Hwb i ddiogelwch y ffyrdd a gwytnwch y gaeaf trwy fflyd graeanu newydd
Mae cerbydau fflyd newydd y Cyngor yn paratoi i helpu i gefnogi ffyrdd mwy diogel yn ystod tywydd y gaeaf.

Mae cerbydau fflyd newydd y Cyngor yn paratoi i helpu i gefnogi ffyrdd mwy diogel yn ystod tywydd y gaeaf.
Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor wedi caffael cerbydau graeanu newydd i ddisodli’r cerbydau presennol sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes gwasanaeth ar gyfer y gwaith cynnal a chadw mae’n rhaid iddynt ei wneud dros y gaeaf.
Bydd wyth cerbyd graeanu Volvo Econ Engineering yn disodli fflyd y Cyngor sy’n ddegawd oed, gan gyflwyno dull mwy modern o gefnogi preswylwyr trwy gyfnodau o dywydd gaeafol.
Mae pob cerbyd yn cynnwys panel arddangos greddfol yn y cab, sy’n caniatáu gweithredu’r deunydd dadrewi sydd yn y cerbyd yn gyflym a rhwydd yn ystod teithiau cynnal a chadw ar hyd llwybrau graeanu Sir Ddinbych.
Mae gyrwyr graeanu’r Cyngor wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant ar y cerbydau newydd gan staff Gwasanaethau Fflyd er mwyn ymgyfarwyddo â nhw. Cynhelir prawf i brofi pa mor barod ydynt ar gyfer y gaeaf yng ngogledd a de’r sir ar 15 ac 16 Hydref. Bydd y graeanwyr allan ar y llwybrau graeanu yn yr ardal i sicrhau eu bod yn barod i wynebu tywydd y gaeaf. Bydd gwybodaeth a gasglwyd gan y gyrwyr sy’n cymryd rhan yn helpu i lywio cynlluniau ar gyfer cynnal a chadw dros y gaeaf.
Mae rhwydwaith ffyrdd Sir Ddinbych yn cwmpasu ffyrdd gwledig sy’n cael eu defnyddio’n anaml yn ogystal â’r ffordd Dosbarth A uchaf yng Nghymru. Mae hefyd yn ymestyn i ffyrdd strategol rhanbarthol hanfodol megis yr A55, a thraciau culion i eiddo anghysbell.
Mae’r rhwydwaith graeanu’n cael ei rannu mewn i naw Llwybr Graeanu â Blaenoriaeth: mae pedwar yn ymdrin â gogledd y Sir, mae tri yn ymdrin â chanol y sir a dau yn ymdrin â de y sir.
Mae’r naw llwybr yma’n cwmpasu tua 950km, ac yn trin 605km o gyfanswm rhwydwaith Sir Ddinbych, sydd yn 1416km.
Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r buddsoddiad hwn i ddisodli ein fflyd graeanu sy’n heneiddio yn bwysig er mwyn cynnal ein cadernid i ddarparu cefnogaeth i gadw ffyrdd ein rhanbarth ar agor ar gyfer traffig hanfodol a phreswylwyr yn ystod cyfnodau o dywydd gwael dros y gaeaf. Mae’r fflyd fodern hon yn darparu cab mwy diogel i’n gyrwyr weithio ynddo am oriau hir, weithiau trwy’r nos pan fo eira a rhew yn taro’r sir.
“Mae’r tîm hwn yn gweithio’n hynod o galed ar draws y sir i gadw ein rhwydwaith ffyrdd ar agor ac yn ddiogel i’w ddefnyddio, ac rydym ni’n ddiolchgar eu bod nhw’n paratoi eto gyda’r cerbydau newydd hyn i gefnogi ein preswylwyr wrth i’r gaeaf agosáu.”