Agor caban cymunedol newydd yn Ysgol Cefn Meiriadog
Mae’r gwaith o adeiladu eco-gaban cymunedol yn Ysgol Cefn Meiriadog wedi’i gwblhau bellach, ac mae’r adeilad yn gwbl weithredol ac yn cael ei ddefnyddio.
Wedi'i ariannu drwy’r fenter ysgolion bro gan Lywodraeth Cymru, fe ddechreuodd y gwaith o adeiladu’r caban yn gynharach eleni, ac mae’n cynnwys ardal gegin, toiled hygyrch a phrif ofod eang y gall yr ysgol a'r gymuned leol ei ddefnyddio.

Y Caban newydd wedi’i gwblhau
Mae gan y caban ôl troed 60 metr sgwâr ac mae’n ofod sy’n cefnogi ymgysylltu â theuluoedd, cydweithio gyda gwasanaethau eraill ac anghenion cymuned yr ysgol.
Yn ogystal â’r caban, bydd paneli solar yn cael eu gosod ar do prif adeilad yr ysgol gan leihau effaith carbon y prosiect hwn.
Meddai Laura Martin, Pennaeth Ysgol Cefn Meiriadog:
"Rydym yn hynod falch bod y caban cymunedol ar agor ac yn fwrlwm o weithgarwch. Mae’n adnodd hanfodol sy’n pontio'r bwlch rhwng ein hysgol a'r gymuned ehangach ac rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad.
Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a Sir Ddinbych am ddyrannu cyllid. Mae gennym bellach ofod pwrpasol a chynaliadwy, lle mae modd i deuluoedd gysylltu, i wasanaethau gydweithio ac i’n disgyblion ddefnyddio am flynyddoedd i ddod.”
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
"Rwy'n falch o weld bod y prosiect newydd hwn wedi’i gwblhau erbyn hyn. Bydd yn ased gwych i’r ysgol a’r gymuned.
Yn ogystal â bod o fudd i’r ysgol a’r disgyblion, bydd y gymuned hefyd yn elwa o’r caban newydd hwn yn Ysgol Cefn Meiriadog, sy’n darparu gofod newydd a chyffrous i’w ddefnyddio.
Gan ddisodli adeilad hŷn, hen ffasiwn, mae'r prosiect caban newydd hwn yn cynnig ased newydd eang a modern i'r ysgol.”