Dau ymchwiliad o dipio anghyfreithlon yn arwain at gamau gorfodi

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn delio â digwyddiadau o dipio anghyfreithlon yng nghefn gwlad ac mewn tref yn ddiweddar

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn delio â digwyddiadau o dipio anghyfreithlon yng nghefn gwlad ac mewn tref yn ddiweddar. 

O Landegla wledig i strydoedd Dinbych, mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa darpar dipwyr anghyfreithlon y bydd yna oblygiadau i ollwng gwastraff.

Mae dau ymchwiliad gan Dîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych wedi arwain at enwi’r rhai’n gyfrifol a chyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig iddynt.

Yn Llandegla, bu swyddogion yn ymchwilio i achos o dipio anghyfreithlon a ganfuwyd yn yr ardal, gan gynnal ymholiadau a dilyn y dystiolaeth oedd ar gael er mwyn canfod o ble ddaeth y gwastraff a phwy oedd yn gyfrifol.  Fe arweiniodd yr ymchwiliad at adnabod yr unigolyn ac fe gyflwynwyd Rhybudd Cosb Benodedig iddynt.

Yn y cyfamser yn Ninbych, cafodd preswylydd Rybudd Cosb Benodedig o £250 ar ôl i bentwr o fagiau du gael eu gadael yn y gymuned. Cafodd y gwastraff ei adrodd i’r Cyngor, gan arwain at ymchwiliad a bu modd i swyddogion adnabod yr unigolyn oedd yn gyfrifol.

Mae’r achosion yn dangos y gall ymchwiliadau o dipio anghyfreithlon arwain at weithredoedd gorfodi.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol:

“Yn anffodus i’r rhai sy’n gyfrifol, nid achosion o adael gwastraff na fyddai neb yn sylwi arnynt oedd y rhain.

“Fe ymchwiliodd ein swyddogion i’r ddau achos, dilyn y dystiolaeth a bu modd iddynt ganfod y rhai oedd yn gyfrifol.  O ganlyniad, mae Rhybuddion Cosb Benodedig wedi cael eu cyflwyno.

“Mae tipio anghyfreithlon yn cael effaith gwirioneddol ar ein cymunedau.  Boed hynny’n fagiau du sy’n cael eu gadael ar stryd breswyl neu wastraff sy’n cael ei adael yng nghefn gwlad, mae’n effeithio ar lefydd ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn ymweld.

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Ni fydd tipio anghyfreithlon yn cael ei oddef yn unrhyw ran o Sir Ddinbych.  Boed y gwastraff yn cael ei adael yn un o’n trefi, ar stryd breswyl neu yng nghefn gwlad, byddwn yn ymchwilio i’r dystiolaeth sydd ar gael ac yn gweithredu yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.

“Mae gennym ni gyd rôl i’w chwarae yn amddiffyn ein cymunedau a chadw Sir Ddinbych yn lân. Buaswn yn annog preswylwyr i waredu eu gwastraff yn gyfrifol ac i adrodd achosion o dipio anghyfreithlon er mwyn i’n swyddogion ddilyn y wybodaeth sy’n cael ei darparu.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ar draws y Sir trwy gyfuniad o atal, addysgu, casglu gwybodaeth, ymgysylltu â’r gymuned a chamau gorfodi.

Fe atgoffir preswylwyr y dylai gwastraff y cartref gael ei gyflwyno i’w gasglu yn unol â threfniadau casglu gwastraff y Cyngor.  Dylai unrhyw wastraff ychwanegol gael ei waredu trwy gyfleusterau neu wasanaethau priodol.

Wedi gweld achos o dipio anghyfreithlon? Helpwch ni i ddilyn y dystiolaeth

Gall aelodau’r cyhoedd chwarae rhan bwysig yn helpu’r Cyngor i adnabod y rhai sy’n gyfrifol am dipio anghyfreithlon.

Os ydych chi’n gweld achos o dipio anghyfreithlon neu os oes gennych wybodaeth am ddigwyddiad, gadewch i Gyngor Sir Ddinbych wybod. Pan fo’n bosibl, nodwch y lleoliad, dyddiad ac amser, disgrifiad o’r unigolyn neu’r cerbyd, a rhif cofrestru’r cerbyd.

 

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw