Sir Ddinbych yn croesawu gwaith gan Gyngor Dinas Lerpwl i sicrhau dyfodol Canolfan Addysg Awyr Agored Colomendy
Mae Cyngor Dinas Lerpwl yn cyflwyno canolfan addysg awyr agored hanesyddol Colomendy i'r farchnad er mwyn ceisio sicrhau dyfodol newydd beiddgar i'r safle adnabyddus yng Ngogledd Cymru.
Mae Cyngor Dinas Lerpwl, sydd wedi bod yn berchen ar y safle ers yr ail ryfel byd, wedi penodi ymgynghorwyr eiddo Newmark fel yr asiant i hyrwyddo er mwyn dod o hyd i berchennog a gweithredwr newydd ar gyfer yr ystâd 106 erw ger yr Wyddgrug.
Wedi'i leoli o fewn Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae Colomendy wedi bod yn un o ganolfannau mwyaf adnabyddus y rhanbarth ar gyfer dysgu awyr agored ac llety preswyl ers tro byd.
Mae'r safle'n cynnwys ystod eang o gyfleusterau, o lety a gweithgareddau i ardaloedd addysgu a thiroedd helaeth sy'n addas ar gyfer hamdden, twristiaeth ac addysg. Yng nghanol y safle mae neuadd hanesyddol Colomendy, sy'n cynnig potensial pellach ar gyfer adnewyddu neu ailddefnyddio sensitif, yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol.
Mae Cyngor Dinas Lerpwl yn chwilio am gynigion a fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor i'r safle, gan barhau â'i dreftadaeth a'i leoliad unigryw.
Mae lleoliad Colomendy o fewn cyrraedd hawdd i Lerpwl, Manceinion a Gogledd Cymru, ac ynghyd â'i seilwaith sefydledig, yn cynnig cyfle prin i fuddsoddwyr neu weithredwyr greu cyrchfan nodedig sy'n cwmpasu hamdden, twristiaeth, lles, lletygarwch neu addysg.
Dywedodd y Cynghorydd Nick Small, Aelod y Cabinet dros Dwf a'r Economi gyda Chyngor Dinas Lerpwl: “Rydym yn dod â Colomendy i'r farchnad i sicrhau dyfodol newydd beiddgar i un o safleoedd pwysicaf a mwyaf hanesyddol y rhanbarth.
“Gan weithio'n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych, partneriaid a rhanddeiliaid lleol, ein ffocws yw dod o hyd i ddefnydd hirdymor sy'n adlewyrchu uchelgeisiau lleol a darparu buddion gwirioneddol, parhaol.
“Mae gan Colomendy gysylltiad dwfn â Lerpwl, yn dyddio'n ôl i'w rôl yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac rydym yn benderfynol o weld y dreftadaeth honno'n cael ei pharchu. Bydd y cynnig cywir nid yn unig yn amddiffyn yr etifeddiaeth honno, ond yn creu effaith gadarnhaol a pharhaol ar genedlaethau i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio yng Nghyngor Sir Ddinbych, “Rydym yn falch iawn o weld Cyngor Dinas Lerpwl yn hyrwyddo safle addysg awyr agored gwerthfawr Colomendy i sicrhau ei ddefnydd ar gyfer y dyfodol. Mae Colomendy mewn lleoliad gwych yn Nhirwedd Cenedlaethol hardd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a thros y blynyddoedd, mae wedi croesawu cenedlaethau o bobl ifanc o Lerpwl sydd wedi meithrin cysylltiad gydol oes â’r rhan hon o ogledd Cymru a’i chymunedau.
“Mae sicrhau hyfywedd hirdymor y safle hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn bwysig i ni yma yn Sir Ddinbych a byddwn yn gweithio gyda Chyngor Dinas Lerpwl a phartneriaid i sicrhau bod hyn yn digwydd.”
Dywedodd Leo Llewellyn, Aelod Cyswllt yn Newmark: “Mae Colomendy yn cynrychioli cyfle prin i gaffael ased hamdden ac addysg awyr agored sylweddol o fewn lleoliad naturiol hynod ddeniadol.
“Mae’r cyfuniad o ganolfan weithredol sefydledig, cymeriad a threftadaeth Neuadd Colomendy, a photensial datblygu ehangach ar draws yr ystâd yn creu cyfle cymhellol i fuddsoddwyr neu weithredwyr sy’n edrych i ddarparu cyrchfan hirdymor nodedig.”
Gellir cysylltu â Newmark drwy e-bostio Leo.Llewellyn@nmrk.com neu Andrew.Moore@nmrk.com.