NEWYDDION

Ffyrdd Clyfar a Chynaliadwy o gael gwared ar eich Coeden Nadolig

A oeddech chi’n gwybod bod ffyrdd cynaliadwy o gael gwared ar eich Coeden Nadolig ar ôl i’r holl ddathlu ddod i ben?

A oeddech chi’n gwybod bod ffyrdd cynaliadwy o gael gwared ar eich Coeden Nadolig ar ôl i’r holl ddathlu ddod i ben?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i gael gwared ar eu coeden Nadolig yn briodol, boed a yw’n goeden go iawn neu’n artiffisial.

Os oes gennych goeden artiffisial, argymhellir eich bod yn ei defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn er mwyn helpu i leihau gwastraff. Pan fyddwch yn penderfynu cael gwared ar eich coeden artiffisial, gallwch fynd â hi i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.

Gallwch ailgylchu coed go iawn drwy ddefnyddio’r bin gwyrdd ar olwynion (os oes gennych danysgrifiad gwastraff gardd). Sicrhewch eich bod yn torri’r goeden yn gyntaf i wneud yn siŵr ei bod yn ffitio yn eich bin. Os nad ydych yn gallu rhoi eich coeden yn eich bin, gallwch fynd â choed go iawn i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol er mwyn eu gwaredu.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae dathlu tymor y Nadolig gyda Choed Nadolig a’u haddurno yn aml yn uchafbwynt i lawer o deuluoedd dros gyfnod yr Ŵyl.  Pan fydd yn amser i chi gael gwared ar eich coeden, cofiwch ddefnyddio’r sianeli cywir a fydd o gymorth i leihau gwastraff dros gyfnod y Nadolig”.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i.

 

Hwb cymunedol Bryneglwys yn agor

Mae gwaith wedi’i gwblhau i drosi hen ysgol segur yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen.

Mae gwaith wedi’i gwblhau i drosi hen ysgol segur yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen.

Ar ôl cau Ysgol Bryneglwys yn 2014, daeth grŵp o wirfoddolwyr o’r pentref at ei gilydd i sicrhau y gallai ased cymunedol a fu’n werthfawr un tro fod yn rhan annatod o’r gymuned eto.

Ffurfiodd y grŵp o breswylwyr Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) gan ennill statws elusen ym mis Ebrill 2020. Y nod oedd trosi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen. 

Ar 19 Ionawr 2023, cafodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad bod £10.95 miliwn wedi’i ddyfarnu iddo gan Lywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd gynt i gefnogi datblygu 10 prosiect sydd â’r nod o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, lles ei phobl a’i chymunedau gwledig.

Roedd y prosiect yn un o’r 10 a gafodd eu cynnwys yng nghais y Cyngor i Lywodraeth y DU ac o ganlyniad, cafodd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) £327,000 o’r cyllid gan Lywodraeth y DU i adnewyddu hen ysgol y pentref a chafwyd £65,000 arall gan Gronfa Ffermydd Gwynt Clocaenog tuag at y prosiect.

Ar ôl cael cyllid ar gyfer y prosiect, penododd CCIA Adever Constructioni wneud y gwaith gwella.

Roedd y gwaith yn cynnwys tynnu asbestos o’r adeilad, cynnal profion aer glân a rendro’r tu allan i’r adeilad, â’r bwriad o drosi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol gyda chaffi, a lle i gynnal digwyddiadau cymunedol ar gyfer preswylwyr Bryneglwys.

Dywedodd Pat Downes, Cadeirydd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA):

“Cafodd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) ei ffurfio fel elusen ag un nod, sef trosi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen. Mae wedi bod yn llawer o waith caled ac mae gymaint o bobl wedi ein helpu ni dros y blynyddoedd. Bu llawer o waith tîm wrth i ni gyflawni’r prosiect hwn.

“Mae’n gyfnod cyffrous, nid yn unig i CCIA ond i’r pentref cyfan sydd wedi bod yn edrych ymlaen at gael y cyfleuster hwn. Bydd agor y canolbwynt cymunedol yma ym Mryneglwys yn cynnig cyfle i breswylwyr ddod at ei gilydd yn rheolaidd yn y caffi newydd, a byddwn ni’n gallu darparu lle i gynnal digwyddiadau fel cyngherddau. Bydd modd llogi’r canolbwynt cymunedol ar gyfer digwyddiadau preifat hefyd.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’n gyffrous bod Cyngor Sir Ddinbych wedi gallu cefnogi’r gymuned hon i gyflawni eu dyheadau. Mae canolbwyntiau fel rhain yn chwarae rôl hanfodol wrth ddod â’r preswylwyr at ei gilydd ac rydym wrth ein boddau bod gwaith wedi’i gwblhau mewn pryd ar gyfer y Nadolig!

Cadwch y dyddiad i gofrestru ar gyfer gwastraff gardd

Bydd garddwyr Sir Ddinbych sy’n defnyddio’r gwasanaeth tanysgrifio ar gyfer gwastraff gardd yn gallu adnewyddu eu casgliadau ym mis Ionawr. 

Bydd cyfnod tanysgrifio presennol 2025/2026 ar gyfer y gwasanaeth hwn yn cau ar 19 Rhagfyr. Bydd y cyfnod adnewyddu ar gyfer 2026 i 2027 yn agor o 12 Ionawr i wneud yn siŵr bod digon o amser i bawb gofrestru cyn y bydd cyfnod newydd y gwasanaeth yn dechrau o 1 Ebrill.

Ni fydd preswylwyr yn gallu cofrestru ar gyfer y gwasanaeth 12 mis newydd cyn y dyddiad hwn.

Mae’r Cyngor yn annog preswylwyr sy’n cofrestru am y tro cyntaf i fanteisio ar y cyfnod cofrestru hwn fel eu bod yn cael budd llawn o’r gwasanaeth 12 mis.

Mae Sir Ddinbych yn cynnig y gwasanaeth bob pythefnos fel ffordd ddewisol a chost effeithiol o ailgylchu gwastraff gardd. Mae angen y tâl tanysgrifio fel bod y Cyngor yn gallu darparu’r gwasanaeth anstatudol hwn.

Cost y gwasanaeth fydd:

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae arnom eisiau gwneud yn siŵr bod ein preswylwyr sydd eisiau defnyddio’r gwasanaeth hwn yn cael digon o rybudd i gofrestru ar gyfer y cyfnod 12 mis newydd neu i adnewyddu. 

“Os oes arnoch eisiau defnyddio’r gwasanaeth, cadwch y dyddiad a chofrestrwch cyn gynted ag y gallwch o 12 Ionawr ymlaen i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei brosesu mewn da bryd.”

Ewch i dudalen we’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yma i gael mwy o wybodaeth. 

Parc gwledig Bodelwyddan yn dathlu ailagor i’r cyhoedd

Dechreuodd gwaith ar y safle yn 2022.

Cynhaliwyd seremoni’n ddiweddar i nodi agoriad swyddogol y safle ers i’r gwaith ddechrau yn 2022.

Wedi’i leoli wrth droed castell hanesyddol Bodelwyddan, dathlodd y safle ei agoriad swyddogol yn dilyn cwblhau cam cyntaf y gwaith.

Agorodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, Arwel Roberts y parc gwledig yn swyddogol yn y seremoni.

Cafodd y prosiect £900,000 gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyda’r bwriad o ymdrin â chyflwr y parcdir, gan ddechrau yn 2022.

Fel rhan o’r gwaith i ailagor y parcdir, y coedwigoedd a’r perllannau i’r cyhoedd, mae bron i filltir a hanner o lwybrau calchfaen newydd sy’n addas i bobl anabl yn nadreddu o waelod y parcdir i fyny at y coetir ym mhen uchaf y safle. 

Er mwyn gwneud lle i’r ymwelwyr sy’n dychwelyd, crëwyd maes parcio newydd â lle i 73 o geir ger y fynedfa isaf oddi ar yr A55 a phenodwyd ceidwad cefn gwlad llawn amser â chyllideb benodol ar gyfer rheoli a chynnal a chadw’r parc.

Plannwyd gwrychoedd ar hyd y ffens derfyn i gefnogi natur yn y parcdir ac mae mynediad i geirw mewn rhai rhannau ohoni.  Cafodd ffensys amddiffynnol arbennig eu hadeiladu yn y coetir i amddiffyn ardaloedd o goed a phlanhigion yn cynnwys yr hen Berllan Fictoraidd rhag ceirw er mwyn i rywogaethau penodol ffynnu’n gryfach yn y dyfodol.

Cafodd gwaith ei wneud i gadw’r ffosydd hanesyddol o’r Rhyfel Byd Cyntaf ym mhen uchaf y parcdir gyda ffensys newydd i amddiffyn y safle.  

Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys creu 19,000m² o fannau gwyrdd, 2km o lwybrau, plannu 7,150 o goed a gosod sawl bwrdd dehongli ar hyd y llwybrau i egluro’r tir o amgylch.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:  

“Mae agor y parc hwn yn garreg filltir wych i’r prosiect. Hoffwn gydnabod gwaith caled ein tîm cefn gwlad sydd wedi gweithio’n ddiflino i ymdrin â chyflwr y parc fel ein bod mewn sefyllfa i’w agor i’r cyhoedd.

“Fe fydd adnewyddu’r parcdir yn rhoi cefnogaeth hollbwysig y mae ein bywyd gwyllt lleol ei angen i oroesi wrth symud ymlaen a bydd hefyd yn rhoi lle gwych i breswylwyr ac ymwelwyr â Sir Ddinbych i ymweld i brofi’r natur sydd gan ein Sir i’w gynnig.”

Safonau Masnach Sir Ddinbych yn cynnal digwyddiadau llwyddiannus i brofi blancedi trydan am ddim

Cynigiwyd profion blancedi trydan am ddim a blancedi newydd am ddim i drigolion y gaeaf diwethaf.

Cynigiodd Gwasanaeth Safonau Masnach Sir Ddinbych brofion blancedi trydan a phlancedi trydan am ddim y gaeaf hwn. 

Cynhaliwyd y profion rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror mewn tair ardal leol yn y sir.

Yn ystod y 3 sesiwn, methodd 77% o’r blancedi trydan a brofwyd. Un o’r prif resymau am hynny oedd oedran y blancedi, roedd llawer ohonynt dros 20 oed, ac roedd un yn 50 oed!

Rheswm arall pam eu bod yn methu oedd bod yr elfennau cynhesu yn y blancedi yn dod yn rhydd ac yn cronni mewn un rhan o’r flanced, sy’n achosi perygl o dân.  

Diolch i’r cyllid oedd y gwasanaeth Safonau Masnach wedi’i gael, cafodd preswylwyr yr oedd eu blancedi wedi methu’r prawf flanced newydd sbon yr un maint. 

Mae tua 43 o danau’r flwyddyn yn cael eu hachosi gan flancedi trydan diffygiol yn y cartref. Dylid eu cadw’n fflat, wedi’u rholio neu eu plygu’n llac rhag difrodi’r gwifrau mewnol a dylid cael blanced newydd bob 10 mlynedd o leiaf.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae amddiffyn cwsmeriaid yn faes blaenoriaeth i’r adran Gwarchod y Cyhoedd. Mae’n anorfod y bydd y cynnyrch hwn yn gwisgo ac mae blancedi trydan diffygiol yn achosi perygl sylweddol o dân. Mae’n braf gweld bod preswylwyr wedi manteisio ar y cyfle i brofi’r eitemau hyn. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y gwaith hwn yn y dyfodol.”

Cofiwch ailgylchu’r Nadolig hwn

Gan fod y Nadolig yn agosáu ac wrth i’r addurniadau gael eu rhoi i fyny a’r anrhegion yn cael eu lapio, mae’r Cyngor yn annog preswylwyr i gofio ailgylchu dros y gwyliau. 

Gan fod y Nadolig yn agosáu ac wrth i’r addurniadau gael eu rhoi i fyny a’r anrhegion yn cael eu lapio, mae’r Cyngor yn annog preswylwyr i gofio ailgylchu dros y gwyliau. 

O fwyd Nadoligaidd i’r anrhegion perffaith, mae hi’n amser da i lunio rhestr ar gyfer ailgylchu. 

Isod y mae rhestr o eitemau Nadoligaidd poblogaidd a beth y gall preswylwyr eu gwneud gyda nhw. 

  • Nid oes modd ailgylchu papur swigod plastig, dylid ei roi yn y bin gwastraff cyffredinol neu ei ailddefnyddio i lapio pethau gwerthfawr sy’n cael eu storio neu eu postio.
  • Mae angen rhoi tâp, tâp trydanol, tâp selo a thâp parsel yn y bin gwastraff cyffredinol.
  • Gall addurniadau Nadolig gael eu defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn neu eu rhoi i siopau elusen lleol neu ysgolion ar gyfer sesiynau crefft. Dylai unrhyw addurniadau sy’n anaddas i’w hailddefnyddio gael eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol.
  • Os nad oes gliter neu ffoil ar eich papur lapio, fel rheol, fe ellir ei roi yn eich blwch uchaf.  Tynnwch unrhyw dâp gludiog, rhubanau a chlymau i ffwrdd yn gyntaf. Gallwch ddefnyddio’r ‘prawf crensian’ papur lapio fel ffordd o wirio a sicrhau.  Os ydych chi’n crensian y papur yn eich llaw ac os ydyw’n aros mewn pêl, fe allwch ei ailgylchu, os nad yw’n aros fel pêl, bydd angen i chi ei roi yn eich bin gwastraff glas/du ar gyfer nwyddau na ellir eu hailgylchu.
  • Cardiau Nadolig – Rhwygwch y rhubanau neu adrannau o gliter i ffwrdd a rhowch y cardiau i mewn gyda’r papur i’w ailgylchu. Gall batris o gardiau sain fynd i mewn yn eich blwch batris.
  • Gellir ailgylchu deunydd pecynnu plastig gan ddefnyddio blwch canol y Trolibocs neu'r sach ailgylchu goch ar gyfer plastig.
  • Gellir cymryd plastigion meddal megis caeadau cynwysyddion bwyd neu fagiau plastig i fannau ailgylchu yn eich archfarchnad leol. 
  • Ailgylchwch ganiau alwminiwm gwag ym mlwch canol y Trolibocs neu’r sach ailgylchu goch neu’r Ganolfan Ailgylchu a Gwastraff agosaf.
  • Gellir ailgylchu unrhyw boteli neu jariau gwydr ym mlwch gwaelod y Trolibocs neu’r bag gwyrdd ar gyfer gwydr.  Tynnwch unrhyw gaeadau plastig neu fetel oddi ar boteli gwydr a'u rhoi yn y blwch canol neu'r bag coch.
  • Gellir ailgylchu poteli plastig gan ddefnyddio blwch canol y Trolibocs neu'r sach goch ar gyfer plastig.
  • Rhaid rhoi’r holl wastraff bwyd yn y cadi bwyd oren ac nid yn y cynwysyddion gwastraff cyffredinol.
  • Cofiwch ailgylchu batris cartref gan ddefnyddio’r cynhwysydd priodol ar gyfer eich gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff. Peidiwch â rhoi’r rhain yn y cynwysyddion gwastraff cyffredinol gan y gallant achosi tanau.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae cyfnod y Nadolig yn amser prysur iawn i’n timau gwastraff ac ailgylchu, ond fe wyddom fod ein preswylwyr yn eu cefnogi nhw gan ddefnyddio’r opsiynau cywir i ailgylchu eu heitemau Nadolig.

“Drwy gydol y flwyddyn mae preswylwyr yn wych am ailgylchu yn Sir Ddinbych ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw unwaith eto am eu cefnogaeth dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Os nad ydych chi’n siŵr beth sy’n mynd i ble, gallwch wirio canllaw ailgylchu A i Y ar y wefan.

 

Y Cabinet yn cytuno ar Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Corwen a Dinbych

Cytunodd cabinet Cyngor Sir Ddinbych i fabwysiadu’r Cynlluniau Creu Lleoedd terfynol ar gyfer Corwen a Dinbych.

(Neuadd y Sir)

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i fabwysiadu’r Cynlluniau Creu Lleoedd terfynol ar gyfer Corwen a Dinbych.

Yn y cyfarfod heddiw (16 Rhagfyr), ystyriodd yr aelodau’r cynlluniau a’u cymeradwyo. Mae’r cynlluniau’r gosod gweledigaeth glir ar gyfer adfywio canol trefi, gwella mannau cyhoeddus a chreu lleoedd ffyniannus, cynaliadwy i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Nod Cynlluniau Creu Lleoedd yw gwella lleoliad a sicrhau bod pob agwedd sy’n gwneud lleoliad yn lle gwych i fyw, i weithio ynddo ac ymweld ag ef yn cael eu hystyried.  Yn unol â Siarter Creu Lleoedd Comisiwn Dylunio Cymru, mae’r cynlluniau’n croesawu pob un o’ch chwe egwyddor: symudiad, defnydd cymysg, parth cyhoeddus, hunaniaeth, cydweithio ac iechyd a lles.

Gyda chefnogaeth gan gyllid o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, comisiynwyd Urbanists gan Gyngor Sir Ddinbych ym mis Ionawr 2024 i helpu i lunio Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Corwen a Dinbych, oedd yn golygu adolygu a deall data penodol am y trefi drwy ddadansoddiad masnachol, ymgysylltu â budd-ddeiliaid a rhoi gweithgareddau allweddol ar waith.

Lluniwyd y cynnig drwy ymgysylltu’n helaeth â’r gymuned a chynhaliwyd sesiynau galw heibio yn llyfrgelloedd Dinbych a Chorwen yn gynharach eleni i gasglu barn ac adborth pobl leol am y strategaethau drafft.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:  

“Caiff ein trefi eu siapio gan y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw, ac mae eu barn yn helpu i ddiffinio gweledigaeth y cynlluniau hyn ar gyfer y dyfodol yn eu trefi perthnasol.

“Mae Cynlluniau Creu Lleoedd yn adnodd annatod yng Nghymru, i sicrhau bod arfer gorau’n cael ei ddefnyddio wrth ddatblygu lleoedd yn y dyfodol a’u bod yn cysylltu’n agos â pholisïau ac arferion allweddol yng Nghymru.  Mae penderfyniad y Cabinet heddiw yn enghraifft o ymrwymiad y Cyngor i’r polisïau hyn ac i ddatblygu ein trefi yn y dyfodol.” 

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r ddau gyngor tref sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu’r cynlluniau yma”.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn myfyrio ar flwyddyn o gefnogi pobl leol

Wrth i 2025 ddod i ben, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn tynnu sylw at y gwahaniaeth a wnaed i unigolion a theuluoedd ledled y sir. Trwy ymdrechion cydweithredol gyda phartneriaid a chymunedau, mae cannoedd o drigolion wedi cael mynediad at hyfforddiant, cymorth cyflogaeth a chyfleoedd i wella eu sgiliau a’u hyder.

Roedd eleni hefyd yn garreg filltir gyffrous wrth i Sir Ddinbych yn Gweithio gael ei dewis fel rhan o beilot ‘Trailblazer’ y DU. Mae hyn yn caniatáu i Sir Ddinbych yn Gweithio 'hybu' ei ddarpariaeth gan ganolbwyntio ar ei genhadaeth graidd a dulliau newydd ac arloesol o gefnogi cyflogaeth a sgiliau, i helpu pobl leol i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu nodau.

Mae rhai o uchafbwyntiau 2025 yn cynnwys:

  • Ymgysylltu â’r Gymuned: Cefnogi mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol nag erioed o’r blaen, gan greu mannau i bobl gysylltu â dysgu.
  • Cymorth i Aelwydydd: Cafodd cannoedd o aelwydydd gymorth wedi’i deilwra, gan helpu teuluoedd i oresgyn rhwystrau a chael mynediad at wasanaethau hanfodol.
  • Sgiliau ac Addysg: Twf sylweddol mewn cyfleoedd ailhyfforddi ac addysg, gan agor drysau at yrfaoedd a chymwysterau newydd.
  • Cyflogaeth a Hyder: Mae llawer o drigolion wedi sicrhau cyflogaeth, ennill cymwysterau, a nodi gwelliant mewn hyder a chyflogadwyedd.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych a’r Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Mynd i’r Afael ag Amddifadedd:

“Mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Sir Ddinbych yn Gweithio i fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth a chreu cyfleoedd i bawb.

“Drwy ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, meithrin hyder ac ymgysylltu â’r gymuned, mae’r rhaglen yn parhau i wneud gwahaniaeth pendant ym mywydau pobl.”

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol:

“Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn garreg filltir wirioneddol i Sir Ddinbych yn Gweithio. Yn ogystal â chefnogi unigolion a theuluoedd, rydym wedi manteisio ar gyfleoedd newydd i arloesi fel rhan o beilot ‘Trailblazer’ y DU.

“Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y flwyddyn i ddod.”

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn anelu at adeiladu ar y momentwm hwn yn y flwyddyn i ddod, gyda chynlluniau i ehangu cyfleoedd gwirfoddoli, cryfhau cymorth mewn gwaith, a pharhau i fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a chyfleoedd yn y dyfodol, ewch i Sir Ddinbych yn Gweithio ar ein gwefan neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd fwyaf dan anfantais yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Mae nythfa adar sydd wedi ei lleoli yn Sir Ddinbych yn parhau i helpu môr-wenoliaid bach

Mae nythfa adar enwog yn Sir Ddinbych wedi dathlu un mlynedd ar hugain o gefnogi ymwelydd haf prin

Delwedd gan David Woodfall

Mae nythfa adar enwog yn Sir Ddinbych wedi dathlu un mlynedd ar hugain o gefnogi ymwelydd haf prin.

Mae eleni yn nodi un mlynedd ar hugain ers i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ddechrau rheoli’r nythfa fôr-wenoliaid bach yn Nhwyni Gronant.

Hon yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru. Mae’n adnabyddus yn rhyngwladol gan ei bod yn cyfrannu tuag at dros 10% o gyfanswm poblogaeth fridio y DU, ac mae’n cefnogi nythfeydd eraill.

Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân ar safle gwarchodedig sydd wedi’i baratoi ym mis Ebrill gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr.  Maent yn dechrau hedfan yn ôl tua’r de ddiwedd mis Awst.

Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 wy. Mae môr-wenoliaid yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, ac maent yn pysgota amdanynt ar y môr.

Codwyd deuddeg o gorlannau ffensys trydan a ffens strap ar hyd ochr y nythfa tua’r tir i warchod y môr-wenoliaid bach sy’n bridio.

Gosodwyd ffens hefyd i atal y cyhoedd rhag mynd at y nythfa a tharfu arni. Fodd bynnag gallai’r cyhoedd alw heibio canolfan wylio dros dro a chuddfan adar i ddod i wybod mwy a gweld yr adar o bell.

Helpodd tîm o wardeiniaid ar y safle i gadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr – cudyllod coch a hebogiaid tramor yn bennaf, yn ogystal â siarad gyda’r nifer o ymwelwyr sy’n dod i Gronant bob blwyddyn.

Y tymor hwn cofnodwyd 95 o barau bridio a chyfanswm o 103 o adar ifanc, gostyngiad ar nifer yr ifanc a welwyd yn ystod tymor 2024 o ganlyniad i ffactorau gan gynnwys ysglyfaethu, y tywydd sych garw a chollwyd nifer fechan y tu allan i’r corlannau o ganlyniad i lanw’r gwanwyn ac ysglyfaethwyr eraill.  

Fodd bynnag cafwyd 1.08 o adar ifanc i bob pâr bridio a oedd yn gynnydd bach o’i gymharu â ffigyrau’r llynedd.

Gweithiodd y wardeiniaid hefyd gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain i fodrwyo nifer o’r adar er mwyn eu holrhain yn y dyfodol.  Fe aethant ati i helpu i fodrwyo 59 o gywion gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (modrwyau metel a chafodd naw arall eu modrwyo gyda modrwyau lliw).

Croesawodd canolfan ymwelwyr y Môr-wenoliaid bach 883 o ymwelwyr i’r mannau gwylio dynodedig ac ymgysylltodd 175 o bobl â’r prosiect drwy deithiau ac ymweliadau â’r safle.  Bu gwirfoddolwyr Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Grŵp Modrwyo Glannau Mersi yn gweithio am gyfanswm o 1085.5 awr trwy gydol y tymor.

Mae’r staff Cefn Gwlad yn gweithredu polisi ‘gadael dim ar ôl’ ar safle’r nythfa ac felly mae’r holl gyfarpar yn cael ei symud a’i gadw’n ddiogel tan y gwanwyn.

Dywedodd Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad a Rheolwr Rhandiroedd Sirol:  “Rydym yn falch o fod wedi ymwneud â’r prosiect hwn am dros 20 mlynedd sy’n llawer mwy na diogelu aderyn môr hynod o brin. Mae cyfranogiad gwirfoddolwyr yn y nythfa yn parhau i fod yn uwch nac unrhyw weithgaredd arall a gynigir gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad ac mae wedi bod yn wych unwaith eto i weld ysgolion lleol a grŵp preswyl yn ymweld â’r nythfa. Mae hefyd yn cyfrannu at gynnig twristiaeth y Cyngor, gyda gwylwyr adar yn heidio yma o bob cwr o’r DU.

“Mae wedi bod yn dymor anodd i’r adar wrth i ni weld llai o oedolion yn dod i’r nythfa, a hefyd ni fu unrhyw gynnydd mewn oedolion yn unrhyw rai o’r nythfeydd Gwyddelig a dim yn y Parlwr Du. Fodd bynnag er gwaetha’r anawsterau a wynebir, mae’n wych i weld y nifer cyfartalog o adar ifanc fesul pâr bridio yn cynyddu i barhau i gefnogi’r rhywogaeth bwysig hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’n rhaid canmol gwaith caled ein timau cefn gwlad, y grwpiau partner a’r gwirfoddolwyr gwych sy’n gwneud cymaint i warchod a chefnogi’r nythfa bwysig hon yn Sir Ddinbych.”

 

Gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych yn cael trwyddedau parcio yn rhan o becyn maethu

Mae gofalwyr maeth sydd yn penderfynu maethu drwy’r Awdurdod Lleol bellach yn cael trwydded barcio yn rhan o becyn maethu Sir Ddinbych.

Er mwyn cynorthwyo gofalwyr maeth i barcio ar gyfer apwyntiadau a chyfarfodydd maethu pwysig, ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig, mae gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych bellach yn cael trwyddedau parcio ar gyfer pob maes parcio arhosiad hir yn y Sir, unwaith y maent wedi’u derbyn ar gynllun Maethu Cymru. 

Mae’r fenter hon yn rhan o raglen drawsnewid y Cyngor sydd â’r uchelgais o gynyddu’r nifer o ofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych, gan alluogi i blant gael gofal yn nes at eu cymunedau a chael canlyniadau gwell. 

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Rydw i’n falch gweld bod hyn wedi cael ei weithredu. Dim ond un o’r polisïau cynorthwyol y byddwn ni’n eu cyflwyno i bobl sy’n penderfynu maethu drwy’r Awdurdod Lleol ydi hwn, bydd mwy’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.

Dwi’n teimlo bod y polisi yma’n pwysleisio ein hymrwymiad i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniad gwerth chweil i faethu yn Sir Ddinbych.

Fe hoffwn i hefyd ddiolch i fy nghydweithwyr yn yr adran Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad am eu cefnogaeth yn gweithredu’r cynllun yma, ac am ddangos eu cefnogaeth i ofalwyr maeth Sir Ddinbych yn rhan o’n hethos Un Cyngor."

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae tîm Maethu Cyngor Sir Ddinbych yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc yn y Sir. 

Mae’r staff cyfeillgar yn helpu i arwain gofalwyr maeth newydd drwy bob cam o’r broses ac maent bob amser yn barod i roi cyngor arbenigol.

Gobeithio drwy gyflwyno’r trwyddedau yma, y gallwn helpu ein gofalwyr maeth i fynychu apwyntiadau a chyfarfodydd pwysig sy’n dod yn rhan o faethu ac yn gwneud eu bywydau ychydig bach yn haws.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw