Diwrnod o hwyl i’r teulu i gael ei gynnal yn Llangollen
Mae diwrnod hwyl rhyngweithiol i'r teulu wedi'i drefnu i gael ei gynnal ym Maes Hamdden Llangollen, sydd wedi'i gysylltu â safle Ysgol Dinas Brân, yn Llangollen.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 11am a 2pm dydd Mercher 12 Awst, fe fydd y sesiwn yn cynnwys adran chwarae meddal am ddim a sesiynau blasu gan glybiau chwaraeon lleol.
Fe fydd y diwrnod o hwyl hefyd yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol hwyliog, yn cynnwys gemau, crefftau, disgo tawel a mwy.
Fe fydd gweithwyr ieuenctid, tîm Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf y Cyngor hefyd yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr o Credu/Gofalwyr Ifanc WCD a Menter Iaith.
Mae’r digwyddiad ar agor i blant o bob oedran, ac fe fydd yna amrywiaeth o wasanaethau ar gael i deuluoedd ar y diwrnod i gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn lleol.
Meddai Cheryl Hughes, Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol yng Nghyngor Sir Ddinbych:
“Dyma enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan mae ysgolion a phartneriaid cymunedol yn cydweithio. Mae Ysgolion Bro yn golygu creu cyfleoedd sy’n ymestyn y tu hwnt i ddiwrnod ysgol, gan gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i ffynnu.
Mae’r diwrnod o hwyl i deuluoedd yn dathlu’r cryfderau yn ein cymuned ac yn tynnu sylw at yr ystod eang o wasanaethau cefnogi sydd ar gael i deuluoedd lleol. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd o’r ardal ar gyfer diwrnod o hwyl, dysgu ac ysbryd cymunedol.”
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae’r digwyddiad yma’n un o nifer sy’n cael eu cynnal o amgylch y sir ym mis Awst, gan ddarparu adnodd hwyliog, llawn gwybodaeth ac am ddim i deuluoedd Sir Ddinbych.
Yn ogystal â nifer o opsiynau chwarae i blant, fe fydd gwasanaethau ar gael i’r teuluoedd sydd yn bresennol.”