Cynefinoedd coll yn ôl i adfywio natur

Mae natur wedi cael hwb yn Sir Ddinbych

Mae natur wedi cael hwb yn Sir Ddinbych dros y chwe blynedd diwethaf, diolch i waith prosiect i adfer cynefinoedd coll.

Nod ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt a ddechreuwyd yn 2019 yw adfer a chynyddu’r cynefin hwn yn y sir, oherwydd ers y 1930au mae’r DU wedi colli 97% o’i ddolydd, ac yng Nghymru mae llai na 1% ar ôl. Mae’r golled hon wedi cael effaith fawr ar natur a chymunedau.

Mae’r prosiect hefyd yn rhan o’n hymgyrch ehangach Caru Gwenyn, sy’n cefnogi gwaith i adfer niferoedd gwenyn a phryfed peillio eraill ledled y sir.

Rhwng mis Mawrth a mis Awst ni fydd ein dolydd yn cael eu torri fel arfer, ar wahân i ymyl bychan o gwmpas pob safle, fel bod y blodau’n gallu hadu ac i sicrhau bod y dolydd yn darparu’r gorau i fywyd gwyllt.

Torrir y glaswellt ar y safleoedd a’i gasglu i helpu i wneud y pridd yn llai ffrwythlon a chreu pridd sy’n llai maethlon, sy’n angenrheidiol er mwyn i flodau gwylltion a glaswellt brodorol ffynnu.

Mae hadau glaswellt a blodau gwylltion sydd wedi’u casglu o ardaloedd o amgylch y sir wedi’u defnyddio i wella ein dolydd. Mae rhai o’r hadau hefyd wedi’u tyfu yn ein planhigfa goed i gynhyrchu egin-blanhigion i’w plannu. Mae defnyddio hadau lleol yn unig yn sicrhau bod y planhigion sy’n tyfu wedyn yn addas yn enetig i Sir Ddinbych ac am fod o’r budd mwyaf i fioamrywiaeth yn yr ardal.

Yma, mae Llais y Sir yn edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau’r prosiect sydd wedi bod o fudd i blanhigion a bywyd gwyllt ledled Sir Ddinbych.

Yn ystod 2021 cofnododd tîm Bioamrywiaeth rywogaeth yr oedd ei niferoedd yn gostwng yn genedlaethol ar safle Beach Road West Prestatyn.

Enw’r planhigyn yw Tafod y Bytheiad (Cynoglossum officinale) a dim ond 18 o weithiau mae’r planhigyn hwn wedi ei gofnodi yn Sir Ddinbych o fewn y 116 mlynedd diwethaf.

Cymerwyd hadau o’r safle i blanhigfa goed y Cyngor a diolch i ymdrechion y staff, eginodd planhigion newydd i’w plannu ar safleoedd dolydd arfordirol eraill i helpu i ehangu eu gwasgariad yn Sir Ddinbych.

Yn 2021 tyfwyd y Ffacbysen Ruddlas, rhywogaeth o blanhigyn blodeuol sy’n perthyn i’r teulu Fabaceae, ar un o’r safleoedd a reolir gan dîm Bioamrywiaeth. Ers 2019 hwn yw’r unig le yng Nghymru lle cofnodwyd y blodyn yn tyfu’n wyllt.

Yn ystod mis Mehefin casglodd staff ychydig o hadau o’r Ffacbysen Ruddlas. Aethpwyd â’r rhain yn ôl i blanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy i’w tyfu ar y safle yno i roi hwb i niferoedd y planhigyn, sy’n prinhau.

Defnyddiwyd dull organig arloesol yn ogystal yn 2021 i geisio rheoli hyd y glaswellt ar ddôl yn Ninbych.

Rhoddwyd hadau’r Gribell Felen a ganfuwyd yn lleol ar y safle. Mae’r gribell felen yn blanhigyn parasitig sy’n defnyddio gwreiddiau glaswellt a phlanhigion eraill i ddwyn eu maeth. Mae hyn yn gwanhau’r glaswellt yn y ddôl, sy’n caniatáu i fwy o flodau gwylltion brodorol ymsefydlu yno.

Yn ystod tymor 2022 archwiliodd tîm Bioamrywiaeth y safle a gwelwyd gostyngiad yn hyd y glaswellt a chynnydd mewn blodau gwylltion.  Mae’r prawf llwyddiannus yn golygu bod mwy o fwyd i bryfed peillio a’u hysglyfaethwyr.

Daeth menter ‘Caru Gwenyn’ i fri yn 2023 ar ôl i dîm Bioamrywiaeth ganfod preswylydd newydd ar ddôl yn Rhuthun.

Daethpwyd o hyd i wenynen durio lwydfelen fenywaidd yn gorffwys mewn nyth ar y safle. Eheda’r wenynen hon yn y gwanwyn gan arddangos mwng oren a choch llachar, a gan ei bod yn bwydo ar neithdar amrywiaeth o flodau mae dolydd blodau gwylltion yn gynefin delfrydol iddi.

Gwelir gwenyn turio llwydfelyn fel arfer rhwng mis Mawrth a mis Mehefin ac maent yn gyffredin yng nghanolbarth a deheubarth ynys Prydain. Roedd hyn yn dangos sut mae safleoedd dynodedig yn rhoi hwb i fyd natur yn lleol drwy ddarparu planhigion i drychfilod sy’n peillio a glaswellt iddynt ei fwyta.

Yn ogystal, canfu’r tîm degeirian bera y tymor hwn ar ddau safle arfordirol ym Mhrestatyn – y cyntaf a gofnodwyd yno.

Y llynedd canfuwyd tegeirian bera yn fewndirol – ar ddôl yn Rhuthun – sy’n dangos bod y rhwydwaith o ddolydd yn dechrau helpu adferiad natur o ddifrif.

Eleni canfuwyd tegeirianau gwenynog ychwanegol ar ddôl yn Ninbych, sy’n dangos bod y dolydd yn gweithio fel priffordd gyfunol i blanhigion, pryfed ac anifeiliaid allu symud drwy’r sir, gan gynyddu bioamrywiaeth ar eu ffordd.

Mae tegeirianau yn cynhyrchu hadau sy’n eithriadol o fach (hefyd yn cael eu galw’n hadau llwch). Mae’n rhaid i’r hadau yma ddod i gysylltiad gyda math arbennig o ffyngau mycorhisol a fydd yn eu helpu i egino a blaguro’n gryf. Mae pob tegeirian yn dueddol o gael y berthynas honno â ffwng mycorhisol penodol, felly os nad yw cyflwr y pridd yn iawn ar gyfer y ffwng, ni fydd y tegeirianau’n tyfu. Mae atgyfodiad y tegeirianau’n dangos bod y prosiect yn 2025 yn mynd i’r cyfeiriad iawn, a bod y dolydd yn parhau â’u siwrnai i adfer natur.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw