Maes Chwarae Prestatyn wedi Ailagor ar ôl Cwblhau Gwaith Uwchraddio
Mae’r gwaith i uwchraddio Maes Chwarae Sea Road ym Mhrestatyn wedi cael ei gwblhau.

Mae’r gwaith i uwchraddio Maes Chwarae Sea Road ym Mhrestatyn wedi cael ei gwblhau.
Cafodd y prosiect i uwchraddio’r safle ei reoli gan adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych ar ôl sicrhau cyllid drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru.
Blaenoriaethwyd y gwaith o uwchraddio safle Sea Road, Prestatyn yn sgil pryderon a godwyd ynglŷn â’r arwyneb yn ogystal ag oedran a chyflwr yr offer chwarae.
Roedd y cyfnod gwaith yn cynnwys ailosod yr arwyneb diogelwch rwber yn llwyr, ac roedd hefyd yn gyfle i gyflwyno offer chwaraeon hygyrch modern newydd. Dyfarnwyd y contract ar gyfer y gwaith hwn i Proludic.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y gwaith uwchraddio yma yn darparu cyfleusterau mwy modern i’r plant yn y lleoliad hwn, a bydd hefyd yn cynnwys offer mwy cynhwysol a hygyrch i blant sydd ag anghenion ychwanegol.”