Estyn dosbarthiadau ysgol yn Rhuddlan

Mae estyniadau cyntaf Ysgol y Castell, Rhuddlan wedi’u cwblhau ar amser.

Un o'r estyniadau. 

Roedd cam cyntaf y gwaith adeiladu yn cynnwys codi estyniad ar ddwy ystafell ddosbarth, sydd bellach yn cael eu defnyddio gan y disgyblion.

Mae gwaith bellach yn cael ei wneud i glirio’r ddwy ystafell ddosbarth nesaf, yn barod i godi estyniad arnynt.

Bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod ychwanegol i bedair ystafell ddosbarth, gan greu estyniad 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion yn ogystal â chyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.

Bydd y gwelliannau i’r tu allan, fel mynediad i’r lle chwarae, rendro’r pedair ystafell ddosbarth a gosod paneli solar, a’r gwaith i ailwampio’r neuadd wedi’u cwblhau erbyn gaeaf 2026.

Mae’r gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan BrynBuild Ltd.

Mae 35% o’r cyllid ar gyfer y gwaith wedi dod yn bennaf o gyfraniad drwy ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan, gyda chyllid cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Ystafell wedi'w gorffen.

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

“Dw i’n falch iawn o weld bod cam cyntaf y prosiect wedi’i orffen, a bod y ddwy ystafell ddosbarth bellach yn cael eu defnyddio gan y disgyblion.

Dyma gynllun hir-ddisgwyliedig, sydd wedi darparu cyfleusterau newydd a gofod ychwanegol hollbwysig sydd wir eu hangen ar yr ysgol.”

Meddai Pennaeth Ysgol y Castell, Sara Tate:

“Rydym ni wrth ein bodd bod cam cyntaf y gwaith o estyn yr ystafelloedd dosbarth wedi’i gwblhau. Mae’r gofod ychwanegol a’r dyluniad modern wedi creu ardaloedd dysgu mwy lliwgar a chroesawgar sydd eisoes yn gwella profiadau addysgu a dysgu dyddiol y disgyblion a’r staff.

Rydym ni’n edrych ymlaen at weld yr ysgol yn cael ei thrawsnewid ymhellach, a sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i holl ddisgyblion Ysgol y Castell.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw