Cefnogi Adar Sir Ddinbych

Fedrwch chi roi awr y penwythnos yma i helpu i gefnogi adar Sir Ddinbych a’r DU?

Fedrwch chi roi awr y penwythnos yma i helpu i gefnogi adar Sir Ddinbych a’r DU?

O ddydd Gwener yma (23 Ionawr) tan ddydd Sul (25 Ionawr), mae’r RSPB yn cynnal eu harolwg Gwylio Adar yr Ardd.

Mae’r ymgyrch flynyddol hon wedi’i chynnal ers dros ddeugain o flynyddoedd, i annog pobl o bob oedran i dreulio awr yn eu gardd neu barc lleol i gyfrif faint o wahanol rywogaethau adar sy’n glanio gerllaw.

Yn ystod yr hanner canrif diwethaf mae oddeutu 38 miliwn o adar wedi diflannu o’r awyr yn y DU, gyda gostyngiad mawr mewn rhywogaethau amlwg fel adar y to a drudwy.

Gall trigolion Sir Ddinbych sy’n awyddus i gynnig help llaw i gefnogi adar lleol, ond sydd heb ardd gefn, fynd i un o’r parciau a gwarchodfeydd natur niferus sydd yn y sir.

Meddai Uwch Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, Liam Blazey: “Ar draws y sir, efallai y gwelwch chi adar fel titw cynffon hir (sy’n symud o gwmpas mewn heidiau bychain), y llinos aur, drudwy (sy’n ffurfio heidiau mawr iawn dros y gaeaf ac yn perfformio arddangosfeydd awyr a elwir yn furmuriadau) a thresglen goch (sy’n perthyn i’r fwyalchen ac yn bridio yng ngogledd Ewrop, ac yn ymweld â ni dros y gaeaf).

“Os ydych chi’n rhoi eich amser i gefnogi’r ymgyrch wych hon yn eich gardd gefn, efallai y gwelwch chi rai o’n hymwelwyr cyffredin fel y titw glas, titw mawr a robin goch.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’n hanfodol ein bod ni’n olrhain cyflwr poblogaethau adar lleol er mwyn i ni allu helpu’r adar sydd wedi gweld gostyngiad yn eu niferoedd. Gall cymryd rhan yn yr arolwg hwn helpu i ddiogelu holl boblogaethau adar y sir a’r DU.”

I gyflwyno eich canfyddiadau, mewngofnodwch i https://www.rspb.org.uk/cy-gb/whats-happening/big-garden-birdwatch.

 

 

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw