NEWYDDION
Cronfa Allweddol CGGSDd yn helpu i gryfhau trydydd sector Sir Ddinbych
Mae’r fenter yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Helpodd Cronfa Allweddol Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSD) i gynyddu cynaliadwyedd a gwydnwch sefydliadau trydydd sector ledled Sir Ddinbych.
Mae’r fenter yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cefnogi pum cenhadaeth genedlaethol y llywodraeth, gan gynnwys grymuso cymunedau lleol, rhoi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.
Mae Cronfa Allweddol eleni, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych, wedi gweld galw cryf, gyda 99 o geisiadau wedi’u cyflwyno gan amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau cymunedol ar draws y sir.
Yn dilyn proses asesu drylwyr, roedd 45 ymgeisydd yn llwyddiannus gan sicrhau cyllid hanfodol i gryfhau eu gweithrediadau. Mae Cronfa Allweddol CGGSDd wedi dyfarnu cyfanswm o £212,114 mewn grantiau Cyfalaf a £633,906 arall mewn grantiau Refeniw.
Mae’r grantiau hyn wedi’u cynllunio i helpu i sicrhau cadernid a chynaliadwyedd hirdymor sefydliadau trydydd sector Sir Ddinbych, ac mae llawer ohonynt yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol.
Mae’r Gronfa Allweddol yn rhan ganolog o waith ehangach CGGSDd dan raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n rhedeg tan 31 Mawrth 2026. Ochr yn ochr â chyllid grant, mae CGGSDd yn darparu pecyn eang o gefnogaeth gan gynnwys:
- Sesiynau hyfforddiant, dosbarthiadau meistr a gweithdai am ddim
- Rhaglen gefnogaeth GROW i gryfhau trefniadau llywodraethu a chynllunio strategol
- Rhaglen fentora gyffrous, sy’n paru uwch weithwyr proffesiynol o’r sector corfforaethol a’r sector cyhoeddus â grwpiau trydydd sector sy’n chwilio am gefnogaeth wedi’i thargedu
Gan siarad am effaith y Gronfa Allweddol, dywedodd Tom Barham, Prif Swyddog Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd):
“Rydym wrth ein boddau o ail-lansio’r Gronfa Allweddol a gweld diddordeb mor gryf gan sefydliadau ar dras Sir Ddinbych. Bydd y cyllid a’r gefnogaeth sydd ar gael trwy’r rhaglen hon yn helpu i gryfhau cadernid ein trydydd sector, gan alluogi grwpiau i dyfu, addasu a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’n wych bod cynifer o sefydliadau trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau mor hanfodol i’r Sir yn gallu cael eu cefnogi trwy ail-lansiad y Gronfa Allweddol yn ogystal â gwasanaethau eraill mae CGGSDd yn eu darparu. Mae hyn yn enghraifft wych o’r gwaith partneriaeth cryf sy’n bodoli rhwng y Cyngor a’r sector gwirfoddol, trwy CGGSDd.”
Mae’r Gronfa Allweddol yn dangos ymrwymiad CGGSDd i rymuso sefydliadau lleol, creu cymunedau cryfach a sicrhau bod y trydydd sector yn Sir Ddinbych yn barod i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.
Gwelliannau i brif lwybr Dinbych
Bydd Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar gyffordd goleuadau traffig Stryd y Dyffryn fis nesaf

Bydd Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar gyffordd goleuadau traffig Stryd y Dyffryn fis nesaf.
Mae disgwyl i’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd ddigwydd rhwng 2 Tachwedd a 18 Tachwedd.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen cynnal a chadw ffyrdd barhaus y Cyngor i wella'r profiad gyrru i drigolion ac ymwelwyr ar draws rhwydwaith ffyrdd y sir.
Defnyddir system gonfoi Stop/Go a goleuadau traffig i reoli’r traffig yn ystod y gwaith.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn llwyr ymwybodol fod cyflwr Rhwydwaith Ffyrdd Sir Ddinbych yn destun trafod rheolaidd ymhlith ein preswylwyr. Rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â chyflwr ein ffyrdd ledled y sir er budd y rhai sy'n defnyddio'r llwybrau hyn.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n trigolion sy’n byw yn yr ardal hon yn Ninbych a’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr hwn am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn.”
Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk
Cyngerdd Elusennol y Cadeirydd yng Nghadeirlan Llanelwy
Cynhelir noson o gerddoriaeth gorawl Gymreig ragorol yng Nghadeirlan Llanelwy nos Wener, 21 Tachwedd am 7.30pm, fel rhan o Gyngerdd Elusennol y Cadeirydd.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan ddau gôr lleol enwog, sef Meibion Marchan a Chôr Rhuthun. Gyda'i gilydd, byddant yn creu noson gofiadwy yn lleoliad godidog y Gadeirlan, un o dirnodau mwyaf eiconig Gogledd Cymru.
Trefnwyd y cyngerdd i godi arian ar gyfer elusennau dewisol y Cadeirydd, gyda'r holl elw yn mynd i gefnogi achosion pwysig yn y gymuned, sef Hosbis Sant Cyndeyrn ac Urdd Gobaith Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor: “Mae cerddoriaeth wedi dod â'n cymunedau at ei gilydd erioed, ac rwy'n falch iawn y bydd y cyngerdd hwn nid yn unig yn arddangos talent eithriadol Cymru ond hefyd yn cefnogi elusennau lleol hanfodol. Edrychaf ymlaen at groesawu pawb i'r hyn sy'n addo bod yn noson wych.”
Tocynnau yn £12 ac ar gael nawr oddi wrth:
- Siop Elfair: Rhuthun (01824 702575)
- Siop Clwyd: Dinbych (01745 813431)
- WISH: Rhuddlan (01745 591264)
- Tudor House: Prestatyn (01745 859528)
- Eleri Woolford: 01824 706196 (eleri.woolford@sirddinbych.gov.uk)
Sir Ddinbych yn dathlu statws Cyfeillgar i Oed gydag ymweliad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mewn dathliad yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa yn Ninbych ddydd Gwener 24 Hydref, ymunodd y gwestai arbennig, Rhian Bowen- Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru â thîm Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych i ddathlu bod Sir Ddinbych wedi dod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed.
Dathliad yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa yn Ninbych.
Yn ystod y digwyddiad, cafwyd sgyrsiau gan gyn-gadeiryddion a chadeiryddion presennol rhwydwaith Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych, a fu’n sôn am eu taith hyd yma a sut y llwyddwyd i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed.
Comisiynydd gydag Aelodau'r Clwb Ieuenctid ac Alison Price, Age Connects Canol Gogledd Cymru.
Mewn sesiwn ryngweithiol o’r enw ‘Ffyrdd o heneiddio’n dda’, gofynnodd panel o bobl ifanc gwestiynau gwybodus, meddylgar a difyr i banel tebyg o bobl hŷn. Ffordd hwyliog a difyr o bontio’r bwlch rhwng y genhedlaeth hŷn a’r genhedlaeth iau.
Cwestiwn ac ateb.
Eglurodd y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies ei rôl a phwysigrwydd heneiddio’n dda a chafwyd siawns i’r rhai oedd yno ei holi.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Roedd yn wych bod Rhian Bowen-Davies, y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi ymuno â ni i ddathlu ein bod yn aelod o Rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd.
Ni fyddai dathlu’r llwyddiant hwn wedi bod yn bosibl heb waith caled partneriaid ymroddedig Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych.
Mae’n gyflawniad gwych, ond dim ond megis dechrau ydyn ni i barhau i wneud Sir Ddinbych yn lle gwych i dyfu’n hŷn.”
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Roedd hi’n wych bod yn ôl yng Ngogledd Cymru i ddathlu Sir Ddinbych yn ymuno â Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd, gan gydnabod yr holl waith caled sy’n cael ei wneud ar draws y sir i wneud cymunedau’n gyfeillgar i oedran a chefnogi pobl i heneiddio’n dda.
Roedd hi hefyd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am daith Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych hyd yn hyn, a’r ffyrdd y mae’r tîm wedi gweithio gyda phobl hŷn a phartneriaid eraill i gyflawni cymaint, gan oresgyn amrywiaeth o heriau ar hyd y ffordd.
Fel bob amser, mwynheais siarad â phobl hŷn am fy rôl, ateb eu cwestiynau a chlywed yn uniongyrchol am y newid a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld, sydd bob amser yn werthfawr iawn.
Diolch i bawb a oedd yn rhan o’r broses am roi croeso mor gynnes i mi, a da iawn am gael eich cyflawniadau wedi’u cydnabod ar lwyfan y byd!”
Peidiwch â gwastraffu Calan Gaeaf

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion y gallant ailgylchu eu heitemau Calan Gaeaf yn ystod y cyfnod Calan Gaeaf eleni.
Mae’r gwaith paratoi ar y gweill i gerfio pwmpenni er mwyn dychryn pobl mewn cartrefi ar hyd a lled y sir ar Galan Gaeaf.
Ar ôl gorffen gyda’r bwmpen, mae angen eu rhoi yn y cadi gwastraff bwyd ac nid y bin gwastraff cyffredinol. Bydd yn rhaid tynnu’r holl addurniadau oddi ar y pwmpenni cyn y gellir eu hailgylchu. Gall pwmpenni fod yn niweidiol i anifeiliaid megis draenogiaid, felly ni ddylid eu gadael yn yr ardd na’r tu allan i gartrefi ar ôl 31 Hydref.
Gellir ailddefnyddio addurniadau Calan Gaeaf bob blwyddyn, fydd yn arbed deunyddiau a chostau i deuluoedd. Os nad oes eu hangen arnoch, gellir eu rhoi i siopau elusen lleol fel bod cartrefi eraill yn gallu eu mwynhau.
Gall trigolion gael gwared ag addurniadau na ellir eu hailddefnyddio gan ddefnyddio’r cynhwysydd priodol neu mewn parc ailgylchu a gwastraff.
Gellir ailddefnyddio gwisgoedd Calan Gaeaf bob blwyddyn, neu gellir eu rhoi i siop elusen leol os nad ydynt eu hangen mwyach.
Gan y bydd chwarae cast neu geiniog yn digwydd, cofiwch na ellir ailgylchu papurau siocled a fferins.
Ond gellir ailgylchu batris a ddefnyddir mewn addurniadau yn y cynhwysydd priodol ar gyfer eich gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff. Ceisiwch ddefnyddio batris ailwefru lle bo modd.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gwyddom fod Calan Gaeaf yn amser cyffrous i lawer o drigolion o bob oed, a bydd gwisgoedd ac addurniadau’n cael eu harddangos yn falch mewn cartrefi a digwyddiadau. Cofiwch geisio ailgylchu’n gywir yn ystod cyfnod Calan Gaeaf, gan fod gennym sawl math o gymorth ailgylchu fydd yn eich cefnogi i’w ddathlu mewn ffordd werdd.”
Penodi Prif Weithredwr newydd i Gyngor Sir Ddinbych
Heddiw (Dydd Gwener, 24 Hydref) mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr newydd.
Penodwyd Helen White, sy'n ymuno â Sir Ddinbych o Gymdeithas Tai Taf, i'r rôl.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor: “Mae hwn yn benodiad rhagorol i Sir Ddinbych a hoffwn longyfarch a chroesawu Helen i'r rôl newydd hon ar ran ein staff, aelodau etholedig a thrigolion ledled y sir.
“Mae'r broses recriwtio wedi bod yn drylwyr iawn ac roedd nifer o ymgeiswyr cryf, gyda phawb yn perfformio i safon eithriadol o uchel.
“Derbyniodd y cyngor ganmoliaeth yn ei Asesiad Perfformiad Panel ar ddiwedd 2024 am fod yn un sy’n cael ei ‘redeg yn dda’, ac mae uwch dîm arweiniol cryf yn ei le. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at weithio gyda’n Prif Weithredwr newydd i arwain y tîm hwn a pharhau â'r llwyddiant i'r dyfodol.”
Yn siaradwr Cymraeg a fagwyd yn Henllan, mae Helen wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol gyda Thai Taf ers 2019. Ar ôl dechrau ei gyrfa ym maes tai a datblygu cymunedol, mae gan Helen dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.
Meddai Helen, "Mae'n anrhydedd i mi fod yn ymgymryd â'r rôl Prif Weithredwr. Rwy'n ymwybodol ei bod yn gyfnod heriol i gynifer yn ein cymunedau, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ymroddedig i helpu i gael effaith gadarnhaol yn y sir ble cefais fy ngeni a'm magu.
"Hoffwn ddiolch i Arweinydd y Cyngor a'r holl Aelodau Etholedig eraill am roi eu ffydd ynof fel Prif Weithredwr newydd."
Preswylwyr Ifanc yn Ennill Llyfrau gyda Delweddau Caru Gwenyn

Mae dau breswylydd ifanc wedi ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth Dolydd Blodau Gwyllt 2025 Cyngor Sir Ddinbych.
Gofynnwyd i ddisgyblion Sir Ddinbych fynd ati i dynnu llun ar un o'n dolydd blodau gwyllt, dôl ysgol neu safle gwarchodfa natur gymunedol. Gallai fod yn llun o'r safle cyfan neu o ddarn bychan bach ohono, fel pryfyn neu flodyn – beth bynnag sy'n gwneud y llun gorau.
Tynnodd Elis o Ysgol Esgob Morgan lun o gardwenynen ar ysgallen yng Nghysgodfa Dinbych. Tynnodd Wynter, sydd ym mlwyddyn 5 yn Ysgol Bryn Hedydd, lun o gacynen cynffon lwydfelyn ar flodau melyn.
Bydd Elis ac Wynter yn derbyn pecyn o lyfrau amgylcheddol ar gyfer eu hysgolion, ynghyd â lluniau cynfas o’u lluniau i’w hongian gartref neu yn yr ysgol.
Un o gamau gweithredu cyntaf y Cyngor ar ôl datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol oedd dechrau rheoli glaswelltiroedd i greu dolydd blodau gwyllt. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt. Mae’r prosiect hefyd yn dod â llawer o fanteision neu ‘wasanaethau ecosystem’ i drigolion y sir, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer ac oeri’r aer.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffem longyfarch Elis ac Wynter am eu delweddau hyfryd a diolch i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Mae ein prosiect dolydd blodau gwyllt yn cynyddu bywyd pryfed ar hyd a lled y sir, gan ddod a buddion i bobl leol hefyd fel lleihau perygl llifogydd ac oeri’r aer.”
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae bod allan ym myd natur yn ffordd wych i blant a phobl ifanc gefnogi eu hiechyd corfforol a meddyliol, a dysgu am yr amgylchedd naturiol yr un pryd. Mae gwenyn yn chwarae rôl bwysig i gefnogi bywydau anifeiliaid a phobl, drwy beillio cnydau bwyd a choed. Mae Elis ac Wynter wedi adnabod dwy rywogaeth wahanol o wenyn yn eu delweddau, a gyda 250 o rywogaethau gwenyn brodorol yn y DU mae yna lawer o rai eraill i ddisgyblion eu hadnabod hefyd.”
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal y gystadleuaeth eto yn y gwanwyn/haf.
Llwyddiant i Dîm Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn Noson Wobrwyo Gwasanaeth Tân!
Cyflwynwyd Gwobr Partner Diogelwch Cefn Gwlad i Dîm Cefn Gwlad y Cyngor

Cyflwynwyd Gwobr Partner Diogelwch Cefn Gwlad i Dîm Cefn Gwlad y Cyngor am Brosiect Partneriaeth Rhostir.
Gan gydweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y Prosiect Partneriaeth Rhostir, cafodd y tîm ei gydnabod am eu hymroddiad a phartneriaeth gref yn cefnogi’r gwasanaeth tân wrth ddelio â thanau gwyllt peryglus.
Yn rhan o’r prosiect, bu Ceidwaid Cefn Gwlad yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Tân yn ystod ymgyrch amlasiantaeth pedwar diwrnod o hyd ar fryniau’r Berwyn pan effeithiodd tân gwyllt ar bron i 350 hectar o rostir ar Foel Fferna yn gynharach eleni.
Mae’r gwaith o gydweithio rhwng Ceidwaid Cefn gwlad a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau wrth iddynt gynnal ymgyrchoedd ar y cyd i hyrwyddo’r defnydd cyfrifol o danau a barbeciws yng nghefn gwlad, gan sicrhau bod pawb yn deall y peryglon difrifol y gallant eu hachosi i’n Tirwedd Cenedlaethol.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r tîm am ennill y wobr wych hon. Mae’n adlewyrchu’r gwasanaethau hollbwysig y mae’r tîm yn eu darparu mewn sefyllfaoedd peryglus, ac mae’n enghraifft wych o beth y gall ymagwedd o gydweithio effeithiol ei gyflawni.
“Mae ein Ceidwaid Cefn Gwlad yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod preswylwyr ac ymwelwyr â’r Sir yn gallu mwynhau ein tirwedd eang ac mae’n wych bod eu gwaith caled wedi cael ei gydnabod gyda’r wobr hon”.
Hwyl Arswydus yng Ngharchar Rhuthun dros Calan Gaeaf
O ddydd Sadwrn 25 Hydref i ddydd Gwener 31 Hydref, bydd y Carchar ar agor bob dydd o 11am – 4pm.
(Carchar Rhuthun)
Yn ystod hanner tymor mis Hydref eleni, bydd Carchar Rhuthun yn agor ei ddrysau hanesyddol ar gyfer wythnos o hwyl arswydus ac anturiaethau Ar Ôl Iddi Dywyllu, wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
O ddydd Sadwrn 25 Hydref i ddydd Gwener 31 Hydref, bydd y Carchar ar agor bob dydd o 11am – 4pm gan gynnig amrywiaeth o lwybrau Carchar arswydus newydd a chrefftau a gweithgareddau Calan Gaeaf gwych i’r teulu cyfan, i gyd wedi’i gynnwys yn y tâl mynediad arferol.
I ymwelwyr mwy dewr, bydd agoriad hwyr y nos Ar Ôl Iddi Dywyllu yn cael ei gynnal tan 8pm ddydd Mercher 29 Hydref, dydd Iau 30 Hydref a dydd Gwener 31 Hydref gan roi’r cyfle i chi archwilio’r adeilad hanesyddol ar ôl i’r haul fachlud ac ymuno â thaith dywys dan olau tortsh i ddarganfod mwy am hanes y Carchar ac ochr arswydus ei orffennol diddorol (bydd y teithiau dan olau tortsh yn dechrau am 6pm).
Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu Safle Treftadaeth:
“Mae Calan Gaeaf wastad yn amser cyffrous yng Ngharchar Rhuthun – mae awyrgylch yr adeilad yn gweddu’n dda i’r tymor arswydus ac rwy’n meddwl bod ein staff yn mwynhau dod ag ochr ddirgel ei orffennol yn fyw cymaint ag y mae ein hymwelwyr yn mwynhau ei ddarganfod!
“Rydym yn edrych ymlaen yn ofnadwy at allu cynnig nosweithiau agored hwyr y nos Ar Ôl Iddi Dywyllu eleni, gan roi cyfle prin i ymwelwyr brofi’r Carchar ar ôl i’r haul fachlud, a gobeithio y bydd yn Galan Gaeaf bythgofiadwy i bawb sy’n ymweld.”
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’n newyddion gwych y bydd y Carchar ar agor dros gyfnod Calan Gaeaf, mae’n lle gwych i gynnal digwyddiad o’r fath. Fe fydd ganddynt ddigonedd o weithgareddau, felly dwi’n annog teuluoedd i ddod draw ac ymuno yn yr hwyl.
“Rydym am i bob ymwelydd, waeth beth fo’u hoedran, allu profi hanes y Carchar, a bydd y gweithgareddau Calan Gaeaf yn gyfle perffaith i wneud hynny.”
Codir ffioedd mynediad arferol ar gyfer ymweliadau yn ystod y dydd ac ymweliadau Ar Ôl Iddi Dywyllu. Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw ond gellir dod o hyd i fanylion i’ch helpu chi i drefnu ymweliad yn https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol.aspx. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy anfon e-bost at treftadaeth@sirddinbych.gov.uk
Ailagor Ardal Chwarae Ddinbych ar ei Newydd-wedd
Mae ardal chwarae Dinbych wedi ailagor i’r cyhoedd ar ei newydd-wedd.

Mae ardal chwarae Dinbych wedi ailagor i’r cyhoedd ar ei newydd-wedd.
Mae ieuenctid Dinbych a staff Cyngor Sir Dinbych a Chynghorwyr lleol, yn dathlu ailagor maes chwarae Parc Isaf heddiw yn dilyn cyfnod o waith gwella ar y safle.
Gwasanaethau Stryd y Cyngor sydd wedi bod yn rheoli’r prosiectau ar ôl sicrhau cyllid grant drwy Gynllun Swm Cymudol Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus.
Roedd y gwaith gwella’n cynnwys gosod cyfarpar chwarae hygyrch a synhwyraidd ac wedi’i ddylunio i alluogi plant o bob gallu i chwarae gyda’i gilydd.
Mae’r datblygiad hwn hefyd yn ceisio cynyddu a gwella hygyrchedd i gyfarpar chwarae presennol a newydd.
Mae rhagor o gyfleoedd chwarae i blant drwy ychwanegu chwarae lefel isel, synhwyraidd, botymog, chwarae cymdeithasol, chwarae cystadleuol, troelli unigol, siglo â chefnogaeth, siglo cymdeithasol a chwarae rhyngweithiol.

Bu disgyblion o Ysgol Plas Brondyffryn sy’n rhan o Sgwad Senedd yr ysgol yn helpu gyda’r dathliadau ailagor drwy dorri’r rhuban cyn treulio amser yn edrych ar yr offer newydd yn yr ardal chwarae.
Meddai’r Cydlynydd Ardal Gwasanaethau Stryd, Neil Jones: “Rydym yn falch iawn o ganlyniadau’r gwaith gwella yn yr ardal chwarae hon yn Ninbych, bydd yn helpu i gefnogi plant lleol o bob oed o ran eu hiechyd a lles. Mae’r gwaith gorffenedig yn wych, a bydd y cyfarpar newydd yn rhoi bywyd newydd i’r parc ar gyfer y plant."
Cwblhawyd y gwaith gan KOMPAN UK sydd ar hyn o bryd yn datblygu safleoedd chwarae yn y Parc Drifft a Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.
Dywedodd llefarydd ar ran Kompan UK: “Rydym ni’n eithriadol o falch o’r Ardal Chwarae ym Mharc Isaf, Dinbych, a gobeithio bod y gymuned leol wrth eu boddau fel yr ydym ni, ac y byddant yn mwynhau chwarae, cymdeithasu a bod yn heini gyda’i gilydd am flynyddoedd i ddod.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld bod y safle hwn wedi ailagor ac mae wedi bod yn brosiect gwych i helpu lles yr holl blant sy’n byw o amgylch y parc a thu hwnt."
Cynnal fforwm twristiaeth llwyddiannus yn Llangollen
Cynhaliwyd Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych ddydd Mercher, 15 Hydref yng Ngwesty'r Wild Pheasant yn Llangollen pan fu cyfle gwych i dros 120 o gynrychiolwyr glywed am y datblygiadau diweddaraf a chwrdd â busnesau eraill i rannu profiadau.

Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Lucy von Weber, Pennaeth Marchnata Croeso Cymru, a siaradodd am y sefyllfa dwristiaeth gyfredol yng Nghymru a rhoi mewnwelediad o ble mae ymwelwyr yn dod. Rhoddodd Gail Swan, adeirydd Grŵp Bwyd a Diod Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, gyflwyniad yn amlinellu gwaith y grŵp a'r hyn y gall ei gynnig i fusnesau. Roedd siaradwyr eraill yn cynnwys Catrin Roberts, Pennaeth Gwasanaeth o Gyngor Sir Ddinbych a'r Cynghorydd Alan James, aelod arweiniol y sir dros dwristiaeth. Roedd hefyd sawl stondin wybodaeth gan gynnwys cerbyd o Reilffordd Llangollen i fynychwyr fwrw golwg arnynt wrth rwydweithio.
Daeth y Fforwm i ben gyda thrafodaeth frwd am y Dreth Ymwelwyr arfaethedig yng Nghymru dan arweiniad Catrin Roberts. Er nad oes gan Gyngor Sir Dinbych safbwynt ffurfiol eto ar y Dreth arfaethedig, roedd cyfle gwerthfawr yn y Fforwm i glywed barn ac ymatebion gan fusnesau twristiaeth yn y sir.
Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfannau Sir Ddinbych: “Mae Sir Ddinbych yn llawn tirweddau ysblennydd, treftadaeth gyfoethog, cymunedau bywiog, a lletygarwch cynnes — mae ganddi gymaint i’w gynnig i ymwelwyr heddiw ac i’r dyfodol. Mae refeniw twristiaeth hefyd yn rhan fawr o dwf economaidd y sir ac roedd yn dda cael sgyrsiau a fydd yn helpu i lunio dyfodol twristiaeth Sir Ddinbych.”
Wrth gloi’r fforwm, dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu a Chynllunio Lleol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros dwristiaeth, “Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd am eu hegni, eu mewnwelediad, a’u hangerdd dros ddyfodol twristiaeth yn Sir Ddinbych. Bydd y sgyrsiau, y cysylltiadau a’r syniadau yn helpu i lunio dyfodol twristiaeth ein sir.
“Gadewch i ni adael wedi’n hysbrydoli â syniadau i dyfu’n gamau gweithredu go iawn sy’n dod â thwf cynaliadwy, ymgysylltiad dyfnach ag ymwelwyr, a llawenydd i bobl leol a gwesteion.”
Mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi Sir Ddinbych, gyda chyfanswm effaith economaidd yn 2024 o £767 miliwn, cynnydd o 4.2% ar 2023. Mae nifer yr ymwelwyr yn 6.35 miliwn ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Sir Ddinbych, gan gyflogi dros 6,000 o weithwyr llawn amser.
Os hoffech gael gwybod am unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol neu dderbyn cylchlythyrau ynghylch y datblygiadau twristiaeth diweddaraf, anfonwch e-bost at tourism@denbighshire.gov.uk

Gwobr i warchodfa Rhuddlan am gefnogi natur
Cafodd Gwarchodfa Natur Rhuddlan ei gwobrwyo yn ddiweddar yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2025 yn Wrecsam

Mae partneriaeth gymunedol wedi derbyn gwobr genedlaethol am ei chefnogaeth barhaus i natur mewn safle poblogaidd yn Rhuddlan.
Cafodd Gwarchodfa Natur Rhuddlan ei gwobrwyo yn ddiweddar yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2025 yn Wrecsam.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan ers 2011 i reoli’r safle ar y cyd, er mwyn helpu natur i ffynnu a sicrhau lle gwych ar gyfer lles cymunedol.
O ganlyniad i weledigaeth y grŵp a sgiliau’r ceidwaid cefn gwlad sy’n gweithio ar y safle, mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan wedi ehangu a datblygu dros y blynyddoedd ac wedi cyflwyno mentrau sy’n cynnwys dwy ddôl o flodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 metr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6,000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dwy ardal bicnic a llwyfan rhwydo pyllau.
Mae man sy'n deall dementia wedi'i greu ar y safle hefyd sy’n cynnwys nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol fel waliau cerrig sych a gwrychoedd wedi'u plygu ynghyd â seddi coed derw Cymreig traddodiadol.
Mae bywyd gwyllt lleol yn ffynnu yn y warchodfa, gwelwyd rhywogaethau eiconig fel dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr ar y safle ac mae’r rhain, digwydd bod, ymhlith y mamaliaid sy'n gostwng gyflymaf mewn nifer yn y DU.
Dyfarnodd Cymru yn ei Blodau wobr Lefel 5 ‘Rhagorol’ i’r bartneriaeth yn y Categori Eich Cymdogaeth Chi, sef cynllun ar gyfer grwpiau garddio cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n canolbwyntio ar lanhau a gwneud eu hardal leol yn fwy gwyrdd.
Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan: “Hoffwn ddiolch o galon i holl aelodau’r pwyllgor am eu gwaith cadarnhaol a rhagweithiol ar gyfer y warchodfa. Mae holl aelodau’r pwyllgor yn mynd yr ail filltir.
“Rwyf hefyd eisiau canmol Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a’u tîm o geidwaid a gefnogir gan wirfoddolwyr gwych am eu hymroddiad llwyr i gynnal y warchodfa wrth geisio ymdopi â’u holl ymrwymiadau eraill yn ymwneud â’r warchodfa natur yng Ngogledd Sir Ddinbych.”
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma gydweithio gwych gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad ac mae wedi sicrhau digonedd o gefnogaeth i natur leol a’r gymuned sy’n dod i fwynhau’r safle hwn yn rheolaidd.
“Mae’n wych gweld y gwaith hwn yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y safle cymunedol pwysig hwn yn parhau i ffynnu yn y dyfodol.”
Nodiadau i Olygyddion:
Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn gwbl hygyrch i bawb. Mae’r safle wedi’i drawsnewid yn lleoliad perffaith i fywyd gwyllt ffynnu ac yn ardal hamdden ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr.
Mae’r llwybr byr yn eich tywys chi o amgylch y pyllau, lle mae adar yn nythu bob blwyddyn a’r dolydd, lle mae gwelliannau wedi’u gwneud yn ddiweddar mewn partneriaeth â’r gymuned leol ac ysgolion.
Ceir rhagor o wybodaeth am gystadlu yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau, ‘Eich Cymdogaeth Chi’ drwy glicio ar y ddolen hon https://www.walesinbloom.org/neighbourhood.html
Tîm yn paratoi i ddelio â thywydd y gaeaf
Mae paratoadau ar gyfer tymor cynnal a chadw’r gaeaf sydd i ddod wedi dechrau yn Sir Ddinbych.

Mae paratoadau ar gyfer tymor cynnal a chadw’r gaeaf sydd i ddod wedi dechrau yn Sir Ddinbych.
Mae tîm Gwasanaethau Stryd y Cyngor yn paratoi at dywydd gaeafol posibl ar draws y Sir allai amharu ar rwydwaith ffyrdd y rhanbarth.
Mae cerbydau graeanu wrthi’n cael eu gwasanaethau cyn y tymor ac mae gweithwyr wedi cwblhau hyfforddiant pan fo angen hynny. Mae gyrwyr newydd wedi cael eu hychwanegu at rota Cynnal a Chadw’r Gaeaf ochr yn ochr â gyrwyr wrth gefn at y criw sydd eisoes yn gyrru.
Fe fydd y Cyngor hefyd yn defnyddio llai ar y fflyd bresennol o gerbydau graeanu eleni, ac yn defnyddio wyth cerbyd graeanu newydd wedi cael eu harchebu i helpu i gefnogi dyfodol y gwasanaeth.
Mae rhwydwaith ffyrdd Sir Ddinbych yn cwmpasu ffyrdd gwledig sy’n cael eu defnyddio’n anaml yn ogystal â’r ffordd Dosbarth A uchaf yng Nghymru. Mae hefyd yn ymestyn i ffyrdd strategol rhanbarthol hanfodol megis yr A55, a thraciau culion i eiddo anghysbell.
Mae’r rhwydwaith graeanu’n cael ei rannu mewn i naw Llwybr Graeanu â Blaenoriaeth: mae pedwar yn ymdrin â gogledd y Sir, mae tri yn ymdrin â chanol y sir a dau yn ymdrin â de y sir.
Mae’r naw llwybr yma’n cwmpasu tua 950km, ac mewn gwirionedd yn trin 605km o gyfanswm rhwydwaith Sir Ddinbych, sydd yn 1416km.
Wrth gynllunio’r naw llwybr graeanu, fe ystyrir y canlynol: Dyma’r ffyrdd a ystyrir yn Llwybrau Blaenoriaeth Gyntaf i gael eu graeanu pan fo angen gwneud hynny: - Cefnffyrdd yr A55, A5, A494, pob Ffordd Dosbarth 1 a Dosbarth 2, h.y. rhwydwaith ffyrdd A a B.

Ffyrdd pwysig eraill yn y Sir sydd yn lwybrau trwodd sydd â lefelau uchel o draffig; neu’n darparu o leiaf un mynediad i ganolfannau sy’n ymateb i argyfyngau neu’n derbyn derbyniadau argyfwng; Ffyrdd Dosbarth 2 neu 3 y Sir, sydd yn darparu o leiaf un mynediad i drefi a phentrefi.
Darperir cymorth pellach gan gontractwyr amaethyddol allanol yn ystod tywydd gwael ac eira, ac mae’r rhwydwaith yn cael ei rannu mewn i 31 llwybr ychwanegol.
Mae gan Sir Ddinbych dros 1500 o finiau graean ar draws y Sir sydd wedi cael eu hail-lenwi ar ôl y cyfnod diwethaf o dywydd gwael yn y Sir.
Fe fydd y biniau’n cael eu hail-lenwi fel y bo angen y gaeaf hwn ac os byddant yn isel, fe fydd modd adrodd amdanynt ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.
Fel arfer ni fydd troedffyrdd yn cael eu graeanu. Fodd bynnag, rhoddir sylw i rew ac/neu eira ar droedffyrdd mewn ardaloedd trefol cyn gynted â phosibl yn amodol ar argaeledd adnoddau, gan ystyried dwyster uchel y llafur sy’n ymwneud â’r gwaith. Rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd siopa, dynesfeydd ysbytai, cyffiniau ysgolion, colegau, canolfannau iechyd, a sefydliadau sy’n gofalu am bobl oedrannus.
Mae gan depos y Cyngor yng Nghorwen, Rhuthun a Bodelwyddan lefelau isafswm ac uchafswm o stoc o halen sy’n cael ei gynnal, ac mae archebion wedi cael eu gwneud i gyrraedd y lefelau yma cyn cychwyn y tymor.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dwi’n gwybod bod y tîm wedi gweithio’n galed ar draws y Sir y gaeaf diwethaf i gadw ein rhwydwaith ffyrdd ar agor ac yn ddiogel i’w defnyddio, ac rydym ni’n ddiolchgar eu bod nhw’n paratoi eto i gefnogi ein preswylwyr wrth i’r gaeaf agosáu.
“Mae gwaith y staff, sydd yn aml ar alw drwy gydol y nos, i sicrhau bod y ffyrdd yn ddiogel i’w defnyddio, yn golygu y gall preswylwyr barhau gyda chyn lleied o amharu i’w diwrnod, a bod amwynderau hanfodol yn hygyrch er gwaetha’r tywydd gwael.”
Anrhydedd gwobr Gymreig i ardal natur Rhuthun
Mae cynllun gwobrau cenedlaethol wedi tynnu sylw at dwf ardal natur yn Rhuthun.

Mae cynllun gwobrau cenedlaethol wedi tynnu sylw at dwf ardal natur yn Rhuthun.
Anrhydeddwyd ardal Creu Coetir Llanrhydd yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2025 a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Wrecsam.
Yn wreiddiol, aeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ynghyd â Thîm Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr ati i adfywio’r hen gae ysgol ger Ysbyty Rhuthun yn 2022, a hynny er lles byd natur lleol ac er mwynhad y trigolion cyfagos.
Bu disgyblion ysgol lleol yn helpu gyda’r gwaith o blannu bron i 800 o goed ar y safle fel rhan o waith parhaus y Cyngor i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth yn y sir.
Yn unol â’r thema ysgol, adeiladwyd ystafell ddosbarth awyr agored ar y safle i helpu plant ddysgu am fioamrywiaeth ac i roi help llaw i greaduriaid nos yr ardal.
Adeiladwyd yr ystafell ddosbarth o goed gan grefftwr lleol, Huw Noble, ac mae’n cynnwys ‘To Ystlumod’ a ddyluniwyd yn arbennig i ddarparu’r nodweddion y mae ystlumod eu hangen i glwydo yn ystod y dydd.
Yn ogystal, crëwyd llwybrau drwy’r dolydd blodau gwyllt ar y safle, datblygwyd pwll i gefnogi natur, ac ychwanegwyd meinciau picnic i’r gymuned eu defnyddio.
Mae’r safle wedi bod yn cael ei reoli wedyn gan y Ceidwaid Cefn Gwlad gyda chymorth gwirfoddolwyr a gefnogir gan Natur er Budd Iechyd.
Enwebwyd y safle ar gyfer y gwobrau am y tro cyntaf y llynedd, gan gyrraedd Lefel 4, ‘Ffynnu’, yng ngwobrau Eich Cymdogaeth y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Cymru yn ei Blodau 2024. Mae’r categori hwn yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau yn gynllun ar gyfer grwpiau garddio gwirfoddol cymunedol sy’n canolbwyntio ar lanhau eu hardal a’i gwneud yn fwy gwyrdd.
Yn 2025, mae’r safle bellach wedi gwella i gyrraedd y lefel uchaf ac ennill gwobr Lefel 5, ‘Rhagorol’, yn y categori hwn.
Meddai’r Uwch Geidwad Cefn Gwlad, Jim Kilpatrick: “Rydym ni’n falch iawn o dderbyn y wobr hon. Mae’n dangos bod gwaith yr holl wirfoddolwyr, yn hen ac yn ifanc, ochr yn ochr â’n Ceidwaid, wedi helpu’r safle gwych hwn ar gyfer natur a chymuned Rhuthun i dyfu a gwella go iawn ers y llynedd. Mae’n parhau i ddatblygu’n dda iawn ers ei darddiad yn 2022; mae'r dolydd yn ffynnu ac yn gwella yn dymhorol ac mae’r coed a blannwyd wir yn tyfu’n gryf.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r grŵp hwn o wirfoddolwyr a staff wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol enfawr i’r hyn a arferai fod yn hen gae ysgol yn Rhuthun, diolch i’w gwaith ymroddedig i wella bioamrywiaeth a’r amgylchedd ar gyfer y gymuned. Mae’n wych eu gweld yn cael y gydnabyddiaeth hon am welliant parhaus y safle, sy’n brawf o’u holl waith caled.”
Roedd Llanrhydd yn brosiect Creu Coetir a ariannwyd gan TWIG (Grant Buddsoddi mewn Coetir Llywodraeth Cymru).
Gwelliannau ffyrdd yn gorffen yn gynt na'r disgwyl yn Abergele Straights
Mae tîm Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau cynllun cynnal a chadw ffyrdd mawr ar yr A547 Abergele Straights

Mae tîm Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau cynllun cynnal a chadw ffyrdd mawr ar yr A547 Abergele Straights rhwng Rhuddlan a chylchfan Borth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dechreuodd y gwaith ail-wynebu ar 6 Hydref, ac roedd i fod i gael ei gwblhau erbyn Hydref 31. Fodd bynnag, mae'r gwaith bellach wedi'i gwblhau'r wythnos hon o flaen amser, gan ddarparu wyneb ffordd gwell i yrwyr sy'n defnyddio'r llwybr.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gwblhau'r darn mawr hwn o waith cyn amser er mwyn darparu profiad gyrru gwell i'r rhai sy'n defnyddio'r ffordd.
“Hoffwn hefyd ddiolch i'n trigolion am eu hamynedd tra bod y gwaith hwn, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn mynd rhagddo i wella Abergele Straights.”
Mae Cyngor Sir Dinbych wedi clustnodi 57 o leoliadau yn y sir ar gyfer y rhaglen cynnal a chadw ffyrdd dwy flynedd a gynhyrchwyd er mwyn elwa o Fenter Benthyca Llywodraeth Leol (LGBI) Llywodraeth Cymru. Nod y cyllid (£4.780m dros 2025/26 a 2026/27) yw gwella cyflwr wyneb ffyrdd ar rannau o rwydwaith y sir.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk
Dros 600 o Nwyddau Ffug Wedi eu Meddiannu’n Llwyddiannus
Yn dilyn sawl ymweliad ar draws y sir mae tîm Safonau Masnach Sir Ddinbych wedi meddiannu dros 600 o nwyddau ffug yn llwyddiannus oddi ar silffoedd masnachwyr lleol.

Yn ystod y 5 ymweliad a ddigwyddodd drwy’r sir fe feddiannodd swyddogion nifer o eitemau gyda nodau masnach Labubu, Coca Cola a Disney ymhlith brandiau adnabyddus eraill.
Mae’r nwyddau ffug hyn yn aml yn ganlyniad i dueddiadau ar y cyfyngau cymdeithasol sy’n arwain at y galw am y cynnyrch yn gwrthbwyso gallu’r gwneuthurwr i’w gyflenwi ac maent yn aml yn rhatach i’w prynu na’r cynnyrch go iawn.
Wrth ymchwilio ymhellach roedd yn amlwg fod yr eitemau a feddiannwyd yn cyflwyno risg fawr i blant ifanc gan eu bod yn cynnwys darnau bach datodadwy a oedd yn torri’n hawdd.
Bydd tîm safonau masnach Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fynd i’r afael â nwyddau ffug ar draws y sir ac yn helpu i addysgu masnachwyr lleol ynglŷn â’r peryglon sydd ynghlwm â gwerthu’r nwyddau anghyfreithlon hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Ar ôl gweld nifer o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn hysbysebu gwerthu doliau Labubu mewn siopau ar draws y sir, fe ysgrifennodd ein tîm safonau masnach at yr holl fasnachwyr dan sylw gyda chyngor cyffredinol am nwyddau ffug, yn arbennig brand Labubu.
O ganlyniad i’r cynnydd diweddar yn y galw am y doliau Labubu hyn, roedd ein swyddogion yn pryderu am y cynnydd posibl mewn nwyddau ffug a oedd yn cael eu cyflwyno fel nwyddau go iawn pan oeddent yn cael eu gwerthu yn y sir.
“Mae meddiannu’r nwyddau anghyfreithlon hyn yn ganlyniad gwych i’r tîm ac yn amlygu’r gwaith pwysig mae ein swyddogion yn ei wneud i sicrhau diogelwch ein preswylwyr wrth iddynt brynu’r nwyddau hyn y maent yn credu eu bod yn gynnyrch go iawn.
“Mae’n bwysig cofio mai dim ond ar safleoedd ‘swyddogol’ mae llawer o’r cynnyrch hyn ar gael a dylai prynwyr posibl ymatal rhag prynu’r eitemau hyn os ydynt yn amau ai dyma’r cynnyrch go iawn.
Gall busnesau gysylltu â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar nwyddau ffug ar wefan Sir Ddinbych .
Tynnu sylw at gynnydd gwarchodfa natur yn y Rhyl mewn gwobrau cenedlaethol
Mae gwarchodfa natur yn y Rhyl wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gefnogaeth gynyddol i natur leol.

Mae gwarchodfa natur yn y Rhyl wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gefnogaeth gynyddol i natur leol.
Gwobrwywyd Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield yn seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2025 yn ddiweddar yn Wrecsam.
Mae ceidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr gyda chefnogaeth Natur er Budd Iechyd wedi bod yn gweithio i wella’r safle ar gyfer natur ac er mwynhad y gymuned leol.
Mae’r gwaith datblygu parhaus wedi bod yn gyfrifol am greu pwll ac adfywio hen berllan gymunedol, gwelliannau i’r llwybrau cerdded, cael gwared â choed marw a thacluso’r golygfannau o gwmpas y prif bwll i wella’r profiad i ymwelwyr.
Mae gwaith hefyd wedi’i wneud i wella’r coetir bach wrth ymyl maes parcio’r warchodfa ac mae dolydd blodau gwyllt newydd hefyd wedi’u hau ar y safle.
Mae ceidwaid a gwirfoddolwyr yn cydweithio’n rheolaidd i ddysgu crefftau cefn gwlad fel plygu gwrychoedd ar y safle i geisio gwella cynefinoedd ar gyfer natur.
Bu i fyfyrwyr Coleg y Rhyl ymuno â cheidwaid ym Mhwll Brickfield ar gyfer sesiwn ar sut i godi ‘Clwydi Cyll’ ac mae eu hymdrechion wedi helpu i wella’r golygfannau sydd wedi’u hagor o gwmpas y dŵr.
Mae ardaloedd o amgylch y warchodfa natur hefyd wedi eu gwella i annog mwy o lygod pengrwn y dŵr i ymgartrefu ar y safle.
Nodwyd yng ngwobrau ‘It’s Your Neighbourhood’ Cymru yn ei Blodau 2024 bod Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield yn ‘Ffynnu’. Mae’r maes hwn yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau yn gynllun i grwpiau garddio gwirfoddol cymunedol sy’n canolbwyntio ar lanhau a glasu eu hardal leol.
Eleni mae’r warchodfa wedi mynd gam ymhellach drwy dderbyn gwobr ‘Rhagorol’ Lefel 5 yn y seremoni 2025.
Dywedodd Vitor Evora, Ceidwad Cefn Gwlad sy’n rheoli’r safle: “Mae gennym dîm gwych o geidwaid a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed iawn yn y warchodfa ac mae’r wobr hon, sy’n dangos gwelliannau i’r safle ers y llynedd, yn brawf o ymrwymiad pawb i wneud hwn yn le gwych ar gyfer natur a’r gymuned gyfagos.
“Byddwn yn parhau i ddatblygu’r warchodfa natur gyda phwyslais i wella ymhellach yn y dyfodol i wella’r profiad i ymwelwyr a’r gefnogaeth i’n hanifeiliaid, planhigion a choed ar y safle.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’r gwirfoddolwyr a’r staff wedi gwneud gwahaniaeth positif go iawn i Bwll Brickfield drwy eu gwaith ymroddgar yn gwella bioamrywiaeth a’r ardal ar gyfer y gymuned. Mae’n ardderchog eu bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon am wneud gwelliannau i’r safle o ganlyniad i’w gwaith caled.”
Gwasanaeth teleofal yn cael ei arddangos mewn digwyddiad cymunedol
Gwahoddir preswylwyr i ddysgu mwy am y gwasanaeth Teleofal allweddol mewn Diwrnod Agored arbennig a gynhelir ddydd Mawrth 21 Hydref.
Ystafell arddangos sydd wedi ei dodrefnu er mwyn edrych fel cartref
Bydd y Diwrnod Agored yn cael ei gynnal rhwng 10am a 4pm yn Ystafell Arddangos Teleofal Sir Ddinbych, Uned A4, Ystâd Ddiwydiannol Pinfold, y Rhyl Ll18 2YR.
Mae Teleofal yn darparu technoleg a monitro 24/7 i helpu pobl i aros yn ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r gwasanaeth yn arbennig o werthfawr i bobl hŷn, pobl ag anableddau neu unigolion sy’n byw gyda chyflyrau iechyd.
Gyda’r defnydd o offer arbenigol fel synhwyrydd syrthio, larymau personol, a synwyryddion mwg neu garbon monocsid, mae’r dechnoleg yn cael ei chysylltu’n uniongyrchol â chanolfan fonitro, lle bo staff sydd wedi’u hyfforddi ar gael i gynorthwyo.
Os ceir rhybudd, gall y tîm gysylltu ag aelodau’r teulu, anfon cefnogaeth neu alw’r gwasanaethau brys.
Yn ystod y Diwrnod Agored, bydd cyfle i weld ystafell arddangos sydd wedi ei dodrefnu er mwyn edrych yn union fel cartref.
Bydd modd i ymwelwyr weld sut y gellir gosod yr offer heb fod yn amlwg a’i ddefnyddio o ddydd i ddydd, o synwyryddion syrthio i synwyryddion gweithgarwch sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia.
Mae teleofal ar gael am £17.50 y mis, gan gynnig sicrwydd fforddiadwy ar gyfer defnyddwyr a’u teuluoedd.
Dywedodd y Technegydd, Terry Davies:
“Mae fy moddhad yn fy swydd yn deillio o wybod bod defnyddwyr gwasanaeth yn fwy diogel ac yn teimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi ar ôl gosod llinell ofal / teleofal.”
Dywedodd y Rheolwr Gweithrediadau, Tracey Hargreaves-Jones:
“Rydym eisiau i unigolion a theuluoedd weld sut y gall Teleofal gefnogi pobl i fyw yn fwy annibynnol a diogel.
Mae’r Diwrnod Agored yn gyfle i ofyn cwestiynau ac archwilio sut y gallwn ddarparu tawelwch meddwl bod cymorth ar gael bob amser.”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae Teleofal yn darparu cefnogaeth allweddol i Breswylwyr yn Sir Ddinbych, gan eu caniatáu i fyw yn fwy diogel yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’r diwrnod agored yn gyfle unigryw i breswylwyr ddod a darganfod mwy am y gwasanaeth gwych hwn.”
Gwelliannau i’r ffordd wedi’u trefnu ar gyfer Ffordd Pendyffryn

Bydd Priffyrdd Cyngor Sir Dinbych yn gwneud gwaith cynnal a chadw ffyrdd ar Ffordd Pendyffryn, Y Rhyl, y mis hwn.
Mae disgwyl i’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd ddigwydd rhwng 25 Hydref a 2 Tachwedd.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen cynnal a chadw ffyrdd barhaus y Cyngor i wella'r profiad gyrru i drigolion ac ymwelwyr ar draws rhwydwaith ffyrdd y sir.
Am y ddau ddiwrnod cyntaf bydd system gonfoi ar waith ar Heol Pendyffryn. Ar ôl hyn bydd y ffordd ar gau am weddill y gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn llwyr ymwybodol fod cyflwr Rhwydwaith Ffyrdd Sir Ddinbych yn destun trafod rheolaidd ymhlith ein preswylwyr. Rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â chyflwr ein ffyrdd ledled y sir er budd y rhai sy'n defnyddio'r llwybrau hyn.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n trigolion sy’n byw yn yr ardal hon a’r gyrwyr sy’n defnyddio’r llwybr hwn am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn.”
Mae rhagor o wybodaeth am waith Priffyrdd ar gael ar ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk
Tîm Iechyd Meddwl Sir Ddinbych yn cymryd rhan mewn her dŵr oer i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl
I nodi Diwrnod Iechyd Meddwl, a gynhelir bob blwyddyn ar 10 Hydref, bu tîm Iechyd Meddwl y Cyngor yn ddewr yn wynebu her dŵr oer yn y tonnau ar draeth y Rhyl.
Tîm Iechyd Meddwl y Cyngor
Cymerodd aelodau'r tîm Iechyd Meddwl Cyngor Sir Ddinbych ran yn yr her dŵr oer er mwyn nodi’r diwrnod ymwybyddiaeth.
Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Rhyngwladol a gafodd ei ddathlu gyntaf ym 1992. Mae’n canolbwyntio ar iechyd meddwl, addysg iechyd meddwl, ymwybyddiaeth ac eiriolaeth yn erbyn stigma cymdeithasol.
Yn ogystal ag wynebu’r dŵr oer, cynhaliodd y tîm arwerthiant cacennau trwy gydol y dydd gyda’r elw yn mynd i elusen.
Arwerthiant cacennau
Dywedodd Hayley Adams, Rheolwr Tîm Iechyd Meddwl:
“Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) yn ddiwrnod rhyngwladol ar gyfer addysg ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar draws y byd, ac eiriolaeth yn erbyn stigma cymdeithasol. Ar y diwrnod hwn, daw miloedd o gefnogwyr i ddathlu'r rhaglen ymwybyddiaeth flynyddol hon er mwyn tynnu sylw at salwch meddwl a’r effaith fawr ar fywydau pobl ar draws y byd.
Mae Tîm Iechyd Meddwl a Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy Sir Ddinbych yn nodi’r diwrnod trwy gymryd rhan yn yr her hon yn nŵr oer y môr a chynnal arwerthiant cacennau a bydd yr holl elw’n mynd i Elusen Iechyd Meddwl leol.”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn hanfodol bwysig wrth godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, ac i arwain pobl at y gefnogaeth gywir. Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bawb mewn rhyw ffordd, ac mae'n gyfle i oedi a gwirio gyda ni ein hunain a'r rhai o'n cwmpas.
Mae'r her dŵr oer y tîm yn ffordd mor feddylgar a dewr o nodi'r diwrnod, ac yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth a dechrau sgyrsiau am iechyd meddwl.”
Annog dysgwyr i ymarfer eu ‘Cymraeg yn y Coed’

Mae ceidwaid cefn gwlad y Cyngor yn parhau â’u teithiau tywys llwyddiannus, ‘Cymraeg yn y Coed’, yn ddiweddarach y mis hwn.
Trefnwyd mwy o deithiau cerdded – a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – yn dilyn llwyddiant teithiau tywys blaenorol o gwmpas rhai o leoliadau eiconig eraill y sir.
Bydd y daith gerdded, sydd wedi ei threfnu mewn partneriaeth â Menter Iaith gyda’r bwriad o gynnig mwy o gyfleoedd drwy’r Gymraeg yn Sir Ddinbych, yn cynnig cyfle unigryw i rai sy’n dysgu’r Gymraeg brofi eu sgiliau yn yr awyr agored, wrth fynd am dro byr drwy goetir lled-naturiol hynafol Loggerheads.
Cynhelir y digwyddiad hwn, sydd am ddim, yn Loggerheads ar 16 Hydref. Bydd yn cychwyn am 10:00am, ac mae croeso i rai sy’n dysgu Cymraeg ar bob lefel!
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’r teithiau cerdded hyn yn ffordd wych o gefnogi’r Gymraeg ac maent wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gorffennol.
“Mae gennym leoliadau ardderchog i’w crwydro yn ardal y Tirweddau Cenedlaethol, ac fe anogir dysgwyr unwaith eto i ddod i ddysgu a meithrin eu hyder wrth siarad Cymraeg.”
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/o/clwydian-range-and-dee-valley-national-landscape-13973346491
Ceidwaid Ifanc yn Dysgu am Waith Tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru
Aeth y grŵp i ymweld â’r ganolfan achub mynydd lleol yn yr Wyddgrug.
Yn ddiweddar gwahoddwyd ceidwaid ifanc Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ddysgu mwy am y gwaith allweddol mae tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei wneud yn y gymuned.
Mae ceidwaid ifanc Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a sefydlwyd yn 2012, yn grŵp o bobl ifanc 11-18 oed sy’n cyfarfod yn fisol i ddysgu mwy am y dirwedd sydd ar garreg eu drws, cymryd rhan mewn tasgau cadwraeth ymarferol neu gynnal arolygon bywyd gwyllt a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored llawn hwyl.
Yn eu sesiwn ddiweddaraf, bu i’r grŵp ymweld â’r ganolfan achub mynydd leol yn yr Wyddgrug, ble cafodd y ceidwaid ifanc eu tywys o amgylch y ganolfan a dysgu am waith allweddol y tîm Achub Mynydd yn y gymuned.
Sefydlwyd yn wreiddiol yn 1981 fel Tîm Achub Clwyd, cyn newid i Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru yn 1994, mae’r elusen gofrestredig yn cynnwys grŵp o wirfoddolwyr sy’n cefnogi gwasanaethau’r heddlu ac ambiwlans mewn sefyllfaoedd o chwilio ac achub.
Yn ystod yr amser yn y ganolfan, bu i’r ceidwaid ifanc gymryd rhan mewn gweithdy chwilio ac achub a dysgu rhai technegau rhaff, roedd gwirfoddolwr ambiwlans Sant John hefyd yno i siarad am eu gwaith yn y gymuned a helpu i gyflwyno hyfforddiant CPR allweddol i’r grŵp.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Roedd hwn yn gyfle gwych i’r rhai oedd yn bresennol i ddysgu mwy am y gwaith pwysig mae tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei wneud yn ein cymuned.
“Ers dechrau yn 2012, mae ein tîm cefn gwlad wedi gwneud gwaith gwych i hyrwyddo natur a’r awyr agored i’r genhedlaeth iau trwy’r grŵp ceidwaid ifanc ac roeddem yn ddigon ffodus o gynnal Gwersyll Ceidwaid Iau Rhyngwladol EUROPARK yn 2024.
“Mae’n amlwg bod y grŵp ceidwaid ifanc yn creu argraff fawr ar y rhai sy’n aelodau, gan fod nifer o’n cyn aelodau wedi parhau i wirfoddoli a gweithio gyda’r Gwasanaeth Cefn Gwlad fel oedolion ifanc”.
I gael mwy o wybodaeth am y grŵp ceidwaid ifanc a sut i ymuno, cysylltwch ag Imogen Hammond ar imogen.hammond@denbighshire.gov.uk
I gael mwy o wybodaeth am y gwaith mae tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei wneud ewch i: https://www.newsar.org.uk/

Llwybr Lles yn cymryd y camau cyntaf
Mae cerddwyr wedi rhoi eu hesgidiau cerdded ymlaen i helpu i lansio menter lles newydd yn Ninbych.

Mae cerddwyr wedi rhoi eu hesgidiau cerdded ymlaen i helpu i lansio menter lles newydd yn Ninbych.
Mae Llwybr Cerdded Lles newydd wedi’i lansio yn Ninbych Isaf yr wythnos hon.
Wedi’i reoli gan y Gwasanaethau Stryd, cymerodd y prosiect ei gamau cyntaf diolch i sicrhau cyllid grant drwy’r Cynllun Swm Gohiriedig Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus.
Mae’r llwybr ar draws Dinbych Isaf a Dinbych Canolog yn cynnwys chwech o fannau stopio allweddol lle gall pobl gymryd seibiant ar feinciau cyfeillgarwch newydd sydd wedi’u creu yng Nghynnyrch Coed Meifod sydd wedi’i leoli ar Stad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych.
Mae pob mainc yn cynnwys cod QR sydd wedi’i ysgrythu lle gall cerddwyr eu sganio i fynd i dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth iddynt am y natur o amgylch lle maent yn eistedd.
Mae’r Llwybr Cerdded Lles wedi’i ddylunio i wella’r profiad i ymwelwyr mewn lleoliadau allweddol, sy’n ganolog i Sir Ddinbych ac annog pobl i ymfalchïo yn eu mannau gwyrdd, gan wella dealltwriaeth am werth bioamrywiaeth a chadwraeth yr ardaloedd yma a’u gwneud yn hygyrch i bob oed.
I ddathlu'r lansiad, ymunodd cynrychiolwyr o Feifod ac aelodau lleol â'r Gwasanaethau Stryd.
Meddai’r Cydlynydd Ardal Gwasanaethau Stryd, Neil Jones: “Mae wedi bod yn wych cynnal y prosiect hwn gan fod gofalu am eich lles mor bwysig yn yr oes sydd ohoni. Gall unrhyw un fynd o amgylch y llwybr y gallwch ddod o hyd iddo ar-lein, gallwch ddechrau ar unrhyw un o’r chwe lleoliad neu hyd yn oed defnyddio rhan ohono, eich dewis chi ydyw.
“Mae Meifod wedi gwneud gwaith gwych o ran integreiddio’r codau QR ar y meinciau i’r wybodaeth ar-lein ac rwy’n ddiolchgar hefyd i Dîm y We’r Cyngor am helpu i gynnal y prosiect hwn, a fydd gobeithio, y cyntaf o lawer o deithiau cerdded lles.
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Dyma brosiect gwych i Ddinbych a’r dalgylch ac mae’n wych i gefnogi iechyd preswylwyr o bob oedran, ochr yn ochr â thynnu sylw at y fioamrywiaeth wych sydd o amgylch y cymunedau lleol hyn.”
I weld y llwybr, ewch i – Taith Gerdded Lles: Dinbych Isaf
Plant y Sir yn dathlu llwyddiant Sialens Ddarllen yr Haf
Wrth i Sialens Ddarllen yr Haf arall ddod i ben, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall.
Mae gan Sialens Ddarllen yr Haf thema wahanol bob blwyddyn ac mae'n annog plant i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau'r haf, gan sicrhau eu bod yn barod am ddechrau gwych i'r tymor newydd yn yr hydref.
Eleni cymerodd 1479 o blant ran yn Her yr Ardd Stori yn Sir Ddinbych, gan fenthyca llyfrau i'w darllen a chasglu gwobrau ar hyd y ffordd.
Cynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau hwyliog mewn llyfrgelloedd i annog teuluoedd i ymweld a benthyca llyfrau – mwynhaodd darllenwyr ifanc yn Y Rhyl, Prestatyn a Rhuddlan gyfarfod â'r awdur lleol Damian Harvey, roedd amseroedd stori, sesiynau crefft a hyd yn oed sesiynau trin anifeiliaid, lle cafodd plant gyfarfod â gecko, miltroed enfawr a hyd yn oed neidr!

Ymunodd ein Ceidwaid Cefn Gwlad hefyd yn y sialens hefyd, gyda chrefftau ar thema natur yn Llangollen a stori yn yr ardd gymunedol yng Nghorwen.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros yr Iaith Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’n wych gweld cymaint o blant a theuluoedd ledled Sir Dinbych yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni.
“Nid yn unig y mae darllen er mwyn pleser yn cefnogi dysgu a hyder plant, ond mae hefyd yn sbarduno eu dychymyg a’u cariad at straeon a fydd yn aros gyda nhw am oes.
“Hoffwn ddiolch i staff ein llyfrgell, gwirfoddolwyr a phartneriaid sydd wedi gweithio mor galed i wneud Her eleni yn gymaint o lwyddiant, ac wrth gwrs i’r plant eu hunain am gymryd rhan gyda chymaint o frwdfrydedd.”
Diolch i bawb a gymerodd ran eleni, ac edrychwn ymlaen at wneud y cyfan eto'r flwyddyn nesaf!
Pwll hydrotherapi wedi ei osod mewn ysgol yn Y Rhyl
Fe fu cam mawr ymlaen yn ddiweddar o ran prosiect y pwll hydrotherapi yn Ysgol Tir Morfa Y Rhyl gyda'r broses o osod y pwll yn y cyfleuster nawr wedi’i gwblhau. Mae’r Pwll Hydrotherapi arbenigol 19 troedfedd wedi ei leoli ar dir yr ysgol mewn adeilad ar ei ben ei hun.

Fe gychwynnodd y prosiect, sydd wedi ei ddylunio gan dîm pensaernïaeth mewnol y Cyngor, yn gynharach yn y flwyddyn a bydd y cyfleuster newydd yn dod â darpariaeth Hydrotherapi o’r radd flaenaf i’r ysgol, y ddarpariaeth gyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych. Mae’r prif strwythur craidd nawr wedi ei gwblhau, gyda gwaith ar y to wedi ei gwblhau ym mis Awst.
Mae’r pwll ei hun nawr wedi ei osod, a bydd profi yn cychwyn yn y cyfleuster.

Ar ôl ei gwblhau, bydd yr adeilad yn cynnwys paneli solar ac inswleiddiad effeithlon o ran ynni, gan helpu’r cyfleuster i leihau ei ôl-troed carbon a lleihau costau ynni ar yr un pryd. Bydd yr adeilad hefyd yn cael ei wresogi drwy wres o dan y llawr.

Dywedodd Susan Roberts, Pennaeth Ysgol Tir Morfa:
"Rydym wrth ein bodd yn gweld bod y brif strwythur ein Pwll Hydrotherapi newydd ni bron a gorffen.
Bydd y cyfleuster gwych hwn yn rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i'n disgyblion ar gyfer eu datblygiad corfforol a'u lles cyffredinol.
Allwn ni ddim aros i weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar draws cymuned ein hysgol."
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae’r prosiect hwn yn dod â darpariaeth unigryw a gwerthfawr i’r ysgol, sydd y ddarpariaeth gyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych.
Mae’r gwaith wedi dod ymlaen yn dda dros yr haf.
Rwy’n llawn cyffro o weld y cyfleuster hwn yn agor, mae’n brosiect hynod o gyffrous a phwysig i Ysgol Tir Morfa, ac mae wedi cymryd blynyddoedd i’w greu.”
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan yr ysgol trwy eu gweithgareddau codi arian, yn ogystal â chyllid grant Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru.
Cwblhau gwaith adeiladu yn ardal chwarae Marchnad y Frenhines
Mae prosiect yr ardal chwarae ym Marchnad y Frenhines yn y Rhyl wedi'i gwblhau. Disgwylir i'r parc agor wythnos nesaf.

Mae'r ardal chwarae gynhwysol yn cynnwys mwy nag 20 o nodweddion chwarae, ac mae lle i dros 40 o ddefnyddwyr ar unrhyw adeg benodol. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer plant 0-10+ oed, ac mae'r ardal chwarae yn cynnwys byrddau chwarae rhyngweithiol, synhwyraidd a chyffyrddol.
O ystyried ei lleoliad, mae gan yr ardal chwarae themâu bwyd a diod, ac mae thema ‘caffi’ a ‘hufen iâ’ wedi’u hymgorffori yn rhai o’r offer chwarae.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r ardal chwarae newydd hon yn ased enfawr, ac mae’n gwella’r hyn sydd ar gael i deuluoedd yn barod yn lleoliad Marchnad y Frenhines.
Mae’r ardal chwarae newydd yn gynhwysol ac yn llawn nodweddion chwarae hwyliog, mae’r tu allan i'r lleoliad ac mae’n ychwanegu at yr ardaloedd chwarae sydd ar gael yn yr ardal gan fod dau erbyn hyn wedi'u lleoli ar hyd y prom sydd wedi ailagor a'i ail-lunio yn y Rhyl.
Mae Marchnad y Frenhines yn lleoliad gwych i deuluoedd, ac mae'n arbennig gweld bod y gwaith adeiladu ar yr ychwanegiad diweddaraf hwn i'r lleoliad bellach wedi'i gwblhau.”
Dywedodd llefarydd ar ran KOMPAN UK:
“Mae KOMPAN UK yn falch o ddweud bod y cyfnod gosod offer bellach wedi’i gwblhau, yn ogystal â’r arwyneb diogelwch newydd a osodwyd ar gyfer yr offer a’r ffens newydd i fynd o amgylch yr ardal chwarae a’i diffinio. Rydym ni’n hynod o falch gyda pha mor dda mae'r cyfnod gosod wedi mynd.
Rydym ni’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn mwynhau'r ardal chwarae ac yn ei hystyried yn ased gwych newydd i Farchnad y Frenhines!”
Gwelliannau ffordd i gychwyn ar ‘Abergele Straights’

Mae disgwyl i adran Briffyrdd Cyngor Sir Ddinbych gychwyn gwaith ar gynllun mawr i gynnal a chadw ffordd a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a hynny ar Ffordd Abergele yr A547 rhwng Rhuddlan a chylchfan Borth.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi clustnodi 57 o leoliadau yn y sir mewn rhaglen gynnal a chadw ffyrdd dros ddwy flynedd a fydd yn elwa o gyllid Menter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru. Nod y cyllid (£4.780m dros 2025/26 a 2026/27) yw gwella cyflwr arwyneb y ffordd ar rannau o rwydwaith ffyrdd y Sir.
Mae disgwyl i’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd ddigwydd rhwng 6 a 31 Hydref. Er mwyn i’r gwaith gael ei wneud yn ddiogel bydd y ffordd ar gau rhwng 7pm a 6am bob noson.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn llwyr ymwybodol fod cyflwr Rhwydwaith Ffyrdd Sir Ddinbych yn destun trafod rheolaidd ymhlith ein preswylwyr. Rydym yn ddiolchgar iawn am gyllid Llywodraeth Cymru a fydd yn ein galluogi ni i fynd i’r afael â rhan fawr o’n rhwydwaith, ynghyd â’r ffordd a elwir yn ‘Abergele Straights’, sydd angen ei wella”.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk
Ysgol Carrog yn cyflawni Gwobr y Siarter Iaith
Mae Ysgol Carrog yng Ngharrog wedi derbyn Gwobr Aur Siarter Iaith Cymraeg Campus, yr ysgol Gymraeg ail iaith gyntaf yn Sir Ddinbych i gael y wobr yma.

Nod y fenter yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau, cynyddu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yn yr ysgol a’i chymuned ehangach.
Mae Siarter Iaith Cymraeg Campus yn rhoi fframwaith i ysgolion i hyrwyddo’r Gymraeg ac ethos Cymreig ym mhob maes o’r ysgol.
Meddai Katie ac Esme, aelodau o’r Criw Cymraeg:
“Mae’r Criw Cymraeg wedi cael blwyddyn brysur iawn. Rydym wedi bod yn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru o amgylch yr ysgol ac yn annog pawb i siarad Cymraeg pryd bynnag y gallwn ni.
Ar ôl llawer o waith caled, mae’r ysgol wedi ennill Gwobr Aur Cymraeg Campus ac rydym ni mor hapus.”
Meddai Pennaeth Ysgol Carrog, Jayne Davies:
“Fe weithiodd yr ysgol gyfan i wella a datblygu sgiliau Cymraeg pawb ymhellach a dathlu ein diwylliant Cymreig.
Mae cyflawni gwobr Aur Cymraeg Campus yn brawf o hyn a bydd yn cryfhau ein hymrwymiad i ddarparu safon uchel o Gymraeg ar draws yr ysgol.
Rydw i’n falch iawn o ymdrechion ac ymrwymiad pawb.”
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Fe hoffwn i longyfarch Ysgol Carrog ar ennill y wobr hon. Mae’r gwaith caled gan ddisgyblion a staff bellach wedi cael ei wobrwyo, ac Ysgol Carrog yw’r ysgol Gymraeg ail iaith gyntaf yn Sir Ddinbych i ennill Gwobr Aur Siarter Iaith Cymraeg Campus.”
Dathlu pen-blwydd AHNE drwy baentio Piler Triongli
Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dathlu 40 mlynedd o fod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
(Piler triongli Moel Famau)
Eleni, mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dathlu 40 mlynedd ers dod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
I ddathlu’r garreg filltir hon, mae’r piler triongli ar gopa Moel Famau wedi’i baentio. 
Wedi’i gwblhau gan David Setter (@doodleplanet), sydd wedi dylunio murluniau a chynnal gweithdai yn Loggerheads yn flaenorol, mae’r gwaith celf yn darlunio grugiar du, gylfinir ac ehedydd, sydd i gyd yn adar sy’n nythu ar y ddaear sy’n creu rhywfaint o’r seinwedd y byddwch yn ei glywed trwy gydol y gwanwyn ym Mryniau Clwyd.
Wedi’u codi’n wreiddiol gan Arolwg Ordnans yn 1935, mae pileri triongli yn bileri concrid a gafodd eu lleoli yn strategol i helpu i ail driongli Prydain Fawr yn gywir, gan ffurfio asgwrn cefn creu mapiau modern.
Wedi’i ddylunio yn 1985 gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dan y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cwmpasu dros 390 cilometr sgwâr o rai o dirluniau mwyaf bendigedig y DU.
O lethrau arfordirol llechweddau Prestatyn yn y gogledd i fryniau anghysbell y Berwyn a thraphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte yn y de, mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dirlun gwrthgyferbyniol sy’n aros i gael ei ddarganfod.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae harddwch naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn anhygoel. Mae miloedd o ymwelwyr yn dod i gael rhywfaint o dawelwch a llonyddwch wrth fwynhau’r olygfa a’i phrydferthwch, ac fel trigolion Sir Ddinbych rydym yn lwcus iawn o gael golygfa cystal ar ein stepen drws”.
Am fwy o wybodaeth am Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, cliciwch yma.
Parc Drifft newydd yn agor yn swyddogol
Cafodd Parc Drifft ar Bromenâd y Rhyl ei agor yn swyddogol ar 30 Medi, gyda chymorth ysgol leol a roddodd help llaw gyda dyluniad yr ardal chwarae newydd.
Y Cynghorwyr Barry Mellor ag Alan James, swyddogion o Gyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â chynrychiolwyr o Balfour Beatty a Kompan UK.
Mae’r ardal chwarae newydd, sydd wedi cael ei ailddylunio yn rhan o Waith Amddiffynfeydd Môr gerllaw, yn cynnwys dyluniad newydd sbon a ddewiswyd gan y gymuned, a thema chwaraeon a ‘morwrol’ newydd, yn unol â’i agosatrwydd at draeth enwog y Rhyl.
Roedd Cynghorwyr o ardal y Rhyl, swyddogion o Gyngor Sir Ddinbych, a myfyrwyr o Ysgol Tir Morfa, yn ogystal â chynrychiolwyr o Balfour Beatty a Kompan UK yn bresennol yn y seremoni agoriadol.

Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yn agor y Parc.
Mae’r ardal chwarae newydd wedi cael ei adeiladu gyda hygyrchedd a chynwysoldeb mewn golwg, ac mae’n cynnwys cylchfan gynhwysol i ddefnyddwyr cadair olwyn yn yr ardal chwarae, ystod o baneli chwarae cynhwysol ar thema forwrol, si-so ar thema’r môr a llithren fawr ar thema llong fôr-ladron gyda grisiau sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Mae mwy na 55 o nodweddion chwarae yn y parc newydd ac mae lle i 170 o ddefnyddwyr.
Fe agorodd y gofod i’r cyhoedd mis dwythaf, ac roedd hi’n benwythnos agoriadol prysur iawn wrth i blant lleol brofi eu hardal chwarae newydd.
Y Parc newydd o'r awyr.
Mae offer campfa ac ymarfer corff awyr agored i oedolion wedi’u gosod hefyd, drws nesaf i’r parc. Maen nhw wedi’u hadeiladu fel rhan o’r prosiect gwaith amddiffynfeydd môr mwy, ynghyd ag Ardal Chwarae newydd Parc Drifft.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae gweld yr ardal chware yma wedi agor yn swyddogol yn rhoi pleser mawr i mi.
Mae’r gofod newydd wedi’i adeiladu gyda phob gallu mewn golwg, ac mae’r thema ‘morwrol’ newydd yn cyd-fynd â’r lleoliad mor dda.
Fe hoffwn i ddiolch i swyddogion ac i’n partneriaid am eu gwaith ar y prosiect hwn, yn ogystal â’r gymuned leol am eu hawgrymiadau a syniadau. Mae hi’n wych gallu agor y gofod newydd ar ei newydd wedd yn swyddogol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Kompan UK:
“Rydym ni’n eithriadol o falch gyda’r Ardal Chwarae ac ardal Ffitrwydd Awyr Agored ym Mharc Drifft, a gobeithio bod y gymuned leol wrth eu boddau fel yr ydym ni, ac y byddant yn mwynhau chwarae, cymdeithasu a bod yn heini gyda’i gilydd am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Andrew Carson, Cyfarwyddwr Portffolio yn Balfour Beatty:
“Rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan o’r tîm sy’n cyflwyno’r Parc Drift newydd, gan greu parc sydd nid yn unig yn hwyl ond yn hygyrch ac yn ddiogel i bob plentyn a theulu.
Mae gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Dinbych, ysgolion lleol, a’r gymuned i wireddu eu syniadau wedi bod yn hynod werthfawr.”
Dywedodd Wendy Williams, athrawes dosbarth yn Ysgol Tir Morfa:
“Mae’r disgyblion wrth eu bodd â’r parc ac rwy’n caru’r parc! Y prif beth rwy’n ei hoffi yw bod y gymuned wedi bod yn rhan o’r gwaith – gofynnwyd iddyn nhw beth maen nhw ei eisiau yn y parc ac mae’n gynhwysol iawn.”
Coeden dderw hanesyddol yn cael ail gyfle
Mae coeden dderw hanesyddol yn Rhuthun yn cael ail gyfle mewn bywyd ar ôl i Storm Darragh ei thynnu i lawr.
Roedd yr hen goeden, a gredir sydd dros 500 mlwydd oed, yn cael ei hedmygu’n fawr gan bobl leol ac ymwelwyr â Chae Ddôl ac roedd yn amlwg yn y parc am genedlaethau.
Ers hynny, mae tîm coed Cyngor Sir Ddinbych, wrth weithio gyda Gwasanaethau Stryd, wedi gorffen gwaith i glirio tocion a phren a ddifrodwyd o’r safle ac rydym bellach mewn sefyllfa i ddechrau'r cam olaf o brosesu’r goeden dderw.
Bydd boncyff y goeden a ddisgynnodd yn aros yn ei safle hanesyddol yng nghalon Cae Ddôl a bydd yn cael ei gerflunio i greu sedd i bobl edmygu ei faint a’i statws, tra bydd ei ganghennau mawr yn cael eu cerflunio i greu meinciau unigryw wedi eu trefnu o amgylch y boncyff i greu man eistedd newydd.
Gan fod y derw wedi ei amddiffyn gan Orchymyn Diogelu Coed, bydd coeden dderw newydd yn cael ei phlannu yng nghanol y man eistedd newydd, sy’n dynodi dechreuad newydd yn y parc.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd tröwr coed lleol hefyd yn cael ei gomisiynu i greu eitemau bach megis llwyau a phowlenni o’r pren llai.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Hoffem ddiolch i Jones Bros o Ruthun sydd wedi cyflenwi a gosod y ffensys amddiffyn o amgylch y goeden dderw a ddisgynnodd i ganiatáu i’r tir sychu wrth i’r tîm roi cynlluniau ar waith ar gyfer dyfodol y goeden dderw.
“Rydym yn deall pa mor arwyddocaol oedd yr hen goeden dderw i Gae Ddôl, a gobeithiwn trwy ddefnyddio pren yr hen goeden dderw i greu ardal ar yr un safle, y bydd yn caniatáu i ymwelwyr gadw cysylltiad gyda’r hen goeden.
“Gobeithir y bydd y lle a’r cerflun yn esblygu dros amser gyda chefnogaeth grwpiau cymunedol lleol, ac wrth i’r goeden dderw newydd dyfu.”
Gwaith uwchraddio ym Mharc Gwledig Loggerheads
Mae’r gwaith uwchraddio yn rhan o ymdrechion parhaus i wella’r profiad i ymwelwyr.

Mae gwaith wedi dechrau’n swyddogol ar uwchraddio cyfleusterau ymwelwyr Parc Gwledig Loggerheads.
Yn 2023, gwnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau eu bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sydd â’r nod o ddiogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Gorllewin Clwyd.
Mae’r cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Mae’r cam cyntaf yn cynnwys gwaith ailwampio llawn yn y toiledau cyhoeddus, yna gwelliannau i’r caffi ar y safle a’r ystafell gyfarfod ac yna’r ganolfan ymwelwyr a gwaith tirlunio allanol sy’n gyfeillgar i deuluoedd.
Mae’r contractwyr lleol, Park City o Lanelwy wedi’u penodi i wneud y gwaith, mewn partneriaeth â’r penseiri dylunio TACP, sy’n seiliedig yn Wrecsam.
Er y gwaith adeiladu sy’n digwydd, bydd Parc Gwledig Loggerheads yn aros ar agor i ymwelwyr. Bydd cyfleusterau toiled dros dro ar gael, ac ardal eistedd â lloches er mwyn sicrhau bod y profiad yn gyfforddus i bawb.
Yn y cyfamser, mae cyfleuster arlwyo dros dro newydd, Tŷ’r Felin / Mill House wedi agor drws nesaf i’r felin hanesyddol. Caiff ei weithredu gan y cynhyrchwyr lleol, Chilly Cow, a bydd yn cynnig dewis o ddiodydd poeth, hufen iâ, byrbrydau a chacennau lleol. Bydd ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 4pm, tan i’r caffi ailagor ym mis Mawrth 2026 wedi’i adnewyddu.
Mae’r gwaith uwchraddio hwn yn rhan o ymdrechion parhaus i wella’r profiad i ymwelwyr yn un o barciau gwledig mwyaf poblogaidd gogledd Cymru, sy’n croesawu mwy na 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau ymwelwyr.
“Bydd y gwaith uwchraddio i Loggerheads yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu’r parc ar gyfer y nifer gynyddol o ymwelwyr sy’n dod bob blwyddyn. Mae’n bwysig ein bod yn cynnal a chadw a datblygu ardaloedd tirwedd cenedlaethol arbennig fel Loggerheads wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”
Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.
