Swyddogion Troseddau Amgylcheddol newydd yn cynnal patrolau ar y cyd ym Mharc Cae Hywel
Mae Swyddogion Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad newydd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cynnal patrolau amlwg ym Mharc Cae Hywel yn Ninbych yn rhan o ymdrechion parhaus i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel.

Mae Swyddogion Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad newydd Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cynnal patrolau amlwg ym Mharc Cae Hywel yn Ninbych yn rhan o ymdrechion parhaus i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel.
Mae’r patrolau yn ffurfio rhan o ymrwymiad y Cyngor i greu mannau cyhoeddus mwy glân a mwy diogel, gan sicrhau y gall preswylwyr fwynhau parciau lleol heb unrhyw drosedd amgylcheddol ac ymddygiad niwsans.
Daeth yr ymweld â Pauline Edwards, Cynghorydd Aelod Lleol, Swyddogion Cymorth Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru a Swyddogion Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych ynghyd, gan ddangos dull partneriaeth gref i fynd i’r afael â phryderon lleol a rhoi sicrwydd i’r gymuned.
Bu’r Tîm Troseddau Amgylcheddol yn siarad gyda defnyddwyr y parc, yn rhoi cyngor iddynt am waredu gwastraff yn gyfrifol a thynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i weithredu ar droseddau amgylcheddol. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i adnabod unrhyw broblemau o fewn y parc a thrafod mesurau pellach i wella’r ardal.
Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae ein Swyddogion Troseddau Amgylcheddol newydd yn cael effaith cadarnhaol yn barod drwy gynnal patrolau rheolaidd mewn cymunedau ar hyd a lled Sir Ddinbych. Trwy weithio gyda’n partneriaid, yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru ac aelodau etholedig lleol, gallwn ymateb i bryderon lleol, ymgysylltu â phreswylwyr a mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ble maent yn digwydd.
“Mae patrolau amlwg yn rhoi sicrwydd i’r gymuned ac atal y rhai sy’n cyflawni troseddau amgylcheddol. Rydym eisiau i bawb fwynhau ein parciau a’n mananau agored, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon ble bynnag y mae’n digwydd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym eisiau atgoffa pawb yn y Sir bod ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu’n gywir. Gall tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon gael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd a gall hefyd arwain at ddirwyon sylweddol i’r rhai sy’n gyfrifol.”
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i gynnal patrolau rheolaidd ym Mharc Cae Hywel a lleoliadau eraill ar hyd a lled y Sir. Gall unrhyw un sy’n cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon, yn taflu sbwriel neu’n cyflawni troseddau amgylcheddol eraill wynebu camau gorfodi, yn cynnwys Rhybudd Cosb Benodedig neu gael eu herlyn pan fo’n briodol.
Anogir trigolion i roi gwybod am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon, taflu sbwriel neu ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych neu drwy gysylltu â thîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor ar 01824 706000. Drwy gydweithio, gallwn helpu i sicrhau bod Sir Ddinbych yn lle glân, diogel a chroesawgar i bawb.