Gwaith teithio llesol yn dechrau yn Llangollen
Nod y gwaith yw cynyddu lefelau teithio llesol yn Llangollen, trwy greu llwybrau cerdded mwy diogel.

Mae gwaith wedi dechrau i wella'r llwybrau cerdded yn Llangollen.
Llwyddodd Cyngor Sir Dinbych i sicrhau cyllid grant gan gronfa Teithio Lesol Llywodraeth Cymru i wella rhai o'r llwybrau cerdded yn ardaloedd Stryd y Nant a Phengwern yn Llangollen.
Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn ei le i leihau nifer y teithiau byr bob dydd a wneir mewn cerbydau modur ac i gynyddu lefelau teithio llesol.
Nod y gwaith hwn fydd cynyddu lefelau teithio llesol yn Llangollen, trwy greu llwybrau cerdded mwy diogel i gyfleusterau lleol allweddol fel ysgolion a chanol y dref.
Bydd y gwelliannau, a fydd yn digwydd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, yn cynnwys lledu llwybrau troed lleol, gwelliannau i groesfannau cerddwyr a gwaith i wella cyffyrdd, a byddant yn cael eu cyflawni gan Pronin Cyf.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:
“Mae cyflwyno cyfres o welliannau teithio llesol newydd yn ychwanegiad croesawgar i Langollen. Nid yn unig y mae teithio llesol yn creu llwybrau cerdded mwy diogel i’n defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed fel yr henoed a phlant, ond bydd hefyd yn annog trigolion i leihau eu hôl troed carbon trwy ddewis cerdded yn hytrach na gyrru pellteroedd byr.”
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r cynllun, cysylltwch â Chyngor Sir Dinbych drwy walkingandcycling@denbighshire.gov.uk neu 01824 706000.