Y Cyngor yn rhoi diweddariad am brosiect Cae Ddôl

Mae'r parc yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion ac ymwelwyr fod parc Cae Ddôl yn dal ar agor i’r cyhoedd, er bod gwaith gwella wedi dechrau yno.

Efallai fod trigolion wedi sylwi bod gwaith uwchraddio wedi dechrau’n ddiweddar yng Nghae Ddôl er mwyn gwella profiadau a chyfleusterau i ymwelwyr a chefnogi swyddogaeth y parc fel ased cymunedol gwerthfawr.

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Cafodd y cyllid hwn, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.

Fel rhan o’r gwelliannau i ymwelwyr ar y safle, bydd y prosiect yn creu llwybr teithio llesol 480 metr o hyd a fydd yn ymdroelli drwy’r parc er mwyn gwneud y lleoliad yn fwy hygyrch i gerddwyr a beicwyr. Bydd pont newydd yn cael ei hadeiladu yn lle yr hen bont ganolog a bydd trac pwmpio newydd yn cael ei osod yn y parc hefyd.

Tra bo’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo mewn rhai rhannau o’r parc, gwneir pob ymdrech i amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar ddefnyddwyr y parc a sicrhau bod y parc yn dal i fod ar gael i bobl ei fwynhau dros fisoedd yr haf.

Gan y bydd angen gosod cyfyngiadau dros dro mewn rhai rhannau o’r parc wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo, gofynnwn i ymwelwyr ddilyn yr holl arwyddion a chanllawiau ar y safle.

Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys adnewyddu'r toiledau cyhoeddus, a fydd yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref Rhuthun ar ôl eu cwblhau. Tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, mae cyfleuster dros dro wedi'i osod yn y parc ac mae ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio am ddim.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r gyfres hon o welliannau yng Nghae Ddôl yn dilyn ymlaen o waith gwella eithriadol o boblogaidd a gwblhawyd yn y parc chwarae ychydig flynyddoedd yn ôl. 

"Hoffem sicrhau trigolion ac ymwelwyr fod parc Cae Ddôl yn parhau ar agor tra bo’r gwaith gwella pwysig hwn yn cael ei wneud a gwerthfawrogwn amynedd y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn.

“Disgwylir i’r prosiect hwn gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027 ac edrychwn ymlaen at ddarparu gofod o ansawdd uchel y bydd y gymuned yn elwa ohono am flynyddoedd i ddod. Mae ymwelwyr y parc yn cael eu hannog i barhau i fwynhau’r parc a dilyn unrhyw arwyddion dros dro a allai fod mewn lle i sicrhau diogelwch y cyhoedd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yng Nghae Ddôl ewch i’n gwefan.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw