Partneriaeth Gymunedol yn Trawsnewid Lleoliad Problemus o ran Tipio Anghyfreithlon yn y Rhyl

Mae menter gymunedol gydweithredol wedi cael gwared â miloedd o gilogramau o wastraff o leoliad problemus o ran tipio anghyfreithlon mewn tref.

Mae menter gymunedol gydweithredol wedi cael gwared â miloedd o gilogramau o wastraff o leoliad problemus o ran tipio anghyfreithlon mewn tref.

Daeth Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad a Thîm Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych ynghyd gyda sefydliadau partner, gwirfoddolwyr a thrigolion lleol i drawsnewid lleoliad problemus o ran tipio anghyfreithlon yn y Rhyl.

Roedd y fenter yn canolbwyntio ar y stryd gefn rhwng West Kinmel Street a Princes Street, sef ardal sydd wedi gweld llawer iawn o dipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon ers peth amser.

Drwy gydweithio, llwyddodd y fenter i gael gwared â dros 3,000 cilogram o wastraff, gan gynnwys sawl eitem swmpus a nwyddau gwyn, gan wneud y stryd gefn yn fan glanach a mwy diogel i’r gymuned leol unwaith eto.

Daeth y digwyddiad â chydweithwyr Cyngor Sir Ddinbych ynghyd, gan gynnwys y Tîm Gwasanaethau Stryd, y Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad, y Swyddog Datblygu Cymunedol, Luisa Citra, a’r Rheolwr Prosiect, Helen Johnson, yn ogystal â chynrychiolwyr o ClwydAlyn, Heddlu Gogledd Cymru, Wendy Jones o Cadwch Gymru'n Daclus, gwirfoddolwyr a thrigolion lleol.

Roedd y fenter lanhau yn golygu llawer mwy na dim ond cael gwared â gwastraff. Roedd yn dangos yr effaith gadarnhaol y gellir ei chael pan fo gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau partner a’r gymuned yn cydweithio gyda’r nod gyffredin o wella cymdogaethau lleol.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae digwyddiad heddiw’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo pawb yn dod at ei gilydd gyda nod gyffredin. Er bod cael gwared â dros 3,000kg o wastraff yn gyflawniad anhygoel, y llwyddiant mwyaf oedd gweld sefydliadau, gwirfoddolwyr a thrigolion yn gweithio ochr yn ochr i wneud gwahaniaeth go iawn i’w cymuned.

“Mae tipio anghyfreithlon yn cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd ac ar y bobl sy’n byw gerllaw. Drwy weithio mewn partneriaeth, addysgu a gorfodi, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol a chreu mannau glanach a mwy diogel i bawb.

“Hoffem ddiolch i bob sefydliad, gwirfoddolwr ac unigolyn a roddodd o’u hamser i gefnogi’r fenter lanhau heddiw. Mae eich ymrwymiad a’ch ysbryd cymdogol wedi helpu trawsnewid yr ardal hon, ac wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni wrth i ni i gyd gydweithio.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dim ond y dechrau ydi’r fenter lanhau. Bydd ein Swyddogion Troseddau Amgylcheddol newydd yn cynnal patrolau rheolaidd yn yr ardal ac yn monitro’r lleoliad drwy TCC.  Bydd unrhyw un a gaiff ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon yn wynebu camau gorfodi cadarn, gan gynnwys Rhybudd Cosb Benodedig neu erlyniad pan fo hynny’n briodol. Mae ein neges yn glir – wnawn ni ddim goddef tipio anghyfreithlon yn Sir Ddinbych.”

Yn dilyn y fenter lanhau, bydd Tîm Troseddau Amgylcheddol y Cyngor yn parhau i fonitro’r ardal drwy gynnal patrolau rheolaidd a defnyddio TCC i rwystro troseddau pellach ac i ddod o hyd i unrhyw un sy’n gyfrifol am waredu gwastraff yn anghyfreithlon. Mae’r Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i gymryd camau cadarn yn erbyn troseddau amgylcheddol, gan gydweithio â’r cymunedau lleol i greu cymdogaethau glanach a mwy diogel.

Anogir trigolion i gael gwared â’u gwastraff yn gyfrifol ac i roi gwybod am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon neu droseddau amgylcheddol eraill drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych neu drwy gysylltu â thîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor ar 01824 706000.

Drwy gydweithio, gallwn helpu gwarchod ein cymunedau a sicrhau bod Sir Ddinbych yn lle glân, diogel a chroesawgar i bawb.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw