Cyngor yn annog masnachwyr i wirio diogelwch teganau poblogaidd

  Anogir manwerthwyr i sicrhau bod eu nwyddau’n cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

 

Anogir manwerthwyr i sicrhau bod eu nwyddau’n cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Wedi’r ymgyrch yn ddiweddar i fynd i’r afael â nwyddau ffug yn y sir, pan feddiannwyd mwy na 600 o eitemau, mae tîm Safonau Masnach y Cyngor yn atgoffa siopwyr a’u cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus wrth i’r ffasiwn ddiweddaraf ar gyfryngau cymdeithasol gyrraedd y silffoedd.

Mae ‘Squishy Dumplings’ a ‘NeeDoh’ ymysg y teganau mwyaf newydd sydd wedi dod yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol ac wrth i’r galw amdanynt gynyddu, mae swyddogion wedi sylwi hefyd fod yno fwy o fersiynau ffug ar werth ledled y sir.

Wrth ymrwymo i fynd i’r afael â nwyddau ffug, mae’r tîm Safonau Masnach yn annog manwerthwyr i sicrhau bod eu stoc yn cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac yn atgoffa pobl o’r arwyddion cyffredin i gadw golwg amdanynt er mwyn adnabod nwyddau ffug.

 Ymysg yr arwyddion bod nwyddau’n ffug mae: 

  • Enw a chyfeiriad y gwneuthurwr. Os yw’r gwneuthurwr y tu allan i’r Deyrnas Unedig, dylai nwyddau ddangos enw a chyfeiriad y gwneuthurwr yn ogystal â’r mewnforiwr.
  •  Math, swp, rhif model neu rif cyfres.
  •  Marc CE a/neu UKCS – mae’r marciau hyn yn fodd i’r gwneuthurwr ddatgan bod y tegan yn ddiogel, ac mae’n rhaid i’r marc fod ar y tegan ei hun neu’r deunydd pecynnu, a bod yn barhaol a hawdd ei ddarllen.

 Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Rydyn ni wedi sylwi fod ffasiynau ar gyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar dwf mewn gwerthu nwyddau ffug. Wrth i’r teganau ‘squishy’ ddod yn fwy poblogaidd, mae’r galw amdanynt yn cynyddu a throseddwyr yn ceisio gwneud elw drwy wneud fersiynau ffug yn rhad.

“Mae’r nwyddau go iawn wedi bod drwy gyfres o brofion diogelwch llym ac efallai’n wir na fydd y rhai ffug yn bodloni’r un safon, sy’n creu perygl i ddefnyddwyr, a phlant yn enwedig, gan fod y rhai ffug yn debygol o fod â’r labeli anghywir neu ddim o gwbl, ac wedi’u gwneud o ddefnyddiau anaddas.

“Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i fynd i’r afael â gwerthu nwyddau ffug drwy addysgu siopwyr a’u cwsmeriaid a chynnal ymweliadau ag amryw safleoedd ledled y sir. Buont yn ymweld â nifer o fannau yn ddiweddar, ac fe feddiannon nhw symiau mawr o nwyddau ffug a rhai a fedrai fod yn beryglus.”

Os oes rhywun wedi prynu tegan neu unrhyw beth arall y maent yn amau ei fod yn ffug, dylent roi gwybod i wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1144 (llinell Saesneg: 0808 223 1133 neu fynd i’w gwefan - https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Defnyddwyr/get-more-help/if-you-need-more-help/

Gall busnesau gysylltu â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar nwyddau ffug drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw