Cyngor yn lansio cefnogaeth deithio wyrddach i staff
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio cynllun gwyrddach i helpu i leihau costau teithio busnes ar gyfer staff

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio cynllun gwyrddach i helpu i leihau costau teithio busnes ar gyfer staff.
Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn treialu system ceir y cyngor newydd i helpu i leihau allyriadau carbon yn ogystal â chostau teithio busnes ar draws y sir.
Bu i Gyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019 ac ers hynny mae wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.
Wrth i gerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil gyrraedd diwedd eu hoes, mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor wedi bod yn cyflwyno cerbydau trydan lle y bo’n berthnasol, gyda chefnogaeth sylweddol gan adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU. Mae hyn yn helpu i leihau allyriadau, yn lleihau costau hirdymor sy'n gysylltiedig â milltiroedd a gwaith cynnal a chadw ar draws yr holl wasanaethau, ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar beiriannau petrol a disel.
Mae staff hefyd yn cymryd rhan mewn pecyn hyfforddi gan yr Adran Fflyd, sy’n cynnwys sut i ddefnyddio isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn ddiogel ac yn effeithlon, gwneud defnydd o systemau brecio atgynhyrchiol, a phryd i ddewis ‘dull gyrru’ yn seiliedig ar yr amodau neu lwythi.
Bellach, gall staff sydd wedi cael yr hyfforddiant gymryd rhan mewn system archebu ceir trydan y cyngor sy'n weithredol ar draws y sir, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus ar raddfa lai a gynhaliwyd gan yr Adran Fflyd.

Gyda chefnogaeth faniau Toyota Proace EV a Citroen Ec3, gall staff bellach archebu un o'r cerbydau hyn ar-lein a'i gasglu o leoliadau yn Ninbych, Llanelwy, Prestatyn a Llangollen ar gyfer teithiau gwaith.
Mae defnyddio'r system hon – sy'n cael ei chefnogi gan ddarllenwyr RFID ar ddangosfyrddau'r cerbydau – yn helpu i leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau traddodiadol sy'n rhedeg ar danwydd ffosil ar gyfer teithiau gwaith.
Eglurodd Martin Griffiths, Swyddog Arweiniol Symudedd y Fflyd, Cyngor Sir Ddinbych: “Fel rhan o strategaeth Newid Hinsawdd ac Adfer Natur y Cyngor, rydym wedi ymrwymo i barhau i leihau allyriadau carbon ar draws yr awdurdod lleol, sy’n cynnwys ein Fflyd.
“Rydym yn ymwybodol fel cyngor bod rhai aelodau o’r staff yn defnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer milltiroedd gwaith, ac mae’n debygol mai cerbydau sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil yw’r rhain. Mae'r cynllun newydd hwn wir yn cynnig y gorau o'r ddau fyd; cyn belled â'u bod yn cwblhau'r hyfforddiant ar gerbydau trydan, gall staff archebu un o'r cerbydau hyn i osgoi traul ar eu ceir eu hunain ac i arbed costau teithio. Fel cyngor, rydym hefyd yn helpu i sicrhau bod y ffyrdd yn wyrddach ac felly yn cyfrannu at y nod o leihau ôl-troed carbon y sir.
Ychwanegodd Martin: “Rydym hefyd yn parhau i rannu ein harferion da a’n profiadau gyda Chynghorau a Chyrff Sector Cyhoeddus eraill Cymru er mwyn eu helpu hwythau i drosglwyddo i ddefnyddio cerbydau heb allyriadau. Mae cynnal hyfforddiant mewnol ar gerbydau trydan a gweithredu'r system ceir Cyngor newydd hon yn ein galluogi i ddysgu o brofiadau ein staff wrth ddefnyddio'r cerbydau trydan; mae hyn yn fantais fawr i’n helpu i drefnu ein fflyd er mwyn mynd i'r afael ag allyriadau carbon yn y dyfodol.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: Mae cyflwyno system ceir y Cyngor yn gam pwysig wrth sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'i adnoddau. Drwy roi mynediad i staff at gerbydau ar gyfer teithio busnes, gallwn leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat, helpu i reoli costau teithio busnes a sicrhau bod trethdalwyr yn cael gwell gwerth am arian. Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi ymrwymiad ehangach y Cyngor i leihau effaith amgylcheddol ei weithrediadau.”