Cynlluniau ar gyfer canolfan archif newydd yn symud ymlaen ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae cynlluniau ar gyfer canolfan archif newydd o’r radd flaenaf ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn dal i ddatblygu. Mae preswylwyr wedi cael eu gwahodd i fynychu cyfres o sesiynau galw heibio i’r cyhoedd er mwyn cael mwy o wybodaeth am y prosiect uchelgeisiol.

Ym mis Ebrill 2024, cymeradwyodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gyllid cam datblygu i gefnogi cynlluniau ar gyfer canolfan archif bwrpasol newydd ger Theatr Clwyd.

Bydd y ganolfan newydd arfaethedig yn dod â staff a chasgliadau gwasanaethau archif Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd i greu cartref modern a hygyrch ar gyfer casgliadau hanesyddol cyfoethog y rhanbarth, wrth gefnogi rhaglen gweithgarwch cymunedol tair blynedd eang.

Yn dilyn proses dendro lwyddiannus drwy Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, penodwyd Wynne Construction yn Gontractwr Dylunio ac Adeiladu ar gyfer y prosiect.

Bydd proses ymgynghori cyn y cam cynllunio ar gyfer y caniatâd cynllunio yn rhedeg o 21 Mai i 18 Mehefin. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld y dogfennau hyn, maen nhw ar gael yn:

  • Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg), yr Hen Reithordy, Rectory Lane, Penarlâg CH5 3NR; ar agor dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau (9.30am – 4.30pm); ac
  • Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (Rhuthun), yr Hen Garchar, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun LL15 1HP; ar agor o ddydd Mercher i ddydd Gwener (9.30am – 4.30pm)

Fel rhan o’r cam nesaf hwn, mae preswylwyr yn cael eu hannog i fynychu dau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus. Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle i bobl ddysgu mwy am y cynigion, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn.

Bydd y ddau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus cyn y cam cynllunio yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

  • Yr Hen Lys Rhuthun: Dydd Iau, 4 Mehefin (3pm – 7pm) (Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun LL15 1AA)
  • Llyfrgell yr Wyddgrug: Dydd Mercher, 10 Mehefin (12 hanner dydd – 5pm) (14 Canolfan Siopa Daniel Owen, yr Wyddgrug, CH7 1AP)

Ynghyd â datblygiad y cynlluniau adeiladu, mae rhaglen eang o weithgareddau yn cael ei datblygu hefyd er mwyn cyflwyno archifau i gynulleidfa fwy eang ac amrywiol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru. Nod y gweithgareddau yw annog mwy o bobl i archwilio ac ymgysylltu â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a straeon Gogledd Ddwyrain Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych:

“Dyma gyfle cyffrous i greu canolfan archif fodern a fydd yn helpu i gadw a dathlu’r hanes a rennir rhwng ein cymunedau am genedlaethau i ddod.

“Mae’r prosiect yn fwy o lawer nag adeilad – mae’n golygu creu cyfleoedd i fwy o bobl gysylltu â straeon, casgliadau a threftadaeth rhyfeddol Gogledd Ddwyrain Cymru. Byddem yn annog preswylwyr i ddod i’r sesiynau galw heibio a dysgu mwy.”

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r prosiect hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn nhreftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth a bydd yn helpu i sicrhau bod ein casgliadau archif pwysig yn cael eu diogelu, eu bod yn hygyrch a’u bod yn cael eu mwynhau gan gynulleidfa fwy eang o lawer.

“Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl eisoes yn rhan o helpu i ffurfio’r rhaglen weithgareddau, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r ymgysylltiad hwnnw wrth i’r prosiect ddatblygu.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:

“Rydym yn falch o fod yn cefnogi cyfnod datblygu parhaus y prosiect cyffrous hwn ac yn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu dros y misoedd nesaf. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, nod y prosiect yw dod â chymunedau ynghyd i helpu i ddylunio lle croesawgar, hygyrch sy'n amddiffyn ac yn rhannu treftadaeth gyfoethog y rhanbarth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

 

Os hoffech ddysgu mwy am y gwasanaeth y mae AGDdC yn ei gynnig, neu gael y newyddion diweddaraf am y prosiect Archifau Creadigol, ewch i’n gwefan – https://www.agddc.cymru/

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw