Sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ i gael eu cynnal ledled y Sir dros hanner tymor mis Hydref
Mae gwasanaeth Ceidwaid Chwarae Sir Ddinbych wedi rhyddhau eu sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ ar gyfer hanner tymor mis Hydref sydd i ddod.
Mae sesiynau ar gyfer hanner tymor mis Hydref yn cynnwys 18 lleoliad ar hyd a lled Sir Ddinbych, yn cynnwys gogledd a de’r Sir.

Mae’r sesiynau a gynhelir yn rhad ac am ddim ac yn rhoi cyfleoedd chwarae mynediad agored i blant yn eu cymunedau lleol.
Mae’r lleoliadau’n cynnwys:
Bodelwyddan, Carrog, Cefn Meiriadog, Corwen, Dinbych, Dyserth, Henllan, Llandyrnog, Llanferres, Llangollen, Gallt Melyd, Prestatyn, Rhuallt, Rhuddlan, y Rhyl, Rhuthun, Llanelwy a Threfnant.
Bydd angen i rieni neu warcheidwaid plant chwe blwydd oed a hŷn gofrestru eu plant ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae cyn y gallant fynd i’r sesiynau. Nid oes angen cofrestru plant dan chwech oed.
Mae’r sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ wedi’u llunio mewn modd sy’n galluogi plant i ddewis beth yr hoffent ei wneud neu pa offer i’w defnyddio. Mae’r holl sesiynau’n gwbl gynhwysol a gellir rhoi gwybod am unrhyw anghenion wrth gofrestru’ch plentyn ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae.
Mae sesiynau Beth am Chwarae Allan yn cynnig cyfleoedd chwarae mynediad agored dan arweiniad plant lle gallant gael hwyl, gwneud ffrindiau, a dewis eu gweithgareddau neu offer eu hunain. Mae gennym bolisi mynediad agored ar gyfer y sesiynau hyn sy’n golygu y bydd rhwydd hynt i bobl ifanc adael y sesiwn ar unrhyw adeg.
Meddai Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae Sir Ddinbych:
“Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein hamserlen ar gyfer y sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ dros hanner tymor mis Hydref.
Mae’r cynnig dros hanner tymor yn cynnwys 18 lleoliad o amgylch Sir Ddinbych rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Cynhelir y sesiynau mewn rhannau gwahanol o’r Sir.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Teuluoedd, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ yn rhoi cyfle i deuluoedd o bob rhan o Sir Ddinbych i fwynhau sesiynau chwarae am ddim trwy gydol hanner tymor mis Hydref.
Mae pob sesiwn yn gwbl gynhwysol a dan arweiniad y plant, gan olygu gall y plant benderfynu sut maent eisiau chwarae a pha offer maent yn eu defnyddio.
Mae pob sesiwn yn rhad ac am ddim a gall teuluoedd gofrestru ar-lein ymlaen llaw neu droi fyny a chofrestru wrth gyrraedd.”
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/.../play-ranger-service.aspx