Mae tirnod nodedig yn y Rhyl yn dathlu gwobr gymunedol am y pymthegfed flwyddyn yn olynol.
Mae tirnod yn y Rhyl yn dathlu ennill gwobr gymunedol fawreddog am y pymthegfed flwyddyn yn olynol.

Mae tirnod yn y Rhyl yn dathlu ennill gwobr gymunedol fawreddog am y pymthegfed flwyddyn yn olynol.
Mae’r Llyn Morol wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd ar gyfer 2026 gan Cadwch Gymru'n Daclus, sy’n nodi 15 mlynedd o chwifio’r faner yn yr atyniad yn y Rhyl.
Mae'r wobr yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy'n ddiogel, yn groesawgar ac yn cael eu rheoli'n dda, gan osod y safon ar gyfer mannau hamdden awyr agored ledled y byd. Mae parciau'n cael eu hasesu'n annibynnol yn erbyn meini prawf trylwyr, sy’n rhoi sylw i hygyrchedd, gwaith cynnal a chadw, rheoli amgylcheddol, diogelwch, bioamrywiaeth ac ymgysylltu â'r gymuned.
Agorodd y gronfa ddŵr o law dyn yn swyddogol yn 1895 ac mae’n cynnig cartref unigryw i fyd natur yr ardal, llwybr natur a threftadaeth a rheilffordd fach hynaf y DU, sef Rheilffordd Fach y Rhyl.
Mae aelodau'r fforwm a gwirfoddolwyr yn helpu i ofalu am y safle, ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion o dîm Harbwr y Rhyl, Cyngor Sir Ddinbych.
Mae'r fforwm yn helpu i reoli rheolau'r cyfleuster, cydlynu gweithgareddau tymhorol a gofalu am yr ardaloedd bywyd gwyllt sefydledig y gall ymwelwyr ddod ar eu traws wrth gerdded o amgylch ymyl y llyn.
Meddai Betty Smith, o Fforwm Defnyddwyr y Llyn Morol: “ Pan ymwelodd beirniad Cadwch Gymru'n Daclus â’r Llyn ym mis Ebrill, roedd yn llawn canmoliaeth i'r safle ac roedd y gwaith plannu coed newydd a wnaed wedi creu argraff fawr arno, yn ogystal â nifer y gwirfoddolwyr y bu iddo gwrdd â nhw yng ngorsaf y rheilffordd fach, a’u brwdfrydedd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod falch bod y Llyn Morol wedi derbyn cydnabyddiaeth unwaith eto gyda Gwobr y Faner Werdd, yn enwedig gan fod hynny’n nodi 15 mlynedd yn olynol o lwyddiant ar gyfer yr atyniad hynod boblogaidd hwn yn y Rhyl.
“Mae'r wobr yn adlewyrchiad gwirioneddol o'r gofal, y balchder a'r ymrwymiad a ddangosir gan Fforwm Defnyddwyr y Llyn Morol, ac mae'n fraint i swyddogion y Cyngor gefnogi'r fforwm wrth helpu i ofalu am ased cymunedol mor bwysig a'i hyrwyddo.
“Mae’r Llyn Morol yn parhau i chwarae rhan arbennig yn y Rhyl, gan ddarparu lle croesawgar i breswylwyr ac ymwelwyr, cefnogi bywyd gwyllt lleol ac ychwanegu at yr atyniadau unigryw sydd gan y dref i’w cynnig ar yr arfordir.”