Cynhadledd Bionet: Dolydd Difyr
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dolydd a glaswelltir cynhenid? Ydych chi’n berchen ar dir neu’n ei reoli, ac eisiau rhoi hwb i adferiad byd natur a gwytnwch rhag yr hinsawdd?
Os felly, bydd Cynhadledd Bionet eleni: Dolydd Difyr yn ddelfrydol i chi.
Ymunwch â ni wrth dreulio diwrnod llawn yn canolbwyntio ar y cynefinoedd rhyfeddol hyn – beth ydyn nhw, pam eu bod o bwys a sut i’w rheoli er mwyn cael yr effaith fwyaf bosib. Byddwn yn ymchwilio’n fanwl i’r rhan hollbwysig y maent yn ei chwarae wrth gynnal bywyd gwyllt a hybu gwytnwch rhag yr hinsawdd ac yn rhannu astudiaethau achos o’r byd go iawn sy’n enghreifftiau o ddulliau rheoli effeithiol.
Yn ogystal â chyflwyniadau diddorol a chyfleoedd i rwydweithio, bydd yno hefyd stondinau difyr ar y diwrnod a Seremoni Wobrwyo Flynyddol Bionet.
Dydd Iau 5 Chwefror 2026
Venue Cymru, Llandudno
I gadw lle, ewch i’r dudalen Eventbrite yma - https://www.eventbrite.co.uk/e/marvellous-meadows-dolydd-diddorol-tickets-1975790457445?aff=oddtdtcreator