Cerdded, sgwrsio a gwella llesiant, un cam ar y tro gyda Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae pobl ifanc yn Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymuno â theithiau cerdded llesiant wythnosol Sir Ddinbych yn Gweithio, sydd wedi bod yn helpu cyfranogwyr i gysylltu ag eraill, mynd allan i’r awyr agored a gwella eu llesiant ers dros flwyddyn.

Yn cael eu cyflwyno gan dîm Barod yn Sir Ddinbych yn Gweithio mewn partneriaeth â Ramblers Cymru, mae’r teithiau cerdded yn cynnig amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed fwynhau manteision natur, magu hyder a chwrdd â phobl newydd wrth archwilio rhai o lwybrau cerdded harddaf Gogledd Cymru.

Mae’r sesiynau’n cael eu cefnogi’n llawn gan staff Barod a Ramblers Cymru, gyda’r llwybrau’n cael eu dewis gan y grŵp. Mae cyfranogwyr wedi archwilio amrywiaeth o lwybrau lleol a rhanbarthol tra’n datblygu sgiliau awyr agored ymarferol megis llywio a chynllunio llwybrau.

Mae’r teithiau cerdded yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, gan ddarparu amgylchedd croesawgar lle gall pobl ifanc gymdeithasu, rhannu profiadau a mwynhau amser yn yr awyr agored gyda’i gilydd.

Yn agored i drigolion Sir Ddinbych rhwng 18 a 25 oed, mae’r teithiau cerdded yn croesawu pobl o bob lefel ffitrwydd a gallu. Nid oes pwysau i drafod cyflogaeth na chynlluniau ar gyfer y dyfodol, ond gall yr amgylchedd cefnogol helpu cyfranogwyr i feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd a theimlo’n fwy parod i gymryd eu camau nesaf pan fyddant yn barod.

Dywedodd Paul Dunham, sy’n mynychu’r sesiynau Cerdded a Sgwrsio yn rheolaidd:

“Mae mynd allan i’r awyr agored a chwrdd â phobl newydd wedi helpu i feithrin fy hyder yn fawr. Doeddwn i erioed wedi bod i Moel Famau o’r blaen, felly roedd ymweld â rhywle newydd a gosod yr her i ni ein hunain o gyrraedd y copa yn gyffrous iawn. Rhoddodd hynny deimlad gwirioneddol o gyflawniad ac ysbryd tîm i mi.

"Roeddwn i’n mwynhau siarad â phobl wahanol ar hyd y daith, a helpodd hynny fi i deimlo’n rhan o’r grŵp. Mae’r profiad wedi fy ysbrydoli i wneud mwy o gerdded a pharhau i feithrin fy hyder a’m gwytnwch.

"Rwy’n hapus i barhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda Barod a Sir Ddinbych yn Gweithio oherwydd eu bod yn dod â phobl ynghyd sydd i gyd ar eu taith eu hunain ac yn helpu i greu gwir ymdeimlad o berthyn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd

“Gall mynd allan i’r awyr agored a bod yn egnïol gael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol, ac mae’n galonogol gweld y bartneriaeth hon yn parhau i gefnogi pobl ifanc ledled Sir Ddinbych mewn ffordd mor ymarferol a chynhwysol. Byddwn yn annog unrhyw un a allai elwa o gymryd rhan i ddod draw a rhoi cynnig arni.”

Dywedodd Olivia Evans o Ramblers Cymru:

“Mae ein partneriaeth â rhaglen Barod Sir Ddinbych yn Gweithio wedi bod yn gyfle gwych i bobl Sir Ddinbych. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyflawni llawer iawn, o’n teithiau cerdded wythnosol sydd wedi helpu pobl i gysylltu â’i gilydd, i ddiwrnodau yn y bryniau, cyrsiau llywio a llawer mwy.

“Wrth i ni barhau, byddwn yn datblygu cyfleoedd megis cynllun mentora i helpu cyfranogwyr i ennill y sgiliau a’r hyder i ddechrau arwain teithiau cerdded eu hunain gyda’n cefnogaeth ni. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda’n gilydd a thynnu’r dillad glaw allan eto wrth i ni fynd i mewn i’r tymor sydd o’n blaenau!”

Mae’r teithiau cerdded llesiant yn cael eu cynnal bob dydd Iau am 3pm, gan gyfarfod yn Llyfrgell Y Rhyl, gyda chymorth trafnidiaeth ac offer ar gael lle bo angen. Wrth i’r dyddiau fynd yn fyrrach dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf, efallai y bydd yr amseroedd cychwyn yn cael eu haddasu ychydig. Anogir cyfranogwyr i ddilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych yn Gweithio am y wybodaeth ddiweddaraf a manylion y teithiau cerdded.

Nid oes angen archebu lle, ac anogir cyfranogwyr i wisgo dillad addas ar gyfer y tywydd. Mae croeso hefyd i ffrindiau ymuno.

Am ragor o wybodaeth, gall trigolion ffonio 01745 331438 neu ymweld â gwefan Sir Ddinbych yn Gweithio.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a nifer o raglenni, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF), a Cysylltu â Gwaith.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw