Cyngor yn Cymryd mwy o Gamau i Fynd i’r Afael â Thipio Anghyfreithlon a Throseddau Amgylcheddol
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cryfhau ei ymrwymiad i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol yn ddiweddar drwy fuddsoddi yn ei Dîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad sydd newydd ei sefydlu.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cryfhau ei ymrwymiad i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol yn ddiweddar drwy fuddsoddi yn ei Dîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad sydd newydd ei sefydlu.
Mae’r tîm estynedig yn datblygu gwaith y Tîm Gorfodi presennol ac mae’n ffurfio rhan o fuddsoddiad ehangach y Cyngor i wella glanweithdra ac ymddangosiad cymunedau ar draws y sir.
Yn yr wythnosau diwethaf, mae swyddogion wedi bod yn cwblhau ymchwiliadau gorfodi a chynnal gweithgareddau addysgol mewn ardaloedd lle mae tipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol fwyaf problemus. Roedd hyn yn cynnwys cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig, llythyron rhybuddio a Rhybuddion Adran 46 i drigolion a busnesau sydd wedi methu â chydymffurfio â gofynion cyflwyno a storio gwastraff.
Mae'r tîm hefyd wedi cynyddu patrolau mewn ardaloedd problemus, wedi cydlynu gweithrediadau glanhau ac wedi gosod arwyddion a chamerâu teledu cylch caeedig ychwanegol i atal troseddwyr a chasglu tystiolaeth lle mae troseddau'n digwydd.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sy’n niweidio’r amgylchedd, yn difetha cymunedau lleol ac yn rhoi baich ariannol diangen ar drethdalwyr. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gymryd camau gorfodi cadarn yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol wrth barhau i addysgu trigolion ar eu cyfrifoldebau dros waredu gwastraff yn gywir.
“Anogir trigolion i waredu eu gwastraff yn gyfrifol, defnyddio gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff y Cyngor, ac adrodd am achosion o dipio anghyfreithlon i helpu i ddiogelu amgylchedd Sir Ddinbych i bawb.”
Os oes gennych chi wybodaeth am dipio anghyfreithlon neu unrhyw droseddau amgylcheddol eraill, adroddwch amdano drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych neu cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706000.
Drwy adrodd am droseddau amgylcheddol, gallwch ein helpu i gymryd camau yn erbyn troseddwyr a chadw Sir Ddinbych yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar ar gyfer pawb.