Disgyblion yn cyflwyno eu gwaith ar wrth-hiliaeth mewn cynhadledd yng ngogledd Cymru

Bu dau o ddisgyblion Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl yn cyflwyno eu gwaith ar wrth-hiliaeth yng Nghynhadledd Gwahanol Gyda’n Gilydd a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Venue Cymru, Llandudno.

Buont yn annerch tua dau gant o bobl, ymysg gweithwyr proffesiynol o bob cwr o ogledd Cymru, a siaradodd y ddau ohonynt yn falch am y gwaith y buont yn ei wneud ar wrth-hiliaeth gan sôn eu bod yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac yn cael eu cefnogi a’u cynnwys ynddi.

Mae Remas, Blwyddyn 9 a Saboor, Blwyddyn 10 yn ddysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol ac yn cymryd rhan yn y prosiect Arweinwyr Heddiw a ddarperir gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

Remas a Saboor

Cefnogwyd y myfyrwyr yn y digwyddiad a Nicola Logan, Dirprwy Bennaeth Ysgol Crist y Gair ac arweinydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol.

Meddai Katharine Roberts, Rheolwr Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol yng Nghyngor Sir Ddinbych:

“Mae’r ddau o bobl ifanc yma’n llysgenhadon cadarn o blaid gwerthoedd cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ac mae eu brwdfrydedd a’u natur hoffus wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb sydd wedi cwrdd â nhw.

Maent wir yn glod i’w hysgol a’r gymuned.”

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’n dipyn o gamp i fynd ar lwyfan o flaen cymaint o bobl a rhoi cyflwyniad.

Hoffwn ganmol y ddau o’r disgyblion am y gwaith pwysig y maen nhw’n ei wneud ac am fod mor ddewr i annerch tua dau gant o bobl. Da iawn i’r ddau ohonoch.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Llongyfarchiadau i Remas a Saboor am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd. Mae’n cymryd cryn ddewrder i fedru rhoi cyflwyniad i gymaint o bobl mewn cynhadledd fawr.”

Meddai Lucy Feliciello, Pennaeth Ysgol Crist y Gair:

“Rwy’n eithriadol o falch o Remas a Saboor am eu gwaith bendigedig. Maen nhw’n ymroddgar ac yn arweinwyr cryf, sy’n gwneud cyfraniad aruthrol i’n gwaith ni i atal gwahaniaethu.

Maen nhw’n adlewyrchiad gwych o’n hysgol ni, sy’n rhywle lle mae pawb yn bwysig." 

Wrth fyfyrio ynghylch eu profiadau hyd yn hyn, dywedodd Remas a Saboor:

“Ni fyddai dim o’r gwaith wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ein hysgol ni. Rydyn ni’n arbennig o ffodus i gael athrawon sy’n ymddiried ynddon ni, yn ein hannog ni a’n helpu i fod yn uchelgeisiol. Pe byddai rhywun wedi dweud wrthon ni flwyddyn yn ôl y bydden ni wedi cyflawni cymaint o bethau, go brin y bydden ni wedi’u coelio nhw.

Rydyn ni’n frwd dros wneud ein hysgol y lle gorau y galla fod i bob myfyriwr. Rydyn ni eisiau i bawb gael croeso a pharch a medru teimlo’n gyfforddus yn bod yn nhw eu hunain. Drwy gydweithio, gallwn wneud safiad yn erbyn gwahaniaethu, dathlu’r pethau sy’n ein gwneud ni’n wahanol a chreu cymuned gryfach, fwy cynhwysol yn yr ysgol.

Mae pob dim rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma’n dangos beth sy’n gallu digwydd pan mae pobl yn cydweithio at yr un nod. Diolch i gefnogaeth yr ysgol, rydyn ni’n llawn cefnogaeth i wneud gwahaniaeth er gwell a helpu i sicrhau fod pob myfyriwr yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys a’u bod yn falch o bwy ydyn nhw.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw