Disgyblion cynradd yn helpu i greu cynefin natur newydd yn yr ysgol
Mae nifer o ddisgyblion wedi torchi eu llewys i greu cynefin newydd i helpu byd natur yn eu hysgol.

Mae nifer o ddisgyblion wedi torchi eu llewys i greu cynefin newydd i helpu byd natur yn eu hysgol.
Dan arweiniad tîm Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych, mae disgyblion Ysgol Llywelyn wedi helpu i blannu dros 700 o goed gwahanol.
Cafodd y gwaith ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025/26, sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.
Gyda chefnogaeth staff y Cyngor, mae’r plant wedi plannu gwrychoedd a choed ar dir yr ysgol.
Roedd y coed yn cynnwys gwern, bedw cyffredin, rhuddwernenni, masarn bach, coed celyn a choed eirin-geirios.
Ar ôl iddynt sefydlu, bydd y coed cyll sydd wedi’u plannu gan y plant yn eu helpu i ddysgu sut mae’r rhywogaeth yn darparu bwyd i wyfynod a gloÿnnod byw a lloches i adar sy’n nythu ar y llawr fel dryw’r helyg a bras melyn.
Bydd y rhai bach hefyd yn dysgu sut mae coed cyll yn ffynhonnell werthfawr o neithdar cynnar ar gyfer gwenyn a chnau ar gyfer mamaliaid bach fel gwiwerod a phathew’r cyll (sydd wedi’i enwi oherwydd ei gysylltiad â choed cyll).
Mae rhan fwyaf o’r cynefin wedi’i orchuddion gyda’r ddraenen wen, sydd hefyd wedi’u plannu gan y disgyblion, a bydd y blodau llawn neithdar yn cefnogi pryfed peillio a’r aeron yn darparu bwyd i adar.
Plannwyd un deg saith o goed ffrwythau i greu perllan ysgol. Mae’r coed ffrwythau oll yn rhywogaethau lleol Cymreig, fel afal Rhyl Beauty ac eirin Dinbych, i helpu i warchod y rhywogaethau lleol a phrin yma yn eu hardal, er budd ein diwylliant a’n bioamrywiaeth.

Yn ogystal â bod yn gyfle i’r plant ddysgu am fyd natur lleol mae’r cynefin hefyd yn ardal a fydd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn lleol, diolch i’r holl goed ychwanegol sydd wedi’u plannu.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn hynod ddiolchgar i ddisgyblion Ysgol Llywelyn am eu cefnogaeth wych i helpu ein staff i greu’r ardal benigamp hon ar gyfer byd natur lleol ac er budd lles ac addysg y plant sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect.”