Gwelliannau wedi'u cynllunio ar gyfer maes parcio Traeth Barkby yn Prestatyn
Mae cynlluniau wedi'u datblygu i wella maes parcio Traeth Barkby ym mhen dwyreiniol arfordir Prestatyn, gan greu cyfleuster parcio sy'n haws i’w gyrraedd, yn fwy gwydn ac sydd â gwell system ddraenio.

Mae cynlluniau wedi'u datblygu i wella maes parcio Traeth Barkby ym mhen dwyreiniol arfordir Prestatyn, gan greu cyfleuster parcio sy'n haws i’w gyrraedd, yn fwy gwydn ac sydd â gwell system ddraenio.
Caiff y maes parcio, a ddefnyddir yn bennaf fel cyfleuster ychwanegol pan fydd y galw ar ei uchaf, ei uwchraddio i wella draeniad, hygyrchedd a'i gyflwr cyffredinol, gan ddarparu seilwaith i gefnogi gwelliannau yn y dyfodol.
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar 5 Hydref 2026 a'i fod wedi'i gwblhau i raddau helaeth yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 7 Rhagfyr 2026, yn amodol ar y tywydd ac unrhyw gyfyngiadau gweithredol annisgwyl.
Bydd y prosiect yn cynnwys ail-wynebu'r maes parcio presennol gan ddefnyddio system grid graean athraidd ac adeiladu llwybr mynediad newydd i gerbydau.
Gyda'i gilydd, bwriad y mesurau hyn yw gwella'r ffordd y rheolir dŵr arwynebol, gwella hygyrchedd a darparu cyfleuster parcio mwy gwydn.
Mae prif elfennau'r gwaith yn cynnwys:
- Clirio’r safle’n gyffredinol.
- Chwalu’r is-sylfaen a’r uwchbridd presennol sydd wedi’u cywasgu.
- Adeiladu troedffordd newydd.
- Adeiladu dwy groesfan fotymog heb reolaeth i gerddwyr.
- Gwaith gosod cwrbin.
- Gosod marciau ffordd newydd.
- Adeiladu lôn gerbydau.
- Gosod wyneb grid graean athraidd.
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud maes parcio Traeth Barkby yn haws ei gyrchu, yn fwy gwydn ac yn well o ran rheoli dŵr wyneb. Bydd yn darparu cyfleuster mwy gwydn i drigolion ac ymwelwyr â'r ardal yn ystod cyfnodau prysur, gan gefnogi gwelliannau yn y dyfodol ar y safle hefyd."