Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr 2026
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i gynhyrchu asesiad cyfredol o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i gynhyrchu asesiad cyfredol o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych.
Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gynnal Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) newydd bob pum mlynedd, yn unol â’r Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Rhan 3, Adran 101). Nod yr asesiad hwn yw darganfod anghenion llety. Nid yw’r asesiad yn ymwneud â dod o hyd i safleoedd addas yn y sir.
Gan weithio ochr yn ochr ag arc4, y cwmni a gomisiynwyd i gyflawni'r gwaith asesu, bydd y gwaith hwn yn helpu'r Cyngor i nodi anghenion llety presennol a dyfodol cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Bydd y canfyddiadau'n llywio polisïau tai a chynllunio yn y dyfodol ac yn cynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams, Aelod Arweiniol Tai, Cynllun Datblygu Lleol a Chymunedau:
"Mae'n bwysig ein bod yn meddu ar ddealltwriaeth gywir a chyfredol o anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych.
"Bydd yr asesiad hwn yn rhoi cyfle i deuluoedd ac unigolion rannu eu profiadau a'u barn, gan ein helpu i ddeall anghenion llety presennol ac i’r dyfodol. Rydym am sicrhau bod y broses yn barchus ac yn gynhwysol, ac yn rhoi cyfle i aelodau'r gymuned cael eu lleisiau wedi eu clywed.
"Bydd y wybodaeth a gesglir yn helpu i lywio ein polisïau tai a chynllunio yn y dyfodol ac yn ein cynorthwyo i gyflawni ein dyletswyddau statudol. Byddwn yn annog aelodau o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Ddinbych i gymryd rhan os y gallant."
Bydd y broses yn cynnwys arc4 yn siarad â theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a bydd yn parhau tan 26 Hydref 2026.
Os ydych yn Sipsi neu'n Deithiwr ac yn byw yn Sir Ddinbych, neu os ydych yn adnabod aelodau o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, boed yn deulu neu'n ffrindiau, a hoffai gymryd rhan yn yr arolwg hwn, gofynnwch iddynt gysylltu ag arc4 drwy ffonio'r rhif ffôn rhad ac am ddim 0800 612 9133 neu anfon e-bost at michael.bullock@arc4.co.uk.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â GRTliaisonofficer@denbighshire.gov.uk