Prosiect ymestyn ysgol yn Rhuddlan yn cymryd cam ymlaen
Mae gwaith ar brosiect ymestyn ystafelloedd dosbarth Ysgol y Castell wedi cymryd cam ymlaen yn y ddau ddosbarth cyntaf gan fod y sgaffald yn ei le ar gyfer parhau â’r gwaith eleni.
Waliau allanol y ddau ddosbarth cyntaf
Yn ystod y prosiect, bydd Ysgol y Castell yn derbyn uwchraddiadau gofod ychwanegol mewn pedwar o'i hystafelloedd dosbarth presennol yn ogystal â gwaith gwella ynni.
Dechreuodd cam cyntaf y prosiect yn 2025, ac mae gwaith lleihau ynni pellach wedi'i gynllunio ar gyfer ail gam y gwaith.
Mae gwaith yn cael ei wneud ar waliau allanol y ddau ddosbarth cyntaf ar hyn o bryd, fydd yn cael eu rendro fel rhan o’r gwaith prosiect yn nes ymlaen.
Ar ôl gorffen y gwaith brics allanol, bydd y pwyslais yn symud ar y gwaith coed ar gyfer y to fflat a chynllunio’r ffenestri to.
Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar y ddau ddosbarth cyntaf ar hyn o bryd, cyn symud i’r set nesaf o ddosbarthiadau i gael eu hymestyn. Disgwylir i’r ddau ddosbarth cyntaf gael eu cwblhau erbyn diwedd y gwanwyn eleni.
Bydd buarth yr ysgol yn cael ei ail wneud hefyd a bydd y gwaith o roi wyneb newydd yn dechrau tuag at ddiwedd y prosiect.
Bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod i 4 ystafell ddosbarth, gan greu estyniad o 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion, a byddwn yn gweld cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.
Disgwylir i’r cam cyntaf gael ei gwblhau yn ystod y gaeaf.
Gwaith ar yr ysgol
Mae cam cyntaf y prosiect wedi cael arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Mae 35% o’r cyllid sy’n weddill wedi dod yn bennaf o gyfraniad datblygwr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae’n braf gweld y gwaith ar y prosiect hwn yn symud ymlaen. Mae’n estyniad sydd wirioneddol ei angen a bydd yn dod â budd i genedlaethau o ddisgyblion yn ardal Rhuddlan, gyda mwy o le a chyfleusterau dysgu gwell.
Mae’r gwaith yn dod yn ei flaen yn dda, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld sut fydd y ddau ddosbarth cyntaf yn edrych erbyn diwedd y gwanwyn”.