Wythnos Blodau Gwyllt 2026
Gwyllt 2026 yn dechrau ar 25 Mai a dyma Ellie, Swyddog Bioamrywiaeth, i roi cipolwg i chi ar yr hyn sydd ar y gweill – gwyliwch. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o'r digwyddiadau cliciwch ar y ddolen hon
Grŵp Casglu Sbwriel Morol
Mae Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd i gasglu dros 30 bag o sbwriel ar hyd arfordir Prestatyn.
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal eleni i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.
Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well.
Gwyliwch y clip yma am fwy o wybodaeth.
Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru
Bydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.
Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i wefan Awdurdod Cyllid Cymru.