Adnoddau ar-lein ar gael i rieni a gofalwyr Sir Ddinbych
Mae rhieni a gofalwyr ar draws Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa y gallant gael mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau ar-lein i gefnogi perthnasoedd teuluol, magu plant a lles emosiynol, wedi’u hariannu trwy’r Cyngor.
Mae’r adnoddau hyn ar sail tystiolaeth yn rhoi cefnogaeth hyblyg i rieni, gofalwyr a theuluoedd Sir Ddinbych trwy gydol eu taith magu plant.

Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio ar gyfer rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau ac maen nhw’n canolbwyntio ar iechyd a lles emosiynol plant. Maen nhw’n cwmpasu perthnasoedd sensitif, cefnogaeth blynyddoedd cynnar a datblygiad yr ymennydd, gan helpu teuluoedd i feithrin plant caredig, sy’n ymwybodol o’u hemosiynau wrth iddynt dyfu.
Mae’r cwrs, sef ‘Togetherness online’ wedi’i gynnwys trwy bob agwedd ar ddysgu ac mae wedi’i ategu gan syniadau cadarn wedi’u hymchwilio’n dda a ddatblygwyd gan dîm o seicolegwyr clinigol ac amrywiaeth o ymarferwyr proffesiynol.
Mae mwy na 4,700 o rieni a gwarcheidwaid yn Sir Ddinbych eisoes wedi’u cofrestru fel dysgwyr ar-lein.
Mae adnoddau ar gael mewn nifer o ieithoedd ac maen nhw’n cynnwys:
- Cyrsiau cynenedigol ac ôl-enedigol ar-lein (gan gynnwys cefnogaeth arbenigol ar gyfer rhieni sydd â phlant mewn uned gofal dwys i’r newydd-anedig).
- Deall eich plentyn, o fod yn blentyn bach i’r arddegau, gyda chwrs wedi’i deilwra ar gyfer anghenion arbennig.
- Cyrsiau Deall Llecyndod (i rieni a phobl ifanc).
- Cyrsiau sy’n cefnogi lles emosiynol rhieni a pherthnasoedd.
Gellir cael mynediad at adnoddau ar-lein ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le. Gellir dilyn y cyrsiau ar gyflymder unigol, maen nhw’n breifat a phersonol i bob dysgwr.
Gall teuluoedd Sir Ddinbych gael mynediad at yr adnoddau am ddim trwy ddilyn y broses gofrestru a mewnbynnu’r cod mynediad am ddim neu trwy nodi eu cod post Sir Ddinbych yn yr adnodd gwirio i weld a ydynt mewn ardal am ddim i gael mynediad am ddim: www.togetherness.co.uk/learn.
Gall trigolion Sir Ddinbych ddefnyddio'r cod Mynediad Am Ddim: NWSOL
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Gall teuluoedd ddewis dysgu sy’n gweddu i bob cam o’r broses magu plant, o feichiogrwydd i lecyndod.
Gall y cyrsiau hyn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall datblygiad ac ymddygiad plant.
Mae’r bartneriaeth hon yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i gefnogi Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu ac i greu cymunedau mwy hapus, iach a chryf.”