Lleisiau plant yn cael eu clywed mewn sesiynau dau ddiwrnod Fforwm Cynghorau Ysgol
Wedi eu cynnal dros ddau ddiwrnod ar 30 Mehefin a 1 Gorffennaf, aeth disgyblion o 24 ysgol ledled y sir i ddigwyddiadau, gweithdai ac i Siambr Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Fforymau Cynghorau Ysgol eleni, gan gyflwyno’r gwaith a wnaed gan eu Cyngor Ysgol unigol yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf.
Bu dros 60 o ddisgyblion yn bresennol yn Fforwm Cynghorau Ysgolion Cynradd, a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd Dinbych eleni. Cyflwynodd cynrychiolwyr Cynghorau Ysgol o Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Emmanuel, Ysgol Pant Pastynog ac Ysgol Penmorfa eu gwaith i’r Cynghorau Ysgol eraill a oedd yn bresennol, yn ogystal â Chomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes.

Fforwm Cynghorau Ysgolion Cynradd
Cynhaliwyd Fforwm Cynghorau Ysgolion Uwchradd yn Neuadd y Sir, Rhuthun, a chafodd disgyblion o Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Crist y Gair, Ysgol Santes Ffraid, Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Uwchradd Prestatyn, Ysgol Uwchradd Rhyl, Ysgol Dinas Brân a Ysgol Uwchradd Dinbych, gyfle i ymweld â Siambr y Cyngor Sir a chyfarfod a gofyn cwestiynau i’r Cynghorydd Bobby Feeley, Cadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Plant, Cymunedau a Theuluoedd, a Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru.

Fforwm Cynghorau Ysgolion Uwchradd
Rhannodd y disgyblion y gwaith pwysig maen nhw wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ysgol, ac fe gawsant gyfle i ddysgu am brosesau democrataidd y Cyngor, system ficroffonau’r Siambr a’r system bleidleisio electronig.
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn ymgysylltu â democratiaeth leol ac yn ei deall, a deall sut y mae’n gweithredu.
Mae’r ddau ddiwrnod diwethaf wedi bod yn werth chweil – mae gwrando ar syniadau a lleisiau disgyblion o bob cwr i’r sir wedi bod mor braf.
Hoffwn ddiolch i’r holl ddisgyblion a oedd yn bresennol ac a wnaeth y digwyddiad hwn yn llwyddiannus eto eleni.”
Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:
“Mae wedi bod yn wych gweld disgyblion o gynifer o ysgolion yn dod ynghyd i rannu’r gwaith maent wedi bod yn ei wneud a dysgu mwy am y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn lleol.
Mae cyfleoedd fel hyn o gymorth i gysylltu’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion gyda’r gymuned yn ehangach, a rhoi hyder i bobl ifanc siarad a chymryd rhan.
Mae’r fforymau hyn yn dangos pa mor bwysig ydyw i greu lle i wrando ar bobl ifanc a’u cymryd o ddifrif.”