Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno cais cynllunio i ddiwallu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr
Ddydd Mawrth, 20 Hydref, cymerodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych y penderfyniad i gytuno cyflwyno dau gais cynllunio ym Mhrestatyn, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer darparu safle parhaol i Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar Ffordd Marine.
Mae'r penderfyniad yn cefnogi dyletswydd statudol y cyngor o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i ddiwallu'r anghenion llety a nodwyd yn ei Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA), a gynhelir bob pum mlynedd.
Nododd yr asesiad fod angen 12 safle preswyl parhaol ledled Sir Ddinbych. Mae wyth safle eisoes wedi'u darparu ar dir preifat, gan adael angen am bedwar safle ar gyfer un teulu. Yn dilyn asesiad manwl o leoliadau posibl, cafodd safle Ffordd Marine ei nodi fel yr opsiwn mwyaf addas, gan alluogi'r teulu, sydd wedi byw ym Mhrestatyn ers 13 mlynedd, i aros yn agos at eu cymuned, eu rhwydweithiau cymorth a gwasanaethau lleol, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Cymeradwyodd y Cabinet hefyd gyflwyno cais cynllunio ar gyfer ffordd fynediad newydd i'r ardal barcio ddynodedig sy'n gwasanaethu fflatiau cyfagos Ffordd Caradog.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams, Aelod Arweiniol Tai, Cynllun Datblygu Lleol a Chymunedau: "Mae'r penderfyniad hwn yn galluogi'r cyngor i wneud cynnydd gyda'i ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu llety addas ar gyfer y teulu a nodwyd drwy ein Hasesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr.
"Mae asesiad trylwyr o safleoedd posibl wedi'i gynnal, a bydd y broses gynllunio nawr yn rhoi cyfle i bob ystyriaeth berthnasol gael ei hasesu'n llawn, gyda thrigolion lleol yn gallu cyflwyno eu barn fel rhan o'r broses honno."
Os bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi, bydd y cyngor yn ceisio sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad y safle.