ERTHYGLAU
Fedrwch chi ddod o hyd i’r blodau gwyllt yma yn Sir Ddinbych?🌼
Fedrwch chi ddod o hyd i’r blodau gwyllt yma yn Sir Ddinbych?
Gyda’r tywydd yn cynhesu, mae dolydd blodau gwyllt ein sir yn dechrau bywiogi.
Yn 2019, gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd a natur a’r nod oedd mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Un o'r camau cyntaf oedd dechrau rheoli rhywfaint o laswelltir y Cyngor i greu dolydd blodau gwyllt ledled y sir. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt.
Mae gan y prosiect hwn lawer o fanteision neu ‘wasanaethau ecosystem’ i drigolion y sir hefyd, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer, ac oeri’r aer mewn gwres mawr.
Dyma ganllaw yn dangos y math o flodau y gallech eu gweld yn rhai o’n dolydd ledled Sir Ddinbych Cadwch olwg am yr arwyddion Caru Gwenyn.
Blodau gwyllt mis Mai
Pys y Ceirw

Os ewch i weld ein dolydd blodau gwyllt ym mis Mai, fe welwch bys y ceirw yn eu blodau. Mae gwenyn a phryfed peillio eraill wrth eu boddau â nhw gan eu bod yn llawn paill a dyma ffynhonnell fwyd larfa rhai o’n hoff loÿnnod byw – y Glesyn Cyffredin, y Gwibiwr Llwyd a’r Frithribin Werdd.
Meillionen Goch

Ydych chi wedi gweld meillion cochion yn ein dolydd blodau gwyllt yn ystod mis Mai? Mae’r blodyn gwyllt bach hyfryd hwn yn llawn paill ac mae’n ffynhonnell fwyd hanfodol i wenyn – yn y gorffennol, roedd yn cael ei alw’n “fara gwenyn”. Nid pryfed peillio yn unig sy’n mwynhau’r blodyn bach hwn, mae gwartheg wrth eu boddau ag o hefyd!
Blodyn Neidr

Mae blodau neidr i’w gweld ar draws ein dolydd blodau gwyllt yn ystod mis Mai. Gall y blodyn coetir hwn dyfu bron i 1m o uchder ac mae’n denu gwenyn a gloÿnnod byw at ei flodau pinc llachar trwy agor y petalau yn ystod y dydd. Ble i ddod o hyd iddo: mannau cysgodol fel cloddiau, coetiroedd, ar gyrion coetiroedd a ffyrdd gwledig.
Blodau gwyllt mis Mehefin
Tegeirian Gwenynog (Ophrys apifera)

Ydych chi wedi gweld tegeirian gwenynog yn unrhyw un o'n dolydd blodau gwyllt y mis yma? Mae'r tegeirianau bach yma'n feistri ar dwyllo! Mae'r blodyn yn edrych fel gwenynen yn gorffwyso ac mae hefyd ychydig yn flewog a hyd yn oed yn cynhyrchu arogl sy'n debyg i wenynen fenywaidd er mwyn denu sylw'r gwenyn gwrywaidd sy'n hedfan heibio.
Cribell Felen (Rhinanthus minor)

Mae’r gribell felen yn rheoli uchder ein dolydd blodau gwyllt yn y mis hwn. Mae’r blodyn gwyllt bychan yma’n wych ar gyfer dolydd blodau gwyllt. Fel planhigyn lled-barasitig, mae’n gwanhau twf gwahanol fathau o laswellt drwy fwyta’r maeth sydd yn eu gwreiddiau. Trwy wanhau’r glaswellt cryfaf, mae’r blodau gwyllt mwy eiddil yn cael cyfle i ymsefydlu.
Bysedd y Cŵn (Digitalis purpurea)

Mae bysedd y cŵn yn blodeuo yn ein dolydd ym mis Mehefin. Dyma un o’n blodau gwyllt mwyaf cyfarwydd sy’n rhoi fflach o liw ar gyrion coetir a ffyrdd gwledig gyda blodau siâp cloch sy’n lliw pinc llachar. Yn ôl ‘Plantlife’, gall un ‘bys’ gynhyrchu miliwn o hadau!
Bloda gwyllt mis Gorffennaf
Clafrllys (Knautia arvensis)

Mae blodau piwslas y clafrllys yn wych i ddenu gwenyn, gwyfynod a gloÿnnod byw brodorol. Mae hefyd yn ffynhonnell fwyd hollbwysig i rai o’n rhywogaethau mwyaf prin fel y gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul a glöyn byw brith y gors.
Y Bengaled (Centaurea nigra)

Ym mis Gorffennaf mae blodau pengaled yn blodeuo ar draws ein dolydd. Dyma flodyn gwyllt trawiadol, a’i flodau pinc llachar yn debyg i ysgall. Y bengaled yw un o’r blodau gorau i bryfed peillio. Mae’n ffynhonnell wych o neithdar maethlon i wenyn, gloÿnnod byw a chwilod. Yn nes ymlaen yn y tymor, mae ei hadau’n ffynhonnell bwysig o fwyd i amrywiaeth o’n rhywogaethau brodorol o adar.
Pig-yr-aran y weirglodd (Geranium pratense)

Pig-yr-aran y weirglodd yw’r blodyn gwyllt mwyaf toreithiog o’r genws Geranium. Mae’r rhain yn rhoi fflach o las/fioled yn gynnar yn yr haf ac yn gallu para am fisoedd yn ein dolydd blodau gwyllt. Maent yn parhau i ddenu’r llygad yn ystod misoedd yr hydref hefyd, wrth i’r dail newid o wyrdd i goch trawiadol – does dim rhyfedd ei fod yn ffefryn yng ngerddi nifer o gartrefi!
Llygad Llo Mawr (Leucanthemum vulgare)

Dyma flodyn gwydn sydd i’w weld yn ein dolydd blodau gwyllt. Mae’r llygad llo mawr yn ei flodau o fis Mai i fis Medi.
Ydych chi wedi cwrdd â'n Tîm Dechrau Da ni?

Maen nhw'n cynnal sesiynau wythnosol rhigwm dwyieithog sydd am ddim i fabanod a phlant bach ym mhob un o'n llyfrgelloedd. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau a rhigwm gyda'ch babi ac fe welwch chi ddetholiad gwych o lyfrau i bob oed yn ein llyfrgelloedd.
Mae ein llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim i ymuno, mae llyfrau am ddim i'w benthyca ac nid oes unrhyw ffioedd hwyr!
Mae'r amser rhigwm Dechrau Da yn ffordd wych o feithrin eich hyder wrth rannu llyfrau a rhigymau gyda rhai bach, a hefyd yn ffordd wych o gwrdd â rhieni newydd eraill.
Archebwch eich lle amser rhigwm am ddim yma.
Rhyfeddodau naturiol yn ysbrydoli gyrfa mewn natur

Mae cariad at anifeiliaid ers yn blentyn ifanc ac ysbrydoliaeth gan athro a fu’n cefnogi natur yn Ynysoedd y Galapagos wedi helpu i siapio gyrfa sydd bellach yn amddiffyn ac yn diogelu bioamrywiaeth Sir Ddinbych.
Mae Ellie Wainwright yn rhan o Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor sydd yn gweithio’n galed gydol o flwyddyn yn cefnogi natur yn y Sir, yn sefydlu cynefinoedd newydd i helpu bywyd gwyllt lleol i ffynnu a goroesi, a helpu i addysgu pobl o bob oedran am yr hyn y gallant ei wneud eu hunain i amddiffyn eu bioamrywiaeth.
Fe aeth Llais y Sir draw i siarad gydag Ellie i ganfod beth sydd wedi ei hysbrydoli gydol ei gyrfa sydd yn llawn o brofiadau yn helpu natur ar hyd a lled y DU.
Meddai Ellie: “Fe dyfais i fyny ger llyn mewn tref fechan yn Swydd Northampton. Yn dymhorol, fe fyddai’r llyffantod bach yn dod drwy ein gardd ddiwedd yr haf ar ôl gadael y llyn, ac mae gen i atgofion o fy mrawd a minnau’n mynd allan ac yn creu gwestai llyffantod iddynt ac yn gafael ynddynt.
“’Dwi wedi caru anifeiliaid erioed, ond doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i eisiau ei wneud fel gyrfa nes fy mod yn y chweched dosbarth. Un o fy mhynciau Lefel A oedd Bioleg Ddynol a digwydd bod, roedd un o fy athrawon yn gadwraethwr.
“Roedd o wedi gweithio ar Ynysoedd y Galapagos i Operation Wallacea, sef sefydliad cŵl iawn sy’n cynnal ymgyrchoedd ymchwil bioamrywiaeth ar draws y byd, dwi’n meddwl mai crwbanod y môr yr oedd o’n ymchwilio iddynt. Dyna oedd y tro cyntaf i mi sylweddoli y gallai hyn fod yn yrfa, felly fe benderfynais mai dyna oeddwn i eisiau ei wneud, ac fe ddechreuais edrych i mewn i brifysgolion oedd yn cynnig cyrsiau ecoleg a chadwraeth.
Er mwyn cefnogi’r yrfa yr oedd hi a’i bryd arno, fe aeth Ellie ati’n gyflym i wirfoddoli ar benwythnosau gyda’r grŵp Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt lleol i gael profiad gwerthfawr tra’n gweithio yn un o’u coetiroedd.
Gan ddefnyddio ei phrofiad yn gwirfoddoli, fe ddechreuodd ar gwrs cadwraeth bywyd gwyllt ym Mhrifysgol Caint.
Meddai Ellie: “Roedd o’n gwrs da iawn lle dysgais am theori cadwraeth. Fy hoff fodiwlau oedd Bioleg Esblygol a Geneteg, a Newid Ymddygiad. Defnyddiodd llawer o ddarlithwyr enghreifftiau o ecosystemau trofannol gan fod nifer ohonynt wedi byw dramor ac wedi gweithio gyda rhywogaethau ym Madagascar, Mauritius, a Borneo.
“Er roedd yna un darlithydd oedd yn gwneud llawer o waith gyda rhywogaethau ymlusgiaid ac amffibiaid y DU, sydd yn agosach at fy ngwaith i rŵan.”
Rhwng ei hail a’i thrydedd flwyddyn, fe dreuliodd Ellie amser yn ychwanegu elfennau o Sŵoleg at ei dysgu ar gyfer ei phrofiad ymarfer proffesiynol gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durel yn Sŵ Jersey.
Meddai: “Fe weithiais fel myfyriwr ar leoliad/ceidwad sŵ dan hyfforddiant yn adran yr adar am bum mis, ac am y gweddill roeddwn i yn adran y mamaliaid ac roedd hynny’n hwyl mawr. Roedd hi’n hynod ddiddorol dysgu am yr holl rywogaethau gwahanol a sut maent yn eu cadw a’u bridio ar gyfer prosiectau cadwraeth gwahanol o amgylch y byd.”
Ar ôl graddio o’r Brifysgol, fe ddaeth Ellie i Sir Ddinbych am y tro cyntaf i ddarganfod natur y Sir.
Fe eglurodd: “Fe ymgeisiais am swydd fel Ceidwad Cefn Gwlad Cynorthwyol gyda AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy oedd yn swydd am dri diwrnod yr wythnos. Fe symudais fyny a rhannu tŷ yn Wrecsam ac fe ddatblygodd y swydd yn gyflym i fod yn un pump diwrnod yr wythnos.
“Fe weithiais gyda phrosiect Natur er Budd Iechyd sydd yn brosiect hyfryd i gysylltu â phobl yn yr awyr agored i helpu eu hiechyd corfforol a meddyliol. Roeddwn i’n ceisio cynnwys bioamrywiaeth yn y gwaith yma cymaint â phosibl, yn ogystal â gweithgareddau megis ymwybyddiaeth ofalgar a chelfyddydau a chrefftau, roeddwn i bob amser yn ceisio cael pobl i gymryd rhan yn yr arolygon ystlumod.”
Ar ôl gweithio gyda Natur er Budd Iechyd, daeth Ellie yn Geidwad parhaol gyda AHNE gan weithio yn yr awyr agored yn ardaloedd Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, ac yn ystod y cyfnod yma fe fu’n monitro safleoedd megis Rhaeadr y Bedol yn ystod pandemig Covid a’r nifer o reoliadau y bu’n rhaid i’r cyhoedd eu dilyn.
Trwy gydol hyn, roedd gwirfoddoli yn dal i ddarparu profiadau a darganfyddiadau newydd i Ellie a fu’n help iddi symud ymlaen yn ei gyrfa bioamrywiaeth i’r swydd mae hi’n ei wneud heddiw i Gyngor Sir Ddinbych.
Meddai: “Roeddwn i wedi bod yn gwneud llawer o arolygon bywyd gwyllt gwirfoddol y tu allan i fy swydd dros y blynyddoedd; roeddwn i’n mynd allan gyda Grŵp Ystlumod Clwyd a Grŵp Mamaliaid Gogledd Cymru. Yn ogystal â helpu ag arolygon madfallod dŵr gribog gyda cheidwaid Wrecsam yn un o’u safleoedd a thrwy’r gwaith hefyd.”
Roedd cysylltu â Grŵp Mamaliaid Gogledd Cymru yn gyfle iddi astudio ystlum ‘Nathusius’ pipistrelle’ gan ddefnyddio dulliau diogel a thrugarog i ddal ystlumod i edrych sut maen nhw’n ymfudo.
“Roedd yn wych gan fod yna bobl wybodus iawn yn ei gynnal. Fe fyddech chi’n gallu gweld ystlumod yn agos a oedd yn rhyfeddol, fe ddysgais i lawer. Ar un pwynt roeddwn i’n rhyddhau ystlum Pipistrelle bychan, ond roedd yn amlwg wedi cynhesu ar fy nwylo a doedd o ddim eisiau gadael.
Yn sgil y profiad yma fe symudodd Ellie i swydd Swyddog Bioamrywiaeth Cynorthwyol yng Nghyngor Sir y Fflint.
Meddai Ellie: “Fe ddysgais i lawer yno, mae’n wahanol iawn i Sir Ddinbych gan fod yna fwy o ardaloedd trefol…fe fues i’n rhan o’u prosiect blodau gwyllt ac roedd modd i mi gynnal llawer mwy o arolygon natur a bywyd gwyllt yn y swydd honno, oedd yn brofiad gwych.
Yn ei swydd bresennol fel Swyddog Bioamrywiaeth, mae’n amlwg fod y tân y tu hôl i’w hangerdd i warchod natur yn dal i losgi mor gryf.
Meddai: “Dwi wrth fy modd yn cynnal arolygon a gweld y rhywogaethau rydym ni’n ceisio eu hachub a chreu mwy o gynefinoedd ar eu cyfer. Mae’n gwneud i chi feddwl pam rydych chi’n gwneud y swydd ac i mi…mae mor dda i fy iechyd meddwl fy hun.
“Bob tro dwi’n gweld llyffant; dwi mor hapus. Fe wirionais y tro cyntaf i mi weld madfall y twyni. Dwi wedi gweld fy mhathew cyntaf yn y swydd hefyd.
“Mae’r Prosiect Bywyd Gwyllt yn wych; dwi’n meddwl mai dyma un o’r prosiectau cadwraeth gorau y gall unrhyw Awdurdod Lleol ei wneud. Gall newid syml i’r ffordd y mae’r Cyngor yn rheoli ei laswelltiroedd olygu cymaint o fanteision i fywyd gwyllt.
“Dwi’n meddwl ei fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y Sir, rydym wedi troi 1820km o rwydwaith ymylon ffyrdd gwledig i gynefin gwair hir/blodau gwyllt dros yr haf. Yn ogystal â throi 60 o erwau o ymylon trefol a mannau gwyrdd i ddolydd blodau gwyllt ac maen nhw i gyd wedi gwella amrywiaeth y rhywogaethau.
Meddai Ellie: “Gan ein bod wedi bod yn cynnal arolygon blodau gwyllt ar y safleoedd bob tymor tyfu ers i’r prosiect ddechrau yn 2020, fe allwn ni ddweud yn bendant fod yr holl safleoedd trefol wedi gweld cynnydd yn amrywiaeth y rhywogaethau planhigion - rhai yn eithaf sylweddol! Dwi wrth fy modd gyda’r teimlad fy mod i’n gwneud gwahaniaeth i fioamrywiaeth a gweld effeithiau cadarnhaol yn sgil ein gwaith. Mae’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n gwneud fy rhan i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a’r argyfwng newid hinsawdd.”
Ar hyn o bryd mae Ellie a’i chydweithwyr yn brysur yn creu Gwarchodfa Natur Green Gates sy’n 70 erw o faint sydd eisoes yn cynnwys planhigfa goed a blodau gwyllt lleol y mae’r Tîm Bioamrywiaeth wedi helpu i’w sefydlu.
Meddai Ellie: “Mae wedi bod yn mynd rhagddo ers tipyn, ond dwi’n meddwl ein bod wedi creu cynefin gwerthfawr iawn i fywyd gwyllt. Rydych chi’n cerdded o amgylch y safle rŵan ac maen llawn bywyd, rydym wedi gweld glas y dorlan, ac rydym ni wedi cael llysywod yn y ffrwd. Dwi’n gweld cudyll coch a bwncathod yn hela dros y glaswelltir garw, ac rydym ni wedi gweld tair neidr y glaswellt yr haf yma.
“Rydym ni wedi gosod 20 o byllau ar y safle, ac mae pob un ohonyn yn dechrau gwyrddu. Gan fod y rhywogaethau planhigion y dŵr gwahanol yn tyfu, rydym wedi cofnodi grifft ac mae yna fadfallod dŵr cyffredin yn rhai o’r pyllau newydd sbon hefyd. Rydym wedi cofnodi madfallod dŵr cribog ar y safle o’r blaen, ac rydym yn rhagweld y bydd safle’n bwysig iawn iddynt wrth symud ymlaen.”
Mae miloedd o goed sydd wedi’u tyfu o hadau sydd yn tarddu o’r Sir yn lleol gan Ellie a’r Tîm Bioamrywiaeth wedi cael eu plannu ar y safle hefyd, ac mae gwaith paratoi ar y gweill ar gyfer dau neu fwy o breswylwyr arbennig newydd yn y warchodfa’r flwyddyn nesaf.
Meddai: “Rydym wedi bod yn gweithio yn y cefndir ar Brosiect Afancod Sir Ddinbych, er mwyn asesu a fyddai’n ymarferol a dysgu am y rhywogaeth. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael mynd i Bafaria gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Afancod i weld cynefinoedd afancod fy hun. Roedd hi’n ddiddorol dysgu am y ffyrdd gwahanol maen nhw’n rheoli afancod ym Mafaria ers iddynt gael eu hailgyflwyno yn y 1960au, a beth y gellir ei ddefnyddio rŵan gan eu bod nhw’n ôl ym Mhrydain. Erbyn hyn, rydym ni’n llawer agosach at eu rhyddhau nhw mewn i’r man caeedig ar y safle.
Mae’r tîm wrthi’n gweithio ar gais am drwydded i gartrefu’r afancod yn y man caeedig sydd wedi’i greu, ac os bydd y cyfan yn gweithio’n iawn maent yn gobeithio cyflwyno’r preswylwyr newydd ar ôl haf 2026.
Gyda chymaint o brofiad o natur a bywyd gwyllt yn ei gyrfa hyd yn hyn, mae Ellie’n obeithiol y bydd mwy o bobl yn ei dilyn i ddarparu’r cymorth mae ein hamgylchedd ei angen.
Meddai: “Fe fyddwn i’n dweud fod angen i unrhyw un sydd eisiau mentro i faes cadwraeth fod â gradd y dyddiau hyn. Felly mae gwneud rhyw fath o addysg ffurfiol yn syniad da. A… gwirfoddoli, gwirfoddoli, gwirfoddoli. Rydych angen cael gymaint o brofiad â phosibl ac rydych eisiau rhoi cynnig ar gymaint â phosibl fel eich bod yn gwybod yn union eich bod eisiau mentro i’r maes.
“Fe wnes i dair blynedd o waith cadwraeth ymarferol sydd yn wych os ydych chi eisiau mynd amdani a gweld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud. Mae yna sawl llwybr gwahanol y gallwch ei gymryd. Rhowch gynnig ar bob un, gwnewch rywfaint o bob un i weld pa un ydych chi’n ei hoffi.”
Cogydd yn creu atgofion i ddisgyblion Clawdd Offa
Mae cogydd o Brestatyn yn llenwi ffreutur gyda bwyd iach, ychydig o ddysgu a sawl powlen o wenu a chwerthin.

Mae cogydd o Brestatyn yn llenwi ffreutur gyda bwyd iach, ychydig o ddysgu a sawl powlen o wenu a chwerthin.
Gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y maes arlwyo eleni, mae Carol McWilliams yn brysur yn creu danteithion blasus i ddisgyblion Ysgol Clawdd Offa.
Fe alwodd Llais y Sir draw i’r gegin yn yr ysgol i ddarganfod yr ysbrydoliaeth sydd yn llyfr rysetiau Carol i ddatblygu ym maes arlwyo a darganfod beth yw’r cynhwysion cudd i gael llond ysgol o ddisgyblion yn hapus â’r bwyd.
Wedi’i geni ym Manceinion, fe symudodd Carol gyda’i theulu i’r Rhyl pan oedd hi’n saith mlwydd oed ac 20 mlynedd yn ôl fe symudodd i Brestatyn.
Meddai: “Fe wnes i astudio arlwyo yn y coleg, ac fe fues i’n gweithio mewn caffis yn rhan-amser. Fe weithiais yng nghaffi Russel yn y Rhyl a mwynhau, fe es i’r coleg arlwyo yng Ngholeg Llandrillo, astudio cwrs ar gadw gwesty ac arlwyo sy’n cynnwys popeth o wneud gwelyau i lanhau toiledau, drwodd i redeg gwesty.
“Roedd y cwrs arlwyo yn ymdrin â phob agwedd o arlwyo, o goginio i weini, a bryd hynny roedd yn well gen i weini. “Ar ôl y Coleg fe weithiais i lawr yn y de yn High Wycombe mewn canolfan gynhadledd fawr, yn gweini yno.
Roedd yna atynfa i ddychwelyd gartref am yrfa newydd ac fe deithiodd yn ôl i ogledd Cymru i weithio yn McDonalds am gyfnod er mwyn mireinio ei chrefft.
Dywedodd Carol: “Yna fe glywais am ysgol arlwyo, fe es amdani ac rydw i wedi bod yn y proffesiwn ers hynny…rydw i wedi bod yn y gwasanaeth am 30 mlynedd ac rydw i wrth fy modd.
Gan droi’r amserydd coginio yn ôl i’r dechrau, dechreuodd Carol yn Ysgol Tremeirchion yn edrych ar ôl 60 o ddisgyblion ac mae hi’n cyfaddef oedd yn lle gwych i hyfforddi i ddod i arfer ag amser paratoi, coginio a gweini bwyd i’r plant.
Yna fe symudodd hi i sicrhau bod plant yn Ysgol Bryn Hedydd, y Rhyl, yn llawn a hapus drwy dymor yr ysgol am 17 mlynedd cyn symud i Ysgol y Llys ac yna cyrraedd Ysgol Clawdd Offa yn 2027.
Wrth edrych yn ôl, fe eglurodd Carol: “Mae’n ffordd wych o ddechrau ac yna rydych chi’n symud ymlaen i ysgol fwy gan eich bod chi’n cael y cyfle yna yno. Mae’r ‘bosys’ yn grêt, maen nhw’n eich annog i gael cymwysterau ychwanegol ac os hoffech chi symud ymlaen a datblygu, rydych chi’n cael cyfle i symud i ysgol fwy.
I unrhyw un sydd â theuluoedd prysur, boed nhw’n bobl neu anifeiliaid, mae arlwyo mewn ysgolion hefyd yn golygu taro cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn ôl Carol.
Meddai: “Mae’n lle gwych i weithio, yn enwedig os oes gennych chi deulu, nid oes yna lawer o bobl sy’n gweithio ym maes arlwyo yn gallu dweud eu bod nhw ffwrdd bob gwyliau ysgol. Rydw i’n codi’n gynnar i fwydo’r anifeiliaid gan fod gen i bedwar ci, dau aderyn, dwy neidr, dwy gwningen, geco cribog, dau grwban, draig barfog…rydw i’n bwydo’r rheini gyntaf!
“Yna rydw i’n cael paned o goffi ac rydw i’n barod ar gyfer gwaith erbyn wyth o’r gloch, rydw i’n gwneud fy holl wiriadau diogelwch, yn paratoi’r gegin, edrych ar y fwydlen, gweld beth sy’n cael ei goginio heddiw a beth alla’ i ei baratoi ar gyfer yfory hefyd.”
Gan sefyll yng nghanol cyfleusterau cegin yr ysgol, mae Carol yn dangos pa mor flaengar yw ei rôl drwy ddangos sut mae’r gwaith paratoi yn cael ei wneud ar gyfer lasagne yfory, gan olygu mai dim ond y saws ffres i fynd ar ei ben sydd ei angen.
Diolch i ymdrechion Carol a’i thîm mae yna bob amser ddigon o ddewis ar gyfer y boliau bach bob dydd, yn ogystal â’r prif brydau.
Fe eglurodd: “Mae yna wastad ddewis, mae dyna ddau brif gwrs poeth, tatws trwy’u crwyn gyda dewis o lenwadau a detholiad o frechdanau. Rydym ni’n gweini ac yn paratoi detholiad o brydau ar gyfer plant sydd ag alergenau, anoddefiadau ac anghenion gofal arbennig er mwyn sicrhau ein bod yn gweini ar eu cyfer nhw.
Mae’r gwaith paratoi a choginio prysur werth yr ymdrech gan fod Carol yn cyfaddef bod gweld y plant yn gwenu a chwerthin amser cinio yn uchafbwynt diwrnod i’r tîm arlwyo.
“Mae’r disgyblion yn wych, mae pob diwrnod yn wahanol, rydym ni’n chwerthin am rywbeth mae rhywun wedi ei ddweud neu ei wneud bob dydd, ond chwerthin gyda nhw, nid arnyn nhw…maen nhw’n wych.”
Trwy gydol y flwyddyn yn yr ysgol mae’r disgyblion yn dysgu â thema, ac mae Carol a’i thîm wedi cael syniadau am sut i gario’r addysg yn ei flaen ac ychwanegu hwyl yn ffreutur ysgol.
“Mae gennym ni ddiwrnodau thema unwaith y mis, rydym ni newydd gael Blwyddyn Newydd Tsieineaidd ar y cyd ag un o athrawon yr ysgol, fe ddaeth hi ag addurniadau Tsieineaidd i mi eu defnyddio, roedd gen i beth adref, felly fe wnaethom addurno’r cownter gweini i’w wneud yn fwy o hwyl i’r plant.
“Ar y fwydlen y diwrnod hwnnw roedd chow mein cyw iâr a chrempogau llysiau, ynghyd â chyri cyw iâr a reis, ac i bwdin roedd gennym deisen euraidd, roedd yn hyfryd. Roedd y disgyblion wrth eu bodd, yn enwedig yn gweld y cownter wedi’i addurno gan wneud y cyfan yn fwy arbennig iddynt.”
Mae gweithio yng ngwasanaeth arlwyo’r ysgol hefyd yn rhoi cyfle i Carol a’i chydweithwyr gyfrannu at sut mae bwydlenni ysgolion dyddiol yn cael eu dylunio ar draws Sir Ddinbych.
Fe eglurodd: “Mae’r tîm rheoli yn creu’r fwydlen, ac fe fyddwn ni’n newid i fwydlen 3 wythnos newydd yn dechrau’r Pasg. Maen nhw’n gweithio gyda chogyddion ac yn dewis beth sydd yn boblogaidd a pha newidiadau y gellir eu gwneud ac yna ystyried yr adborth cyn i’r cynnwys maeth gael ei gydbwyso a’i ddadansoddi yn unol â rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru. Rydym ni newydd gael gwybod bod y fwydlen newydd wedi cael cymeradwyaeth Achrediad Aur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Er mwyn cefnogi bwyta’n iach, ynghyd â’r dewisiadau o ran prif gyrsiau mae’r tîm arlwyo yn cynnig detholiad o ffrwythau, iogwrt a salad i fynd gyda’r brechdanau a thatws trwy’u crwyn.

Gyda’r gegin yn llawn arogleuon, ond y cwestiwn mawr ydi, beth yw pryd y dydd i ddisgyblion Clawdd Offa?
Meddai Carol gan wenu: “Maen nhw’n caru’r cyri yma, maen nhw’n caru cyri katsu gan mai goujons cyw iâr ydi o gyda saws cyri katsu cartref a reis, mae’n flasus yn hawdd i’w wneud ac yn andros o flasus, mae’r disgyblion wrth eu boddau.
Fel y gall Ralph, disgybl o Flwyddyn 6 ei gadarnhau - mae o’n cyfaddef ei fod o’n ‘ffan’ o Carol a sgiliau ei thîm…yn enwedig pan mae o’n llwglyd.
Meddai Ralph, sy’n ‘ffan’ mawr o’r tîm arlwyo wrth Llais y Sir: “Y cyri katsu, dwi’n caru hwnnw. Mae’r staff yn garedig iawn hefyd, yn lle gwneud cinio diflas maen nhw’n eich gwneud chi’n gyffrous i fynd.”
Gan edrych yn ôl ar 30 mlynedd o brofiad fel cogydd yr ysgol ym maes arlwyo ac yn dal i goginio danteithion i nifer o bobl ifanc, beth yw cyngor Carol i unrhyw un sydd eisiau ei dilyn hi a datblygu a chefnogi’r Gwasanaeth Arlwyo.
Gan gymryd eiliad i feddwl yn ei chegin, meddai Carol: “Mae’n ymwneud â chariad at bobl a bwyd…a bod â’r angerdd i fwydo plant gyda dewis o brydau maethlon iach a’u hannog i roi cynnig ar bethau newydd.”
Crëwch eich dôl fechan eich hun i helpu natur yn lleol

Oeddech chi’n gwybod ei bod hi’n hawdd rhoi help llaw i natur o’ch gardd gefn eich hun?
Mae paratoadau ar eu hanterth ar gyfer ein tymor Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt 2026. Dechreuodd y prosiect yn 2019 ac mae’n cynnwys tua 70 o erwau o ddolydd blodau gwyllt cynhenid sy’n creu cynefinoedd i warchod a chynnal byd natur yn lleol a hybu lles ein cymunedau ledled y sir. Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Gall preswylwyr ymweld â dolydd sydd wedi’u marcio â’r arwydd Caru Gwenyn, ond fe all y rhai sydd eisiau gwneud eu cyfraniad eu hunain o’u cartref hefyd greu eu dôl fechan i gefnogi natur yn lleol.
Y cam cyntaf yw penderfynu ar y lle gorau ar gyfer eich dôl yn eich gardd. Dewiswch ardal nad yw’n rhy gysgodol a lle’r ydych chi’n hapus i’r gwair dyfu’n hir. Gallwch ddewis yr ardd gyfan neu ddim ond darn a gadewch i’r ardal dyfu.
Yn ystod mis Ebrill yw’r amser gorau i wneud y penderfyniad i adael eich dôl fechan i dyfu fel y mae. Cofiwch ei bod hi’n cymryd amser i ddôl ffurfio ac mae hi’n bwysig gadael iddi ddatblygu i weld beth y bydd yn ei gynhyrchu.
Y blodau gwyllt a fydd yn ffynnu orau yn eich dôl yw llygad llo mawr, bengaled benddu a blodyn taranau.
Fe fyddwch chi’n dechrau gweld newidiadau yn eich dôl ddiwedd mis Mai wrth i’r blodau gwyllt ddechrau tyfu. Wrth i fis Mehefin gyrraedd, fe all y blodyn ei hun ddechrau ymddangos drwy eich dôl.

Fe fydd eich dôl fechan ar ei hanterth yn cefnogi natur ym mis Gorffennaf, mae hi’n amser da i gynnal helfa pryfed drwy eich ardal i ganfod pa bryfed sy’n mwynhau eich creadigaeth.
Yn ogystal â chwilio pa flodau gwyllt sydd gennych yn blodeuo yn eich dôl, cofiwch gadw golwg ar y mathau gwahanol o laswellt. Tra’n bod ni’n aml yn canolbwyntio ar blannu blodau gwyllt ar gyfer peillwyr, mae nifer o laswellt cynhenid yr un mor bwysig i lindys neu loÿnnod byw a rhywogaethau o wyfynod.
Mae mis Awst yn amser gwych i’ch dôl fechan gan y byddwch chi’n sylwi ar newid araf yn yr hyn sy’n blodeuo, gyda rhywogaethau cynharach yn dechrau hadu a rhywogaethau hwyrach yn cychwyn blodeuo. Mae rhywogaethau y gallech sylwi arnynt sy’n blodeuo ar ddiwedd yr haf yn cynnwys pengaled benddu a milddail, mae’r ddau yn wych i beillwyr sy’n ymweld â’ch gardd.
Yn ystod mis Awst mae hi hefyd yn amser i fonitro pryd y mae angen i chi dorri eich dôl fechan. Os oes gennych chi ddigon o flodau fe allech chi ei gadael tan fis Medi. Fe allwch chi hefyd amrywio’r amseroedd torri ar draws y flwyddyn neu rannau gwahanol o’ch dôl eich hun yn dibynnu ar y maint, i’w wneud yn fwy amrywiol i gefnogi natur. Fe fydd torri gwair yn cael gwared ar faeth o’r ddaear gan roi’r cyfle gorau i flodau gwyllt yn yr ardal i ffynnu.
Cofiwch gael gwared ar yr holl doriadau ar ôl i’r hadau ddisgyn ac ar ôl iddynt sychu. Awgrym da yw cadw eich ardal gompost mor bell i ffwrdd â phosibl o’ch dôl fechan i atal maeth dros ben rhag llifo yn ôl mewn i’r ardal ac effeithio ar dyfiant y blodau gwyllt.
Wrth i fis Medi symud yn ei flaen, mae hi’n amser i roi seibiant haeddiannol i’ch dôl fechan. Fe allwch adael y toriad nesaf tan fis Ebrill neu ei dorri sawl gwaith i gynnal yr ardal os ydi tywydd y gaeaf yn aros yn fwyn. Cyn i chi dorri eich dôl fechan, meddyliwch yn ôl ar yr hyn rydych wedi’i weld yn tyfu drwodd y tymor yma a’r pryfed a ymwelodd â’r safle fel cofnod wrth symud ymlaen ar gyfer pennod nesaf eich dôl fechan.
Llyfr stori arbennig yn dathlu gwaith i helpu aderyn prin
Mae llyfr arbennig yn helpu i ddiogelu hanes cefnogaeth ffermio bwysig ar gyfer aderyn dan fygythiad

Mae llyfr arbennig yn helpu i ddiogelu hanes cefnogaeth ffermio bwysig ar gyfer aderyn dan fygythiad.
Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn rhan o brosiect “Cysylltu Gylfinir Cymru,” prosiect partneriaeth Adfer Gylfinir Cymru sy’n gweithio ochr yn ochr â Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helgig a Bywyd Gwyllt.
Roedd y fenter hon yn rhan o raglen ehangach Gylfinir Cymru, partneriaeth Cymru gyfan sy'n ymroddedig i gefnogi poblogaethau Gylfinir sy'n bridio ledled y wlad, gan gynnwys yn Sir Ddinbych.
Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri yn dod i ben ar gyfer y prosiect ond bydd y tîm Tirweddau Cenedlaethol yn dal i weithio i ddiogelu’r aderyn prin yn eu hardal.
Ers ei dechrau, mae’r rhaglen wedi helpu i gryfhau amodau sydd eu hangen ar gyfer adfer y gylfinir trwy wella dulliau rheoli cynefinoedd, gwella prosesau monitro a chasglu data, cynyddu capasiti lleol ar gyfer gweithredu ecolegol a meithrin perthnasoedd cryf ar sail ymddiriedaeth gyda ffermwyr.
I nodi’r gefnogaeth gymunedol enfawr a roddwyd i’r prosiect, bu staff y prosiect yn gweithio gyda’r awdur Peter Evans i ddarparu cofnod o’r gwaith a’r ymroddiad a welwyd er mwyn rhoi gobaith i’r gylfinir.
Mae llyfr o’r enw Sali and the Call of the Curlew wedi’i gyhoeddi. Mae’n cofnodi taith dymhorol y gylfinir ar ffermdir o safbwynt merch fach o’r enw Sali a’i Thaid sy’n ffermwr. Mae Sali yn dilyn Pegi y gylfinir, sy’n dychwelyd i’r fferm bob gwanwyn a’u taith i’r tymor bridio nesaf.
Lluniodd y Swyddog Gylfinir a Phobl Lleol, Sam Kenyon, gefndir y stori o’i phrofiadau a daeth yr awdur a gwirfoddolwr y prosiect, Peter Evans, â’i syniadau’n fyw gyda help gan ddisgyblion o Ysgol Caer Drewyn, Ysgol y Waun ac Ysgol Bro Dyfrdwy, ynghyd â’r storïwr, Fiona Collins.
Mae’r llyfr yn dangos helynt y gylfinir, ond gyda help ei Thaid, mae Sali yn gweld sut gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr ac mae’r ddau yn mynd ati i geisio sicrhau bod mwy o gywion yn goroesi’r tymor bridio ar y fferm.

Bu plant ysgol gynradd o Ysgol Bro Elwern ac Ysgol Betws Gwerful Goch yn helpu i ddod â’r llyfr stori yn fyw hefyd trwy liwio’r lluniau a grëwyd o bapur ar ffurf collage gan y Swyddog Ymgysylltu Cymunedol dawnus, Jillian Howe.
Mae’r llyfr wedi’i ddylunio i fod yn hygyrch i bobl â Dyslecsia hefyd, diolch i’r ffont a ddefnyddiwyd.
Yn derbyn lansiad swyddogol yn ysgol gynradd Llangollen Ysgol Gymraeg Y Gwernant gyda chefnogaeth Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych y Cynghorydd Arwel Roberts, bydd copïau Cymraeg a Saesneg ar gael yn llyfrgelloedd Sir Ddinbych ac ysgolion sydd wedi helpu i gefnogi’r prosiect dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Eglurodd y Swyddog Gylfinir a Phobl Lleol, Sam Kenyon, sydd wedi arwain y prosiect dros y ddau dymor diwethaf, fod y llyfr yn ddathliad o’r gwaith caled gan bawb a roddodd help llaw i’r gylfinir ac ymgysylltu â’r rhaglen ehangach dros y ddwy flynedd.
“Roeddem am wneud rhywbeth arbennig i ddathlu diwedd y prosiect, yn enwedig yn dilyn y gefnogaeth wych a gawsom gan y ffermwyr, gwirfoddolwyr, plant ysgol a phobl eraill sydd wedi chwarae eu rhan i roi cyfle i’r aderyn hwn yn ein hardal. Rwyf mor falch o’r gefnogaeth mae’r gymuned ffermio wedi ei rhoi i’n gwaith, ac rwy’n gobeithio bod y stori hon yn amlygu’r ymrwymiad y gall llawer o bobl ei roi, ac y mae llawer yn ei roi i helpu’r gylfinir.
“Ar gyfer 2025, diolch i ymdrech gyfun pawb, llwyddodd chwe chyw i fagu plu, a oedd yn hwb i’r boblogaeth gylfinir leol. Mae’n addas bod modd i ni ddathlu’r ymdrechion gan bob cymuned a gymerodd ran trwy adael y llyfr hwn i aelodau iau y gymuned ei ddarllen a dysgu sut maen nhw a’n cymunedau gwledig yn gallu gwneud gwahaniaeth i’r gylfinir.
“Mae’n braf gweld sut mae pawb wedi dod at ei gilydd i helpu’r prosiect ac rwyf am ddiolch i Peter a disgyblion yr ysgol am nodi’r daith hynod o gadarnhaol hon. Ond gallwn eich sicrhau na fydd y Dirwedd Genedlaethol yn atal eu hymdrechion sydd eu hangen i ofalu am yr aderyn hynod a phrin hwn, a bydd gwaith yn parhau wrth i ni symud i’r dyfodol i ddarparu help i’r gylfinir eiconig.”
Gwna dy arferion bwyd gwanwyn yn nerthol

Y gwanwyn yw'r amser ar gyfer llechen lân – ac mae hynny'n dechrau gyda bwyd. Dyna pam mae Cyngor Sir Dinbych yn gweithio mewn partneriaeth â Cymru yn Ailgylchu i helpu aelwydydd i roi hwb i'w prydau bwyd y gwanwyn hwn. Gydag ambell newid syml, galli arbed amser, lleihau’r bil bwyd a helpu Cymru symud o 2il i 1af yn y byd am ailgylchu.
Rydyn ni mor agos! I gyrraedd y brig, dim ond 5% yn fwy o wastraff bwyd y mae angen i Gymru ei ailgylchu – mae hynny'n cyfateb i bob un ohonom ni’n ailgylchu dim ond un croen banana ychwanegol yr wythnos. Gweithred fach. Effaith fawr.
Cost taflu bwyd da i'r bin
Bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog yng Nghymru o hyd, a gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf ohono. I aelwyd o bedwar, mae hynny’n golygu taflu tua £84 y mis.
Yn aml mae'n fwyd da a maethlon hefyd – ffrwythau, llysiau, tatws, ffrwythau a chig fel cyw iâr – yr union fwydydd sy'n ein helpu i gadw'n iach.
Gyda bron i 80% ohonom ni’n poeni am gost bwyd a 55% ohonom ni’n dweud fod bwyta'n dda o bwys i ni, dydy taflu bwyd da i’r bin ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.
Coginio’n fwy craff: Paratoi. Addasu. Ailgylchu.
Y gwanwyn hwn, mae'r cyfan yn ymwneud â choginio'n graff trwy wneud i fwyd fynd ymhellach, ac mae gan Cymru yn Ailgylchu fformiwla syml ar gyfer bywydau prysur.
Paratoi – Gwna ychydig o amser i goginio pryd sylfaenol syml, nerthol gyda'r hyn sydd gen ti eisoes yn yr oergell a'r cwpwrdd. Fe wnei di arbed arian, rhoi hwb llawn daioni i dy fwyd ac atal bwyd da rhag cael ei wastraffu.
Addasu – Gweini’r pryd mewn gwahanol ffyrdd drwy gydol yr wythnos i arbed amser, bodloni bwytawyr ffyslyd a chadw pethau'n ddiddorol.
Ailgylchu – Unrhyw goesynnau llysiau, esgyrn neu ddarnau na ellir eu bwyta? Yn syth i'r cadi bwyd i'w droi'n ynni adnewyddadwy – gan helpu i bweru Cymru tua’r brig. Gall dim ond un llond cadi o wastraff bwyd bweru cartref cyffredin am bron i awr.
Dyma fformiwla syml sy'n dy helpu i fwyta'n dda, arbed arian a gwneud bywyd yn haws ar ddiwrnodau prysur.
Barod i ddechrau arni? Dyma dair rysáit hawdd i dy helpu i baratoi, addasu ac ailgylchu’r gwanwyn hwn.
Dos i wefan Cymru yn Ailgylchu i ddarganfod mwy o ffyrdd o wneud dy brydau bwyd yn nerthol, a chei gyfle hefyd i ennill antur anhygoel yng Nghymru.
Pot Protein Cyw Iâr (neu Ffacbys) Sitrws – Ffres, suddlon a delfrydol ar gyfer y gwanwyn
Mae'r pryd llachar, llawn blas hwn yn ddelfrydol ar gyfer wythnosau prysur y gwanwyn pan fyddi eisiau rhywbeth ysgafn i’w fwyta heb dreulio oriau yn y gegin.
Paratoi: Dechreua gyda sylfaen syml o winwns a garlleg, wedi'u ffrio'n ysgafn nes eu bod yn feddal. Ychwanega gluniau neu frestiau cyw iâr (neu ffacbys fel opsiwn sy'n seiliedig ar blanhigion) a’u coginio nes eu bod yn euraidd. Cymysga sudd lemwn neu oren a’r croen wedi’i gratio, joch o stoc a pherlysiau fel teim neu oregano gyda’i gilydd, yna gadael iddo fudferwi nes bydd yn frau ac yn suddlon.
Hwb nerthol: gyda pha bynnag lysiau sydd wrth law – pupurau, courgette, sbigoglys, llysiau gwyrdd y gwanwyn neu bys – i roi hwb llawn daioni a gwneud i'r pryd fynd ymhellach.
Addasu: Gyda reis neu gwscws a llwyaid o iogwrt ar y diwrnod cyntaf, ei lwyo drwy bowlen pasta gydag ychydig o’r sudd coginio ar yr ail ddiwrnod, yna’i rwygo a’i roi mewn bara tortila neu fara pitta gyda salad am ginio cyflym.
Ailgylchu: A chofia, mae croen sitrws, croen winwns ac unrhyw dorion llysiau yn mynd yn syth i’r cadi bwyd i gael ei droi'n ynni adnewyddadwy.
Tro-ffrio Cyflym Nerthol – ffres, hyblyg, ac yn barod mewn munudau
Mae'r tro-ffrio cyflym, lliwgar hwn yn berffaith ar nosweithiau prysur pan fydd amser yn brin ond rwyt ti dal eisiau rhywbeth ffres a maethlon i de.
Paratoi: Cynhesa ychydig o olew mewn padell fawr neu wok, ffrio winwns a garlleg wedi'u sleisio, yna ychwanegu dy ddewis o brotein a’i goginio nes bydd yn euraidd. Ychwanega saws soi, joch o stoc neu ddŵr, joch o sitrws neu finegr reis, ac ychydig o sinsir neu tsili os hoffet ti.
Hwb nerthol: Trwy ychwanegu pa bynnag lysiau sydd angen eu defnyddio – brocoli, pupurau, madarch, moron, pys neu lysiau gwyrdd y gwanwyn!
Addasu: Ei weini gyda nwdls ar gyfer cinio cyflym ganol wythnos, ei lwyo dros reis neu rawn ar gyfer cinio hawdd i'w baratoi, neu ei lapio mewn cwpanau letys neu fara tortila am bryd ysgafnach.
Ailgylchu: Esgyrn, coesynnau neu groen na ellir ei fwyta? I'r cadi bwyd – nid i’r bin.
Llysiau Pob Gwanwynaidd – tymhorol, lliwgar a daioni am ddyddiau
Mae'r pryd llysiau pob hawdd hwn wir yn un o hanfodion yn y gwanwyn.
Paratoi: Torra gymysgedd o lysiau tymhorol fel tatws newydd, moron, winwns coch, pupurau a brocoli. Ei gymysgu gydag olew olewydd, garlleg a pherlysiau, yna’i rostio nes bydd y cyfan yn euraidd ac wedi coginio.
Hwb nerthol: Gyda pha bynnag lysiau sydd wrth law – courgette, madarch, tomatos neu dy ddewis o brotein – ffacbys, halloumi, cyw iâr, tofu neu selsig.
Addasu: Mwynha fe’n gynnes yn syth o'r ffwrn, neu rho’r hyn sydd dros ben mewn bara tortila neu frechdanau'r diwrnod wedyn, neu rho wy wedi'i ffrio ar ei ben am ginio cyflym yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Ailgylchu: Ac fel bob amser, mae crwyn, coesynnau perlysiau ac unrhyw ddarnau na ellir eu bwyta yn mynd i’r cadi bwyd – gan helpu i droi dy fwyd dros ben yn ynni glân, gwyrdd.
Pencampwr o'r Rhyl yn hau gobaith i'r byd naturiol

Mae un o gefnogwyr ifanc brwd byd natur wedi ennill gwobr am roi help llaw i dyfu gwell dyfodol i blanhigion a choed yn Sir Ddinbych.
Mae Ellie Hughes o’r Rhyl yn un o blith nifer cynyddol o bobl sy’n ymuno â’r gymuned o wirfoddolwyr ym mhlanhigfa coed cynhenid y Cyngor yn Llanelwy.
Ei brwdfrydedd am bopeth ym myd natur sy’n ysgogi Ellie, sydd i’w gweld yn aml yng ngwarchodfeydd natur gogledd y sir, yn torchi ei llewys wrth helpu ceidwaid cefn gwlad gyda gorchwylion tymhorol.
Y brwdfrydedd hwnnw a ddenodd Ellie i gymuned y blanhigfa goed, ac yn ddiweddar fe enillodd wobr Person Ifanc y Flwyddyn yng ngwobrau Bionet (Partneriaeth Natur Gogledd Ddwyrain Cymru) 2025 am ei hymroddiad i hybu natur yn lleol.
Cafodd Llais y Sir sgwrs ag Ellie pan oedd hi’n gwirfoddoli yn y blanhigfa goed, i gael clywed rhywfaint am ei hymgyrch benigamp i gynnal byd natur ar garreg ei drws.
Bu Ellie’n fyfyriwr yng Ngholeg Cambria Llaneurgain a Choleg Llysfasi ac fe ymunodd â chymuned gwirfoddolwyr y blanhigfa goed ym mis Mawrth y llynedd, gan ddod bob wythnos yn selog ers hynny, yn ogystal â gwirfoddoli drwy’r cynllun Natur Er Budd Iechyd i helpu ar safleoedd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Wrth gofio’r tro cyntaf y daeth hi o hyd i’r blanhigfa, dywedodd Ellie: “Roedd o’n agos at adref ac roeddwn i’n mynd i’r coleg ar y pryd, yn cael dydd Mercher i ffwrdd, a fy nhad wnaeth awgrymu mod i’n mynd i wirfoddoli yno.”
Mae’r blanhigfa’n tyfu coed a blodau gwyllt cynhenid gyda hadau a gesglir ledled y sir ac mae’n rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a dysgu mwy am fyd natur yng ngwarchodfa natur helaeth Green Gates, sy’n ymestyn dros 70 o erwau o dir.
Meddai Ellie: “Dwi wrth fy modd yn bod allan yn yr awyr agored yn helpu byd natur ac mae’n gwneud lles i iechyd rhywun hefyd. Dwi’n hoff o gwrdd efo’r gwirfoddolwyr eraill a rhoi help llaw yn y warchodfa natur a gweithio yn y twneli plastig, a chael trin a thrafod y coed drwy’r amser. “Mi welais i robin goch yn dod i mewn i’r twneli; mi welais i wiwer lwyd y tu allan y diwrnod o’r blaen hefyd.”
Diolch i gymorth y staff ar y safle a’r gymuned o wirfoddolwyr, mae Ellie’n dweud fod dod i’r blanhigfa goed wedi ei helpu i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.
Meddai: “Dwi wedi dysgu cymaint o bethau, fel sut i hau hadau, pethau i helpu planhigion i dyfu… plannu coed yn y caeau, dwi’n meddwl mod i wedi helpu i blannu tua mil ohonyn nhw. Mi ges i ddod i adnabod pobl, cael gwybod beth maen nhw’n ei wneud, beth ydi eu gwaith nhw, mae o’n dda. Dwi’n cael dysgu sgiliau ganddyn nhw hefyd wrth iddyn nhw roi help imi.”
Pa gyngor sydd ganddi i rywun sydd efallai â diddordeb mewn rhoi cynnig ar ddysgu pethau newydd yn y blanhigfa goed?
Mae’n dweud: “Ewch amdani; mae’n gyfle gwych i ddysgu sgiliau gwych ac efallai cael gwaith yn y maes yn y dyfodol. Mae’r ddau o’r staff yn hyfryd, yn wych i sgwrsio efo nhw ac maen nhw’n dangos sgiliau newydd imi a rhoi help imi ddeall mwy am beth maen nhw’n ei wneud yma.”

Dywedodd Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed: “Mae’n fendigedig i gael Ellie yma ac rydyn ni’n syfrdanu bob wythnos mor ymroddgar ydi hi wrth helpu, dysgu sgiliau newydd a datblygu ei gwybodaeth am fyd natur yn Sir Ddinbych.
“Mae hi’n rhan bwysig o gymuned wych o wirfoddolwyr yn y blanhigfa goed ac rydym yn eithriadol o falch ohoni am ennill gwobr Person Ifanc Bionet; mae ei brwdfrydedd dros helpu i warchod beth sydd gennym yn yr awyr agored yn ysbrydoliaeth enfawr inni.”
Os hoffech chi wirfoddoli yn y blanhigfa goed, e-bostiwch eich manylion i: biodiversity@denbighshire.gov.uk
Taith Josh
Wedi i’w berthynas chwalu fe aeth Josh, sy’n 34 oed, i chwilio am gymorth gan dîm digartrefedd y Cyngor blwyddyn dwethaf. Ym mis Chwefror 2025, rhoddwyd Josh mewn llety dros dro a chafodd ymarferydd cefnogi atal digartrefedd ei ddynodi ar ei gyfer.
Josh
“Roeddwn yn ddigartref ddechrau’r flwyddyn dwythaf. Roeddwn wedi bod yn ddigartref o’r blaen a chefais fy rhoi mewn llety dros dro yn flaenorol, ond nid oeddwn yn y meddylfryd iawn yn flaenorol i geisio datrys fy sefyllfa yn ehangach.
Dim ond am gyfnod byr yr oeddwn i yno’r tro hwn. Roeddwn yn gofyn i bawb, yn ceisio dod o hyd i fy fflat fy hun. Yn y diwedd mi ddes o hyd i un a symud allan o’r llety dros dro yn weddol gyflym.”
Fis yn ddiweddarach roedd Josh yn rhentu llety yn breifat er mwyn byw ynddo ac roedd yn awyddus i ysgrifennu’r bennod yn ei stori.
“Tra roeddwn yn y llety dros dro, fe soniodd fy ymarferydd cefnogi atal digartrefedd wrtha i am gyrsiau Intuitive Thinking Skills.
Roeddwn ychydig yn amheus am wneud y cyrsiau i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli tan i fi fynd arnynt nad oedd gen i mewn gwirionedd ddim byd i’w golli a phopeth i’w ennill o roi cyfle i’r cyrsiau.
Fe ddechreuais y cyrsiau ym mis Ebrill a mis Mawrth o 2025. Fe wnes i’r cwrs sgiliau ar gyfer bywyd gyntaf ac fe wnes i fwynhau yn fawr a dysgu llawer ohono.
Mae’n eich dysgu chi sut i ymdrin â’ch meddylfryd eich hun a sut rydych chi’n meddwl am broblemau. Roeddwn i’n arfer cael trafferth mawr gyda fy hyder ac yn amau fy hun drwy’r amser.
Gofynnwyd i mi ar ddechrau’r cwrs beth fyddwn i’n hoffi ei wella, ac felly fe nodais waith gyda fy hyder.”
Aeth Josh wedyn ymlaen i gymryd y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gan ddysgu llawer mwy.
“Fe es ymlaen i wneud y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a ddysgodd fwy o agweddau technegol i mi. Fe fyddwn yn cael fy rhoi yn esgidiau pobl eraill ac fe ddysgais sut i helpu’r rhai hynny a allai fod yn fwy diamddiffyn.
Fe ddysgais sut i helpu eraill a allai fod yn wynebu amgylchiadau fel digartrefedd neu efallai yn cael trafferth gyda chamddefnyddio sylweddau.
Erbyn dechrau’r haf, cafodd Josh gynnig lleoliad fel llysgennad gyda’r tîm Intuitive Thinking gyda’r gobaith y byddai’r cynllun wedyn yn arwain at swydd barhaol o fewn y tîm ei hun.
“Roeddwn wir yn llawn cyffro gan mai hwnnw oedd y lleoliad roeddwn i ei eisiau fwyaf o’r rhai a gafodd eu cynnig i mi. Fe ddysgais i roi areithiau a gweinyddu hyfforddiant drwy gysgodi aelodau o’r tîm. Fe helpodd hynny fy hyder gymaint, sefyll i fyny a siarad o flaen pobl. Roeddwn yn ofnus iawn ar y dechrau, ond fe ddaeth yn haws ac yn haws dros amser.
Roeddwn rhyw ddeufis i mewn yn fy lleoliad gyda’r tîm pan ges gynnig swydd yn y sector ynni ac roeddwn yn teimlo na allwn wrthod y swydd.
Roedd y sgiliau roeddwn wedi eu dysgu yn ystod y cyrsiau roeddwn wedi eu cymryd, a fy lleoliad wedi rhoi gymaint o hyder i mi yn fy rôl newydd. Mae’r swydd hon mor wahanol i’r hyn rydw i wedi ei wneud o’r blaen, ac mae’r sgiliau newydd hyn wedi rhoi’r hyder i mi i fynd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Dyma beth rydw i wedi elwa fwyaf ohono.
Roeddwn wedi arfer parhau i wneud y pethau yr oeddwn yn gyfforddus â nhw cyn i mi wneud y cyrsiau hyn. Roeddwn yn gwneud yr hyn yr oeddwn i wastad wedi ei wneud, ond yn y pen draw roeddwn yn cael yr un canlyniadau. Roeddwn yn teimlo fel mod i wedi treulio blynyddoedd yn llonydd i ddweud y gwir.
Ers i mi fynd ar y cyrsiau hyn dydw i erioed wedi teimlo cystal yn fy mywyd. Mae’n swnio’n wallgof i ddweud y gall cwrs newid hynny, ond fe ddysgais pam rwy’n meddwl am bethau a sut i fynd i’r afael â’r meddyliau hynny.”
Mae Josh wedi dewis ffyrdd mwy cadarnhaol o dreulio’r amser.
“Rydw i wedi gwneud dewisiadau iachach yn fy mywyd nawr, roeddwn yn ei chael yn anodd gyda diflastod pan ddes i’n sobr tua phedair blynedd yn ôl, roeddwn i angen elfennau eraill.
Fe ddechreuais i chwarae golff a mynd i’r gampfa. Rydw i nawr yn aelod o Glwb Golff Y Rhyl.”
Mae Josh nawr wedi graddio o’r cyrsiau Intuitive Thinking gyda nifer o dystysgrifau, ac mae’n mwynhau ei rôl newydd yn y sector ynni.
“Dwi’n credu y byddai’r cyrsiau hyn o fudd i bawb; does dim rhaid i chi fod mewn sefyllfa wael i fynd arnynt. Wnewch chi ddim colli dim o ddysgu o’r cwrs hwn, cyn belled â’ch bod yn buddsoddi ynddo rydych yn mynd i elwa ohono.
Mae pobl wedi dweud eu bod yn gallu gweld newid yn fy hyder. O lle roeddwn i fis Chwefror i lle rydw i nawr, mae’n teimlo fel dau unigolyn gwahanol. Roeddwn i’n teimlo ar goll a doedd gen i ddim gobaith i ddweud y gwir. Fe ddysgodd fi i feddwl yn wahanol a meddwl yn rhesymegol am sefyllfaoedd. Mae wedi fy helpu i gael y ffocws a’r cymhelliant i gael yr hyn rydw i ei eisiau.
Roedd fel effaith pelen eira, cyn gynted ag y penderfynais i ddechrau helpu fy hun, fe ddaeth pethau’n well yn raddol.”
Adfer y Gorffennol, Adeiladu'r Dyfodol: Nantclwyd y Dre
Mae gan Nantclwyd y Dre bron i 600 mlynedd o hanes ac mae'n un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru.
Mae Rhuthun yn dref sy’n gyforiog o hanes. Llosgwyd hi i’r llawr gan Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 1400 ac mae llawer o naws hanesyddol y dref fel rydym ni’n ei hadnabod hi heddiw yn dod o’r bensaernïaeth ffrâm goed a oedd yn gyffredin yn yr ardal yn ystod cyfnod ei hailadeiladu.

Ymysg y strydoedd hyfryd a’r adeiladau hanesyddol mae darn pwysig iawn o dreftadaeth adeiledig Rhuthun, sef Nantclwyd y Dre. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol fel tŷ neuadd i wehydd, felly mae bron i 600 mlynedd o hanes lleol yn perthyn iddo ac mae’n un o’r tai tref ffrâm goed hynaf yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd.
Mae bellach yn cael ei reoli gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a gall rhai sy’n ymweld â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre ail-fyw ei orffennol difyr drwy ymgolli mewn profiadau sain ac arddangosfeydd a gweld ei du mewn sydd oll yn rhoi cipolwg cyfareddol ar fywydau’r teuluoedd a fu’n byw yno.
Yn 2023, cafwyd cyllid i adfer rhannau o’r safle pan gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio gwarchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Cafodd y cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hynny yng Ngorllewin Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Fel un o’r prosiectau llwyddiannus, dyfarnwyd £667,000 i ailddatblygu rhannau o’r tŷ sy’n segur ar hyn o bryd ac sydd angen rhywfaint o waith atgyweirio i warchod y darn pwysig hwn o dreftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer yr atyniad i wella ei gynaliadwyedd at y dyfodol ac ychwanegu ambell beth cyffrous ar gyfer profiad yr ymwelwyr.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar roi bywyd newydd i asgell orllewinol segur yr adeilad. Bydd y darn hwn o’r tŷ’n cael ei droi’n llety gwyliau, wedi’i ddylunio a’i ddodrefnu gan gadw at natur hanesyddol yr adeilad, a bydd yn darparu gwell cyfleusterau ar y llawr cyntaf gyda lle penodol ar gyfer y gwirfoddolwyr wythnosol sy’n rhan hollbwysig a gwerthfawr o’r gwaith beunyddiol yn Nantclwyd.


Fodd bynnag, cyn gallu dechrau ar y gwaith, roedd angen rhoi ystyriaeth i un set o drigolion sydd yno ers tro byd. Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymgynghori ag ecolegwyr i sicrhau na fyddai’r datblygiadau sydd ar y gweill yn tarfu ar fan clwydo ystlumod gwarchodedig, sy’n cynnwys cyfran bwysig o boblogaeth Cymru o Ystlumod Lleiaf ac Ystlumod Pedol Lleiaf. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i’r contractwyr, a gosodwyd lloches ystlumod fawr yn yr ardd, i roi mwy o le i’r creaduriaid bach yma ffynnu.
Bydd y gwelliannau sydd i ddod hefyd yn gwneud ardal y gegin yn fwy addas i arlwyo ar gyfer digwyddiadau, a bydd yr hafdy’n cael ei adfer i’w hen ogoniant i ymwelwyr ei fwynhau yn ystod misoedd yr haf. Bydd hwn yn lle ychwanegol ar gyfer seremonïau sy’n cael eu cynnal yn y tŷ hanesyddol, fel priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.
Mae’r prosiect yn cael ei wneud gan B&W Builders & Decorators ynghyd â TACP Architects ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026. Mae dull mwy cynaliadwy wedi’i ddefnyddio i wneud y gwaith gwella hefyd, drwy ddefnyddio gwlân i inswleiddio’r adeilad yn hytrach na’r deunydd inswleiddio mwy cyffredin sy’n cael ei wneud o olew, sy’n creu mwy o allyriadau carbon a ddim yn adnewyddadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae dechrau ar y gwaith gwella yma yn Nantclwyd y Dre’n garreg filltir fawr i ddiogelu dyfodol safle hanesyddol mor amlwg yng nghanol tref Rhuthun.
“Mae Nantclwyd yn atyniad gwych i ymwelwyr ac yn ganolbwynt cymunedol i’n gwirfoddolwyr ymroddgar, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd newydd yn cael eu defnyddio a’u mwynhau gan ymwelwyr.
“Bydd lles yr ystlumod sydd yno’n parhau i fod yn flaenoriaeth wrth wneud y gwaith a byddwn mewn cyswllt cyson gyda’r ecolegwyr trwy gydol y cyfnod.”
Adar yn tyrru i Brickfield, y Rhyl

Mae gwarchodfa natur yn y Rhyl yn darparu noddfa i bob math o adar, yn ôl gwyliwr adar lleol profiadol.
Ers llawer mwy na degawd, mae Alex Humphreys Jones, sy’n wreiddiol o Lanelwy, wedi bod yn olrhain rhywogaethau adar yng Ngwarchodfa Natur Pwll Brickfield. Mae’r safle’n cael ei reoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, a gwelodd Alex ei fod yn noddfa i fwy na 100 o wahanol rywogaethau yn ystod ei ymweliadau â’r warchodfa.
Bu Llais y Sir yn sgwrsio gydag Alex i glywed am ei ymweliadau â Brickfield a sut mae gwaith gan geidwaid cefn gwlad a gwirfoddolwyr wedi helpu i greu amgylchedd gwych ar gyfer adar nodedig.
Ydi gwylio adar yn un o’ch hobïau chi, os felly, beth ydych chi’n ei fwynhau amdano?
Mae gwylio adar o ddiddordeb mawr i mi ac mae’n chwarae rhan yn fy mywyd bob dydd. Rwy’n mwynhau gwylio adar ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang. Mae'n hobi sydd wedi mynd â fi ar draws y wlad ac o gwmpas y byd. Mae amryw lefelau o anhawster wrth wylio adar, o adnabod rhywogaeth i ganfod eich rhywogaethau prin eich hunain ac rwy’n mwynhau pob agwedd.
Ers sawl blwyddyn ydych chi wedi bod yn dod i Bwll Brickfield a pha mor aml ydych chi’n dod yma?
Rwyf wedi bod yn dod i lawr i Bwll Brickfield ers 2013 ar ôl gweld bod y safle yn ardal brysur ar gyfer adar a bywyd gwyllt. Mae’n hawdd cael mynediad i’r safle hefyd ac mae’n ffitio’n dda gydag ymrwymiadau gwaith. Rwy’n gallu dod yma a cherdded o gwmpas mewn 30 munud. Rwy’n ceisio dod yma o leiaf ddwywaith yr wythnos, ond mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar y tymor.
Ydych chi wedi sylwi ar gynnydd o ran niferoedd rhywogaethau? Os felly, ers pryd?
Rwy’n defnyddio ap cofnodi adar ar-lein o’r enw BirdTrack. Mae’n blatfform am ddim i wylwyr adar ym Mhrydain gofnodi pa adar maen nhw wedi’u gweld. Mae BirdTrack yn helpu i greu rhestr ac mae’n creu tablau a graffiau gyda’r data am adar. Ers dod i Bwll Brickfield, rwyf wedi cofnodi 112 o wahanol rywogaethau o adar, a gwelwyd 4 rhywogaeth newydd yn 2025 (y rhywogaethau newydd cyntaf i mi ers 2022).
Faint ydych chi wedi’u cofnodi ar gyfer 2025 a beth yw’r rhai mwyaf nodedig ydych chi wedi’u gweld ar y safle?
Eleni (2025), rwyf wedi cofnodi 78 o rywogaethau ym Mhwll Brickfield. Mae Gosog, Cyffylog, Gwybedog Mannog a Barcud Coch wedi’u gweld ar y safle. Yn ôl ym mis Mehefin, gwelwyd Crëyr y Nos Penddu ar safle Pwll Brickfield, a dyma’r cofnod cyntaf o’r rhywogaeth hon yng ngogledd Cymru ers 1993.
Mae Pwll Brickfield yn hanfodol ar gyfer llawer o rywogaethau adar y dŵr, fel Gwyach Fawr Gopog, Glas y Dorlan, Hwyaden Ddanheddog a Hwyaden Gopog, ond mae’r un mor bwysig ar gyfer adar ymfudol ar eu taith. Mae’n adnabyddus fel un o’r safleoedd cyntaf i gofnodi Gwennol y Glennydd yng ngogledd Cymru yn y gwanwyn ac yn arbennig am nodi 4 Telor Aelfelyn (crwydryn prin yng ngogledd Cymru) o Siberia dros y 10 mlynedd diwethaf yn yr hydref. Roedd Telor Cetti yn arfer bod yn absennol o ogledd Cymru, ond Pwll Brickfield oedd un o’r safleoedd cyntaf i gofnodi un yn Sir Ddinbych, ac yn y blynyddoedd diweddar, credir eu bod wedi nythu a bridio.
Dros y blynyddoedd, rwyf wedi canfod cofnodion nodedig yn lleol fel Dryw Penfflamgoch (Rhagfyr 2015), Adenydd Cwyr (Rhagfyr 2016), Gwyach Gorniog (Tachwedd 2018), 3 Thelor Aelfelyn (2016, 2018, 2019) a Gwylan Ynys yr Iâ a arhosodd am gyfnod hir (Ionawr - Ebrill 2021).
Yn olaf – beth yw eich hoff rywogaeth adar?
Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn oherwydd bod cynifer o rywogaethau i ddewis ohonynt, ond rwy’n arbennig o hoff o grŵp o adar sef ‘hirundines’/gwenoliaid duon. Ym Mhrydain, fe’u gelwir yn Wenoliaid, Gwenoliaid y Bondo a Gwenoliaid Duon - i gyd yn adnabyddus am ymfudo’n eang a’u hediad pwerus, acrobataidd.
Dywedodd y ceidwad cefn gwlad Vitor Evora, sy’n helpu i reoli safle Pwll Brickfield: “Mae’n wych gwybod bod pobl fel Alex yn cael cymaint o fwynhad o’r warchodfa a hyd yn oed gwell, gweld bod y safle yn rhoi help go iawn i bob math o rywogaethau adar trwy’r tymhorau.
“Rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu’r safle i ymwelwyr a bywyd gwyllt, ac rydym yn gobeithio y bydd niferoedd adar yn parhau i fod yn gadarnhaol, gan ddarparu lle gwych i wylwyr adar, hen ac ifanc, ymweld ag ef.”
Dyn o Lanelwy yn newid gyrfa i helpu i feithrin cefnogaeth barhaus i wasanaeth rheng flaen
Mae newid gyrfa gyda chymorth cynllun y Cyngor wedi ysbrydoli dyn o Lanelwy i gamu ymlaen i helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol Sir Ddinbych ac amgylchedd y sir.

Mae newid gyrfa gyda chymorth cynllun y Cyngor wedi ysbrydoli dyn o Lanelwy i gamu ymlaen i helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol Sir Ddinbych ac amgylchedd y sir.
Bu Llais y Sir yn holi Owen Lokier, Arweinydd Tîm Wrth Gefn Gwastraff ac Ailgylchu i ddeall sut mae penderfyniad i newid gyrfa wedi helpu i gasglu gwybodaeth a phrofiad yn y gwasanaeth ar lefel broffesiynol a phersonol.
Meddai Owen: “Peiriannydd oeddwn i’n wreiddiol; roeddwn yn gweithio yn y diwydiant dur fel gwneuthurwr a weldiwr ac roeddwn awydd newid gyrfa.
“Ym mis Ionawr 2022, gwelais hysbyseb yn y cynllun Sir Ddinbych yn Gweithio am weithwyr casglu sbwriel, felly penderfynais fynd amdani. Dechreuais y gwaith ym mis Ionawr, roedd yn gynllun tri mis yn gweithio o Ruthun, ac yn dilyn hynny cefais gontract llawn amser gyda’r Cyngor fel gweithiwr llwytho sbwriel. Roedd y cynllun Sir Ddinbych yn Gweithio yn bendant yn ddylanwad cadarnhaol.”
Wedi gweithio fel gweithiwr llwytho am 12 mis, daeth cyfle i Owen ehangu ei sgiliau yn y gwasanaeth.
“Rhoddodd fy rheolwr atebol gyfle i mi yrru ein cerbydau cawell llai ddau ddiwrnod yr wythnos. Roedd hyn yn cynnwys gyrru i fyny i ffermydd yn bennaf, mewn ardaloedd gwledig. Roedd y swydd yn y de, o Drefnant yr holl ffordd i lawr i Langollen a rhoddodd syniad i mi o ochr yrru’r gwasanaeth.”
Ond ni wnaeth olwynion y gwasanaeth stopio troi yno i Owen, gan fod gyrru’r cerbydau llai wedi ei ysgogi i wneud ei drwydded LGV ail ddosbarth drwy gynllun gan Lywodraeth Cymru.
“Rhoddodd hyn gyfle i mi symud ymlaen i swydd gyrrwr llawn amser a ddaeth yn rhydd. Felly, roeddwn wedi gweithio fy ffordd i fyny gyda chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio i lwythwr ail radd, i’r bedwaredd radd yn gyrru cerbyd cawell llai ac yna gyda fy nhrwydded LGV roeddwn ar y bumed radd.
“Dyna ble’r oeddwn wedi cyrraedd nes i ni ddod i Ddinbych ym mis Mehefin 2024. Roeddwn yn gallu neidio o un peth i’r llall ar y safle, yn cyflenwi dros fechgyn oedd i ffwrdd yn sâl ac un o’r manteision oedd fy mod yn dysgu llawer o rowndiau gwahanol ar hyd a lled y sir, a dysgais lawer iawn.
“Ond roedd heriau hefyd gan y byddech yn gwneud un peth un diwrnod a rhywbeth hollol wahanol y diwrnod canlynol, ond roeddwn yn mwynhau’r amrywiaeth a gweithio gyda thimau gwahanol.”

Roedd cyfarfod llawer o weithlu’r gwasanaeth o fudd i Owen gan ei fod yn gallu defnyddio ei brofiad i gefnogi’r gwasanaeth hyd yn oed yn fwy. Oherwydd ym mis Tachwedd 2024, bu Owen a chydweithiwr arall yn llwyddiannus wrth ymgeisio am ddwy swydd arweinwyr tîm wrth gefn oedd yn helpu i gyflenwi dros absenoldebau salwch a rheoli gwyliau o’r swyddfa.
Mae staff Gwastraff ac Ailgylchu hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi, ac wrth wneud ei swydd bresennol, mae Owen yn gweithio tuag at fwy o gymwysterau gyda chefnogaeth Hyfforddiant Cambrian.
Eglurodd: “Mi wnes i gofrestru ar gwrs Diploma Lefel 3 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy ac rydw i’n astudio ar ei gyfer ar hyn o bryd. Rydw i’n gobeithio symud ymlaen o hyn i NVQ Lefel 4 i barhau i weithio fy ffordd i fyny.
“Mae Bev o Cambrian wedi bod yn gymorth mawr, mae’n deall bod gan ddysgwyr ffyrdd gwahanol o ddysgu. Rwy’n hoffi cael ychydig o ryddid i wneud y gwaith cwrs, rydym yn cyfarfod unwaith y mis a byddaf yn ceisio gwneud llawer ohono yn fy amser fy hun.”
Mae newid gyrfa i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd lleol drwy helpu preswylwyr gyda’u hailgylchu a gwastraff hefyd yn golygu llawer mwy o amser i ymgysylltu â chymunedau yn y sir yn ôl Owen.
Dywedodd: “Rwy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored a chysylltu â’r cyhoedd, sy’n beth mawr oherwydd rydych yn cael sylwadau cadarnhaol a rhai negyddol hefyd, ond rwyf bob amser yn ceisio troi’r pethau negyddol yn gadarnhaol.
“Rwyf wedi dweud erioed bod gweithwyr casglu sbwriel yn rhan o’r Cyngor y mae pawb yn eu gweld bob wythnos o’u bywydau.
“Os oes gan rywun broblem gyda’r palmentydd neu’r ffyrdd, byddwn yn clywed am hynny ac yn ceisio ei droi’n rhywbeth cadarnhaol bob amser. Rydym hefyd yn clywed llawer o bethau cadarnhaol yn enwedig dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd pan fyddwch yn edrych ar y bechgyn ac yn gweld mor ddiolchgar yw’r cyhoedd eu bod allan ym mhob tywydd 52 wythnos y flwyddyn.
“Hefyd, i bobl hŷn, mae’n bosib mai’r gweithwyr casglu sbwriel yw’r unig bobl heblaw’r postmon maen nhw’n ei weld mewn wythnos, felly pan oeddwn ar y rownd, byddwn yn ceisio treulio munud neu ddau yn dweud helo, sut ydach chi. Mae hynny’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw hefyd.”
Ychwanegodd: “Yn gyffredinol, fel gyrfa mae’n wych, rydych yn cael gweithio yn yr awyr agored, ac mae’n dda i’r amgylchedd hefyd.”
A beth yw cyngor Owen i rywun sy’n ystyried newid gyrfa a symud i’r gwasanaeth?
Dywedodd: “Mae’r Cyngor yn awdurdod gwych i weithio iddo. Rhaid i chi fod yn barod i gael yr hyn rydych yn rhoi i mewn iddo allan ohono. Felly, os byddwch yn dangos eich bod yn frwdfrydig, yn hyblyg ac yn barod i helpu eraill, mae hynny’n help mawr. Mae gwaith tîm yn bwysig iawn yn y gwaith hwn … peidiwch â stopio, dangoswch eich bod yn barod i ddysgu a pharhau i osod targedau i chi eich hun.”
Planhigfa’n meithrin gwybodaeth newydd i wirfoddolwr o Brestatyn
Mae criw cynyddol o wirfoddolwyr cymunedol yn gweld eu gwybodaeth am natur yn blodeuo drwy gefnogi prosiect sydd wedi’i fwriadu i helpu bioamrywiaeth lleol

Mae criw cynyddol o wirfoddolwyr cymunedol yn gweld eu gwybodaeth am natur yn blodeuo drwy gefnogi prosiect sydd wedi’i fwriadu i helpu bioamrywiaeth lleol.
Mae planhigfa coed lleol y Cyngor yn Llanelwy yn tyfu coed a phlanhigion brodorol sydd i’w gweld ar hyd a lled Sir Ddinbych, a hefyd yn meithrin cymuned gref o wirfoddolwyr sy’n magu sgiliau a gwybodaeth newydd drwy ddod i’r safle.
Fe wnaeth Janet Davidson o Brestatyn ymuno â’r gymuned ym mis Mehefin y llynedd oherwydd yr elfen gref o les cymdeithasol a hyblygrwydd mae gwirfoddoli yn y blanhigfa goed yn ei ganiatáu.
Dywedodd: “Roeddwn i’n newydd yn yr ardal ac roeddwn i’n chwilio am waith gwirfoddol oedd yn cyd-fynd efo fy mhersonoliaeth i, gan nad ydw i’n berson pobl mawr iawn. Rydw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn garddwriaeth ac felly roedd hwn yn gweddu i’r dim. Roedd yr amseroedd sydd ar gael i wirfoddolwyr yn gweddu i f’anghenion i, felly roeddwn i ar fy ennill ym mhob ffordd, a dweud y gwir.
“Mae o mor hyblyg hefyd, felly os nad ydych chi’n gallu dod ryw wythnos, maen nhw’n hawddgar iawn, iawn. Rydych chi’n cael gwneud amrywiaeth o bethau, sy’n wych i mi.”
Mae dod yn aelod o gymuned o wirfoddolwyr mewn planhigfa wedi agor y drws i sgiliau a gwybodaeth newydd i Janet, sy’n dod o gefndir gweithgynhyrchu bwyd.
“Mae rhywun yn dysgu pa goed sy’n ddefnyddiol mewn gwahanol leoedd, y mathau, yr holl amrywiaeth. Er enghraifft, doeddwn i ddim yn sylweddoli mor wahanol yw’r mathau o dir mae’r ddwy dderwen frodorol eu hangen. Mae cyfleoedd i ni ddysgu bob wythnos yma. Mae ’na bob amser rywbeth fel dysgu am yr aethnenni duon, yr heriau mae’r tîm yn eu cael wrth dracio a sicrhau bod modd olrhain pob dim… mae hynny’n arbennig o ddifyr.”
Mae’r gymuned o wirfoddolwyr yn y blanhigfa hefyd yn dod â’u sgiliau gyrfa eu hunain i’r safle, sy’n rhoi cyfle i staff weithio gyda nhw i ddylanwadu go iawn ar ddyfodol y blanhigfa, eglurodd Janet.
“Mae posib’ trosglwyddo rhai elfennau o wahanol ddiwydiannau. Felly olrhain a monitro rhwng bwyd a choed – mae cyfran helaeth o’r wybodaeth yn berthnasol. Mae’n adnodd arall i’r tîm allu casglu a datblygu syniadau.”
Wrth droi at y ffrindiau newydd roedd Janet wedi’u gwneud yn y blanhigfa goed er mis Mehefin, ychwanegodd Janet: “Maen nhw’n griw cyfeillgar iawn yma ac rydych chi’n teimlo bod pwrpas i’r cyfan a bod gwerth i’r gwaith.
“Fel arfer, mae ’na griw gwahanol gan nad ydy pawb yn gallu dod bob wythnos. Dydych chi byth yn gwybod pwy sydd am fod yma, ond rydych chi’n ’nabod pawb a allai fod. Mae hynny’n beth da iawn o safbwynt cymdeithasol. Mae criw da iawn ac amrywiol iawn yn dod yma ac rydw i’n meddwl ei fod o’n well o ganlyniad.”
Ers egino, mae’r gymuned o wirfoddolwyr wedi dod yn nodwedd gyfarwydd yn y blanhigfa ac maen nhw i gyd yn mwynhau torchi llewys gyda’r staff i wneud gwahaniaeth i fioamrywiaeth lleol, eglurodd Janet.
“Mae pob dim yma’n digwydd fel gwaith tîm. Nid yr unigolion sy’n bwysig, ond dal ati’n ddyfal, yn rhoi pethau i mewn i’r potiau neu eu tynnu allan o’r potiau, ac mae dipyn o waith cynnal a chadw mae angen i chi fod yn barod i’w wneud os byddwch chi yma hefyd.
“Allwch chi ddim disgwyl bod yn plannu coed derw bob wythnos, ond pan mae rhywun yn gwneud hynny, mae’n fraint ac yn rhoi boddhad i rywun. Mae’n braf cael dod yma. Bydd y tîm yn ein rhoi ni ar ben ffordd o ran gweithgareddau’r wythnos a mynd ati sydd angen wedyn, ac mae’n anffurfiol hefyd, sy’n beth braf i mi.”
Ychwanegodd Janet: “Rydych chi’n teimlo’n well o ddod yma. Dw i’n ei argymell o, a dweud y gwir. ’Does na ddim amodau na lol, felly mi allwch chi ddod yma, gwneud eich gwaith a chael amser braf iawn, mynd adref a dod eto’r wythnos nesaf heb orfod cario unrhyw straen.”
Os hoffech chi wirfoddoli yn y blanhigfa goed, anfonwch neges e-bost gyda’ch manylion at: bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk