Cyngor yn mynd i’r afael â gwastraff anghyfreithlon ar lôn gefn yn y Rhyl

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi dirwy o £300 i rywun o’r Rhyl wedi i ymchwiliad ganfod eu bod wedi methu â chyflawni eu Dyletswydd Gofal gyfreithiol ynghylch Gwastraff Domestig

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi dirwy o £300 i rywun o’r Rhyl wedi i ymchwiliad ganfod eu bod wedi methu â chyflawni eu Dyletswydd Gofal gyfreithiol ynghylch Gwastraff Domestig.

Cymerwyd camau gorfodi wedi dod o hyd i swm o wastraff domestig oedd wedi’i ollwng ar lôn gefn rhwng Stryd y Baddon a Heol Gwynfa yn y Rhyl. Gweithredodd y Cyngor fel rhan o’i ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella’r amgylchedd lleol.

Wedi dod o hyd i’r gwastraff, aeth swyddogion Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor ati i bori drwy’r gwastraff a daethant o hyd i dystiolaeth o’r sawl a oedd yn gyfrifol am daflu’r gwastraff.

Ymchwiliwyd ymhellach i ganfod bod y preswylydd dan sylw wedi trefnu i rywun arall fynd â gwastraff o’u cartref ac wedi methu â chymryd camau rhesymol i sicrhau y câi ei waredu’n gyfreithlon. Yn sgil hynny, gollyngwyd y gwastraff yn anghyfreithlon ar lôn gefn.

Yn hytrach nag erlyn yr unigolyn gerbron llys, cyflwynodd y Cyngor Rybudd Cosb Benodedig o £300 am fethu â chyflawni’r Ddyletswydd Gofal ynghylch Gwastraff Domestig.

Dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, mae gan breswylwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau nad ydynt ond yn trosglwyddo eu gwastraff i rywun â’r awdurdod i’w dderbyn neu gludwr gwastraff cofrestredig. Dylai unrhyw un sy’n trefnu i gael gwared â gwastraff ofyn bob amser am weld prawf dilys o fod yn Gludwr Gwastraff Cofrestredig a chadw cofnod o bwy bynnag a gasglodd eu gwastraff. Gall methu â gwneud hynny arwain at gamau gorfodi os canfyddir yn nes ymlaen bod y gwastraff wedi’i ollwng yn anghyfreithlon.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Mae tipio anghyfreithlon yn dal yn cael effaith fawr ar ein cymunedau ni, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’n digwydd dro ar ôl tro ac yn boendod i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr. Mae llawer o bobl yn tybio bod eu cyfrifoldeb am eu gwastraff yn dod i ben ar ôl talu rhywun i gael gwared arno, ond mae’r gyfraith yn dweud yn bendant fod gan breswylwyr Ddyletswydd Gofal i sicrhau eu bod yn trosglwyddo’r gwastraff i rywun â’r awdurdod i’w gludo.

Bydd ein swyddogion yn dal i ymchwilio’n drylwyr i achosion o dipio anghyfreithlon ac yn cymryd camau priodol os canfyddir troseddau.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydyn ni’n benderfynol o wella’r amgylchedd ledled Sir Ddinbych a mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ble bynnag y mae’n digwydd. Mae gorfodi’n rhan bwysig o’r gwaith hwnnw, ond rydym hefyd yn awyddus i annog pobl i gymryd ychydig o gamau syml cyn cael gwared â’u gwastraff. Os ydi pobl yn gwneud yn siŵr fod pwy bynnag sy’n cael gwared â’u gwastraff wedi cofrestru, gyda’n gilydd mi fedrwn ni atal tipio anghyfreithlon ac amddiffyn ein cymunedau lleol.”

Mae modd i bobl gadarnhau a yw unigolyn neu fusnes wedi cofrestru’n gyfreithiol i gludo gwastraff drwy fwrw golwg ar Gofrestr Cludwyr Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru cyn cael gwared â’u gwastraff. Os yw rhywun yn dyst i achos o dipio anghyfreithlon neu’n dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad, dylent gysylltu â Chyngor Sir Ddinbych ar unwaith.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw