Tîm Iechyd Meddwl Sir Ddinbych yn cymryd rhan mewn her dŵr oer i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl

I nodi Diwrnod Iechyd Meddwl, a gynhelir bob blwyddyn ar 10 Hydref, bu tîm Iechyd Meddwl y Cyngor yn ddewr yn wynebu her dŵr oer yn y tonnau ar draeth y Rhyl.

Tîm Iechyd Meddwl y Cyngor

Cymerodd aelodau'r tîm Iechyd Meddwl Cyngor Sir Ddinbych ran yn yr her dŵr oer er mwyn nodi’r diwrnod ymwybyddiaeth.

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Rhyngwladol a gafodd ei ddathlu gyntaf ym 1992. Mae’n canolbwyntio ar iechyd meddwl, addysg iechyd meddwl, ymwybyddiaeth ac eiriolaeth yn erbyn stigma cymdeithasol.

Yn ogystal ag wynebu’r dŵr oer, cynhaliodd y tîm arwerthiant cacennau trwy gydol y dydd gyda’r elw yn mynd i elusen.

Arwerthiant cacennau

Dywedodd Hayley Adams, Rheolwr Tîm Iechyd Meddwl:

“Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) yn ddiwrnod rhyngwladol ar gyfer addysg ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar draws y byd, ac eiriolaeth yn erbyn stigma cymdeithasol. Ar y diwrnod hwn, daw miloedd o gefnogwyr i ddathlu'r rhaglen ymwybyddiaeth flynyddol hon er mwyn tynnu sylw at salwch meddwl a’r effaith fawr ar fywydau pobl ar draws y byd.

Mae Tîm Iechyd Meddwl a Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy Sir Ddinbych yn nodi’r diwrnod trwy gymryd rhan yn yr her hon yn nŵr oer y môr a chynnal arwerthiant cacennau a bydd yr holl elw’n mynd i Elusen Iechyd Meddwl leol.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn hanfodol bwysig wrth godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, ac i arwain pobl at y gefnogaeth gywir. Mae iechyd meddwl yn effeithio ar bawb mewn rhyw ffordd, ac mae'n gyfle i oedi a gwirio gyda ni ein hunain a'r rhai o'n cwmpas.

Mae'r her dŵr oer y tîm yn ffordd mor feddylgar a dewr o nodi'r diwrnod, ac yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth a dechrau sgyrsiau am iechyd meddwl.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw