Prosiect arloesol ynni solar ar gyfer gorsaf Gwastraff ac Ailgylchu

Mae cynllun effeithlonrwydd ynni yn lleihau defnydd a chostau yng ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu'r Cyngor

Mae cynllun effeithlonrwydd ynni yn lleihau defnydd a chostau yng ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu'r Cyngor.

Mae timau Ynni a Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau prosiect i osod system storio ynni mewn batris (BESS) ar y safle yn Ninbych yn ddiweddar i helpu i ddal yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig niferus yr adeilad.

Mae tîm Ynni’r Cyngor wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a lleihau allyriadau yn rhan o ymgyrch y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ystod 2019.

Gosodwyd batris 600kWh (3x200 kWh) yn y safle yn Ninbych yn gynharach eleni, drwy gymorth ariannol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn rhan o Grant EVCI a ZEV 25-26 (oedd yn ariannu 90% o’r gost).

Mae’r batris hyn yn storio trydan dros ben sy’n cael ei gynhyrchu gan baneli ffotofoltäig ar do'r orsaf yn ystod y dydd er mwyn ei ddefnyddio pan nad yw’r paneli’n cynhyrchu ynni er mwyn gallu gwefru’r fflyd gwastraff ac ailgylchu. Gellir defnyddio'r ynni sydd wedi'i storio min nos neu ar ddyddiau cymylog iawn pan nad yw paneli solar yn cynhyrchu digon o drydan i gynnal yr adeilad, sy’n helpu i gynnal costau defnyddio ynni hirdymor is a lleihau allyriadau carbon.

Mae'r tîm Ynni wedi cymharu data o fis Ebrill i fis Gorffennaf eleni ar y safle â'r un cyfnod yn 2025, sydd eisoes yn dangos bod y system yn cyflawni ei nod.

Mae cyfanswm y defnydd o ynni a gyflenwir gan y grid wedi gostwng yn sylweddol - defnyddiwyd 15,282 kWh o ynni yn 2025 o'i gymharu â dim ond 5,395 kWh yn 2026.

Mae'r defnydd o ynni dyddiol cyfartalog ar safle Dinbych hefyd wedi gostwng yn sylweddol - defnyddiwyd 166.1 kWh yn 2025 a dim ond 58.6 kWh yn 2026.

Mae cerbydau Gwastraff ac Ailgylchu i gyd wedi'u lleoli ar safle Dinbych ac yn cychwyn ac yn gorffen eu llwybrau gweithredol o'r orsaf. Mae gwastraff y gellir ei ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei gasglu gan y cerbydau ac yn cael ei gludo i’r safle yn Ninbych i gael ei ddidoli a’i brosesu. 

Mae'r newid hwn mewn effeithlonrwydd eisoes o fudd i 15 y cant o'r fflyd sy'n cael ei bweru gan drydan (cerbydau trydan) ac yn cael eu gwefru ar y safle ar ddiwedd pob diwrnod o gasglu gwastraff ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gyfer eu didoli a’u prosesu.

Mae yna 12 pwynt gwefru wedi’u gosod ar y safle sydd yn gwefru hyd at 16 cerbyd ar yr un pryd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’r gwaith arloesol hwn ar y safle eisoes yn ein helpu i leihau allyriadau carbon a lleihau dibyniaeth ar ynni a gyflenwir gan y rhwydwaith, gan leihau ein costau yn yr orsaf trosglwyddo gwastraff. 

“Mae’n wych gweld y prosiect effeithlonrwydd hwn yn cael ei gynnal, gan fod ein tîm Gwastraff ac Ailgylchu wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ar gyfer Sir Ddinbych gyfan. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n hadrannau Ynni a Fflyd am eu helpu i arwain y ffordd i gyflawni'r canlyniad hwn ar safle Dinbych.”

Mae disgwyl i’r gwaith arloesol hwn ar safle Dinbych arbed 76,731kWh ychwanegol y flwyddyn a chynyddu faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle i tua 73 y cant, a fydd yn arbed tua £16,113 a 22 tunnell of CO2 y flwyddyn a lleihau faint o ynni dros ben gwerth isel sy’n cael ei anfon i’r grid.

 

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw