectysau. Gall unrhyw un sydd â deunyddiau yr hoffent eu cynnig i’r Gwasanaeth Archifau, gysylltu drwy anfon neges e-bost at  archives@newa.wales neu drwy ymweld â gwefan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru am fwy o wybodaeth.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw