Ysgol gynradd ym Mhrestatyn yn uwchraddio cyfleusterau allweddol
Mae Ysgol Clawdd Offa wedi derbyn gwelliannau i ardaloedd allweddol yn yr adeilad, gan roi golwg a chyfleusterau newydd i’r ysgol gynradd ym Mhrestatyn.
Ar ochr plant iau’r adeilad gwelwyd adnewyddiad yr ystafelloedd newid/cawodydd, gan alluogi ymestyn ystafell anogaeth yr ysgol, a darparu cyfleusterau toiled ychwanegol i gefnogi’r ddarpariaeth cyn-ysgol newydd, ‘Toddler Bach’ a agorodd yn Ebrill.

Mae’r estyniad hwn yn golygu gwelliant arwyddocaol i’r cynnig blynyddoedd cynnar, gan gynyddu capasiti, ac ychwanegu at yr amgylchedd gofal plant o ansawdd uchel.
Yn ogystal â hyn, mae darpariaeth ‘Ti a Fi’, ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth, wedi cael ei wella yn yr ysgol yn ddiweddar. Mae’r holl adnoddau newydd wedi cael eu darparu ac eisoes yn gwneud gwahaniaeth nodedig i brofiadau’r dysgwyr.
Mae’r gwelliannau hyn yn cynnwys gosod llawr meddal tu allan, creu amgylchedd mwy diogel, canopi awyr agored newydd gydag offer dringo, gan ddarparu gofod diogel a diddorol i chwarae yn yr awyr agored.

Mae datblygiadau pellach i’r gofodau dysgu awyr agored yn yr ysgol wedi cael eu cwblhau, gyda chyfanswm o dri chanopi wedi’u gosod. Mae’r tri chanopi newydd wedi cael eu gosod yn y ddarpariaeth Ti a Fi, y Feithrinfa a Toddler Bach.

Bydd yr ychwanegiadau hyn yn gwella cyfleoedd ar gyfer dysgu a chwarae tu allan, yn arbennig yn ystod cyfnodau o dywydd gwael, gan sicrhau mwy o gysondeb yn y ddarpariaeth.
Mae tu allan yr adeilad hefyd wedi cael ei adnewyddu, trwy osod cladin pren ar y wal allanol ar ochr plant iau'r adeilad.
Trwy amnewid y rendr blaenorol oedd wedi dyddio, bydd y cladin cedrwydden newydd, dros amser, yn newid ei liw yn naturiol i lwyd, gan roi golwg naturiol, newydd i ochr yr adeilad.

Cafodd y gwaith allweddol hwn ei ariannu gan grantiau cyfalaf Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych.
Dywedodd y Pennaeth, Mr Edwards:
“Rydym yn hynod o ddiolchgar am yr estyniad a gwelliannau sylweddol i’n darpariaeth. Mae’r gwelliannau hyn yn cynrychioli buddsoddiad mawr yn nyfodol yr ysgol a bydd yn helpu i sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion ein holl ddysgwyr, nawr ac yn y dyfodol.
Trwy gryfhau ein cyfleusterau a’n hamgylchedd dysgu, rydym yn creu mwy o gyfleoedd i bob disgybl ffynnu, cyflawni eu potensial, a mwynhau’r profiad addysgol gorau bosibl.”
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Rwy’n falch iawn o weld y gwahaniaeth y mae’r gwaith allweddol hyn eisoes wedi’i wneud yn Ysgol Clawdd Offa.
Mae’r gwelliannau hyn i’r cynnig cynnar yn rhoi mynediad i ddysg a chwarae o ansawdd uwch i’r rhai sy’n defnyddio’r ddarpariaeth gofal plant a Thi a Fi, ac yn cynyddu capasiti ar yr un pryd.”