Mae yna amser o hyd i chi gael dweud eich dweud a helpu llunio lles ein sir

Mae trigolion Sir Ddinbych yn cael eu hannog i leisio eu barn cyn i arolwg cyhoeddus sy’n asesu lles ein sir ddod i ben ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026.

Gan mai dim ond ychydig o amser sydd ar ôl i gymryd rhan, caiff trigolion eu hannog i rannu eu barn a helpu llunio dyfodol eu cymunedau.  Bydd yr adborth a gesglir yn llywio’r Asesiad Lles ar gyfer Sir Ddinbych a Chonwy, sy’n cynnal arolwg tebyg.  Bydd y safbwyntiau a gesglir yn y ddwy Sir yn helpu llywio’r blaenoriaethau y bydd y gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys Llywodraeth Leol, Iechyd, Tân ac Achub a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’n gyfle i bobl leol ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau bob dydd, o les y gymuned i gynllunio hirdymor.

Mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gynllunio ar gyfer y tymor hir ac ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol, gan wneud hynny ar y cyd o dan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae Sir Ddinbych yn rhannu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda Sir Conwy.  I wneud hynny’n effeithiol, mae angen iddynt ddod i ddeall beth sy’n gweithio’n dda rŵan, pa heriau y mae’r cymunedau yn eu hwynebu, a sut fywyd y mae pobl eisiau ei weld yn y Sir yn y dyfodol.

Bydd pob ymateb a dderbynnir yn helpu creu darlun cliriach o’r blaenoriaethau, y pryderon a’r cyfleoedd a rennir yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Mae’r ymarfer hwn yn cael ei gynnal bob 5 mlynedd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu strategaethau allweddol y Cyngor.  Mae yna amser o hyd i drigolion o bob oedran leisio eu barn, gan fod hwn yn gyfle i chi helpu lles pawb yn y Sir yn y dyfodol.  Mae eich llais chi’n bwysig.

“Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y cliriach fydd y darlun a gawn ni o’r hyn sy’n bwysig ar draws y Sir, felly da chi, treuliwch ychydig funudau yn rhannu eich barn.”

Bydd yn cymryd tua 10 munud i chi lenwi’r arolwg, a bydd yn cau ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026. Anogir y trigolion hynny sydd heb ymateb eto i’w lenwi cyn gynted ag y bo modd.  Gallwch gael gafael ar yr arolwg mewn fformatau eraill drwy anfon neges e-bost i’r Tîm Cynllunio Strategol ar timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk.

I gymryd rhan yn yr arolwg cyn iddo gau, ewch i www.denbighshire.gov.uk/arolwg-sgwrs-y-sir.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw