'Coeden de’ hanesyddol yn cael bywyd newydd drwy brosiect tyfu Sir Ddinbych
Mae coeden brin a oedd yn enwog am ddarparu diod yn lle te yn ystod yr ail ryfel byd yn cael bywyd newydd.
Mae staff ym Mhlanhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych yng Ngwarchodfa Natur Green Gates wedi ymgymryd â phrosiect i gynyddu nifer y coed pisgwydd gyda dail bach yn y sir.
Mae planhigfa goed y Cyngor wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn gweithio i gynyddu niferoedd rhywogaethau o goed, yn cynnwys poplys du, cerddin gwyllt a deri trwy gasglu hadau o’r ardal leol i’w tyfu.
Roedd coed pisgwydd gyda dail bach yn arfer bod yn amlwg mewn coetir ond oherwydd colli cynefin a newidiadau, maent wedi dod yn fwy prin dros amser. Mae canfod un o’r coed hyn yn aml yn arwydd o ardal goetir hynafol.
Yn dilyn cynaeafu hadau yn lleol, mae staff y blanhigfa wedi sicrhau 110 gram o hadau rhywogaeth a fydd yn cynnig cyfle i dyfu bron i 800 o goed ar y safle.
Dangosodd y coed pisgwydd gyda dail bach eu gwir werth yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd y cyfyngiadau ar de du. Defnyddiwyd y blodau sych a’r dail i greu diod a oedd yn debyg i de.
Roedd y blodau ar y coed hefyd yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu diben meddyginiaethol ac roeddent yn arfer cael eu defnyddio ar gyfer trin cur pen a diffyg cwsg.
Mae’r goeden hefyd yn ffynhonnell wych o ran bioamrywiaeth, mae’r dail yn cael eu bwyta gan sawl math o lindys, maent yn denu llyslau, gan ddarparu ffynhonnell fwyd ar gyfer eu hysglyfaethwyr, yn cynnwys gwybed hofran, buchod coch cwta a nifer o rywogaethau o adar. Mae blodau’r goeden hefyd yn darparu neithdar a phaill ar gyfer pryfed, yn enwedig gwenyn, sydd hefyd yn yfed melwlith llyslau o’r dail.
Roedd y blodau ar y coed hefyd yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu diben meddyginiaethol ac yn cael eu hystyried yn driniaeth effeithiol ar gyfer diffyg cwsg, cur pen, ac anhwylderau ‘nerfus’ eraill.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae staff y blanhigfa a gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at dyfu’r coed pisgwydd gyda dail bach o’r hadau a gasglwyd yn lleol a rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt ffynnu. Trwy ofalu amdanynt yn y blanhigfa cyn eu plannu, bydd y tîm yn helpu i wella eu cyfraddau goroesi wrth gefnogi rhywogaeth frodorol sy’n cynnig gwerth gwirioneddol o ran bioamrywiaeth, o wenyn a pheillwyr eraill i wyfynod, adar a llawer o rywogaethau eraill.
Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych