Digwyddiad i glirio effaith sbwriel morol Prestatyn

Mae galwad wedi mynd allan ar gyfer gwirfoddolwyr sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gefnogi eu harfordir lleol.
Mae Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych yn arwain ymgyrch glanhau sbwriel morol ar Draeth Prestatyn ar Ionawr 19, o 3pm nes 4pm.
Bydd y digwyddiad yn helpu i leihau sbwriel morol ar y traeth, a all rwystro dyfrffyrdd a draeniau, rhwystro llif dŵr ac achosi llifogydd lleol yn bellach i fyny’r ffrwd.
Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Drwy dynnu sbwriel morol, rydym hefyd yn helpu i gefnogi amddiffynfeydd naturiol yr ardal. Mae traethau glanach ac amgylcheddau arfordirol iach yn cynnwys twyni a gwelyau o forwellt, yn gallu cynnal eu swyddogaethau naturiol yn well fel amddiffynfeydd môr.”
“Mae cynnal yr ymgyrch hon hefyd yn rhoi cyfle i wella edrychiad ein traethau i breswylwyr ac ymwelwyr, ac yn helpu i roi cymorth llaw i fyd natur lleol drwy dynnu elfennau megis plastig, a allai fod yn niweidiol i fywyd gwyllt.”
Ychwanegodd: “Mae croeso i unrhyw un sy’n dymuno gwneud eu rhan ar gyfer eu traeth lleol ym Mhrestatyn, a helpu’r amgylchedd gwych hwn, yn ogystal â lleihau’r perygl o lifogydd, i ymuno â ni.
Bydd digwyddiad Glanhau Traeth Prestatyn yn cwrdd ym maes parcio Dwyreiniol Canolfan Nova, ger yr arwydd Clawdd Offa, am 3pm.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Mae rheoli’r perygl o lifogydd lleol rhag effeithiau sbwriel morol yn golchi i fyny ar draethau’r sir yn bwysig iawn. Mae’n fuddiol i les ein preswylwyr a’r bobl sy’n ymweld â’r ardaloedd hyn, a’r bywyd gwyllt a ganfyddir ar y traethau, a byddaf yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i ymuno â ni.”
Am fwy o fanylion, cysylltwch â claudia.smith@denbighshire.gov.uk/07785517398