Cynlluniau ar droed i wneud neuadd y dref yn fwy blaenllaw yn y gymuned
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn chwilio am bartner i ddod â bywyd newydd i Neuadd Tref Dinbych a’i gwneud yn gaffaeliad i’r gymuned
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwrw ymlaen â’r drefn Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer Neuadd Tref Dinbych ac yn chwilio am bartner fel perchennog a rheolwr yr adeilad i’r dyfodol, er budd y gymuned.

Wedi ymgynghorIad mewnol gyda gwasanaethau’r Cyngor, sydd bellach wedi cau, bydd y broses drosglwyddo yn symud ymlaen i’r cam nesaf drwy w wahodd grwpiau a chyrff nid-er-elw allanol i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb mewn prynu’r adeilad am bris rhatach na’r farchnad.
Rhoddir ystyriaeth i syniadau a fydd yn creu cyfleoedd i hybu cynaladwyedd yr adeilad yn y tymor hir a chreu’r budd mwyaf posib i’r gymuned.
Bydd sawl cam i’r broses drosglwyddo, gyda chyfle allanol i grwpiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, gyda’r disgwyl y bydd hwn yn lansio ar 1 Gorffennaf am gyfnod o wyth wythnos.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dal i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r broses symud yn ei blaen ac ni fydd dim yn newid i’r sawl y’n defnyddio ac yn llogi’r neuadd ar hyn o bryd.
Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Hoffai’r Cyngor roi sicrwydd i bawb sy’n defnyddio a llogi’r neuadd ar hyn o bryd y bydd Neuadd y Dref Dinbych yn dal ar agor fel arfer gydol y cyfnod hwn. Ni fydd unrhyw drefniadau sydd wedi’u gwneud yn barod yn newid, a bydd pobl yn medru dod i’r neuadd fel arfer wrth i’r drefn Trosglwyddo Asedau Cymunedol fynd rhagddi.
“Byddwn yn siarad â grwpiau lleol ac yn hyrwyddo’r cyfle hwn yn eang i godi ymwybyddiaeth ymysg grwpiau a allai fod â diddordeb.”
Mae mwy o wybodaeth ar wefan y cyngor a dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau am y drefn Trosglwyddo Asedau Cymunedol, trefniadau llogi’r neuadd neu’r trefniadau yn y dyfodol, at Dîm Rheoli Asedau’r Cyngor: assetmanagement@denbighshire.gov.uk
Dilynir y drefn a bennir ym mholisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor fel y’i mabwysiadwyd, sydd i’w weld yma: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/eich-cyngor/strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/polisiau/trosglwyddo-asedau-cymunedol/polisi-trosglwyddo-asedau-cymunedol.aspx.