Gweithio mewn partneriaeth yn helpu preswylwyr i gael at gefnogaeth gydag iechyd a chyflogaeth

Mae preswylwyr ar hyd a lled Sir Ddinbych yn elwa o ymagwedd gydweithredol sy’n dod â meddygfeydd lleol, gwasanaethau iechyd a chefnogaeth gyda chyflogadwyedd o Sir Ddinbych yn Gweithio ynghyd gan sicrhau y gall pobl gael y cymorth maent ei angen, ble a phryd y maent ei angen.

Drwy adeiladu ar berthnasoedd sydd wedi eu sefydlu eisoes mae sefydliadau’n cydweithio i gysylltu unigolion sy’n mynychu meddygfeydd a lleoliadau iechyd eraill gyda gwasanaethau cyflogadwyedd sydd wedi eu teilwra. Mae’r ymagwedd hon yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng iechyd, lles a mynediad at gyfleoedd i gael gwaith, hyfforddiant a meithrin sgiliau.

Fel rhan o’r fenter barhaus hon, mae sgriniau digidol wedi eu cyflwyno mewn meddygfeydd ar hyd a lled Sir Ddinbych. Mae’r rhain yn darparu gwybodaeth glir a hygyrch ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, gan ei gwneud yn haws i bobl ddysgu am wasanaethau cyflogadwyedd tra’n cael gofal iechyd.

Mae partneriaid gofal iechyd ar hyd a lled Sir Ddinbych wedi croesawu’r cyfle i gryfhau’r cysylltiadau rhwng iechyd a chefnogaeth o ran cyflogadwyedd yn frwd, gan helpu i greu llwybrau sydd wedi eu cyd-drefnu’n well ar gyfer preswylwyr. Drwy fwy o gydweithio gall unigolion gael eu cysylltu gyda gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â heriau sy’n gysylltiedig ag iechyd a rhwystrau i waith.

Mae timau yn parhau i weithio ochr yn ochr â meddygfeydd, gwasanaethau iechyd meddwl a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ehangach i wella llwybrau atgyfeirio a gwella’r profiad ar gyfer unigolion sy’n cael cefnogaeth. Mae hyn yn galluogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor i gael arweiniad sy’n adlewyrchu eu lles, dyheadau a’u hamgylchiadau personol.

Fel rhan o’r gwaith hwn mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cydweithio gyda Therapyddion Galwedigaethol y mae eu sgiliau arbenigol yn eu galluogi i asesu gallu gweithredol, deall gofynion y gweithle a helpu unigolion i oresgyn rhwystrau meddyliol a chymdeithasol tuag at gyflogaeth.  Mae eu harbenigedd yn cefnogi pobl i ganfod datrysiadau ymarferol a all eu helpu i gael at waith ystyrlon, dychwelyd at waith a’i gynnal.

Gyda’i gilydd mae partneriaid yn rhannu’r un nod o leihau anweithgarwch economaidd drwy gefnogi unigolion gyda chyflyrau iechyd i gael at gyfleoedd sy’n gwella lles a’r posibilrwydd o gyflogaeth.   Fel rhan o raglen Blaengaredd Llywodraeth Cymru, bydd Therapydd Galwedigaethol yn gweithio gyda’r Ganolfan Waith, Sir Ddinbych yn Gweithio a meddygfeydd dethol i ddarparu cymorth integredig i breswylwyr sy’n wynebu rhwystrau sy’n gysylltiedig ag iechyd tuag at waith. Nod y fenter yw meithrin capasiti lleol, cryfhau cydweithio rhwng sefydliadau a phrofi dulliau arloesol o helpu pobl i symud tuag at gyflogaeth gynaliadwy.

Mae Gorsaf VIBE Sir Ddinbych yn Gweithio sydd newydd agor yn darparu’r amgylchedd delfrydol i’r partneriaethau hyn dyfu, gan ddod â gwasanaethau ynghyd mewn un lleoliad a’i gwneud yn haws i breswylwyr gael at ystod o gefnogaeth. Drwy gysylltu gofal iechyd, cyflogadwyedd a gwasanaethau cymunedol, gall unigolion elwa o arweiniad wedi ei deilwra i’w hanghenion a’u nod unigryw.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Gall cyflogaeth dda drawsnewid bywydau, ond rydym yn gwybod y gall heriau’n ymwneud ag iechyd ei gwneud yn anodd i nifer o bobl gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at waith neu hyfforddiant. Dyma pam mae dod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, Sir Ddinbych yn Gweithio a’n partneriaid ehangach ynghyd mor bwysig.

“Mae’r ymagwedd gydweithredol hon yn ymwneud â’i gwneud yn haws i gael at gefnogaeth, a gwneud y gefnogaeth honno yn fwy cydlynol gan ganolbwyntio ar yr unigolyn. Drwy gydweithio fe allwn helpu pobl i oresgyn rhwystrau, gwella eu lles a meithrin yr hyder a’r sgiliau maent ei angen i symud tuag at gyflogaeth fwy cynaliadwy.

“Mae mentrau fel hyn yn dangos gwerth gweithio mewn partneriaeth a’n hymrwymiad a rennir tuag at fynd i’r afael ag amddifadedd, cryfhau ein cymunedau a chreu cyfleoedd i breswylwyr ar hyd a lled Sir Ddinbych i ffynnu.”

Dywedodd Melanie Evans, Rheolwr Gwasanaeth Cyflogaeth Strategol:

“Mae hon yn enghraifft wych o’r hyn all gael ei gyflawni pan ddaw gwasanaethau ynghyd gyda diben a rennir. Mae cryfhau ein perthnasoedd gyda meddygfeydd, timau iechyd meddwl a gweithwyr gofal iechyd ehangach yn golygu ein bod yn creu mwy o gyfleoedd i bobl gael at y gefnogaeth maent ei hangen.

Mae’r ymrwymiad a ddangosir gan ein partneriaid gofal iechyd wedi bod yn eithriadol o galonogol ac mae wedi bod yn allweddol o ran datblygu ein hymagwedd. Mae’n gyfle gwych sydd â’r potensial o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws y sir.”

Ychwanegodd Kate Pierce, Uwch Ymarferydd Therapydd Galwedigaethol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Mae gwaith yn rhan bwysig o iechyd a lles, ac eto mae nifer o bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor yn wynebu rhwystrau sylweddol i gael at gyflogaeth neu weithgarwch ystyrlon neu ddychwelyd at hynny. Trwy brosiect PrOacTive rydym yn dod ag arbenigedd therapi galwedigaethol yn uniongyrchol i mewn i leoliadau cyflogaeth a gofal sylfaenol, gan helpu pobl i adnabod eu cryfderau, rheoli heriau sy’n gysylltiedig ag iechyd a meithrin hyder tuag at waith ystyrlon. Drwy gydweithio gyda meddygfeydd, Sir Ddinbych yn Gweithio a chydweithwyr yn y Swyddfa Waith, gallwn ddarparu cefnogaeth sy’n fwy cydlynol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn sydd nid yn unig yn gwella canlyniadau o ran cyflogaeth ond hefyd yn gwella iechyd, annibyniaeth ac ansawdd bywyd yn gyffredinol.

Mae’r ymagwedd gydweithredol hon yn helpu i greu system fwy cysylltiedig ar draws Sir Ddinbych, gan gefnogi preswylwyr i wella eu lles, archwilio cyfleoedd newydd a symud tuag at gyflogaeth gynaliadwy ac ystyrlon.

Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio:

Mae cymorth gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhad ac am ddim ac ar gael i unrhyw un dros 16 oed sy'n byw yn Sir Ddinbych ac sydd eisiau cymorth i symud ymlaen.

Gall preswylwyr ddysgu mwy ar ein gwefan.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer y DU a Chymru sy'n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU (SPF), a Chysylltu â Gwaith.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw