Diwrnod agored recriwtio gofal cymdeithasol i'w gynnal yn y Rhyl
Mae tîm gofal cymdeithasol Cyngor Sir Dinbych yn estyn gwahoddiad i bawb sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y maes gofal cymdeithasol i ddiwrnod agored recriwtio, a gynhelir yng Nghanolfan Gofal Dydd Hafan Deg yn y Rhyl.

Bydd y sesiwn yn rhedeg o 10am-1pm ar yr 11 o Fai, ac mae ar agor i alw heibio rhwng yr amseroedd hyn.
Bydd tîm gofal cymdeithasol y Cyngor wrth law i ateb unrhyw gwestiynau ynghylch gyrfa yn y sector ac maent ar gael i sgwrsio am y rolau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Gallant hefyd rannu manylion ynghylch manteision gweithio i'r Cyngor. Bydd y tîm hefyd yn gallu rhoi cymorth i lenwi ffurflenni cais ar gyfer y rolau sydd ar gael.
Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:
“Rydym wrth ein bodd yn cynnal sesiwn recriwtio galw heibio arall i'r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y maes gofal cymdeithasol. Mae ein tîm yn mwynhau cwrdd â'r rhai sy'n rhannu'r un angerdd am ofal cymdeithasol a nhw, a byddant yn gallu trafod y gyrfaoedd sydd ar gael yn y sector.
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig a gofalgar sy'n teimlo y gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
P'un a ydych chi'n cymryd eich camau cyntaf yn eich gyrfa, neu'n chwilio am her newydd, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi.”
I archebu lle cysylltwch â socialcarejobs@denbighshire.gov.uk.