NEWYDDION

Ffyrdd Clyfar a Chynaliadwy o gael gwared ar eich Coeden Nadolig

A oeddech chi’n gwybod bod ffyrdd cynaliadwy o gael gwared ar eich Coeden Nadolig ar ôl i’r holl ddathlu ddod i ben?

A oeddech chi’n gwybod bod ffyrdd cynaliadwy o gael gwared ar eich Coeden Nadolig ar ôl i’r holl ddathlu ddod i ben?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i gael gwared ar eu coeden Nadolig yn briodol, boed a yw’n goeden go iawn neu’n artiffisial.

Os oes gennych goeden artiffisial, argymhellir eich bod yn ei defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn er mwyn helpu i leihau gwastraff. Pan fyddwch yn penderfynu cael gwared ar eich coeden artiffisial, gallwch fynd â hi i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.

Gallwch ailgylchu coed go iawn drwy ddefnyddio’r bin gwyrdd ar olwynion (os oes gennych danysgrifiad gwastraff gardd). Sicrhewch eich bod yn torri’r goeden yn gyntaf i wneud yn siŵr ei bod yn ffitio yn eich bin. Os nad ydych yn gallu rhoi eich coeden yn eich bin, gallwch fynd â choed go iawn i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol er mwyn eu gwaredu.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae dathlu tymor y Nadolig gyda Choed Nadolig a’u haddurno yn aml yn uchafbwynt i lawer o deuluoedd dros gyfnod yr Ŵyl.  Pan fydd yn amser i chi gael gwared ar eich coeden, cofiwch ddefnyddio’r sianeli cywir a fydd o gymorth i leihau gwastraff dros gyfnod y Nadolig”.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i.

 

Hwb cymunedol Bryneglwys yn agor

Mae gwaith wedi’i gwblhau i drosi hen ysgol segur yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen.

Mae gwaith wedi’i gwblhau i drosi hen ysgol segur yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen.

Ar ôl cau Ysgol Bryneglwys yn 2014, daeth grŵp o wirfoddolwyr o’r pentref at ei gilydd i sicrhau y gallai ased cymunedol a fu’n werthfawr un tro fod yn rhan annatod o’r gymuned eto.

Ffurfiodd y grŵp o breswylwyr Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) gan ennill statws elusen ym mis Ebrill 2020. Y nod oedd trosi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen. 

Ar 19 Ionawr 2023, cafodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad bod £10.95 miliwn wedi’i ddyfarnu iddo gan Lywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd gynt i gefnogi datblygu 10 prosiect sydd â’r nod o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, lles ei phobl a’i chymunedau gwledig.

Roedd y prosiect yn un o’r 10 a gafodd eu cynnwys yng nghais y Cyngor i Lywodraeth y DU ac o ganlyniad, cafodd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) £327,000 o’r cyllid gan Lywodraeth y DU i adnewyddu hen ysgol y pentref a chafwyd £65,000 arall gan Gronfa Ffermydd Gwynt Clocaenog tuag at y prosiect.

Ar ôl cael cyllid ar gyfer y prosiect, penododd CCIA Adever Constructioni wneud y gwaith gwella.

Roedd y gwaith yn cynnwys tynnu asbestos o’r adeilad, cynnal profion aer glân a rendro’r tu allan i’r adeilad, â’r bwriad o drosi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol gyda chaffi, a lle i gynnal digwyddiadau cymunedol ar gyfer preswylwyr Bryneglwys.

Dywedodd Pat Downes, Cadeirydd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA):

“Cafodd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) ei ffurfio fel elusen ag un nod, sef trosi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen. Mae wedi bod yn llawer o waith caled ac mae gymaint o bobl wedi ein helpu ni dros y blynyddoedd. Bu llawer o waith tîm wrth i ni gyflawni’r prosiect hwn.

“Mae’n gyfnod cyffrous, nid yn unig i CCIA ond i’r pentref cyfan sydd wedi bod yn edrych ymlaen at gael y cyfleuster hwn. Bydd agor y canolbwynt cymunedol yma ym Mryneglwys yn cynnig cyfle i breswylwyr ddod at ei gilydd yn rheolaidd yn y caffi newydd, a byddwn ni’n gallu darparu lle i gynnal digwyddiadau fel cyngherddau. Bydd modd llogi’r canolbwynt cymunedol ar gyfer digwyddiadau preifat hefyd.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’n gyffrous bod Cyngor Sir Ddinbych wedi gallu cefnogi’r gymuned hon i gyflawni eu dyheadau. Mae canolbwyntiau fel rhain yn chwarae rôl hanfodol wrth ddod â’r preswylwyr at ei gilydd ac rydym wrth ein boddau bod gwaith wedi’i gwblhau mewn pryd ar gyfer y Nadolig!

Cadwch y dyddiad i gofrestru ar gyfer gwastraff gardd

Bydd garddwyr Sir Ddinbych sy’n defnyddio’r gwasanaeth tanysgrifio ar gyfer gwastraff gardd yn gallu adnewyddu eu casgliadau ym mis Ionawr. 

Bydd cyfnod tanysgrifio presennol 2025/2026 ar gyfer y gwasanaeth hwn yn cau ar 19 Rhagfyr. Bydd y cyfnod adnewyddu ar gyfer 2026 i 2027 yn agor o 12 Ionawr i wneud yn siŵr bod digon o amser i bawb gofrestru cyn y bydd cyfnod newydd y gwasanaeth yn dechrau o 1 Ebrill.

Ni fydd preswylwyr yn gallu cofrestru ar gyfer y gwasanaeth 12 mis newydd cyn y dyddiad hwn.

Mae’r Cyngor yn annog preswylwyr sy’n cofrestru am y tro cyntaf i fanteisio ar y cyfnod cofrestru hwn fel eu bod yn cael budd llawn o’r gwasanaeth 12 mis.

Mae Sir Ddinbych yn cynnig y gwasanaeth bob pythefnos fel ffordd ddewisol a chost effeithiol o ailgylchu gwastraff gardd. Mae angen y tâl tanysgrifio fel bod y Cyngor yn gallu darparu’r gwasanaeth anstatudol hwn.

Cost y gwasanaeth fydd:

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae arnom eisiau gwneud yn siŵr bod ein preswylwyr sydd eisiau defnyddio’r gwasanaeth hwn yn cael digon o rybudd i gofrestru ar gyfer y cyfnod 12 mis newydd neu i adnewyddu. 

“Os oes arnoch eisiau defnyddio’r gwasanaeth, cadwch y dyddiad a chofrestrwch cyn gynted ag y gallwch o 12 Ionawr ymlaen i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei brosesu mewn da bryd.”

Ewch i dudalen we’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yma i gael mwy o wybodaeth. 

Parc gwledig Bodelwyddan yn dathlu ailagor i’r cyhoedd

Dechreuodd gwaith ar y safle yn 2022.

Cynhaliwyd seremoni’n ddiweddar i nodi agoriad swyddogol y safle ers i’r gwaith ddechrau yn 2022.

Wedi’i leoli wrth droed castell hanesyddol Bodelwyddan, dathlodd y safle ei agoriad swyddogol yn dilyn cwblhau cam cyntaf y gwaith.

Agorodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, Arwel Roberts y parc gwledig yn swyddogol yn y seremoni.

Cafodd y prosiect £900,000 gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyda’r bwriad o ymdrin â chyflwr y parcdir, gan ddechrau yn 2022.

Fel rhan o’r gwaith i ailagor y parcdir, y coedwigoedd a’r perllannau i’r cyhoedd, mae bron i filltir a hanner o lwybrau calchfaen newydd sy’n addas i bobl anabl yn nadreddu o waelod y parcdir i fyny at y coetir ym mhen uchaf y safle. 

Er mwyn gwneud lle i’r ymwelwyr sy’n dychwelyd, crëwyd maes parcio newydd â lle i 73 o geir ger y fynedfa isaf oddi ar yr A55 a phenodwyd ceidwad cefn gwlad llawn amser â chyllideb benodol ar gyfer rheoli a chynnal a chadw’r parc.

Plannwyd gwrychoedd ar hyd y ffens derfyn i gefnogi natur yn y parcdir ac mae mynediad i geirw mewn rhai rhannau ohoni.  Cafodd ffensys amddiffynnol arbennig eu hadeiladu yn y coetir i amddiffyn ardaloedd o goed a phlanhigion yn cynnwys yr hen Berllan Fictoraidd rhag ceirw er mwyn i rywogaethau penodol ffynnu’n gryfach yn y dyfodol.

Cafodd gwaith ei wneud i gadw’r ffosydd hanesyddol o’r Rhyfel Byd Cyntaf ym mhen uchaf y parcdir gyda ffensys newydd i amddiffyn y safle.  

Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys creu 19,000m² o fannau gwyrdd, 2km o lwybrau, plannu 7,150 o goed a gosod sawl bwrdd dehongli ar hyd y llwybrau i egluro’r tir o amgylch.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:  

“Mae agor y parc hwn yn garreg filltir wych i’r prosiect. Hoffwn gydnabod gwaith caled ein tîm cefn gwlad sydd wedi gweithio’n ddiflino i ymdrin â chyflwr y parc fel ein bod mewn sefyllfa i’w agor i’r cyhoedd.

“Fe fydd adnewyddu’r parcdir yn rhoi cefnogaeth hollbwysig y mae ein bywyd gwyllt lleol ei angen i oroesi wrth symud ymlaen a bydd hefyd yn rhoi lle gwych i breswylwyr ac ymwelwyr â Sir Ddinbych i ymweld i brofi’r natur sydd gan ein Sir i’w gynnig.”

Safonau Masnach Sir Ddinbych yn cynnal digwyddiadau llwyddiannus i brofi blancedi trydan am ddim

Cynigiwyd profion blancedi trydan am ddim a blancedi newydd am ddim i drigolion y gaeaf diwethaf.

Cynigiodd Gwasanaeth Safonau Masnach Sir Ddinbych brofion blancedi trydan a phlancedi trydan am ddim y gaeaf hwn. 

Cynhaliwyd y profion rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror mewn tair ardal leol yn y sir.

Yn ystod y 3 sesiwn, methodd 77% o’r blancedi trydan a brofwyd. Un o’r prif resymau am hynny oedd oedran y blancedi, roedd llawer ohonynt dros 20 oed, ac roedd un yn 50 oed!

Rheswm arall pam eu bod yn methu oedd bod yr elfennau cynhesu yn y blancedi yn dod yn rhydd ac yn cronni mewn un rhan o’r flanced, sy’n achosi perygl o dân.  

Diolch i’r cyllid oedd y gwasanaeth Safonau Masnach wedi’i gael, cafodd preswylwyr yr oedd eu blancedi wedi methu’r prawf flanced newydd sbon yr un maint. 

Mae tua 43 o danau’r flwyddyn yn cael eu hachosi gan flancedi trydan diffygiol yn y cartref. Dylid eu cadw’n fflat, wedi’u rholio neu eu plygu’n llac rhag difrodi’r gwifrau mewnol a dylid cael blanced newydd bob 10 mlynedd o leiaf.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae amddiffyn cwsmeriaid yn faes blaenoriaeth i’r adran Gwarchod y Cyhoedd. Mae’n anorfod y bydd y cynnyrch hwn yn gwisgo ac mae blancedi trydan diffygiol yn achosi perygl sylweddol o dân. Mae’n braf gweld bod preswylwyr wedi manteisio ar y cyfle i brofi’r eitemau hyn. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y gwaith hwn yn y dyfodol.”

Cofiwch ailgylchu’r Nadolig hwn

Gan fod y Nadolig yn agosáu ac wrth i’r addurniadau gael eu rhoi i fyny a’r anrhegion yn cael eu lapio, mae’r Cyngor yn annog preswylwyr i gofio ailgylchu dros y gwyliau. 

Gan fod y Nadolig yn agosáu ac wrth i’r addurniadau gael eu rhoi i fyny a’r anrhegion yn cael eu lapio, mae’r Cyngor yn annog preswylwyr i gofio ailgylchu dros y gwyliau. 

O fwyd Nadoligaidd i’r anrhegion perffaith, mae hi’n amser da i lunio rhestr ar gyfer ailgylchu. 

Isod y mae rhestr o eitemau Nadoligaidd poblogaidd a beth y gall preswylwyr eu gwneud gyda nhw. 

  • Nid oes modd ailgylchu papur swigod plastig, dylid ei roi yn y bin gwastraff cyffredinol neu ei ailddefnyddio i lapio pethau gwerthfawr sy’n cael eu storio neu eu postio.
  • Mae angen rhoi tâp, tâp trydanol, tâp selo a thâp parsel yn y bin gwastraff cyffredinol.
  • Gall addurniadau Nadolig gael eu defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn neu eu rhoi i siopau elusen lleol neu ysgolion ar gyfer sesiynau crefft. Dylai unrhyw addurniadau sy’n anaddas i’w hailddefnyddio gael eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol.
  • Os nad oes gliter neu ffoil ar eich papur lapio, fel rheol, fe ellir ei roi yn eich blwch uchaf.  Tynnwch unrhyw dâp gludiog, rhubanau a chlymau i ffwrdd yn gyntaf. Gallwch ddefnyddio’r ‘prawf crensian’ papur lapio fel ffordd o wirio a sicrhau.  Os ydych chi’n crensian y papur yn eich llaw ac os ydyw’n aros mewn pêl, fe allwch ei ailgylchu, os nad yw’n aros fel pêl, bydd angen i chi ei roi yn eich bin gwastraff glas/du ar gyfer nwyddau na ellir eu hailgylchu.
  • Cardiau Nadolig – Rhwygwch y rhubanau neu adrannau o gliter i ffwrdd a rhowch y cardiau i mewn gyda’r papur i’w ailgylchu. Gall batris o gardiau sain fynd i mewn yn eich blwch batris.
  • Gellir ailgylchu deunydd pecynnu plastig gan ddefnyddio blwch canol y Trolibocs neu'r sach ailgylchu goch ar gyfer plastig.
  • Gellir cymryd plastigion meddal megis caeadau cynwysyddion bwyd neu fagiau plastig i fannau ailgylchu yn eich archfarchnad leol. 
  • Ailgylchwch ganiau alwminiwm gwag ym mlwch canol y Trolibocs neu’r sach ailgylchu goch neu’r Ganolfan Ailgylchu a Gwastraff agosaf.
  • Gellir ailgylchu unrhyw boteli neu jariau gwydr ym mlwch gwaelod y Trolibocs neu’r bag gwyrdd ar gyfer gwydr.  Tynnwch unrhyw gaeadau plastig neu fetel oddi ar boteli gwydr a'u rhoi yn y blwch canol neu'r bag coch.
  • Gellir ailgylchu poteli plastig gan ddefnyddio blwch canol y Trolibocs neu'r sach goch ar gyfer plastig.
  • Rhaid rhoi’r holl wastraff bwyd yn y cadi bwyd oren ac nid yn y cynwysyddion gwastraff cyffredinol.
  • Cofiwch ailgylchu batris cartref gan ddefnyddio’r cynhwysydd priodol ar gyfer eich gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff. Peidiwch â rhoi’r rhain yn y cynwysyddion gwastraff cyffredinol gan y gallant achosi tanau.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae cyfnod y Nadolig yn amser prysur iawn i’n timau gwastraff ac ailgylchu, ond fe wyddom fod ein preswylwyr yn eu cefnogi nhw gan ddefnyddio’r opsiynau cywir i ailgylchu eu heitemau Nadolig.

“Drwy gydol y flwyddyn mae preswylwyr yn wych am ailgylchu yn Sir Ddinbych ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw unwaith eto am eu cefnogaeth dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Os nad ydych chi’n siŵr beth sy’n mynd i ble, gallwch wirio canllaw ailgylchu A i Y ar y wefan.

 

Y Cabinet yn cytuno ar Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Corwen a Dinbych

Cytunodd cabinet Cyngor Sir Ddinbych i fabwysiadu’r Cynlluniau Creu Lleoedd terfynol ar gyfer Corwen a Dinbych.

(Neuadd y Sir)

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i fabwysiadu’r Cynlluniau Creu Lleoedd terfynol ar gyfer Corwen a Dinbych.

Yn y cyfarfod heddiw (16 Rhagfyr), ystyriodd yr aelodau’r cynlluniau a’u cymeradwyo. Mae’r cynlluniau’r gosod gweledigaeth glir ar gyfer adfywio canol trefi, gwella mannau cyhoeddus a chreu lleoedd ffyniannus, cynaliadwy i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Nod Cynlluniau Creu Lleoedd yw gwella lleoliad a sicrhau bod pob agwedd sy’n gwneud lleoliad yn lle gwych i fyw, i weithio ynddo ac ymweld ag ef yn cael eu hystyried.  Yn unol â Siarter Creu Lleoedd Comisiwn Dylunio Cymru, mae’r cynlluniau’n croesawu pob un o’ch chwe egwyddor: symudiad, defnydd cymysg, parth cyhoeddus, hunaniaeth, cydweithio ac iechyd a lles.

Gyda chefnogaeth gan gyllid o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, comisiynwyd Urbanists gan Gyngor Sir Ddinbych ym mis Ionawr 2024 i helpu i lunio Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Corwen a Dinbych, oedd yn golygu adolygu a deall data penodol am y trefi drwy ddadansoddiad masnachol, ymgysylltu â budd-ddeiliaid a rhoi gweithgareddau allweddol ar waith.

Lluniwyd y cynnig drwy ymgysylltu’n helaeth â’r gymuned a chynhaliwyd sesiynau galw heibio yn llyfrgelloedd Dinbych a Chorwen yn gynharach eleni i gasglu barn ac adborth pobl leol am y strategaethau drafft.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:  

“Caiff ein trefi eu siapio gan y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw, ac mae eu barn yn helpu i ddiffinio gweledigaeth y cynlluniau hyn ar gyfer y dyfodol yn eu trefi perthnasol.

“Mae Cynlluniau Creu Lleoedd yn adnodd annatod yng Nghymru, i sicrhau bod arfer gorau’n cael ei ddefnyddio wrth ddatblygu lleoedd yn y dyfodol a’u bod yn cysylltu’n agos â pholisïau ac arferion allweddol yng Nghymru.  Mae penderfyniad y Cabinet heddiw yn enghraifft o ymrwymiad y Cyngor i’r polisïau hyn ac i ddatblygu ein trefi yn y dyfodol.” 

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r ddau gyngor tref sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu’r cynlluniau yma”.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn myfyrio ar flwyddyn o gefnogi pobl leol

Wrth i 2025 ddod i ben, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn tynnu sylw at y gwahaniaeth a wnaed i unigolion a theuluoedd ledled y sir. Trwy ymdrechion cydweithredol gyda phartneriaid a chymunedau, mae cannoedd o drigolion wedi cael mynediad at hyfforddiant, cymorth cyflogaeth a chyfleoedd i wella eu sgiliau a’u hyder.

Roedd eleni hefyd yn garreg filltir gyffrous wrth i Sir Ddinbych yn Gweithio gael ei dewis fel rhan o beilot ‘Trailblazer’ y DU. Mae hyn yn caniatáu i Sir Ddinbych yn Gweithio 'hybu' ei ddarpariaeth gan ganolbwyntio ar ei genhadaeth graidd a dulliau newydd ac arloesol o gefnogi cyflogaeth a sgiliau, i helpu pobl leol i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu nodau.

Mae rhai o uchafbwyntiau 2025 yn cynnwys:

  • Ymgysylltu â’r Gymuned: Cefnogi mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol nag erioed o’r blaen, gan greu mannau i bobl gysylltu â dysgu.
  • Cymorth i Aelwydydd: Cafodd cannoedd o aelwydydd gymorth wedi’i deilwra, gan helpu teuluoedd i oresgyn rhwystrau a chael mynediad at wasanaethau hanfodol.
  • Sgiliau ac Addysg: Twf sylweddol mewn cyfleoedd ailhyfforddi ac addysg, gan agor drysau at yrfaoedd a chymwysterau newydd.
  • Cyflogaeth a Hyder: Mae llawer o drigolion wedi sicrhau cyflogaeth, ennill cymwysterau, a nodi gwelliant mewn hyder a chyflogadwyedd.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych a’r Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Mynd i’r Afael ag Amddifadedd:

“Mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Sir Ddinbych yn Gweithio i fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth a chreu cyfleoedd i bawb.

“Drwy ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, meithrin hyder ac ymgysylltu â’r gymuned, mae’r rhaglen yn parhau i wneud gwahaniaeth pendant ym mywydau pobl.”

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol:

“Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn garreg filltir wirioneddol i Sir Ddinbych yn Gweithio. Yn ogystal â chefnogi unigolion a theuluoedd, rydym wedi manteisio ar gyfleoedd newydd i arloesi fel rhan o beilot ‘Trailblazer’ y DU.

“Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y flwyddyn i ddod.”

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn anelu at adeiladu ar y momentwm hwn yn y flwyddyn i ddod, gyda chynlluniau i ehangu cyfleoedd gwirfoddoli, cryfhau cymorth mewn gwaith, a pharhau i fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a chyfleoedd yn y dyfodol, ewch i Sir Ddinbych yn Gweithio ar ein gwefan neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd fwyaf dan anfantais yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Mae nythfa adar sydd wedi ei lleoli yn Sir Ddinbych yn parhau i helpu môr-wenoliaid bach

Mae nythfa adar enwog yn Sir Ddinbych wedi dathlu un mlynedd ar hugain o gefnogi ymwelydd haf prin

Delwedd gan David Woodfall

Mae nythfa adar enwog yn Sir Ddinbych wedi dathlu un mlynedd ar hugain o gefnogi ymwelydd haf prin.

Mae eleni yn nodi un mlynedd ar hugain ers i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ddechrau rheoli’r nythfa fôr-wenoliaid bach yn Nhwyni Gronant.

Hon yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru. Mae’n adnabyddus yn rhyngwladol gan ei bod yn cyfrannu tuag at dros 10% o gyfanswm poblogaeth fridio y DU, ac mae’n cefnogi nythfeydd eraill.

Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân ar safle gwarchodedig sydd wedi’i baratoi ym mis Ebrill gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr.  Maent yn dechrau hedfan yn ôl tua’r de ddiwedd mis Awst.

Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 wy. Mae môr-wenoliaid yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, ac maent yn pysgota amdanynt ar y môr.

Codwyd deuddeg o gorlannau ffensys trydan a ffens strap ar hyd ochr y nythfa tua’r tir i warchod y môr-wenoliaid bach sy’n bridio.

Gosodwyd ffens hefyd i atal y cyhoedd rhag mynd at y nythfa a tharfu arni. Fodd bynnag gallai’r cyhoedd alw heibio canolfan wylio dros dro a chuddfan adar i ddod i wybod mwy a gweld yr adar o bell.

Helpodd tîm o wardeiniaid ar y safle i gadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr – cudyllod coch a hebogiaid tramor yn bennaf, yn ogystal â siarad gyda’r nifer o ymwelwyr sy’n dod i Gronant bob blwyddyn.

Y tymor hwn cofnodwyd 95 o barau bridio a chyfanswm o 103 o adar ifanc, gostyngiad ar nifer yr ifanc a welwyd yn ystod tymor 2024 o ganlyniad i ffactorau gan gynnwys ysglyfaethu, y tywydd sych garw a chollwyd nifer fechan y tu allan i’r corlannau o ganlyniad i lanw’r gwanwyn ac ysglyfaethwyr eraill.  

Fodd bynnag cafwyd 1.08 o adar ifanc i bob pâr bridio a oedd yn gynnydd bach o’i gymharu â ffigyrau’r llynedd.

Gweithiodd y wardeiniaid hefyd gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain i fodrwyo nifer o’r adar er mwyn eu holrhain yn y dyfodol.  Fe aethant ati i helpu i fodrwyo 59 o gywion gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (modrwyau metel a chafodd naw arall eu modrwyo gyda modrwyau lliw).

Croesawodd canolfan ymwelwyr y Môr-wenoliaid bach 883 o ymwelwyr i’r mannau gwylio dynodedig ac ymgysylltodd 175 o bobl â’r prosiect drwy deithiau ac ymweliadau â’r safle.  Bu gwirfoddolwyr Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Grŵp Modrwyo Glannau Mersi yn gweithio am gyfanswm o 1085.5 awr trwy gydol y tymor.

Mae’r staff Cefn Gwlad yn gweithredu polisi ‘gadael dim ar ôl’ ar safle’r nythfa ac felly mae’r holl gyfarpar yn cael ei symud a’i gadw’n ddiogel tan y gwanwyn.

Dywedodd Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad a Rheolwr Rhandiroedd Sirol:  “Rydym yn falch o fod wedi ymwneud â’r prosiect hwn am dros 20 mlynedd sy’n llawer mwy na diogelu aderyn môr hynod o brin. Mae cyfranogiad gwirfoddolwyr yn y nythfa yn parhau i fod yn uwch nac unrhyw weithgaredd arall a gynigir gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad ac mae wedi bod yn wych unwaith eto i weld ysgolion lleol a grŵp preswyl yn ymweld â’r nythfa. Mae hefyd yn cyfrannu at gynnig twristiaeth y Cyngor, gyda gwylwyr adar yn heidio yma o bob cwr o’r DU.

“Mae wedi bod yn dymor anodd i’r adar wrth i ni weld llai o oedolion yn dod i’r nythfa, a hefyd ni fu unrhyw gynnydd mewn oedolion yn unrhyw rai o’r nythfeydd Gwyddelig a dim yn y Parlwr Du. Fodd bynnag er gwaetha’r anawsterau a wynebir, mae’n wych i weld y nifer cyfartalog o adar ifanc fesul pâr bridio yn cynyddu i barhau i gefnogi’r rhywogaeth bwysig hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’n rhaid canmol gwaith caled ein timau cefn gwlad, y grwpiau partner a’r gwirfoddolwyr gwych sy’n gwneud cymaint i warchod a chefnogi’r nythfa bwysig hon yn Sir Ddinbych.”

 

Gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych yn cael trwyddedau parcio yn rhan o becyn maethu

Mae gofalwyr maeth sydd yn penderfynu maethu drwy’r Awdurdod Lleol bellach yn cael trwydded barcio yn rhan o becyn maethu Sir Ddinbych.

Er mwyn cynorthwyo gofalwyr maeth i barcio ar gyfer apwyntiadau a chyfarfodydd maethu pwysig, ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig, mae gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych bellach yn cael trwyddedau parcio ar gyfer pob maes parcio arhosiad hir yn y Sir, unwaith y maent wedi’u derbyn ar gynllun Maethu Cymru. 

Mae’r fenter hon yn rhan o raglen drawsnewid y Cyngor sydd â’r uchelgais o gynyddu’r nifer o ofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych, gan alluogi i blant gael gofal yn nes at eu cymunedau a chael canlyniadau gwell. 

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Rydw i’n falch gweld bod hyn wedi cael ei weithredu. Dim ond un o’r polisïau cynorthwyol y byddwn ni’n eu cyflwyno i bobl sy’n penderfynu maethu drwy’r Awdurdod Lleol ydi hwn, bydd mwy’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.

Dwi’n teimlo bod y polisi yma’n pwysleisio ein hymrwymiad i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniad gwerth chweil i faethu yn Sir Ddinbych.

Fe hoffwn i hefyd ddiolch i fy nghydweithwyr yn yr adran Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaeth Cefn Gwlad am eu cefnogaeth yn gweithredu’r cynllun yma, ac am ddangos eu cefnogaeth i ofalwyr maeth Sir Ddinbych yn rhan o’n hethos Un Cyngor."

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae tîm Maethu Cyngor Sir Ddinbych yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc yn y Sir. 

Mae’r staff cyfeillgar yn helpu i arwain gofalwyr maeth newydd drwy bob cam o’r broses ac maent bob amser yn barod i roi cyngor arbenigol.

Gobeithio drwy gyflwyno’r trwyddedau yma, y gallwn helpu ein gofalwyr maeth i fynychu apwyntiadau a chyfarfodydd pwysig sy’n dod yn rhan o faethu ac yn gwneud eu bywydau ychydig bach yn haws.”

ERTHYGLAU

Paratoi ar gyfer Storm Goretti

Mae Swyddfa'r Met wedi cyhoeddi rhybudd tywydd oren ar gyfer rhannau o dde Sir Ddinbych gyda rhybudd tywydd melyn ar waith ar gyfer llawer o weddill y sir.

Eira Moelfamau - slideshow

Bydd y rhybudd oren mewn lle o 8pm nos Iau, 8 Ionawr tan 9am bore Gwener 9 Ionawr tra bod y rhybudd melyn ar waith tan 12pm ddydd Gwener. Yn ardal y rhybudd oren, y rhagolygon yw am eira trwm a fydd yn debygol o arwain at aflonyddwch ac amodau teithio peryglus.

Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Swyddfa'r Met a dilynwch ein cyfrif Facebook am y diweddariadau diweddaraf am raeanu a chau ffyrdd.

Graeanu

Mae'r cyngor wedi defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ymateb i unrhyw beth sy'n gysylltiedig â'r tywydd a byddwn yn derbyn cefnogaeth gan gontractwyr amaethyddol a fydd yn helpu i gadw'r rhwydwaith ffyrdd gwledig ar agor.

Bydd ein criwiau graeanu yn trin yr holl lwybrau graeanu a bydd gyrwyr yn patrolio'r A55 ar Allt Rhuallt a'r A494 yn Clwyd Gate ar ôl cwblhau eu llwybrau arferol.

Gofynnwn i chi barhau i yrru'n ofalus oherwydd ni fydd pob ffordd yn cael ei thrin gan fod yn rhaid i ni flaenoriaethu'r priffyrdd. Gall eira trwm hefyd achosi cyfnodau o aflonyddwch, hyd yn oed ar y priffyrdd sy'n cael eu trin.

Mae rhagor o wybodaeth am ble rydym yn graeanu ar gael ar ein gwefan.

Cyngor mewn tywydd garw

Am gyngor a gwybodaeth am sut i ymdopi ag amodau tywydd garw, edrychwch ar y dudalen tywydd garw ar ein gwefan a fydd yn nodi pa ffyrdd rydym yn eu graeanu, ble gallwch ddod o hyd i'ch bin halen agosaf yn ogystal â chyngor cyffredinol am yrru mewn amodau gaeafol a sut i wneud eich cartref yn ddiogel.

Hefyd, mae ystod o wybodaeth ar wefan Swyddfa'r Met gan gynnwys cyngor ar gadw'n ddiogel mewn eira a rhew, cadw'ch cartref yn gynnes, paratoi'ch cerbyd, yn ogystal â'r ffordd orau o ofalu am eich anifeiliaid anwes.

Ffynonellau gwybodaeth eraill

Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi ddilyn y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol canlynol am ddiweddariadau allweddol:

SP Energy Networks – ffoniwch 105 i roi gwybod am doriad pŵer

MetOffice – diweddariadau am y tywydd yn eich ardal

Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth Traffic Wales North & Mid

Heddlu Gogledd Cymru

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Betsi Cadwaladr

Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG wasanaethau Ambiwlans Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales

Dŵr Cymru / Welsh Water

Cymerwch ofal yn ystod y tywydd garw, gofalwch amdanoch chi'ch hunain a cofiwch wirio bod ffrindiau neu gymdogion yn ddiogel.

Ydych chi erioed wedi ystyried ble mae eich treth cyngor yn mynd?

Mae llawer yn meddwl bod treth cyngor yn talu am bopeth y mae awdurdod lleol yn ei gynnig, fodd bynnag, dim ond 26% o gyfanswm gwariant y Cyngor yw'r arian a gesglir gan drigolion yn flynyddol.

Ariannu\'r cyngorMae mwyafrif y cyllid (62%) yn dod ar ffurf 'Grant Cymorth Refeniw' gan Lywodraeth Cymru, tra bod y 12% sy'n weddill yn dod o drethi busnes, sef treth eiddo y mae busnesau'n ei dalu i helpu tuag at ariannu gwasanaethau lleol. Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu ar ein gwefan.

Felly ble mae’r treth cyngor yn mynd? Rydym wedi cynhyrchu infograffig yn seiliedig ar dreth cyngor eiddo Band D i geisio rhoi esboniad clir o sut mae taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu ystod o wasanaethau i drigolion yn y sir. Er bod yr infograffig hwn yn rhoi darlun o sut mae'r arian yn cael ei rannu rhwng gwahanol wasanaethau, mae deall beth mae trigolion yn ei gael am yr arian hwnnw’n bwysig. (Gellir gweld yr infograffig ar ddiwedd yr erthygl.)

Fel y gwelwch, mae mwyafrif gwariant treth cyngor yn mynd tuag at amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas, gyda 66% yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg a gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

Ysgolion ac addysgGydag Addysg yn cyfrif am 36.7% o’r gwariant, golyga hyn y gall Sir Ddinbych addysgu tua 16,500 o ddisgyblion mewn 44 ysgol gynradd, 2 ysgol pob oed, 2 ysgol arbennig, 6 ysgol uwchradd ac 1 uned cyfeirio disgyblion ar draws y sir, gyda thua 780 o athrawon yn darparu'r addysg.

Yn y maes addysg o hyd, mae cludiant ysgol yn cyfrif am 2.9% ac mae'r Cyngor yn cludo tua 2,871 o ddysgwyr yn ddiogel i ysgolion ledled y sir. Caiff 650 o deithiau bws ysgol a thacsi eu gwneud bob diwrnod ysgol.

Gofal cymdeithasol i oedolion a phlant infographicYn y cyfamser, mae gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn cyfrif am 29.8% o wariant treth y Cyngor. Yn 2024-2025 cafodd oddeutu 668 aelod o staff dros 25,000 o gysylltiadau gyda'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed gan ddarparu pecyn o ofal a chymorth lle bo’n briodol sy’n rhoi cyfle i'r trigolion hyn gael dewis, mynegi barn, a chael rheolaeth dros eu bywydau.

Mewn meysydd gwasanaeth eraill, mae 1.9% yn mynd tuag at ddiogelu'r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd ac mae timau'r Cyngor yn archwilio tua 720 o fwytai, caffis a lleoedd tecawê bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer trigolion Sir Ddinbych.

Mae gwagio biniau ac ailgylchu yn cyfrif am 1.8% o'ch bil treth cyngor, sy'n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D). Mae hynny'n cynnwys casglu tua 73,000 o gynwysyddion o dros 47,000 o gartrefi bob wythnos ledled y sir.

Am 1.8% o'r dreth cyngor rydym yn cynnal 1,419km o ffyrdd (ac eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a chelfertau, 302 o waliau a 26,000 o gwlïau. Ac am 0.8%, rydym yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo ledled y sir.

Cefn gwlad a mannau agoredHwyrach bod rhai gwasanaethau nad yw trigolion yn ymwybodol eu bod dan reolaeth cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth. Gydag 1.1% o dreth cyngor yn mynd i'r gwasanaeth cefn gwlad, mae'r timau'n rheoli dros 80 o safleoedd a mwy na 1,200 hectar o ardaloedd gwyrdd cyhoeddus ar gyfer hamdden a chadwraeth. Mae'r rhain yn amrywio o Barciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau, meithrinfa goed y sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Ffordd Dyserth Prestatyn, Llain Llantysilio yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o fannau cymunedol a mwynder llai ar draws y sir.

Mae’r gwasanaeth treftadaeth yn cyfrif am 0.9% o wariant treth y cyngor, ac am hyn, mae'r gwasanaeth yn cynnal a hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (sydd yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr. Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Cynllunio a datblygu economaiddMae cynllunio a datblygu economaidd yn cyfrif am 0.7% o wariant y treth cyngor ac am hynny mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn prosesu tua 1,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn ochr yn ochr â 10-20 o apeliadau a 50-100 o ymholiadau cyn-ymgeisio. Rydym hefyd yn ymateb i dros 500 o achosion cydymffurfio cynllunio.

Llyfrgelloedd infographicMae’r llyfrgelloedd yn cyfrif am 0.5% o’r gwariant ac yn 24-25, cynhaliodd  y llyfrgelloedd 514 o sesiynau Dechrau Da i bron i 6,500 o blant. Hefyd cafodd 2,869 o lyfrau sain eu benthyg i 1,028 o aelodau drwy Borrowbox (rhan o'r Cynnig Digidol) ac argraffwyd dros 56,000 o dudalennau ar argraffyddion mynediad cyhoeddus.

Nid yw'r holl dreth cyngor a gesglir yn talu am wasanaethau'r cyngor yn unig, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân i gyfrannu at ariannu amddiffyniad ac atal tân ledled y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rwy’n falch o weld yr infograffig yma’n cael ei chynhyrchu a’i rhyddhau. Gobeithio y bydd yn rhoi’r cyd-destun sydd ei angen ar drigolion i ddeall sut mae eu taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i gefnogi’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

 “Mewn hinsawdd ariannol sy’n parhau i fod yn heriol barhaus, mae’n bwysig bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r costau a’r pwysau. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau’r gwariant, yn hollol briodol, wedi’u hanelu at y gofyniad cyfreithiol i ddarparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, ac Addysg ac ati. Dyma’r meysydd sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

Gwario\'r treth cyngor

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu trigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu cefnogaeth wedi'i theilwra i drigolion ledled y sir sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth, gan gynnwys hyder isel, pryder, a phrofiad gwaith cyfyngedig. Trwy fentora, cyfleoedd gwirfoddoli, a datblygu sgiliau, mae'r gwasanaeth yn helpu unigolion i feithrin hyder a symud yn agosach at eu nodau.

Un enghraifft o'r gefnogaeth hon yw Derek, a gafodd ei gyfeirio at Sir Ddinbych yn Gweithio drwy'r Ganolfan Waith ychydig flynyddoedd yn ôl. Ar y pryd, roedd Derek yn profi hyder isel, pryder, ac nid oedd ganddo'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i ymuno â'r gweithlu.

Gyda chanllawiau gan dîm Sir Ddinbych yn Gweithio a thrwy leoliad gwirfoddoli yn Warws Sant Cyndeyrn, mae Derek wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae bellach yn gweithio'n weithredol tuag at yrfa mewn cefnogaeth TG neu weinyddiaeth.

Dywedodd Derek, cyfranogwr Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Ar un adeg roeddwn i’n hynod o swil, gyda phryder difrifol a dim hyder.

“Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n cyrraedd lle rydw i nawr, ond gyda chefnogaeth gan Sir Ddinbych yn Gweithio a thrwy wirfoddoli, rydw i wedi goresgyn cymaint o rwystrau.

“Rwy’n gwybod y byddai’r fi iau yn falch o ba mor bell rydw i wedi dod.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae taith Derek yn enghraifft wych o’r effaith gadarnhaol y gall Sir Ddinbych yn Gweithio ei chael ar fywydau pobl.

“Mae’n ymwneud â mwy na dim ond dod o hyd i swydd, mae’n ymwneud â helpu pobl i ddatgloi eu potensial, goresgyn rhwystrau personol, a theimlo’n hyderus yn eu dyfodol.

“Rydym yn falch o gefnogi trigolion fel Derek ar eu taith tuag at gyflogaeth.”

Mae Derek yn parhau i feithrin ei sgiliau a’i brofiad trwy wirfoddoli ac mae’n benderfynol o sicrhau rôl amser llawn yn y dyfodol agos.

Mae ei daith yn rhan o ymgyrch ehangach “Mae Gwaith yn Gweithio” Tîm Anableddau Cymhleth ac Iechyd Meddwl Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall gweithio, neu gymryd camau tuag at waith, ei chael ar fywydau pobl. Boed yn gwella lles, ennill hyder, cwrdd â phobl newydd, neu ddysgu sgiliau newydd, mae’r ymgyrch yn rhannu straeon go iawn o bob cwr o Sir Ddinbych i ysbrydoli eraill.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth am ddim sy’n helpu trigolion i gael mynediad at hyfforddiant, dod o hyd i waith, ac adeiladu hyder yn eu chwiliad am swydd. Gall unrhyw un sy’n chwilio am gymorth gysylltu drwy ymweld â’n gwefan.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

Planhigfa yn creu dyfodol cadarn i fyd natur lleol

Mae coeden sy’n gysylltiedig â llymaid mewn hen dafarn a phlanhigyn hynod o brin yng Nghymru yn elfennau o fyd natur Sir Ddinbych sydd wedi cael bywyd newydd diolch i safle arbennig yn y sir.

Ers 2021, mae planhigfa goed y Cyngor ar fferm Green Gates, Llanelwy wedi mynd o nerth i nerth.

Mae gwirfoddolwyr ac aelodau ymroddedig o dîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi bod yn brysur iawn yn datblygu’r blanhigfa, sy’n tyfu miloedd o goed a blodau gwyllt o hadau er mwyn eu plannu ar hyd a lled y sir i ddiogelu a rhoi hwb i fyd natur.

Dyma flas i chi o rai o’r prosiectau llwyddiannus sydd wedi dwyn ffrwyth ar y safle.

Yn 2022, daethpwyd o hyd i blanhigyn tafod y ci – rhywogaeth sy’n prinhau, yn nôl arfordirol Prestatyn Beach Road West. Yn y 116 o flynyddoedd diwethaf, nid oes ond 18 cofnod o’r planhigyn hwn yn Sir Ddinbych.

Cymerwyd hadau o’r ddôl i’w plannu yn y blanhigfa, a diolch i ymdrechion y tîm eginodd blanhigion newydd i’w plannu mewn dolydd arfordirol eraill yn y sir.

Yn ystod 2023 gwnaethpwyd gwaith i ddiogelu a chefnogi dyfodol coeden hynafol yn Sir Ddinbych.

Casglodd y tîm a’r gwirfoddolwyr dros 15,000 o fes a’u plannu yn y blanhigfa.

Mae coed derw yn cael effaith bwysig ar fioamrywiaeth drwy gynnal mwy o ffurfiau ar fywyd nag unrhyw goeden gynhenid arall. Gall y goeden gynnal cannoedd o bryfed, ac mae hynny’n darparu ffynhonnell gyfoethog o fwyd i adar. Drwy gydol yr hydref bydd gwiwerod, moch daear a cheirw hefyd yn bwyta mes.

Yn 2024 rhoddodd y blanhigfa sylw i lwyn prin yn Sir Ddinbych.

Mae meryw’n brin yn Sir Ddinbych a dim ond mewn un man ar ael bryn ym Mhrestatyn y deuir o hyd iddynt. Mae’r llwyn yn rhywogaeth â blaenoriaeth i’w amddiffyn yn y Deyrnas Unedig, wedi dirywiad brawychus oherwydd pori gormodol a diflaniad porfeydd addas.

Gwnaed ymdrech i amddiffyn un llwyn meryw yn Sir Ddinbych yn 2008 pan fu’r Cyngor yn gweithio â Sw Caer wrth blannu llwyni ifanc ar ael y bryn ym Mhrestatyn er mwyn annog twf y meryw oedd yno eisoes.

Ymwelodd aelodau o’r tîm Bioamrywiaeth â’r safle i gasglu hadau i’w plannu yn ôl yn y blanhigfa goed gan fod meryw yn darparu cynefin gwerthfawr a bwyd i amrywiaeth o rywogaethau, yn cynnwys pryfed, adar a mamaliaid.

Eleni mae’r blanhigfa goed hefyd wedi cynnig llwncdestun i goeden hanesyddol a phrin yn y sir.

Mae tîm y blanhigfa wedi rhoi hwb i’r gerddinen. Mae dros 300 o’r 500 o hadau a gasglodd y tîm y llynedd wedi egino yn y blanhigfa.

Mae’r gerddinen yn goeden brin yn y sir ac yn hanesyddol fe'i gelwir hefyd yn goeden ‘chequers’ yn Saesneg oherwydd y ffrwythau y dywedir eu bod yn blasu'n debyg i ddatys ac a roddwyd i blant yn y gorffennol fel fferins.

Yn draddodiadol, roedd ffrwythau o’r goeden hefyd yn cael eu gwneud yn ddiod feddwol tebyg i gwrw wedi’i eplesu, a chredir bod y ddiod hon wedi dylanwadu ar enwi llawer o dafarndai yn ‘Chequers’ ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r prosiectau eleni wedi cynnwys tyfu dros 1,000 o goed ysgaw drwy gymryd toriadau o ysgaw a oedd eisoes yn tyfu ar y safle. Yn hanesyddol defnyddiwyd yr ysgawen, sy’n ffynhonnell llifynnau, i wneud y patrwm ar frethyn Harris.

Ac mae cenhedlaeth newydd o goed sydd dan fygythiad yn paratoi i helpu i gefnogi glöyn byw prin.

Mae’r blanhigfa wedi bod yn tyfu cnwd o lwyfenni llydanddail i helpu’r rhywogaeth sydd dan fygythiad oherwydd clefyd llwyfen yr Isalmaen. Mae llawer o goed aeddfed wedi’u torri oherwydd y clefyd hwn, gan leihau twf a lledaeniad coed ifanc.

Mae dros 1,800 o lwyfenni llydanddail wedi’u tyfu o hadau a gasglwyd o Barc Gwledig Loggerheads y llynedd i helpu’r goeden i atgyfodi yn Sir Ddinbych. Yn y pen draw, bydd y rhain yn cael eu plannu yn natblygiad Gwarchodfa Natur Green Gates ger y blanhigfa goed.

Mae’r llwyfenni llydanddail yn blanhigion bwyd larfaol pwysig i’r Brithribin Gwyn, a gofnodwyd yn Loggerheads ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond mae bellach yn brin iawn yn y sir.

Mae coeden a oedd yn bwysig i’r Celtiaid ac sydd i’w gweld yn enw Ynys Afallon yn chwedl y Brenin Arthur hefyd ar gynnydd yn Sir Ddinbych.

Mae dros 2,500 o goed afalau surion yn adrodd stori newydd yn 2025 diolch i gefnogaeth y blanhigfa goed.

Mae cysylltiad hanesyddol cryf wedi bod rhwng coed afalau surion a chariad a phriodi. Byddai pobl ers talwm yn taflu hadau’r afalau i’r tân wrth ddweud enw eu cariad, ac os oeddent yn ffrwydro, byddai’r cariad yn para hyd byth. Roedd y Celtiaid yn llosgi’r prennau yn ystod gwyliau a defodau ffrwythlondeb.

Fe soniodd William Shakespeare am y goeden afalau surion yng nghyd-destun cariad yn ‘A Midsummers Night’s Dream’ a ‘Love Labours Lost’ hefyd.

Gall coed afalau surion dyfu’n 10 metr o uchder a byw am gan mlynedd, ac mae’r dail yn ffynhonnell o fwyd i wyfynod, yn cynnwys y gwyfyn tuswog llwyd, y smwtyn gwyrdd a’r gwalchwyfyn llygadog.

Mae’n ffynhonnell fwyd wych i fyd natur; mae adar wrth eu boddau â’r ffrwythau a llygod y maes, llygod cwta a moch daear hefyd yn mwynhau porthi ar yr afalau.

Rhwydwaith gwefru cerbydau trydan y sir yn sbarduno miliynau o filltiroedd gwyrddach

Mae Rhwydwaith Gwefru Cerbydau Trydan Cyngor Sir Dinbych wedi cefnogi miliynau o filltiroedd gwyrddach

Mae Rhwydwaith Gwefru Cerbydau Trydan Cyngor Sir Dinbych wedi cefnogi miliynau o filltiroedd gwyrddach ers i'r gwefrwyr cyntaf ddod ar-lein.

Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru eleni, rydym yn edrych yn ôl ar yr effaith y mae twf rhwydwaith gwefru'r cyngor wedi'i chael ar ddarparu cludiant cyhoeddus mwy gwyrdd i drigolion ac ymwelwyr.

Dechreuodd rhwydwaith y sir ym mis Mehefin 2021 gyda gwefrwyr cyflym ym Mhrestatyn ac, ers hynny, mae wedi tyfu gyda mwy o gyfleusterau gwefru yn cael eu darparu yn y Rhyl, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen.

Mae dod â'r rhwydwaith ar-lein yn rhan o waith parhaus y cyngor i leihau ôl troed carbon y sir a chefnogi'r gyrwyr hynny sydd am newid i gerbydau trydan ond efallai nad oes ganddynt y cyfleusterau i wefru gartref.

Mae mentrau cerbydau fflyd trydan eraill hefyd yn rhan o nod y cyngor i leihau allyriadau carbon, megis gwasanaethau bysiau trydan Fflecsi Rhuthun a Dinbych.

Ers dod ar-lein yn 2021, mae'r gwefrwyr wedi cefnogi gyrwyr cerbydau trydan drwy ddarparu 46,200 o sesiynau gwefru unigol i gefnogi dulliau teithio cyhoeddus allyriadau is.

Mae hynny'n cyfateb i ddefnyddio 1,100,000 cilowat yr awr, a fyddai'n galluogi 367 o geir Tesla Model 3 i wneud cyfartaledd o 12,000 milltir y flwyddyn wedi'u gwefru am y 12 mis llawn. Byddai nifer yr oriau cilowat hefyd yn rhoi pŵer i'ch archfarchnad leol am flwyddyn gyfan.

Gan drosi'r pŵer gwefru yn filltiroedd, mae'r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ledled Sir Ddinbych wedi cyflawni dros dair miliwn o filltiroedd o yrru ar drydan. Mae hynny dros 130 o deithiau o amgylch y ddaear a 950 o weithiau ar awyren o Lundain i Efrog Newydd. Ac i un perchennog cerbyd trydan, byddai'r nifer hwnnw o filltiroedd a gynhyrchir gan y rhwydwaith yn eich cadw chi'n gyrru am ymhell dros 250 o flynyddoedd.

Cyflwynwyd mandad defnydd 99 y cant Llywodraeth y DU ar gyfer porthladdoedd gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y llynedd hefyd i wneud yn siŵr bod gwefrwyr cerbydau trydan yn gweithio'n dda ac yn gyson i yrwyr sy'n eu defnyddio. Ar hyn o bryd mae rhwydwaith y cyngor yn uwch na’r targed hwn ar 99.95 y cant.

Mae gwaith ar y rhwydwaith gwefru ychwanegol ar gyfer ychydig o safleoedd wedi’i gefnogi gan gyllid grant drwy Swyddfa Cerbydau Allyriadau Sero (OZEV) Llywodraeth y DU. Ariannwyd gwefrwyr yn Lôn Werdd Corwen gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd creu’r rhwydwaith gwefru hwn yn gam pwysig yn ein hymrwymiad i helpu ein trigolion sydd eisiau symud i gerbydau trydan ond nad oes ganddynt y cyfleuster na’r lle parcio oddi ar y ffordd i wneud hynny. Bydd darparu'r rhwydwaith hwn yn helpu mwy o bobl i wneud hynny.

“Rydym hefyd yn gwybod ei fod yn helpu busnesau lleol sydd â cherbydau trydan yn eu fflyd yn ogystal â’r rhai sydd ag adeiladau yn y dref. Y rheswm am hyn yw bod mwy o ddefnyddwyr cerbydau trydan yn darganfod y lleoliadau hyn ac yn ymweld â sefydliadau ac atyniadau lleol tra’n gwefru eu cerbydau ar hyd lleoliadau ein rhwydwaith.

“Gyda chynnydd parhaus yn y defnydd o gerbydau trydan, mae wedi bod yn bwysig rhoi’r isadeiledd hwn ar waith, nid yn unig i’r defnyddwyr ond hefyd i gefnogi’r gwaith o fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd ar ein sir drwy helpu i leihau allyriadau carbon ar ffyrdd y rhanbarth.”

Damwain yn newid llwybr gyrfa

Mae damwain a newidiodd fywyd dyn o Ruthun wedi’i arwain at lwybr gyrfa newydd

Matt Jones 

Mae damwain a newidiodd fywyd dyn o Ruthun wedi’i arwain at lwybr gyrfa newydd, gan ei helpu i ddysgu sut i wella defnydd ynni, lleihau costau a chefnogi’r amgylchedd.

Dechreuodd Matt Jones, Swyddog Prosiect Lleihau Carbon, ei yrfa fel saer tan i un diwrnod tyngedfennol ei wthio ar lwybr gwahanol sydd, erbyn hyn, yn dod â budd i breswylwyr Sir Ddinbych.

Mae Llais y Sir wedi bod yn siarad efo Matt i weld sut bu iddo ddringo’r ysgol yrfa at ei swydd bresennol.

Aeth Matt, beiciwr mynydd o fri, o Ysgol Brynhyfryd i Goleg Llandrillo yn y Rhyl ac yna i’r coleg yn Llandrillo-yn-Rhos i wneud cwrs sylfaen mewn crefft adeiladu, gan gyfuno sawl sgil ymarferol.

Eglurodd: “Oedden ni’n gwneud ychydig bach o blymio, gwaith trydanol, gwaith saer a phlastro. Yna, mi es i yn fy mlaen i ddewis gwaith saer a dechrau gweithio… ond yna mi dorrais fy mhigwrn. A dyna pryd newidiodd bopeth.

“Roeddwn i allan ar fy meic, yn mynd dros naid a daeth fy nhroed oddi ar y pedal, fe laniais droed yn gyntaf cyn y beic a thorri fy mhigwrn…

“Mi es yn ôl i orffen y cwrs, cael prentisiaeth a chael swydd efo’r un cwmni. Ond oherwydd y trafferthion ges i gyda fy mhigwrn mi ges i osteoarthritis a bu’n rhaid i mi gael llawdriniaethau, a gorfod gadael fy ngwaith saer a gwaith safle yn 2015. Fe newidiodd fy mywyd.

“Oherwydd fy mod i wedi torri fy mhigwrn hanner ffordd drwy’r flwyddyn, mi es i’n ôl a gorffen y flwyddyn a derbyn gwobr cyflawniad arbennig gan y coleg.”

Bu Matt yn gweithio ar brosiectau gwaith saer ar safleoedd treftadaeth, yn cynnwys Castell Conwy, Castell Biwmares a Chastell Dinbych.

“Roeddwn i’n gwneud llawer o bethau diddorol, ac yn mwynhau. Ond oherwydd bod y gwaith toi yn golygu defnyddio sgaffaldiau ac ysgolion, doeddwn i ddim yn gallu cario ‘mlaen i weithio oherwydd fy mhigwrn.

“Ar ôl hynny mi ges i fwy o lawdriniaethau; cefais y llawdriniaeth olaf, cymalglymu’r pigwrn, bron i ddeng mlynedd yn ôl rŵan.”

Ar ôl hynny, gwelodd Matt swydd ran-amser yn cael ei hysbysebu gan gartref preswyl Cysgod y Gaer Cyngor Sir Ddinbych a phenderfynodd fynd amdani.

“Swydd tasgmon/garddwr oedd hi, un rhan-amser, a oedd yn gyfle perffaith i mi fynd yn ôl i weithio’n ara’ deg gan nad oeddwn i’n gwybod sut fyddai fy mhigwrn. Ar ôl ychydig o flynyddoedd mi ges i ail swydd fel glanhawr yn Neuadd y Sir.”

Aeth Matt yn ei flaen i swydd arall gyda thîm cyfleusterau Neuadd y Sir, cyn gweld swydd Swyddog Ynni ac ennill HNC gyda chefnogaeth y Cyngor yng Ngholeg Cambria, Wrecsam.

Mae Tîm Ynni Sir Ddinbych wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau a lleihau costau defnyddio dros y tymor hwy.

Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.

Ychwanegodd Matt: “Yna gwelais gyfle arall, i fod yn Swyddog Prosiect Lleihau Carbon a chwblhau prentisiaeth gradd ynni carbon isel. A dyna lle dw i rŵan. Felly mae sawl cam wedi bod i’m gyrfa. Rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth yma yn Sir Ddinbych i ddringo'r ysgol yrfa, fe ariannon nhw’r HNC i’m helpu i ddatblygu ac fe gafodd y brentisiaeth ym Mhrifysgol Wrecsam ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.”

Mae ei rôl yn un ‘llwybr graddfa uwch’ sy’n galluogi pobl i neidio ar ysgol yrfa a fyddai fel arall ar gyfer pobl sydd wedi’u cymhwyso’n barod. O ran gyrfa mae rôl Matt wedi’i dylunio i oresgyn rhwystrau a hwyluso datblygiad gyrfaol. Yn y Tîm Ynni mae rôl y Swyddog Ynni hefyd wedi dod yn un llwybr graddfa uwch.

“Mae’r radd dw i’n ei gwneud rŵan, a dw i newydd ddechrau’r ail flwyddyn, yn radd mewn Effeithlonrwydd Ynni Carbon Isel a Chynaliadwyedd, ac felly mae’n cyd-fynd yn berffaith efo’r hyn dw i’n ei wneud yn y rôl yma a’r prosiectau dw i’n gweithio arnyn nhw.”

Gan weithio ar brosiectau fel gosod paneli solar i wella effeithlonrwydd ynni yn Ysgol Uwchradd y Rhyl, Cartref Gofal Dolwen a hyd yn oed gweithio yng Nghysgod y Gaer ble dechreuodd bopeth, roedd cynaliadwyedd wastad yng nghefn meddwl Matt.

“Dw i wastad wedi mwynhau bod tu allan ac wrth fy modd efo natur, ac ar ôl bod yn beicio a beicio mynydd o gwmpas Rhuthun a Dyffryn Clwyd. Felly dw i wastad wedi bod ag ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd.

“Pan ‘dach chi’n dechrau gweld y data yn cyrraedd ac yn ei fonitro… mae’n dda. Dw i’n meddwl mai dyna pam dw i’n angerddol dros hynny rŵan, dw i’n ei fwynhau. Dw i’n mwynhau’r swydd hon a dw i’n awyddus i wella yn y maes. Pob swydd dw i wedi’i chael, yn enwedig efo’r Cyngor, dw i wedi’i mwynhau. Ac mae pob cam dw i wedi’i gymryd yn un i ddringo’r ysgol yrfa.”

Ond beth ydi cyngor Matt i unrhyw un sy’n wynebu cyfnod o orfod newid gyrfa?

“Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to, daliwch ati a gweithiwch yn galed, dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth dw i wastad wedi’i wneud. Roeddwn i’n gwybod na allwn i redeg o gwmpas safleoedd, a gwneud gwaith labro a’i fwynhau go iawn. Roedd yn rhaid i mi weithio allan i le’r oeddwn i eisiau mynd yn academaidd, a dw i wedi dod o hyd i’r lle hwnnw.”

Cyngor i breswylwyr - beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa preswylwyr i fod yn wyliadwrus a chymryd camau ymarferol i amddiffyn eu hunain, eu cartrefi a’u cymunedau os bydd llifogydd yn ystod y gaeaf. 

Mae Llais y Sir wedi paratoi cyngor i gynorthwyo preswylwyr i fod ar y droed flaen yn erbyn effaith unrhyw lifogydd ar draws Sir Ddinbych. 

Llanrhaeadr Flooding

Wrth i fwy o stormydd daro’r sir, gall llifogydd ddigwydd yn gyflym a heb fawr o rybudd.  Mae bod yn barod cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch ac adferiad ar ôl llifogydd. 

Er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd gallwch: 

  • Wirio eich risg llifogydd: Edrychwch ar fapiau risg llifogydd hirdymor Cyfoeth Naturiol Cymru i weld os yw eich eiddo mewn ardal risg llifogydd.
  • Cofrestru i dderbyn rhybudd: Os ydych chi mewn perygl, cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd awtomatig i dderbyn rhybudd cyn gynted â phosibl.
  • Adolygu eich yswiriant:  Sicrhewch fod eich yswiriant tŷ ac yswiriant cynnwys yn cynnwys yswiriant llifogydd.  Mae menter y Llywodraeth ac yswirwyr Flood Re yn gallu cynorthwyo i sicrhau bod yswiriant llifogydd yn fwy fforddiadwy.
  • Creu cynllun llifogydd personol:  Dylech gynnwys manylion cyswllt allweddol, gwybodaeth yswiriant, a rhestr wirio o gamau brys.  Dylid ei storio’n ddiogel mewn ffolder sy’n dal dŵr.
  • Paratoi pecyn llifogydd:  Dylech gynnwys dillad cynnes sy’n dal dŵr, meddyginiaeth, tortsh, dogfennau pwysig, a chyflenwadau hanfodol rhag ofn bod rhaid i chi adael.
  • Ystyried cynnyrch amddiffyn:  Prynu bagiau tywod neu fyrddau llifogydd i rwystro drysau a brics aer.

LlifogyddOs oes llifogydd yn dilyn tywydd garw a bod ffordd sydd wedi’i effeithio gan lifogydd neu ffos wedi’i rhwystro yn eich ardal, rhowch wybod i’r Cyngor a byddwn yn cymryd camau priodol i reoli’r broblem. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am faterion sy’n ymwneud ag arfordiroedd a phrif afonydd.  Mae Dŵr Cymru’n gyfrifol am garthffosydd.  Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain.

Ar gyfer materion sy’n effeithio ar y prif afonydd, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000. Gweler y ddolen hon i weld manylion y prif afonydd.

Ar gyfer llifogydd sy’n effeithio ar garthffosydd,  gan gynnwys carthffosydd dŵr budr a dŵr wyneb cyfunol, cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 neu ar gyfer llifogydd mewn eiddo neu ar briffordd, cysylltwch â Chyngor Sir Ddinbych ar 01824 706000.

Mae modd cysylltu â Floodline ar 0345 988 1188 i rannu pryderon am lifogydd yn eich ardal. 

Os ydych yn byw mewn ardal â pherygl o lifogydd ac yn teimlo yr hoffech gadw ambell fag tywod yn eich cartref fel rhagofal i’w ddefnyddio os bydd llifogydd, gallwch brynu bagiau tywod o siopau nwyddau neu siopau DIY.  Mae systemau unigryw eraill ar gael i amddiffyn drysau a brics aer. Nid yw’r Cyngor yn darparu bagiau tywod i eiddo unigol pan fydd llifogydd.  Yn hytrach, rydym yn defnyddio bagiau tywod yn bennaf i amddiffyn grwpiau o breswylwyr, er enghraifft trwy ddargyfeirio llif y dŵr, a’i gyfeirio tuag at gwteri a thyllau archwilio.  Mae hyn yn ein galluogi i amddiffyn strydoedd cyfan, lle y byddai rhoi bagiau tywod i aelwydydd unigol ar stryd yn ddefnydd llai effeithiol o adnoddau.

Gall cymunedau gydweithio i gynorthwyo preswylwyr lleol i fod yn fwy gwydn i lifogydd. Sefydlwyd Grŵp Cymunedol ‘Dyserth Flood Support’ ar ôl llifogydd hanesyddol ar Ffordd y Rhaeadr.  Darparodd y Cyngor rwystrau llifogydd drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru, gyda’r meini prawf yn nodi y gellir eu darparu i grŵp cymunedol yn unig.  Darparodd Cyngor Sir Ddinbych rwystrau ychwanegol yn 2025.

Mae cyngor ar gael i sefydlu grŵp gweithredu ar lifogydd cymunedol lleol gan Y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol neu mae modd cysylltu â Paul Owen ar 01824 706872 / paul.owen@denbighshire.gov.uk.

Pan fydd llifogydd peidiwch â cheisio gyrru na cherdded trwy’r dŵr.  Gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich taflu oddi ar eich traed, a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn gwneud i’ch car arnofio. Mae nifer o bethau ymarferol y gallwch eu gwneud i helpu i rwystro difrod i'ch cartref, gan gynnwys:

  • Diffodd eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr
  • Plygio sinciau a rhoi pethau trwm arnynt i’w cadw i fewn; plygio pibelli dŵr gyda thywelion neu gadachau, a datgysylltu unrhyw offer sy’n defnyddio dŵr, fel eich peiriant golchi dillad.  Mi fydd y camau hyn yn helpu i rwystro dŵr rhag dod i fewn i’r eiddo.
  • Ceisiwch osgoi dod i gyswllt â’r llifogydd lle bo modd, gan ei bod yn bosib’ y bydd wedi'i halogi
  • Peidiwch â gadael eich cartref na mynd i mewn i’r dŵr oni bai bod aelod o’r gwasanaethau brys yn dweud wrthych am wneud hynny

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd:  “Byddwn yn gweithio’n agos iawn gyda’n hasiantaethau partner bob tro er mwyn gwneud popeth y gallwn i leihau effaith unrhyw ddigwyddiadau llifogydd sy’n digwydd ar draws y sir.  Rydym eisiau sicrhau bod ein preswylwyr yn aros yn ddiogel a byddwn yn gofyn iddynt ddilyn y cyngor pwysig hwn i baratoi ar gyfer llifogydd posibl, ac os bydd llifogydd yn eich ardal dilynwch unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhannu gennym ni, Cyfoeth Naturiol Cymru, neu’r gwasanaethau brys a gofynnwn i bobl gadw golwg ar y rhagolygon tywydd, y cyfryngau, a’r cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf.”

Oak Lane flooding

Mae modd ein dilyn ar Facebook i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd llifogydd. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen we cyngor llifogydd. 

CIPOLWG

Mwynhau Tirwedd Naturiol Sir Ddinbych yn ddiogel

Cyngor ar sut i fwynhau Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Pharc Gwledig Loggerheads yn ddiogel mewn tywydd garw

Cyngor ar sut i fwynhau Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Pharc Gwledig Loggerheads yn ddiogel

Mae wythnos gyntaf mis Ionawr wedi bod yn arbennig o brysur ar Moelfamau ac ym Mharc Gwledig Loggerheads, ac wrth i ni wynebu rhybudd tywydd arall, mae’r cyngor yn gofyn i bawb sy’n bwriadu ymweld i gymryd gofal ychwanegol.

Eira - Loggerheads

Mae’r Tîm Priffyrdd a’r Ceidwaid Cefn Gwlad yn gweithio’n hynod o galed i sicrhau bod ffyrdd, meysydd parcio a llwybrau’n ddiogel yn ogystal â gofalu am y bywyd natur a’r tirwedd rydym oll yn ei fwynhau – maen nhw allan ym mhob tywydd i sicrhau bob popeth yn rhedeg mor esmwyth â phosibl i ymwelwyr fwynhau.

Snow - MoelfamauDyma ambell beth i’w ystyried i sicrhau ymweliad diogel:

⚠️ Glynwch at lwybrau agored a dilynwch bob arwydd diogelwch.

🚧 Talwch sylw manwl i arwyddion sy’n dangos ffyrdd wedi’u cau – maen nhw yno i’ch diogelu chi.

❄️ Ystyriwch yr amodau tywydd – mae eira a rhew yn gwneud arwynebau a llwybrau’n llithrig.

🧥 Gwisgwch ddillad addas a pharatowch ar gyfer eich ymweliad, yn enwedig mewn tywydd garw.

🚗 Byddwch yn ystyrlon wrth barcio os ydych yn ymweld yn eich car. Dylech osgoi rhwystro mynedfa trigolion lleol i’w tai neu barcio mewn ffordd sy’n culhau’r ffordd i’r gwasanaethau brys a thraffig arall.

🐾 Cadwch eich cŵn dan reolaeth.

Cyngor ar sut i ymdopi â thywydd garw

Mae ystod o wybodaeth a chyngor ar wefan Cyngor Sir Ddinbych. Mae manylion am ba ffyrdd sy’n cael eu graeanu, ble gallwch ddarganfod eich bin halen agosaf yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am yrru mewn amodau gaeafol a sut i wneud eich cartref yn ddiogel mewn tywydd oer. Ac am wybodaeth bellach am rybuddion tywydd, ewch i wefan Swyddfa’r Met.

Rydym am i bawb fwynhau harddwch ein hamgylchedd naturiol – yn ddiogel, yn gyfrifol a chyda parch. 💚

Diolch am wneud eich rhan! 👋

Datganiad o Ddiddordeb - Caffi Loggerheads

Mae’r Cyngor yn chwilio am Bartner Tenant i weithredu darpariaeth arlwyo i ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads.

Loggerheads

Caffi Loggerheads (delwedd cysyniad)

Mae gwybodaeth bellach ar ein gwefan

Dyddiad cau – hanner dydd, dydd Llun, 12 Ionawr 2026

Spotolau ar ein prif drefi

Mae ein Tîm Twristiaeth wedi bod yn tynnu sylw at bob un o'n prif drefi yn eu blog Gogledd-ddwyrain Cymru.

Mae mwy o wybodaeth yn eu blog

Mwy o ardaloedd i dderbyn cymorth Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych

Mae mwy o ardaloedd yn Sir Ddinbych am dderbyn cymorth drwy gynllun gofal plant Dechrau’n Deg.

Mae’r ardaloedd ychwanegol yn cynnwys y Rhyl, Prestatyn, Gallt Melyd, Rhuddlan, Dyserth, Dinbych, Corwen, Llangollen, Llandrillo a Llanfair DC, ac mae’n berthnasol i deuluoedd sydd â phlentyn a gafodd ei ben-blwydd yn 2 oed rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025.

Mae ehangu’r cynllun yn golygu y bydd teuluoedd yn yr ardaloedd newydd yn gymwys am 12 awr a hanner o ofal plant wedi’i ariannu yn ystod tymor yr ysgol. Gyda mwy o leoliadau yn cynnig Gofal Plant Dechrau'n Deg wedi'i ariannu, a chodau post newydd yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd, anogir teuluoedd i wirio eu cod post gan ddefnyddio'r gwiriwr cod post ar y wefan.

Mae Dechrau’n Deg Sir Ddinbych yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Bydd yr ehangiad diweddaraf hwn i gynllun Dechrau’n Deg yn golygu y bydd mwy o deuluoedd Sir Dinbych bellach yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth gofal plant am ddim. Mae’r cymorth hwn o fudd mawr i rieni a theuluoedd.

Gall preswylwyr yn yr ardaloedd newydd wirio a yw eu cod post yn gymwys gyda’r gwiriwr cod post.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/gofal-plant-a-rhianta/teuluoedd-yn-gyntaf-a-dechraun-deg/dechraun-deg.aspx

Awydd dysgu rhywbeth newydd?

Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.

Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.

Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs.

Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.

 

Darganfod Sir Ddinbych...

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Beth am gael ysbrydoliaeth o'n mapiau cerdded a beicio am syniadau newydd o leoedd i ymweld â nhw.

Am fwy o ysbrydoliaeth ar weithgareddau yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau ewch i - https://www.northeastwales.wales/cy/ 

Annog pobl ifanc i hawlio eu cynilion

Gallai nifer o oedolion ifanc yn Sir Ddinbych fod â chyfartaledd o £2,200 yn aros amdanynt yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio.

Child Trust FundCyflwynwyd Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrifon ar gyfer bron 6 miliwn o blant a anwyd yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.

Mae bron hanner nifer y Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yng Nghymru heb eu hawlio o hyd. Yn ôl y Share Foundation, mae oddeutu 1240 o gyfrifon heb eu hawlio o hyd yn Sir Ddinbych.

Gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn gymryd rheolaeth o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eu hunain, er na ellir tynnu’r arian o’r gronfa tan fyddant yn 18 oed. Gall teuluoedd barhau i dalu hyd at £9,000 y flwyddyn yn ddi-dreth i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant tan fydd y cyfrif yn aeddfedu.  Mae’r arian yn aros yn y cyfrif tan fydd y plentyn yn ei dynnu allan neu yn ei ail-fuddsoddi i mewn i gyfrif arall. Os nad oedd rhiant neu warcheidwad wedi gallu agor cyfrif i’w plentyn, bu i’r llywodraeth agor cyfrif cynilo ar ran y plentyn.

Bydd pob unigolyn 16 oed yn cael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi gyda’u llythyr Yswiriant Gwladol.  Os oes unrhyw un yn ansicr am eu sefyllfa, yna dylent wirio gyda’u banc neu gymdeithas adeiladu. Fel arall, gall oedolion ifanc a rhieni chwilio ar www.gov.uk/child-trust-funds i ddod o hyd i ble mae eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei gadw.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

“Hoffwn annog yr holl bobl ifanc sy’n gymwys i wirio eu cyfrifon a hawlio yr hyn sy’n eiddo iddynt. Gellir symud y buddsoddiad i ISA oedolyn neu ei ddefnyddio ar gyfer eu haddysg, tai neu wersi gyrru.

Byddwn yn annog pobl ifanc i ddefnyddio’r adnodd ar-lein i’w olrhain, neu i rieni plant yn eu harddegau i siarad â nhw i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gallai hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w cynlluniau ar gyfer eu dyfodol yn enwedig mewn cyfnod pan fo arian yn dynn.”

Bu i’r cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gau ym mis Ionawr 2011 a bu i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA) Plant gymryd eu lle.

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, ewch i www.gov.uk/child-trust-funds. Fel arall, ewch i https://www.meiccymru.org/do-you-have-money-hiding-in-a-child-trust-fund, anfonwch neges destun at 07943 114449 neu ffoniwch 080880 23456.

Diweddariad ar Ffliw Adar gan Gyngor Sir Dinbych

Mae'r cyngor yn cynghori perchnogion dofednod ac adar hela i fod yn ymwybodol o'r risgiau.

Mae Cyngor Sir Dinbych yn cynghori perchnogion dofednod ac adar hela i fod yn ymwybodol o'r risg bosibl o ffliw adar.

Mae'r risg o firws ffliw adar yn cynyddu yn ystod y gaeaf oherwydd mudo adar dŵr a gwylanod ac mae'n firws heintus iawn sy'n cael ei drosglwyddo o aderyn i aderyn neu drwy'r amgylchedd.

Gall y clefyd effeithio ar system resbiradol, dreulio neu nerfol llawer o rywogaethau o adar, ac mae arwyddion cyffredin yn cynnwys colli archwaeth, pennau chwyddedig a phroblemau anadlu a all arwain at farwolaeth.

Yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion a gofnodwyd yng Nghymru, o heddiw (ddydd Iau Tachwedd 13), bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad 50 neu fwy o adar o unrhyw rywogaeth eu cadw o dan do i leihau'r lledaeniad ac atal y firws.

Bydd y mesurau yn berthnasol i heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth os caiff wyau neu gynhyrchion dofednod eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd hefyd. Mae hyn oherwydd y risg uwch o drosglwyddo clefydau sy'n gysylltiedig â masnachu neu roi cynhyrchion dofednod i ffwrdd.

Bydd y mesurau tai gorfodol newydd yn cael eu hymgorffori yn y Parth Atal Ffliw Adar Cymru (AIPZ) presennol a gyflwynwyd ym mis Ionawr.

Hoffai Cyngor Sir Dinbych atgoffa unrhyw un sy'n cadw dofednod neu adar hela, gan gynnwys y rhai sydd â llai na 50 o adar, ei bod yn ofynnol i ddarparu manylion eu heidiau i'r Gofrestr Dofednod.

Bydd hyn yn sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith os bydd achos o glefyd adar fel y gallant gymryd camau i amddiffyn eu hadar cyn gynted â phosibl.

Dylai ceidwaid dofednod archwilio eu hadar yn rheolaidd am arwyddion o'r clefyd a gwahanu adar sy'n dangos arwyddion eu bod wedi'u heffeithio. Dylid rhoi gwybod ar unwaith i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am unrhyw achosion a amheuir o ffliw adar.

I roi gwybod am adar marw a chael gwared arnynt, ffoniwch DEFRA ar 03459 335577 neu i gofrestru eich dofednod cliciwch yma neu ffoniwch Linell Gymorth Cofrestr Dofednod Prydain Fawr, ar 0800 634 1112.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r ddolen isod:

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/trwyddedau-hawlenni-a-safonau-masnach/safonau-masnach/y-feirws-ffliw-adar-hpai.aspx

Trefniadau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu Wythnos yn Cychwyn Rhagfyr 22

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynghori trigolion i fod yn ymwybodol o newidiadau dros dro i ddyddiau casglu gwastraff ac ailgylchu dros wyliau’r Nadolig.

Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i gasgliadau gwastraff y cartref. Mae rhai dyddiau casglu wedi newid, sef:

Byddwn ni’n dychwelyd i’r drefn arferol o ran casgliadau ddydd Llun, 5 Ionawr 2026.

Mae’r wybodaeth i gyd am gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ar wefan y Cyngor.

Gall trigolion wirio sut i ailgylchu eitemau ar ganllaw ailgylchu A i Y y Cyngor ar-lein.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025: Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025: Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025: Sir Ddinbych sy'n dysgu a thyfu

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025:Sir Ddinbych wyrddach

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Uchafbwyntiau'r Cynllun Corfforaethol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025: Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n uchel ei berfformiad

Bob blwyddyn, rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Y Sir Ddinbych a Garem. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni ar gyfer pobl a chymunedau Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun yn cynnwys chwe thema.

Diweddariad mis Rhagfyr – Gwaith cynnal a chadw ffyrdd

Mae ein tîm Priffyrdd wrthi’n cwblhau gwaith cynnal a chadw ar draws y sir.

Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw 1,400 cilomedr o ffyrdd yn Sir Ddinbych. Mae ein timoedd yn cwblhau rhaglen waith rheolaidd i gynnal a gwella ein ffyrdd, sy’n amrywio o drwsio tyllau yn y ffyrdd i brosiectau ail wynebu ffyrdd.

Mae’n bosibl y bydd angen cau ffyrdd er mwyn cwblhau gwaith trwsio, draenio a gwaith cefnogol arall.

Isod mae rhestr o waith Priffyrdd ar gyfer mis Rhagfyr:

Lleoliad

Math o waith

Rheolaeth traffig dros dro neu gau’r ffordd

Dyddiad dechrau*

Dyddiad gorffen*

Ruthin – Stryd Mwrog (Eglwys i gylchfan A494)

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

Gwaith nos – 6yh hyd at 2yb

03.12.2025

13.12.2025

Corwen - A5104 (cyffordd A494 I gyffordd Tan Y Bidwal)

Gwaith ail arwynebu

Gwaith hebrwng

04.12.2025

07.12.2025

Hendrerwydd – croesffordd Hendrerwydd i Plas Isaf

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

08.12.2025

16.12.2025

Tremeirchion – Heol y Brenin

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

11.12.2025

12.12.2025

Tremeirchion – B5429 Pistyll i Nant Gwilym

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

15.12.2025

18.12.2025

Gall dyddiadau gwaith newid oherwydd y tywydd neu ffactorau allanol eraill.

Am yr holl wybodaeth am waith ar draws ffyrdd Sir Ddinbych, gan gynnwys gwasanaethau eraill y Cyngor a chwmnïau cyfleustodau, ewch i'r ddolen hon am ragor o wybodaeth.

 

 

Diweddariad am Gyfleuster Ystafell Newid Gerddi’r Coroni

Diweddariad am Gyfleuster Ystafell Newid Gerddi’r Coroni

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn chwilio am sefydliad partner i reoli a gweithredu y cyfleuster Ystafell Newid yng Ngerddi’r Coroni Rhyl.

Bydd y cyfleuster o reidrwydd ar gael i bob sefydliad chwaraeon sy’n defnyddio safle'r Gerddi.

Bydd y partner llwyddiannus sydd â diddordeb yn gyfrifol yn llwyr am gynnal a chadw'r adeilad, agor a chau'r cyfleuster yn ogystal â chymryd archebion mewn modd addas dros y ffôn neu drwy e-bost.

Rhagwelir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymo i drefniant prydles gyda’r Cyngor fel y landlord sydd â chyfrifoldebau diffiniedig dros atgyweirio ynghyd â rhwymedigaethau rheoli.

Dylai unrhyw un sydd  â diddordeb anfon e-bost at property.services@denbighshire.gov.uk gyda’r teitl “Cyfleusterau Newid Gerddi’r Coroni” yn glir ar yr e-bost erbyn 24 Rhagfyr.

Mae tîm safonau masnach y cyngor yn rhybuddio trigolion am sgamiau posibl y Nadolig hwn

Mae tîm safonau masnach y cyngor yn rhannu rhai awgrymiadau defnyddiol i osgoi cael eich twyllo'r Nadolig hwn.

Mae cyfnod yr ŵyl yn peri risg uwch o gael ei ddal gan sgamiau. Mae tîm safonau masnach y cyngor yn rhannu rhai awgrymiadau defnyddiol i osgoi cael eich twyllo'r Nadolig hwn.

🎄Cyfryngau cymdeithasol

Gall cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug gopïo cyfrifon manwerthwyr dilys, gyda phostiadau o'r cyfrifon hyn yn aml yn cynnwys dolenni i wefannau ffug. Os archebir nwyddau mae'n debygol na fyddwch yn eu derbyn.

Wrth siopa ar-lein, chwiliwch am wefan yn uniongyrchol drwy borwr bob amser a gwiriwch fod y wefan yn cynnwys holl fanylion cyswllt y gwerthwr a chyfeiriad cyswllt.

🎄Gwefannau ffug

Gall twyllwyr greu gwefannau sy'n edrych yn union yr un fath â gwefannau dilys ag enw da.

Gall fod yn anodd gweld gwefan ffug. Mae gan Get Safe Online offeryn gwirio sy'n eich galluogi i wirio a yw gwefan yn debygol o fod yn gyfreithlon neu'n sgâm cyn i chi ymweld â hi. Am ragor o wybodaeth ewch i - <https://www.getsafeonline.org/wales/>

🎄Sgamiau Ddanfon

Mae sgamiau ddanfon yn gyffredin iawn. Yn aml, byddwch yn derbyn neges destun, neu e-bost yn dweud na ellid dosbarthu'r parsel am ryw reswm a'ch bod yn cael eich cyfeirio i ddefnyddio dolen i dalu ffi i aildrefnu'r dosbarthiad.

Mae'r sgamiau yma yn rhoi mynediad i droseddwyr at wybodaeth bersonol ac ariannol.

Peidiwch byth â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon testun neu e-byst, os ydych chi'n disgwyl parsel - traciwch a chysylltwch â'r cwmni dosbarthu trwy eu gwefan ddilys.

Os cewch e-bost sgâm, anfonwch ef ymlaen at y Ganolfan Seiber Diogelwch Cenedlaethol report@phishing.gov.uk <mailto:report@phishing.gov.uk>.

Os cewch neges destun sgâm, anfonwch hi ymlaen i 7726, bydd yn mynd at eich darparwr ffôn, a byddant yn ymchwilio i'r mater ymhellach.

🎄Prisiau rhad

Os yw prisiau'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yn aml maen nhw. Gall nwyddau sy'n cael eu hysbysebu'n rhatach na'r rhai mewn siopau ag enw da fod yn ffug nad ydynt wedi mynd trwy'r gwiriadau diogelwch angenrheidiol.

🎄Sgamiau gwyliau

Yn ystod cyfnod y Nadolig/y Flwyddyn Newydd, mae pobl yn aml yn dechrau chwilio am wyliau.

Mae twyllwyr yn hysbysebu gwyliau, llety a gwefannau ffug mewn ymgais i ddwyn eich arian.

🎄Twyll tocynnau

Mae twyll tocynnau’n digwydd pan fyddwch chi’n prynu tocynnau o wefan sy’n edrych yn swyddogol, ond mae’r tocynnau’n troi allan i fod yn ffug neu dydyn nhw byth yn cyrraedd.

Wrth brynu tocynnau ar-lein, ceisiwch bob amser ddefnyddio cerdyn credyd neu PayPal - Peidiwch â phrynu tocynnau drwy drosglwyddo arian yn uniongyrchol.

Dim ond prynu o safleoedd sydd wedi’u hamgryptio ar gyfer taliadau y gwnewch - Chwiliwch am y clo clap yn y bar cyfeiriad a gwnewch yn siŵr bod y wefan yn dechrau gyda ‘https’.

🎄Sgamiau ffioedd benthyciad

Mae twyll ffioedd benthyciad yn digwydd lle mae defnyddwyr yn cael eu twyllo i dalu ffi am fenthyciad. Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn datgan bod y ffi hon fel arfer rhwng £25 a £450 ond unwaith y bydd y ffi wedi'i thalu nid yw defnyddwyr byth yn derbyn y benthyciad.

🎄Siarcod benthyg

Gall y Nadolig fod yn gyfnod drud ond byddwch yn ymwybodol o fenthycwyr arian anghyfreithlon. Mae'r benthycwyr arian anghyfreithlon yma yn aml yn codi cyfraddau llog uchel iawn.

Maent yn gweithredu o fewn ein cymunedau gan fanteisio'n aml ar bobl agored i niwed. Mae benthyca arian anghyfreithlon yn drosedd. Am fwy o wybodaeth - <https://stoploansharkswales.co.uk/?lang=cy>

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gael isod:

Hwb adnoddau Get Safe Online - <https://www.getsafeonline.org/wales/>

Gellir rhoi gwybod am sgamiau i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth - <https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Defnyddwyr/scams/Rhoi-gwybod-am-sgam/> neu gellir cysylltu â nhw dros y ffôn 0808 223 1133. Llinell iaith Gymraeg: 0808 223 1144.

A WYDDOCH CHI?

Wyddoch chi mai 1.8% o wariant Treth Cyngor sy’n mynd ar wagu biniau ac ailgylchu?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd ar wagio biniau ac ailgylchu sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D).

Am hyn, mae’r Cyngor yn casglu oddeutu 73,000 o finiau o fwy na 47,000 o gartrefi bob wythnos ar draws y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi fod 1.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd?

Mae 1.8% o wariant eich Treth Cyngor yn mynd tuag at ffyrdd ac isadeiledd.

O fewn hyn mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am 1,419km o briffyrdd (ag eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a cheuffosydd, 302 o waliau cynnal a 26,000 o geunentydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi fod gan Sir Ddinbych yn Gweithio tudalennau ar ein gwefan?

Mae gan Sir Ddinbych yn Gweithio dudalennau ar wefan y Cyngor.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yma i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. P’un ai a ydych chi’n chwilio am waith neu angen cefnogaeth i godi eich hun yn ôl ar eich traed, mae nhw yma i’ch arwain chi tuag at ddyfodol gwell. Ewch i'n gwefan i gael gweld beth sydd gennyn nhw i gynnig.

A wyddoch chi?

Mae 36.7% o'ch Treth Cyngor yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg, a 29.8% yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol, sy'n golygu bod dros 66% o'ch Treth Cyngor yn mynd ar amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Oeddech chi'n gwybod bod rhan o'ch Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân?

Nid yw'r holl Dreth Cyngor a gesglir yn talu am ddim ond gwasanaethau'r cyngor, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân. I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

Prydau ysgol am ddim

Mae pob plentyn oed cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Cynradd Cynradd Cyffredinol. Mae hon yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i sefydlu i helpu gyda'r costau byw cynyddol. Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.

Mae Treth y Cyngor yn cynrychioli dim ond 25% o arian y Cyngor

Mae Treth y Cyngor ond yn cyfrif am 25% o gyfanswm cyllid y Cyngor. Pan fyddwch yn talu eich bil Treth y Cyngor blynyddol, mae 1.8% o hwnnw’n talu am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu – sy’n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar dreth gyngor eiddo Band D o £1,799.48 y flwyddyn). Mae'r rhan fwyaf o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas - ysgolion ac addysg yw'r gwariant mwyaf sy'n cyfrif am 36.7% tra bod gofal oedolion a gofal cymdeithasol yn cyfrif am 29.8%. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.

Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Fod Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn agored i bawb 11 i 25 oed. Mae nhw yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd cymdeithasol i ddatblygu diddordebau yn ogystal â helpu a chefnogi unrhyw un sydd ei angen. I ddod o hyd i glwb ieuenctid lleol neu i gael cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, ewch i’n gwefan.

A wyddoch chi fod 1.1% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at y gwasanaeth Cefn Gwlad?

Mae 1.1% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at y Gwasanaeth Cefn Gwlad sy'n rheoli dros 80 o safleoedd cefn gwlad, dros 1,200 hectar o fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a chadwraeth.

Mae'r rhain yn amrywio o Barc Gwledig Loggerheads a Moel Fammau, Planhigfa Goed y Sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Prestatyn Dyserth Way, Llantysilio Green yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o safleoedd cymunedol llai ar draws y Sir.

Mae gan y Gwasanaeth dîm arbenigol yn y maes Ecoleg a Choed ledled y Sir,  y dynodiad Tirwedd Genedlaethol, hamdden a hawliau tramwy, sy'n trefnu teithiau cerdded natur ar gyfer iechyd ac yn rheoli'r Ganolfan Cefn Gwlad yn Loggerheads ac arlwyo ym Mhlas Newydd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Llawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, papurau newydd ac yn y blaen

Gallwch chi lawrlwytho eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd am ddim gan ddefnyddio ap Borrowbox? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Ddim yn aelod o'r llyfrgell? Mae ymuno ar-lein am ddim www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd.  

Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant yn wythnosol

Fod Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig sesiynau llesiant wythnosol am ddim ledled y sir – gan gynnwys galwadau heibio, teithiau cerdded llesiant, cefnogaeth i bobl ifanc, a gweithgareddau i hybu hyder. Maen nhw ar agor i holl drigolion Sir Ddinbych 16+ oed, ac yn hollol rhad ac am ddim! Edrychwch ar yr amserlen a’r digwyddiadau diweddaraf yma

A wyddoch chi bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd.

Bod Tîm Trwyddedu’r Cyngor wedi lansio eu safonau gwasanaeth newydd. Mae’n egluro beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wneud cais am drwyddedau, yn ystod archwiliadau a gorfodi, a sut i gysylltu neu roi adborth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan.

A wyddoch chi y gallwch wylio cyfarfodydd y Cyngor arlein?

Gallwch weld gweddarllediadau byw ac wedi eu recordio o gyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor ar unrhyw adeg.

Mae'r holl bapurau ar gael i'w gweld o flaen llaw hefyd.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am beth syn digwydd yn y Cyngor, edrychwch ar y calendr cyfarfodydd i weld beth sy’n mynd ymlaen.

A wyddoch chi mai 0.9% o wariant Treth y Cyngor sy'n mynd ar Wasanaeth Treftadaeth y sir?

Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych yn cyfrif am 0.9% o wariant Treth y Cyngor.

Am hyn, mae'n cadw ac yn hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (wedi'i lleoli yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr.

Drwy ddiogelu'r rhain mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Trwy ein hatyniadau, digwyddiadau a rhaglenni dysgu, rydym yn cefnogi balchder lleol, twristiaeth ddiwylliannol a'r economi wrth amddiffyn treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol?

Mae 2.9% o wariant Treth Cyngor yn mynd ar drafnidiaeth ysgol.

Am hyn, mae'r Cyngor yn cludo oddeutu 2,871 o ddisgyblion yn ddiogel i 75 ysgol ledled y sir.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi fod 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd?

Mae 0.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at oleuadau stryd.

Am hyn, mae’r Cyngor yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a physt wedi’u goleuo

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

A wyddoch chi bod 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion?

Mae 29.8% o wariant Treth Cyngor yn mynd tuag at ofal cymdeithasol i blant ac oedolion.

A gyda 36.7% yn mynd i ysgolion ac addysg, mae hyn yn golygu bod dros 66% o’ch Treth Cyngor yn mynd i warchod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan.

A wyddoch chi fod 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd?

Mae 1.9% o wariant Treth y Cyngor yn mynd tuag at Warchod y Cyhoedd ac Iechyd yr Amgylchedd ac fel rhan o hyn, mae'r Cyngor yn archwilio oddeutu 720 o fwytai, caffis a lleoliadau pryd ar glud bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ar gyfer trigolioin Sir Ddinbych.

Yn ogystal, mae'r Cyngor yn ymateb i dros 1,200 o geisiadau bob blwyddyn sy'n berthnasol i dai a llygredd.

I ddarganfod mwy am sut caiff Treth y Cyngor ei wario ewch i'n gwefan

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw